Neidio i'r prif gynnwy

Mae Christianne Glossop yn atgoffa ffermwyr moch ei bod yn anghyfreithlon rhoi sbarion cegin, gwastraff arlwyo a chig a chynnyrch cig yn fwyd i foch rhag dod â chlwy Affricanaidd y moch i'r DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae clwy Affricanaidd y moch yn glefyd feirol hynod heintus sydd ar hyn o bryd yn lledaenu tua’r gorllewin yn Ewrop. Mae'r cyngor hwn yn dilyn darganfod yr haint mewn baeddod gwyllt yng Ngwlad Belg, y wlad gyntaf yng ngorllewin Ewrop. 

Nid yw'r feirws yn effeithio ar bobl ond mae mathau difrifol o'r feirws yn lladd moch, waeth beth yw eu hoed. 

Mae'r Prif Swyddog Milfeddygol yn pwyso ar ffermwyr moch hefyd i dynhau eu mesurau bioddiogelwch er mwyn amddiffyn eu hunain rhag y clefyd. 

Dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol, Christianne Glossop:  

"Mae clwy Affricanaidd y moch yn glefyd hynod heintus ar foch ac mae'n mynd ar led trwy Ewrop. Nid yw clwy Affricanaidd y moch wedi cyrraedd y DU na Chymru eto, ond mae wastad perygl y gallai wneud. 

"Pe bai'r haint yn dod i'r DU, yn ogystal â chael effaith ddifrifol iawn ar iechyd a lles moch, byddai'n ergyd aruthrol i'n busnesau allforio porc. Byddai'n rhaid inni hefyd ddifa'r holl foch ar safleoedd heintiedig i rwystro'r clefyd rhag lledaenu. 

"Mae gennym oll ran i'w chwarae i rwystro'r clefyd rhag cyrraedd y DU. Dyna pam fy mod yn atgoffa ffermwyr moch ei bod yn anghyfreithlon rhoi sbarion cegin, gwastraff arlwyo a chig a chynnyrch cig i'w moch. Ni allaf bwysleisio digon chwaith pa mor bwysig yw cadw at fesurau bioddiogelwch llym ac rwy'n pwyso felly ar ffermwyr i edrych eto ar eu cynlluniau bioddiogelwch." 

Rhaid i ffermwyr moch wneud yn siŵr fod pawb sy'n dod i gysylltiad â'u moch yn gwybod nad ydyn nhw i roi unrhyw fath o wastraff arlwyo, sbarion cegin na chig a chynnyrch cig yn fwyd i'w moch. 

Gall pawb, yn ogystal â ffermwyr moch, ein helpu i rwystro’r clefyd hwn rhag lledaenu trwy sicrhau’ch bod yn cael gwared ar sbarion bwyd yn ofalus fel na all moch (na baeddod gwyllt yn yr ardaloedd priodol) gael gafael arnyn nhw. 

Mae hyn yn cynnwys bwyd o geginau llysieuwyr gan fod dal perygl iddyn nhw gael eu traws-heintio.  Mae porc o wledydd y mae clwy Affricanaidd y moch wedi’u taro a lle nad oes mesurau rheoli swyddogol yn arbennig o beryglus. 

Mae'r gwaharddiad ar fwydo gwastraff i foch yn helpu hefyd i ddiogelu'r DU rhag clefydau fel clwy'r traed a'r genau. 

Os bydd ffermwr moch yn gweld unrhyw beth sy'n ei boeni am iechyd ei foch, dylai gysylltu ar unwaith â'i filfeddyg  a chofio bod rheidrwydd cyfreithiol arno i roi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion os oes unrhyw le ganddo i gredu bod Clwy Affricanaidd y Moch ar ei anifeiliaid.