Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid i nwyddau a phobl allu symud yn ddirwystr trwy borthladdoedd Cymru ar ôl Brexit rhag niweidio economi Cymru, meddai Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r ffigurau'n dangos bod 53.6 miliwn o dunelli o nwyddau'n dod trwy borthladdoedd Cymru, rhyw 11% o gyfanswm y DU.

Teithiodd 524,000 o lorïau a threilars rhwng Gweriniaeth Iwerddon a phorthladdoedd Cymru yn 2016, gyda'r mwyafrif llethol yn pasio trwy Borthladd Caergybi. 

Mae hyn yn rhan bwysig o economi Cymru, gyda Grŵp Porthladdoedd Cymru'n amcangyfrif bod rhyw 11,000 o swyddi'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gysylltiedig â phorthladdoedd Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru am wneud yn siŵr na fydd y cytundeb rhwng y DU a'r UE yn amharu ar y fasnach hon a'i fod yn cynnwys mynediad llawn at Farchnad Sengl Ewrop ac aelodaeth o undeb dollau er mwyn amddiffyn economi Cymru.

Dywedodd Ken Skates:

"Mae porthladdoedd Cymru'n chwarae rhan bwysig ym mywyd masnachol y wlad ac yn economi'r DU yn wir, fel y porth i hybiau economaidd yng Ngweriniaeth Iwerddon, y DU, gweddill Ewrop a'r byd.

"Maen nhw'n cynnal miloedd o swyddi a rhaid gofalu nad yw Brexit yn eu bygwth. Rhaid i unrhyw gytundeb rhwng y DU a'r UE gadw trefn ar gyfer symud pobl a nwyddau sydd fan leiaf ddim yn fwy beichus na'r drefn o dan yr Undeb Tollau presennol.

"Gallai unrhyw newid i'r rheolau tollau sy'n ychwanegu at gostau, amser, anghyfleustra a rheoliadau gael effaith ar economi Cymru. Mae 80% o'r nwyddau a gludir rhwng Iwerddon ac Ewrop mewn lorïau sydd wedi'u cofrestru yn y Weriniaeth yn pasio trwy borthladdoedd Cymru. Rhaid i Lywodraeth y DU fod yn agored ynghylch ei chynlluniau i gadw 'ffin feddal' rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon. Ni fydd Llywodraeth Cymru'n barod i dderbyn unrhyw ganlyniad allai ddenu traffig i ran arall o'r DU ar draul porthladdoedd Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro."

Mae papur masnach Brexit Llywodraeth Cymru yn esbonio mai'r ffordd orau o ddiogelu economi Cymru yw trwy sicrhau mynediad llawn at Farchnad Sengl Ewrop a pharhau'n aelod o undeb tollau. Yr UE yw marchnad fwyaf Cymru, gyda 60% o'r holl nwyddau a allforiwyd o Gymru yn 2017, gwerth £16.3 biliwn, yn mynd i'r UE.