Rhybuddiodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg heddiw fod rhaid i Brexit beidio â niweidio llwyddiant Cymru ym meysydd ymchwilio ac arloesi.
Gan dynnu sylw at ran hanfodol gwaith ymchwil yn yr orchwyl o gynyddu ein cynhyrchiant economaidd cenedlaethol, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio papur polisi newydd sy'n cyfeirio at y rôl bwysig y mae arian Cronfeydd Strwythurol yr UE wedi'i chwarae dros y 18 mlynedd ddiwethaf yn helpu Cymru i feithrin ei seiliau o ran gwaith ymchwil o safbwynt faint ohono sy’n digwydd, ei ansawdd a’i effaith ryngwladol.
Er ei bod yn gymharol fach, sail ymchwil Cymru yw'r fwyaf effeithlon yn y DU ar hyn o bryd, gan berfformio'n well o ran effaith ein gwaith ymchwil cyhoeddedig na gweddill gwledydd y DU a llawer o wledydd o faint tebyg i ni.
Ac ystyried bod swm sylweddol o'r cyllid ar gyfer gwaith ymchwil ac arloesi yng Nghymru yn dod o gronfeydd strwythurol yr UE, mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod Llywodraeth y DU yn gwneud yn iawn am y golled hon wedi Brexit.
Gan fod bron i 80% o holl gyllid yr UE ar gyfer gwaith ymchwil ac arloesi yng Nghymru yn dod o gronfeydd strwythurol, bydd Cymru yn dioddef mwy na llawer o rannau eraill o'r DU.
Yn ogystal, mae dogfen bolisi Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at yr angen am:
- Fynediad a chyfranogiad llawn mewn amrywiaeth o raglenni ymchwil yr UE wedi Brexit, gan gynnwys Horizon Europe a rhaglenni Erasmus+.
- Parhau i gael mynediad at gyllid benthyciadau Banc Buddsoddi Ewrop.
- Sustem ymfudo sy'n hwyluso ymchwil drwy ganiatáu i ymchwilwyr symud yn ddi-rwystr, gyda gwarantau ar gyfer gwladolion yr UE sy'n gweithio yng Nghymru.
- Parhau i gynnig mynediad i brifysgolion Cymru i fyfyrwyr o'r UE.
- Dod â Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig at ei gilydd i wella cydgysylltu a chydweithredu o ran gwaith ymchwil ac arloesi.
Dywedodd Kirsty Williams:
"Mae Cymru'n perfformio gryn dipyn yn well na phob disgwyl o ran ymchwil ac ni ddylai hyn gael ei roi mewn perygl oherwydd Brexit. Mae llawer o'n gwaith ymchwil yn cael ei gydnabod yn waith o safon fyd-eang ac mae'n ffrwyth cydweithio â phartneriaid o bedwar ban byd. Mae parhau i fuddsoddi mewn ymchwil ac arloesi yn hollbwysig i economi Cymru ac i greu swyddi.
"Mae Cronfeydd Buddsoddiadau Strwythurol yr UE wedi chwarae rhan hanfodol yn nhwf gallu seiliau ymchwil Cymru, gan gydweithio gyda phrifysgolion a byd busnes a chyfrannu at economi Cymru. Rhaid i Brexit beidio â thanseilio'r gamp hon, ond ar hyn o bryd nid oes gennym fawr o hyder y bydd Llywodraeth y DU yn darparu cyllid ar gyfer y gefnogaeth hollbwysig hon ar yr un lefelau ag a welsom.”
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Os yw'r DU o ddifrif ynghylch 'cydbwyso' economi'r DU a meithrin rhagoriaeth gwaith ymchwil i sicrhau mwy o dwf yn rhanbarthau'r DU, yna bydd hynny'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU barchu datganoli a rhoi cyllid yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru yn lle Cronfeydd Strwythurol yr UE.