Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i’r ffigurau diweddaraf ynglŷn â cheisiadau i Gynllun Preswylio’n Sefydlog Llywodraeth y DU i Ddinasyddion yr UE gael eu rhyddhau, mae’r Cwnsler Cyffredinol Jeremy Miles heddiw wedi cyhoeddi rhagor o gyllid newydd i gynghorau Cymru i gynyddu nifer y ceisiadau o’u hardaloedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r ystadegau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw gan y Swyddfa Gartref yn dangos y cafwyd 6000 o geisiadau fis diwethaf gan ddinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru.

Hyd at ddiwedd mis Ionawr 2020, roedd cyfanswm o 50,100 o geisiadau wedi’u gwneud gan ddinasyddion yr UE yng Nghymru – sydd wedi cynyddu o 44,100 ddiwedd mis Rhagfyr.

Rhaid i holl ddinasyddion yr EU a’u teuluoedd sy’n byw yng Nghymru wneud cais i Gynllun y Swyddfa Gartref erbyn 30 Mehefin 2021 i ddiogelu eu hawliau i barhau i fyw a gweithio yma.

Bydd y cyllid a gyhoeddir heddiw, gwerth dros £220,000, yn cefnogi holl gynghorau Cymru i gynyddu’r cymorth y maent yn ei ddarparu mewn cymunedau lleol, ac i ddymchwel rhwystrau i helpu’r rheini nad ydynt yn ymwybodol o hyd o’r angen i ymgeisio, neu sy’n ei chael yn anodd ymgeisio.

Wrth ymateb i’r ystadegau swyddogol diweddaraf ynglŷn â’r Cynllun, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit Jeremy Miles:

“Rwy’n falch o weld cynnydd sylweddol arall yn y nifer sy’n ymgeisio o Gymru, sy’n dangos bod ein hymdrechion yn gweithio, ond rydym ni am weld rhagor o geisiadau o bob rhan o Gymru.

“Dyna pam yr ydym wedi cynnig rhagor o gyllid i bob cyngor yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth o’r Cynllun hwn yn eu hardal, a chynyddu nifer y bobl sy’n ymgeisio.

Bydd rhwydd hynt i bob cyngor ddewis y ffordd orau o gefnogi eu trigolion, boed hynny drwy ddigwyddiadau, pamffledi neu gyflwyno rhagor o ganolfannau ymgeisio digidol â chyfleusterau sganio, ond mae hi mor bwysig ein bod ni i gyd yn cyd-dynnu yn y cyfeiriad cywir.

“Rydym ni bob amser wedi pwysleisio bod croeso yma i ddinasyddion yr UE sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru. Dyma’ch cartref chi, rydym ni am ichi aros.

“Os ydych yn meddwl y gall fod angen ichi ymgeisio, neu’n adnabod rhywun arall a all fod angen gwneud, mae cyngor a chymorth ar gael ichi, fel y gallwch barhau i fyw yng Nghymru.”

Mae rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i ddinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru i’w gweld ar wefan Paratoi Cymru Llywodraeth Cymru.