Mae rhagor o gyllid wedi cael ei gadarnhau ar gyfer prosiect sy’n helpu mamau o Gymru yn y carchar i gynnal perthynas gadarnhaol â’u plant.
Aeth Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, i HMP Eastwood Park yn Swydd Gaerloyw i siarad â staff rheng flaen a phobl sy’n ymwneud â’r gwasanaeth ‘Ymweld â Mam’.
Mae’r gwasanaeth ‘Ymweld â Mam’, sy’n cael ei ddarparu gan Pact (Yr Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal mewn Carchardai), yn cael ei redeg o HMP Styal yn Swydd Gaer yn ogystal ag o HMP Eastwood Park yn Swydd Gaerloyw. Dyma’r ddau leoliad mwyaf cyffredin ar gyfer mamau o Gymru sy’n cael eu hanfon i’r carchar. Bwriad y gwasanaeth yw darparu manteision i famau a’u plant.
Gan nad oes carchardai ar gyfer menywod yng Nghymru, mae menywod yn treulio dedfrydau o garchar yn Lloegr, a hynny’n aml gryn bellter o’u cartrefi a’u teuluoedd. Mae’r gwasanaeth ‘Ymweld â Mam’ yn helpu i gryfhau cysylltiadau teuluol drwy hwyluso cysylltiad agosach rhwng mamau a phlant.
Mae tua hanner y menywod yn y carchar yn famau, ac mae’r gwasanaeth yn nodi menywod sydd mewn perygl o golli cysylltiad â’u plant ac yn cynnig cymorth arbenigol. Yna, mae’n trefnu ymweliadau, yn cynnig rhaglenni rhianta a pherthnasoedd, yn cynnig trafnidiaeth i blant, ac yn darparu gofal cofleidiol i blant ar ôl eu hymweliad.
Yn ôl gwerthusiad o’r prosiect, roedd yn gwella llesiant ymhlith mamau ac yn lleihau’r risg o hunan-niweidio wrth wella canlyniadau hirdymor i’w plant hefyd.
Rhwng mis Mehefin 2021 a mis Awst 2022, cefnogodd ‘Ymweld â Mam’ 68 o deuluoedd. Ariennir y prosiect ar y cyd gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF a Llywodraeth Cymru, ac mae’r ddau’n cyfrannu £90,000 yn 2023-24 i sicrhau bod y cynllun yn gallu parhau.
Dywedodd Nadia Emblin, Pennaeth Darparu a Datblygu Gwasanaethau – Cymru a Gorllewin Lloegr:
“Er ein bod yn credu mai dim ond fel dewis olaf y dylid defnyddio dedfrydau o garchar i fenywod, mae ‘Ymweld â Mam’ yn sicrhau canlyniadau gwell i famau yn y carchar a’u plant yn y gymuned.
“Mae ein gwerthusiad yn dangos effaith gadarnhaol y math hwn o gefnogaeth gyfannol ar iechyd meddwl a llesiant y teulu cyfan. Mae hefyd yn hanfodol o ran lleihau aildroseddu, gan ein bod ni’n gwybod bod carcharorion sy’n cael ymweliadau 39% yn llai tebygol o ddychwelyd i’r carchar.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i’n partneriaid yn Change Grow Live, ac i Lywodraeth Cymru a HMPPS am sicrhau bod y cynllun yn gallu parhau. Dywedodd un fam wrthym yn ddiweddar ei fod wedi cynnig, “golau yn y tywyllwch” iddi yn ystod ei dedfryd, ac rydym yn gobeithio y gallwn ddarparu’r gobaith hwn i lawer mwy o fenywod yn y dyfodol.”
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:
“Mae ein hymagwedd at gyfiawnder menywod yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio gyda menywod sydd mewn cysylltiad â’r system gyfiawnder mewn ffordd gyfannol a ffordd sy’n adsefydlu.
“Rydym yn parhau i gredu y dylai dedfrydau o garchar fod yn ddewis olaf, ac rydym yn cefnogi’r Ganolfan Breswyl i Fenywod arfaethedig yn Abertawe, a fydd yn cynnig dewis arall yn lle dedfryd o garchar.
“Ond i fenywod sydd yn y carchar, yn aml gryn bellter o’u teuluoedd, mae ‘Ymweld â Mam’ yn gallu bod yn wasanaeth amhrisiadwy sy’n eu galluogi i gadw mewn cysylltiad â’r bobl maen nhw’n eu caru.”
Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:
“Rydym yn credu y dylai adsefydlu fod yn un o elfennau allweddol y system gyfiawnder. Mae a wnelo cyfiawnder â mwy na llysoedd a chosb; mae a wnelo â phobl a theuluoedd. Mae cefnogi pobl yn y carchar i fyw bywydau boddhaus pan fyddan nhw allan o’r carchar yn gyfrifoldeb pwysig i unrhyw ddull effeithiol o ymdrin â chyfiawnder.
“Mae’r prosiect ‘Ymweld â Mam’ yn enghraifft gadarnhaol o hyn ar waith, gydag agwedd adsefydlu sy’n arwain at fanteision gwirioneddol i famau a phlant.”
Dywedodd Gweinidog Carchardai a Phrawf Llywodraeth y DU, Damian Hinds:
“Mae cadw mewn cysylltiad â’u teulu yn hollbwysig i fenywod yn y ddalfa – mae’n cyfrannu at eu lles ac yn lleihau achosion o aildroseddu.
“Drwy ariannu gwasanaethau fel Ymweld â Mam, mae’r llywodraeth yn helpu i sicrhau gwell canlyniadau i fenywod yn y carchar, sydd yn ei dro yn gwneud ein cymunedau yn fwy diogel.”