Neidio i'r prif gynnwy

‘Rhaid inni adeiladu ar ein gwaith cadarnhaol yn cefnogi’r rhai sy’n camddefnyddio sylweddau a dylai’r ffaith bod marwolaethau oherwydd cyffuriau yng Nghymru wedi gostwng i’r lefelau isaf ers 2014 ein calonogi,’ dyna neges y Gweinidog Iechyd Meddwl Lynne Neagle.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, bydd y Dirprwy Weinidog yn ymweld â’r Uned Ddibyniaeth Gymunedol yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd i weld y driniaeth sydd ar gael yno ac i siarad â rhai o ddefnyddwyr y gwasanaethau.

Mae’r ganolfan wedi gorfod addasu’r ffordd y mae’n trin cleifion yn ystod y pandemig, ar ôl i gyfarfodydd wyneb yn wyneb, sesiynau galw heibio a derbyniadau i raglenni adsefydlu preswyl gael eu hatal dros dro.

Pan oedd yn bosibl, cafodd cymorth arall ei gynnig a gweithiwyd yn agos gyda’r rhai mwyaf agored i niwed, gan weithio’n arbennig o agos gyda phobl ddigartref a gwasanaethau digartrefedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i gefnogi, addasu a chynnal gwasanaethau hanfodol drwy gydol y pandemig. Roedd hyn yn cynnwys dros £3.3m i helpu i weithredu dull triniaeth gynnal yn gyflym. Mae’r dull hwn wedi’i brofi’n glinigol, ac mae’n rhoi pigiad o buprenorphine (Buvidal®) i gyn-ddefnyddwyr heroin sydd ‘mewn perygl’.

Yn ystod yr ymweliad bydd y Dirprwy Weinidog yn cwrdd â menyw a oedd wedi cael trafferthion gyda digartrefedd, iechyd meddwl a chaethiwed i gyffuriau drwy gydol ei bywyd. Fodd bynnag, drwy driniaeth Buvidal yn yr Uned roedd hi wedi gwella’n sylweddol ac mae hi bellach yn gweithio’n llawn amser, wedi’i hailgysylltu’n llawn â’i phlant a’i mam ac wedi gwella’n feddyliol ac yn gorfforol.

Wrth siarad am effaith Buvidal, dywedodd:

Mae’r cyffur yma’n wyrthiol. Ar ôl ei gymryd, do’n i ddim angen heroin a doedd gen i ddim gorbryder chwaith. Doedd dim byd arall yn stopio hynny. O’r blaen, doedd dim bwys am unrhyw beth arall, ddim hyd yn oed y plant. Mae Buvidal yn eich rhoi mewn lle gwahanol – mae’n fisol ac fe allwch fwrw ymlaen â’ch bywyd.

Daw hyn wrth i farwolaethau oherwydd camddefnyddio sylweddau yng Nghymru ddisgyn i’w lefelau isaf ers 2014 yn y dadansoddiad diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn 2020, bu farw 224 o bobl oherwydd gwenwyn cyffuriau (cyffuriau cyfreithlon ac anghyfreithlon) yng Nghymru. O'r rhain, roedd 149 ohonynt oherwydd camddefnyddio cyffuriau (cyffuriau anghyfreithlon). Roedd 16 yn llai (6.9%) o farwolaethau oherwydd gwenwyn cyffuriau nag yn 2019 ac roedd hefyd 16 yn llai (9.7%) o farwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau nag yn 2019. Dyma’r nifer lleiaf o farwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau a gofnodwyd ers 2014 yng Nghymru.

Ar yr un diwrnod ag ymweliad y Dirprwy Weinidog, cyhoeddir yr adroddiad blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau ar gyfer y cyfnod hyd at fis Mawrth 2019. Dangosodd yr adroddiad fod dros 90% o bobl yn cael triniaeth o fewn yr amser targed. Yn ogystal, dywedodd 86.6% o bobl eu bod yn camddefnyddio llai o sylweddau ar ôl triniaeth ac roedd 82.5% o bobl a gwblhaodd eu triniaeth naill ai wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio sylweddau mewn ffordd broblemus neu roeddynt wedi cyrraedd targedau eu triniaeth. Roedd pob un o’r uchod yn rhagori ar y targedau a osodwyd.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £55m bob blwyddyn i fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau ac yn 2020-21 darparwyd £4.8m ychwanegol i gefnogi’r ymateb i COVID-19.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl Lynne Neagle:

Mae pob marwolaeth yn drasiedi, ond mae’n galonogol gweld y lefel isaf o farwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru ers 2014.

Er gwaethaf y ffigurau addawol hyn, rydym yn deall bod angen gwneud mwy o hyd i sicrhau bod y rhai sydd â phroblemau gyda chamddefnyddio sylweddau, caethiwed a digartrefedd yn gallu cael at y gwasanaethau cymorth angenrheidiol pan fo arnynt eu hangen fwyaf. Mae angen inni wneud mwy i fynd i’r afael â’r stigma y mae cynifer o bobl yn ei wynebu mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau, a chydnabod bod camddefnyddio sylweddau i lawer o unigolion yn deillio o drawma sylweddol, yn hytrach nag yn ffordd o fyw y maent wedi’i dewis.

Ychwanegodd:

Drwy waith hollbwysig mewn cyfleusterau fel y rhain rydym yn gobeithio parhau i weld gostyngiad mewn marwolaethau oherwydd cyffuriau yng Nghymru a mwy o bobl yn gwella ar ôl cael triniaeth.

Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl staff ledled Cymru a helpodd i gynnal y gwasanaethau hanfodol hyn drwy gydol y pandemig, ac yn benodol am eu cymorth i gefnogi’r ymdrechion i ddod â phobl i mewn oddi ar y strydoedd.

Dywedodd yr Athro Jan Melichar, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:

Mae argaeledd Buvidal wedi newid y sefyllfa’n llwyr i lawer o ddefnyddwyr ein gwasanaethau sy’n byw gyda dibyniaeth ar opioid. Mae cymaint o straeon arbennig o adferiad wedi bod – dyma’r norm newydd bron iawn.

Serch hynny, mae gan lawer o rai eraill drafferthion niferus yr ydym yn parhau nawr i weithio’n llwyddiannus arnynt gyda nhw. Rydym yn falch o fod wedi chwarae ein rhan yn arwain y ffordd o ran cyflwyno’r cyffur, gan weithio gyda phartneriaid fel Rhannu Gofal Meddyg Teulu, ein Hawdurdodau Lleol a gwasanaethau digartrefedd.

Rydym eisoes yn gweld yr effeithiau cadarnhaol y mae’n gallu eu cael ar fywydau defnyddwyr gwasanaethau, yn ogystal â’u rhwydweithiau cymorth ehangach.