Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Gweinidog Economi Cymru Vaughan Gething a Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, wedi dweud na ddylai unrhyw fargen fasnach yn y DU ag Awstralia roi ffermwyr Cymru o dan anfantais.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae adroddiad yn y Financial Times heddiw yn honni bod Gweinidogion Llywodraeth y DU yn trafod mynediad di-dariff i'r farchnad ar gyfer cynhyrchion amaethyddol yn nhrafodiadau cytundeb masnach rydd y DU-Awstralia, a fyddai'n niweidio sectorau amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd Cymru.

Mae sector amaethyddol ffyniannus a chynaliadwy yn allweddol i gymunedau gwledig Cymru. Er mai cynhyrchu bwyd yw conglfaen y sector amaethyddol o hyd, mae ymateb i'r argyfwng hinsawdd a gwella bioamrywiaeth ar y fferm yn flaenoriaethau allweddol i Lywodraeth Cymru, ac mae cynhyrchwyr Cymru a'u safonau uchel yn allweddol i gyflawni hyn.

Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd yn chwarae rhan hollbwysig yn ein cymdeithas, ein heconomi a'n hamgylchedd. Rydym wedi bod yn glir iawn gyda Llywodraeth y DU na ddylai unrhyw gytundebau masnach newydd greu anfanteision i gynhyrchwyr bwyd yng Nghymru, drwy ganiatáu i fewnforwyr sydd â safonau is werthu eu cynnyrch yn rhatach na ffermwyr Cymru.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig:

"Rydym yn hynod o falch o'r safonau diogelwch bwyd uchel sydd gennym yma yng Nghymru, gan gynnwys safonau sy'n ymwneud â iechyd a lles anifeiliaid, y gallu i olrhain, yr amgylchedd a diogelwch bwyd. Ni ddylai unrhyw gytundeb masnach fyth danseilio hynny na'n deddfwriaeth ddomestig ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y pwynt hwn yn gyson i Lywodraeth y DU.