Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford yn croesawu Olivier Cadic, y Seneddwr â chyfrifoldeb dros ddinasyddion Ffrainc sy'n byw dramor, i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Seneddwr Cadic, sy'n aelod o Grŵp Brexit Senedd Ffrainc, yn cyfarfod aelodau o'r gymuned Ffrengig sy'n byw yng Nghaerdydd a'r cyffiniau i glywed am eu profiadau yn dilyn penderfyniad y DU i ymadael â'r UE.

Yna bydd yntau a'r Ysgrifennydd Cyllid yn trafod hawliau dinasyddion Ffrainc sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd neu sy'n meddwl symud yma. Bydd y Seneddwr Cadic hefyd yn dysgu mwy am gynlluniau Cymru ar ôl Brexit.

Bydd Nicholas Hatton, cyd-gadeirydd a sylfaenydd 'the3million' yn ymuno â'r cyfarfod i siarad am y gefnogaeth i ddinasyddion yr UE yng Nghymru.

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd yr Athro Drakeford: 

"Mae dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy'n byw yng Nghymru yn gwneud cyfraniad enfawr i'n heconomi a'n cymdeithas, ac mae'n rhaid i'w hawliau gael eu hamddiffyn yn llawn ar ôl i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. 

"Er bod polisi mudo yn fater sydd wedi'i gadw yn ôl, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy'n byw yng Nghymru yn cael sicrwydd am eu hawliau yn y dyfodol.

"Mae Cymru'n wlad agored - efallai ein bod ni'n ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ond does dim bwriad gennym i adael Ewrop. Rydyn ni am barhau i weithio gyda'n gilydd, dysgu oddi wrth ein gilydd, teithio a masnachu gyda'n gilydd."