Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: Mae’n rhaid i fasnachfraint rheilffyrdd Intercity West Coast fynd ati i helpu i wireddu potensial y Gogledd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw’r sylwadau yn dilyn ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad diweddar ar y fasnachfraint newydd. Disgwylir i Lywodraeth y DU adnewyddu’r fasnachfraint ym mis Ebrill 2018. Roedd yr ymateb yn nodi’n glir bod angen i’r hyn a gynigir gan y fasnachfraint ymateb i anghenion busnesau a chymunedau ar draws y rhanbarthau a hynny er mwyn sicrhau bod Gogledd Cymru a Gogledd Lloegr yn cael eu cysylltu’n well.  

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith:

“Mae’n amlwg ei bod yn bwysig sicrhau bod gennym system drafnidiaeth effeithiol, sydd wedi’i hintergreiddio’n dda ac sy’n cysylltu pobl gyda chyfleoedd am swyddi ar y ddwy ochr i’r ffin rhwng Cymru a Lloegr. 

“Mae Masnachfarint Rheiffyrdd Intercity West Coast yn hanfodol i’r rhai sy’n defnyddio’r rheilffyrdd yn y Gogledd. Mae’n cynnig yr unig wasanaeth uniongyrchol i Lundain ac mae’n sicrhau cysylltiadau allweddol â Crewe a Chaer.

Mae hefyd yn ei gwneud yn bosibl cyrraedd y sylfaen weithgynhyrchu gadarn sydd yn bodoli yn y Gogledd ynghyd â’r tair ardal fenter sydd yno a’r Orsaf Pŵer Niwclear sy’n cael ei datblygu yn Wylfa Newydd. Mae hefyd yn hynod bwysig i economi’r ardal.

“Wrth ymateb i’r ymgynghoriad hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio bod angen gwasanaeth bob awr rhwng y Gogledd a Llundain a dyna a ddisgwylir. Byddai hynny’n sicrhau ei bod yn bosibl teithio yn ôl ac ymlaen i’r ddau gyfeiriad mewn diwrnod a byddai modd gwireddu’r twf sy’n deillio o hynny.  

“Rydw i wedi pwysleisio’n glir wrth yr Adran Drafnidiaeth bod modd inni gefnogi twf cadarn ymhellach ym marchnadoedd busnes a hamdden y rhanbarth drwy gydweithio â chyrff twristiaeth leol ynghyd â busnesau lleol.  Mae sicrhau cysylltiadau yn allweddol i’n busnesau, ein swyddi a’n cymunedau. Drwy wella gwasanaethau masnachfraint Intercity West Coast, mewn cydweithrediad â masnachfraint newydd Cymru a’r Gororau, byddai hynny’n rhoi cyfle ardderchog i gyrraedd potensial economaidd digamsyniol yr ardal.”                                          

Mae masnachfraint Intercity West Coast yn cael ei weithredu ar hyn o bryd gan Drenau Virgin, ac yn bennaf mae’n cynnig gwasanaethau hir ar gyflymder uchel ar hyd arfordir y gorllewin rhwng Llundain, Lerpwl, Manceinion, Birmingham, Caeredin, Glasgow a Gogledd Cymru.