Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r cyllid ar gyfer cynllun poblogaidd sy'n cynnig nofio am ddim i gyn-filwyr ac aelodau o'r Lluoedd Arfog yn cael ei gynyddu gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y Cynllun Nofio am Ddim ar gyfer y Lluoedd Arfog, a lansiwyd yn 2016, yn gweld ei gyllid bron yn dyblu i adlewyrchu'r blynyddoedd o gynnydd yn nifer y bobl o gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru sy'n manteisio ar y cynllun.

Er ei fod yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r cynllun yn cael ei reoli gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'i gyflwyno gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Bydd y cynnydd yn y cyllid yn caniatáu i awdurdodau lleol ymateb i'r galw am y cynllun – cofnodwyd bod 8,500 o bobl yn nofio rhwng Ebrill a Medi y llynedd.

Wrth gyhoeddi'r penderfyniad i gynyddu'r gyllideb o £45,000 i £80,000 yn 2024 i 2025, dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant:

Mae'r Cynllun Nofio am Ddim ar gyfer y Lluoedd Arfog yn dangos ymrwymiad di-dor Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau ar gael i gymuned y Lluoedd Arfog sy'n diwallu eu hanghenion penodol ac sydd hefyd yn cydnabod eu gwasanaeth i'w gwlad.

Gall chwaraeon ac ymarfer corff wella bywydau pobl mewn cymaint o ffyrdd, ac mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i gydweithio â phartneriaid cyflenwi i ddarparu lleoedd ac amodau croesawgar a chynhwysol i bawb fwynhau manteision chwaraeon ac ymarfer corff ar les corfforol a meddyliol.

 Rwy'n ddiolchgar i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'n hawdurdodau lleol am gyflwyno'r cynllun ledled Cymru, ac rwy'n falch bod Chwaraeon Cymru hefyd wedi ymrwymo i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog trwy lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yn ddiweddar.