Neidio i'r prif gynnwy

Mae busnes awyrofod ym Mrychdyn, a gafodd ei sefydlu yn dilyn cau Marshall Aviation Services, yn dathlu ar ôl ennill contract newydd gyda chwmni blaengar.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Aerocare Aviation Services, sydd wedi’u lleoli yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, wedi cael eu penodi'n asiant ar gyfer y DU, a'r gosodwr a ffefrir yn y DU a rhannau o Ogledd Ewrop ar gyfer caban peilot gwydr modern Bendix King, sy'n hwb arall ar gyfer y cwmni a gafodd ei sefydlu yn 2017.

Busnes craidd Aerocare yw cynnal a chadw, atgyweirio, addasu ac ailwampio awyrennau busnes. Maent yn cynnig pecyn cyflawn gan gynnwys afioneg a chwistrellu paent, ac mae ailwampio tu mewn awyrennau yn cael ei gynnal i safonau uchel iawn ar gyfer y rhan o'r busnes sy'n ymdrin ag awyrennau moethus.

Cafodd y gwaith o sefydlu’r cwmni ei arwain gan Gyn-Reolwr Cyffredinol Marshall, gan gyflogi 28 cyn aelod o staff. Derbyniodd llawer o'r rhain gymorth gan Raglen ReAct Llywodraeth Cymru.  Aeth y cwmni yn ei flaen i gyflogi cyfanswm o 40 cyn-gyflogai Marshall, ac mae'r cwmni bellach yn cyflogi 60 o staff gyda throsiant o £7 miliwn.

Yn ogystal â chymorth drwy raglen ReAct mae Aerocare hefyd wedi elwa ar y rhaglen Cymorth Sgiliau Hyblyg a’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnes, ac mae wedi rhannu stondin Llywodraeth Cymru mewn nifer o ddigwyddiadau awyrofod allweddol.

I ddathlu'r contract diweddaraf ymwelodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, â'r cwmni wrth iddynt gynnal diwrnod agored gyda gweithredwyr posibl.

Dywedodd Ken Skates:

"Heb os mae Aerocare yn gwmni ffenics. Maen nhw wedi codi o'r siom o Marshall yn cau ac wedi cadw rhai o'r staff medrus gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Maen nhw’n enghraifft o lwyddiant gwirioneddol.

"Mae Brexit yn her fawr i bob un ohonon ni, ac mae'n dda gweld bod Aerocare wedi ennill hyder Bendix King fel ei asiant yn y DU, a'r gosodwr a ffefrir gyda gwaith posibl yng Ngogledd Ewrop, er yr heriau hyn.

"Mae'r diwydiant awyrofod yn hanfodol bwysig yn yr ardal hon, gydag amrywiaeth o fusnesau'n dewis ymsefydlu yma, gan ddod â swyddi ar gyfer pobl fedrus gyda nhw.

"Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth yn ei gallu i gefnogi'r diwydiant wrth inni wynebu'r heriau sydd o'n blaenau ni.  Mae ein hymrwymiad i'r diwydiant yn amlwg wrth ein buddsoddiad yn y Ganolfan Gweithgynhyrchu ac Ymchwil Uwch gyfagos, a'r ffordd rydyn ni'n cefnogi busnesau drwy'r Gronfa Cydnerthedd Busnes.

"Hoffwn longyfarch Aerocare am eu newyddion da diweddaraf, ac rwy'n gobeithio y byddan nhw'n parhau i ffynnu."