Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn pwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd y camau hanfodol i ddechrau adferiad a sicrhau ffyniant ar draws holl rannau’r DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn llythyr at y Canghellor, Rishi Sunak, mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi amlinellu blaenoriaethau Cymru cyn cyhoeddi Cyllideb y DU ddydd Mercher 3 Mawrth 2021.

Mae’r Gweinidog Cyllid yn pwyso ar Lywodraeth y DU i wneud cyfres o ymrwymiadau i Gymru, gan gynnwys:

  • cadw cymorth i fusnesau ar draws y DU
  • cyflwyno mesurau lles a threthiant i gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed
  • unioni’r tanfuddsoddi hanesyddol yng Nghymru ym meysydd ymchwil a datblygu a seilwaith rheilffyrdd
  • darparu cyllid i gynorthwyo gyda’r cyfnod pontio Sero-Net
  • rhoi sicrwydd o ran pwysau ariannol penodol i Gymru

Gan siarad cyn cyhoeddiad Cyllideb y DU yr wythnos nesaf, ailadroddodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans ei galwadau am gymorth busnes parhaus i’r bobl ar yr incwm isaf. Dywedodd:  

Mae’n hanfodol bod y Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig yn cael eu cadw – dylid eu dileu fesul cam dim ond pan fydd adferiad wedi hen gychwyn. Ni ddylid gadael busnesau ‘ar ymyl y dibyn’. Dylid gohirio ad-daliadau’r Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws i gydnabod y bobl hunangyflogedig sy’n wynebu talu biliau sydd wedi’u gohirio.

Aeth y Gweinidog ymlaen:

Mae’n hanfodol hefyd cadw’r cynnydd o £20 yr wythnos i Gredyd Cynhwysol a’i wneud yn barhaol, gan sicrhau ei fod ar gael i bobl sy’n cael budd-daliadau prawf modd. Mae mwy na 300,000 o deuluoedd yng Nghymru wedi manteisio ar £1,000 yn ychwanegol y flwyddyn o ganlyniad i’r cynnydd hwn a byddai ei ddileu yn awr yn cael effaith niweidiol a hirdymor ar filoedd o aelwydydd ar draws Cymru.

Pwysodd y Gweinidog Cyllid hefyd ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio’i phwerau i ddarparu mesurau trethiant sy’n cefnogi’r grwpiau mwyaf agored i niwed a thlawd yn ein cymdeithas, a galwodd am drafodaethau ystyrlon ar feysydd polisi trethi allweddol.

Dywedodd Rebecca Evans:

Ni ddylai’r Canghellor ddefnyddio’r Gyllideb hon i godi trethi. Dylai ddal ati i fanteisio ar gyfraddau llog hanesyddol isel i fuddsoddi mewn seilwaith a gwasanaethau cyhoeddus. Bydd hyn yn rhoi’r hwb ariannol ychwanegol i atgyfnerthu adferiad.

Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Ysgrifennydd yr wythnos hon i Gronfa Codi’r Gwastad y DU neilltuo cyllid yn uniongyrchol yng Nghymru ar faterion wedi’u datganoli, mynegodd y Gweinidog ei phryderon gwirioneddol. Dywedodd:

Mae’n annerbyniol i Lywodraeth y DU wneud penderfyniadau drwy rym ar faterion datganoledig heb fod yn atebol i’r Senedd ar ran pobl Cymru. Mae hefyd yn tanseilio’r hyn a nodwyd yn yr Adolygiad o Wariant – yn benodol, y byddai’r arian o’r gronfa hon yn cael ei ddyrannu ‘yn y ffordd arferol’. Yn hytrach na chryfhau’r Undeb, canlyniad hyn fydd cynyddu rhaniadau ac anghydraddoldebau.

Yn olaf, gan droi at yr effaith y mae’r newid yn yr hinsawdd yn ei chael ar gymunedau Cymru, pwysleisiodd y Gweinidog Cyllid yr angen am gyllid teg. Dywedodd Rebecca Evans:

Yr un flaenoriaeth heb ei hariannu, y mae mwyaf o frys amdani, yw adfer tomenni glo ac etifeddiaeth ddiwydiannol arall yng Nghymru. Mae effaith y newid yn yr hinsawdd, a danlinellwyd ymhellach gan y tirlithriad yn Aberllechau a’r digwyddiad pwll glo a llifogydd yn Sgiwen, yn tynnu ein sylw at y risg o ganlyniadau torcalonnus yn ein cymunedau os na fydd y mater hwn yn cael ei ddatrys yn gyflym ac yn derfynol. 

“Mae costau adfer ar raddfa llawer mwy nag unrhyw beth a ragwelwyd ar ddechrau datganoli yn 1999 ac nid yw hyn wedi’i adlewyrchu yn ein trefniadau cyllid presennol.

Galwodd y Gweinidog hefyd am gyllid ychwanegol i alluogi cyflawni ein huchelgeisiau ar y cyd o ran yr hinsawdd ac i wneud degawd y 2020au yn ‘ddegawd o weithredu pendant’.