Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ers cyflwyno 'Sicrhau Cynhwysiant Digidol: Fframwaith Strategol i Gymru' (2016), mae cryn gynnydd wedi'i wneud i leihau nifer yr oedolion 16 oed a throsodd yng Nghymru nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd yn bersonol (yn ystod y tri mis diwethaf) o 19% i 10% - tua 255,000 o ddinasyddion. Mae'r ffigurau hyn yn seiliedig ar Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Fodd bynnag, cydnabuwyd yn y Fframwaith fod angen i unigolion feddu ar y sgiliau i wneud amrywiaeth o weithgareddau, fel cyfathrebu'n effeithiol, dod o hyd i'r hyn y maent yn chwilio amdano a'i werthfawrogi, a rhannu gwybodaeth bersonol yn ddiogel mewn cyd-destun digidol, er mwyn bod yn wirioneddol hyderus yn ddigidol. 

Er mai ein bwriad oedd cyhoeddi fframwaith newydd yn 2020, gan gydnabod y daw cyfnod pum mlynedd y Fframwaith presennol i ben ym mis Rhagfyr 2020, mae COVID-19 wedi effeithio'n sylweddol ar hyn. Roedd y pandemig yn golygu na fyddai modd ymgysylltu â dinasyddion a sefydliadau yng Nghymru yn ystod 2020 yn ôl y bwriad. Er mwyn cyflawni ein nod o gefnogi pawb i fagu hyder digidol, gwyddom fod angen i ni wella ein dealltwriaeth o'r rhwystrau a wynebir gan gymunedau. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda sefydliadau a dinasyddion sy'n cynrychioli ein grwpiau blaenoriaeth presennol; pobl hŷn, pobl anabl, pobl ddi-waith ac economaidd anweithgar a phreswylwyr tai cymdeithasol – a'r rhai nad ystyriwyd o bosibl eu bod wedi'u hallgáu'n ddigidol cyn y pandemig.

Felly, drwy ein 'Rhagolwg', rydym wedi amlinellu'r meysydd ffocws y byddwn ni, fel Llywodraeth Cymru, yn mynd i'r afael â nhw dros y 12 mis nesaf, ochr yn ochr â'r gwaith parhaus o gyflawni ein rhaglen gaffaeledig, Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant (CDC). Ein nod cyffredinol yw datblygu a chyhoeddi fframwaith newydd, wedi'i anelu at randdeiliaid sydd eisoes yn cefnogi'r rhai nad oes ganddynt hyder digidol, neu a ddylai fod yn gwneud hynny, erbyn gaeaf 2021. Bydd hyn yn golygu bod modd i ni ystyried y dirwedd cynhwysiant digidol ar ôl y pandemig mewn modd mwy strategol ac atgyfnerthu hynny drwy gydweithio â'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i amlinellu'r rôl hollbwysig y mae cynhwysiant digidol yn ei chwarae yn y gwaith o drawsnewid a darparu gwasanaethau ym mhob sector yng Nghymru.

Cyd-destun

Pan fyddwn yn trafod cynhwysiant digidol, rydym yn cyfeirio at allu rhywun i ddefnyddio technoleg ddigidol am ba reswm bynnag o'i ddewis. Rydym yn cydnabod bod angen cymhelliant, mynediad at dechnoleg, cysylltedd a sgiliau digidol sylfaenol er mwyn ymgymryd â gweithgareddau yn annibynnol.

Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at y rôl bwysig y mae technoleg ddigidol yn ei chwarae mewn cymdeithas. O'r gallu i ymgysylltu â gwasanaethau iechyd i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu yn ystod y cyfyngiadau symud, mae angen hyder digidol yn fwy nag erioed.

Yn ein Fframwaith (2016), gwnaethom nodi ein gweledigaeth a rennir i 'sicrhau bod pawb sy’n dymuno bod ar-lein yn gallu mynd ar-lein, eu hamddiffyn eu hunain a’u ffrindiau a’u teuluoedd ar-lein a gwneud mwy ar-lein i gael budd llawn o’r cyfleoedd y mae’r rhyngrwyd a thechnolegau digidol eraill yn eu cynnig.'

Ein bwriad, drwy waith ymgysylltu â chymunedau a sefydliadau yn ystod 2020, oedd trafod a deall sut y gallai'r weledigaeth hon adlewyrchu a chydnabod yr angen i gefnogi pawb i feddu ar y cymhelliant, yr hyder a'r sgiliau i wneud penderfyniadau hyddysg ynghylch eu defnydd o dechnoleg ddigidol. Yn ystod 2021, byddwn yn mynd ati, yn unol â'r rheoliadau, i ymgymryd â'r gwaith ymgysylltu â dinasyddion a rhanddeiliaid a amlinellwyd. Bydd hyn yn ychwanegol at y gwaith rydym eisoes yn ei wneud gyda'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i fapio gweithgarwch cynhwysiant digidol yng Nghymru er mwyn sicrhau ein bod yn ymwybodol o ymyriadau eraill i osgoi dyblygu adnoddau.

Goblygiadau COVID-19

Mae COVID-19, cyfyngiadau symud cenedlaethol a lleol, a'r angen i addasu i 'normal newydd' wedi tynnu sylw at yr anghydraddoldebau cynyddol a achosir gan allgáu digidol o ran cael gafael ar wasanaethau, cael gwybodaeth hanfodol, a phrynu nwyddau ar-lein. Mae'r ffaith bod mwy a mwy o wasanaethau cyhoeddus yn symud i lwyfannau ar-lein yn peri risg y bydd y bwlch rhwng y rhai sydd wedi'u cynnwys a'u hallgáu yn ddigidol yn cynyddu ymhellach. Darllenwch yr astudiaeth a gynhaliwyd gan Brifysgol Caergawnt:

“And this isn’t new. Digital exclusion was a problem before coronavirus, but this is compounding it”

Mae Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i sicrhau y caiff cynhwysiant digidol ei ymgorffori yn y gwaith o ddatblygu polisïau, rhaglenni a gwasanaethau. Mae'r pandemig wedi dangos pa mor hollbwysig ydyw bod y rhai sy'n dylunio ac yn datblygu gwasanaethau yn ystyried effaith technoleg ddigidol ar y rhai nad ydynt yn meddu ar sgiliau digidol sylfaenol, y mae mynediad at dechnoleg, fforddiadwyedd technoleg a/neu gysylltedd yn rhwystr iddynt.

Rhaid i ni werthfawrogi y bydd bob amser rai pobl sy'n dewis peidio â defnyddio technoleg ddigidol neu y mae angen cymorth tymor hwy arnynt i wneud hynny. Felly, mae angen i ni ystyried ffyrdd amgen o gael gafael ar wasanaethau (sianeli digidol â chymorth) er mwyn sicrhau na chaiff dinasyddion eu gadael ar ôl mewn cymdeithas - yn enwedig wrth ystyried y broses o ddylunio polisïau a'u rhoi ar waith yn y dyfodol. 

Cydnabod ‘tlodi data’

Mae ein gwerthfawrogiad o'r term cymharol newydd 'tlodi data' wedi datblygu ers dechrau'r pandemig. Cyn mis Mawrth 2020, roedd ein dealltwriaeth o'r term yn canolbwyntio ar ddiffyg adnoddau personol i gael gafael ar nwyddau a gwasanaethau ar-lein; naill ai gostau ariannol prynu'r dechnoleg a/neu gysylltu; costau parhaus band eang neu ddata, cysylltedd cyfyngedig oherwydd signal gwael.

Nododd adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Awst 2020 gan y Comisiynydd Pobl Hŷn "Gadael neb ar ôl: Camau Gweithredu ar gyfer adferiad o blaid pobl hŷn", 'Dylai mynediad digidol gael ei weld yn awr fel hawl ac fel cyfleustod hanfodol yn yr un ffordd â nwy a thrydan.'

Cyn y pandemig, mae'n annhebygol y byddai tlodi data, i raddau helaeth, wedi cael ei ystyried yn gymaint o broblem i gymaint o bobl, gan fod plant yn gallu manteisio ar weithgareddau ar-lein yn yr ysgol neu mewn llyfrgelloedd, a bod gan y rhan fwyaf o aelwydydd gontractau data a oedd yn diwallu eu hanghenion cyn COVID-19. Erbyn hyn, cydnabyddir bod yr anghenion hynny wedi cynyddu, gyda mwy o aelodau cartrefi yn rhannu dyfeisiau, lwfansau data a lled band eang. Mae mwy a mwy o aelwydydd yn gorfod dewis rhwng talu am Wi-Fi/data symudol neu gael hanfodion eraill megis bwyd a thanwydd.

Wrth i ni ddatblygu ein polisi ar gyfer y dyfodol, bydd ein dealltwriaeth o randdeiliaid a'n trafodaethau â nhw ynghylch y mater hwn yn hollbwysig. Nododd adroddiad y Good Things Foundation, ‘A Blueprint for a 100% Digitally Included UK’ (Medi 2020) fod hwn yn faes lle mae angen i randdeiliaid gydweithio er mwyn ystyried atebion posibl. Mae sefydliad arloesedd Nesta wrthi'n comisiynu ymchwil i feithrin dealltwriaeth well o dlodi data yng Nghymru a'r Alban. Byddwn yn ystyried yr ymchwil hon wrth i ni ddatblygu ein dealltwriaeth.

Hyd yn oed wrth i ni ddatblygu'r Rhagolwg, mae'r cyswllt agos rhwng cynhwysiant digidol a thlodi data yn parhau i gael ei godi, megis gan Marcus Rashford MBE ar Twitter:

“Let’s take a second to remember that a lot of families in need will not have access to the internet. They can’t sign petitions or scroll down my twitter. Their voices cannot be heard so we have to use ours to communicate on all of this amazing local help. Thank you all”

Rhagolwg

Caiff ein grwpiau blaenoriaeth eu nodi'n gyson drwy nifer o setiau data gwahanol, gan gynnwys Arolwg Cenedlaethol Cymru. Maent yn dangos mai pobl hŷn, pobl anabl, y rhai sy'n byw mewn tai cymdeithasol a phobl economaidd anweithgar a di-waith yw'r rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu hallgáu'n ddigidol. Fodd bynnag, wrth i ni ddatblygu ein polisi ar gyfer y dyfodol, byddwn yn canolbwyntio ar gefnogi unrhyw un 16 oed a throsodd nad oes ganddo hyder digidol. Drwy ein gwaith gyda'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, byddwn yn rhoi sylw i unigolion yr ystyrir eu bod bellach wedi'u hallgáu'n ddigidol o ganlyniad i'r pandemig, ac yn ystyried ymyriadau gan sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach i gefnogi'r agenda sgiliau digidol.

Nid yw ein Rhagolwg yn canolbwyntio ar ddysgwyr oed ysgol ond rydym yn cydnabod y gwaith hollbwysig a wnaed drwy'r rhaglen Parhad Dysgu. Sicrhaodd y rhaglen hon y gallai dysgwyr oed ysgol a oedd wedi'u hallgáu'n ddigidol gael gafael ar ddyfais a chysylltedd i barhau â'u haddysg yn ystod y cyfnodau pan fu ysgolion ar gau o ganlyniad i'r pandemig. Fodd bynnag, rhaid i ni barhau i ddysgu o'r pandemig hwn a sicrhau y gall teuluoedd a ddaeth yn ddibynnol ar y dyfeisiau hyn at ddefnydd ehangach barhau i fanteisio ar dechnoleg ddigidol. Byddwn hefyd yn ymgysylltu â chydweithwyr sy'n arwain ar waith y blynyddoedd cynnar i ddeall sut y gellir ymgorffori cymorth i rieni a theuluoedd er mwyn sicrhau bod eu plant yn ddiogel ac yn gyfreithlon ar-lein. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda thîm cadernid Llywodraeth Cymru wrth iddo gyflawni Gwella cadernid digidol mewn addysg: Cynllun gweithredu i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2020.

Bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, drwy'r saith nod llesiant a'r pum ffordd o weithio, yn hollbwysig i lywio ein gwaith o gyflawni'r cynllun a datblygu polisi. Gwyddom y gall meithrin sgiliau digidol cymunedau arwain at fwy o gyfleoedd economaidd, cymdeithas fwy cyfartal a mwy o gydlyniant cymdeithasol. Byddwn yn ceisio sicrhau cymdeithas ddigidol gynhwysol a fydd yn creu Cymru fwy ffyniannus, gwydn, iach a chyfartal, gyda chymunedau sydd â chysylltiadau da, diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg sy'n ffynnu.

Yn ychwanegol at ein grwpiau blaenoriaeth, rydym wedi nodi chwe maes ffocws y byddwn yn mynd i'r afael â nhw dros y 12 mis nesaf er mwyn helpu i lunio polisi ar gyfer y dyfodol. Mae'r chwe maes hyn yn adeiladu ar faterion a allai fod wedi bodoli o'r blaen ond sydd wedi dod yn fwy amlwg yn ystod y pandemig - gan ddysgu o brofiadau CDC a chyflwyno adborth rhanddeiliaid ehangach i swyddogion polisi.  Er mwyn mynd i'r afael â'r meysydd hyn, rydym yn cydnabod y bydd angen i ni ymgysylltu â sectorau a chymunedau er mwyn meithrin dealltwriaeth lawn o'r rhwystrau a wynebir a'r ymyriadau a all fod yn hanfodol i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn magu hyder digidol. Bydd angen i ni weithio'n agos gyda Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru hefyd er mwyn deall y dystiolaeth sydd gennym a, lle mae bylchau'n bodoli, sut y gallwn fynd i'r afael â nhw.

  • Byddwn yn ymgysylltu â chymunedau a sefydliadau er mwyn trafod, deall a datblygu ein hymyriadau polisi ar gyfer cynhwysiant digidol a sgiliau digidol sylfaenol yn y dyfodol
  • Byddwn yn gwneud rhagor o waith ymchwil i ystyried sut y dylid rhoi ymyriadau presennol ac ymyriadau yn y dyfodol ar waith ym maes iechyd a gofal fel bod staff yn meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i sicrhau eu bod nhw, eu cleifion a phreswylwyr yn cael budd o dechnoleg ddigidol
  • Byddwn yn gwella ein dealltwriaeth o oblygiadau allgáu digidol i gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME)
  • Byddwn yn meithrin ein dealltwriaeth o oblygiadau ehangach posibl 'Tlodi Data' o ran yr agenda allgáu digidol
  • Byddwn yn sicrhau y caiff hyder digidol (cymhelliant, mynediad a sgiliau) ei ymgorffori a'i gysoni â Strategaeth y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
  • Byddwn yn ystyried sut y gellir datblygu a darparu cymorth ar gyfer y sector tai cymdeithasol mewn modd cyson er mwyn sicrhau y gall preswylwyr fanteisio ar wasanaethau digidol, e.e. rhoi gwybod am ddiffygion eu tai, cadw trefn ar arian yn ddigidol, a chynnal cysylltiadau cymdeithasol â ffrindiau a theulu

Y braslun

Nod yr adran hon yw rhoi trosolwg o'r hyn y byddwn yn ei wneud i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r chwe maes a nodwyd ac yn eu hadlewyrchu yn ein polisi ar gyfer y dyfodol. Mae meysydd polisi eraill a bylchau posibl yn y ddarpariaeth bresennol y byddwn yn ceisio eu hystyried yn ystod ein gwaith datblygu ac ymgysylltu.

Er nad yw pob un o'r rhain wedi'u hamlinellu o fewn y chwe maes, gallent gynnwys, ymhlith pethau eraill:

  • Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)
  • sicrhau y caiff cynhwysiant digidol a sgiliau digidol eu hymgorffori mewn hyfforddiant staff ym mhob rhan o'r sector iechyd a gofal
  • yr heriau sy'n dod i'r amlwg a wynebir o fewn y Comisiwn Cyfiawnder wrth i lysoedd a gwasanaethau tribiwnlysoedd fabwysiadu dull gweithredu digidol diofyn. 

At hynny, mae'r pandemig wedi dangos bod angen ymgysylltu â sefydliadau trafnidiaeth gyhoeddus, e.e. Trafnidiaeth Cymru, er mwyn sicrhau nad e-docynnau yw'r unig opsiwn i ddinasyddion Cymru. Er nad yw e-docynnau yn gwbl gyfyngedig i ffonau symudol/clyfar o bosibl, ar sail data Arolwg Cenedlaethol Cymru (Awst 2020), gwyddom mai dim ond 86% o'r boblogaeth 16 oed a throsodd yng Nghymru sydd â ffôn clyfar. Mae'r ffigur hwn yn gostwng yn sylweddol i ddim ond 57% ar gyfer y boblogaeth 65 oed a throsodd, a allai gael effaith sylweddol pe bai gwasanaethau trenau a bysiau yng Nghymru yn mabwysiadu e-docynnau yn lle dulliau mwy confensiynol. Ni ellir ystyried mai argraffu yw'r unig opsiwn amgen i'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol gan fod hyn yn tybio eu bod naill ai'n gallu argraffu (ac yn meddu ar sgiliau digidol sylfaenol) gartref, neu'n gallu gwneud hynny yn rhywle (e.e. llyfrgell) ar adeg gyfleus.

Gwyddom fod yr heriau ehangach i gefnogi'r rhai sy'n agored i niwed ac wedi'u hynysu wedi cynyddu yn ystod y pandemig. O ystyried yr anallu i roi cymorth wyneb yn wyneb a'r ffaith bod llawer o leoliadau cymunedol a llyfrgelloedd yn dal i fod ar gau neu fod llawer o bobl yn wynebu cyfyngiadau o ran mynd iddynt, mae angen i ni ystyried modelau cymorth amgen. Yn Sir Benfro, mae amrywiaeth eang o bartneriaid yn cydweithio i gyflwyno Cysylltiadau Digidol, sef model cymorth gan gymheiriaid (Cyfeillion Digidol) a fydd yn pwyso ar yr unigolion hynny ledled y wlad sy'n meddu ar sgiliau digidol sylfaenol i helpu'r rhai nad oes ganddynt hyder digidol.

Ymgysylltu a chyfathrebu

Bydd yn bwysig trafod y rhwystrau a wynebir mewn cymunedau a sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector i gefnogi hyder digidol, a'u deall. Byddwn yn ymgysylltu â phobl o amrywiaeth eang o gymunedau, e.e. pobl hŷn, BAME, tai cymdeithasol, er mwyn sicrhau y caiff ein hymyriadau eu targedu at y meysydd lle mae eu hangen a lle y byddant yn cael yr effaith fwyaf. Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi nad oes un dull sy'n addas i bawb o ymgysylltu â phobl a'u cefnogi i achub ar y cyfleoedd a gynigir gan dechnoleg ddigidol.

Pan fydd rheoliadau'n caniatáu, byddwn yn cynnal trafodaethau mewn cymunedau er mwyn deall sut mae ein polisïau arfaethedig yn gysylltiedig â'n rhaglen gaffaeledig, Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant, a'r addasiadau y gall fod angen eu gwneud i'n hymyriadau er mwyn cyrraedd y rhai mwyaf anghenus. Drwy'r gwaith ymgysylltu hwn, mae angen i ni ddeall a oes unrhyw fylchau yn y cymorth a roddir ar hyn o bryd ac a oes grwpiau eraill lle roedd allgáu digidol, hyd yn oed cyn y pandemig, yn broblem.

Ymchwil ac Ymyriadau ym maes Iechyd a Gofal

Yn ystod y pandemig, rydym wedi gweld yr effaith y gall diffyg hyder digidol ei chael ar amrywiaeth eang o faterion, o ynysu ac unigrwydd i anghydraddoldeb o ran y gallu i gael gafael ar wasanaethau iechyd a llesiant. Mae ein rhaglen gaffaeledig wedi darparu cymorth i liniaru rhai o'r heriau hyn mewn cartrefi gofal, gan ddarparu dyfeisiau a hyfforddiant i staff rheng flaen i'w galluogi i helpu preswylwyr i ddefnyddio technoleg ddigidol, a bydd yn parhau i wneud hynny. Datblygwyd hyfforddiant er mwyn helpu i ddangos i'r staff sut y gallai preswylwyr ryngweithio â ffrindiau a theulu ac ymgysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol drwy'r gwasanaeth meddyg teulu rhithwir, Attend Anywhere.

Fodd bynnag, erys cwestiynau o hyd ynghylch cynaliadwyedd yr ymyriadau hyn. Rhaid i ni ystyried sut y caiff cynhwysiant digidol a sgiliau digidol eu hymgorffori yn yr hyfforddiant i staff iechyd a gofal - gan sicrhau eu bod yn dod yn elfen graidd o'r broses o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal. Dangosodd yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2019, 'Iechyd y boblogaeth mewn oes ddigidol' y bwlch yn y defnydd o dechnoleg ddigidol - er bod 66% o boblogaeth Cymru yn defnyddio technoleg ddigidol i gefnogi eu hiechyd, dim ond 14% sy'n trefnu apwyntiadau gofal iechyd ar-lein. Mae angen i ni weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a  chydweithwyr iechyd yn Llywodraeth Cymru i ddeall y rhesymau dros y data hyn, gan gydnabod nad yw'r adroddiad presennol yn cynnig dadansoddiad. At hynny, mae'r adroddiad yn nodi'n glir yr her a wynebir o ran anghydraddoldebau iechyd, gyda ffocws penodol ar oedran wrth ystyried y defnydd o dechnoleg ddigidol i gefnogi iechyd, h.y. 87% o bobl 16-29 oed o gymharu â 24% o bobl 70 oed a throsodd. Mae hyn yn atgyfnerthu'r rôl hanfodol y mae iechyd a gofal yn ei chwarae o ran cefnogi dinasyddion i fagu hyder digidol.  Byddwn hefyd yn ystyried canfyddiadau adroddiad Age Cymru  'Profiadau pobl 50 oed a hŷn yng Nghymru yn ystod cyfnod clo cyntaf COVID-19, a'u hadferiad', a ddangosodd fod 70% o ddefnyddwyr wedi cael profiad negyddol.

Rhaid i ni sicrhau nad ydym yn allgáu'r rhai sy'n byw mewn cyd-destun byw â chymorth (e.e. y rhai sy'n dioddef o anaf i'r ymennydd neu gyflwr sy'n golygu bod angen gofal 24 awr) drwy ein diffiniad ni ein hunain o gynhwysiant digidol. Mae angen cydnabod a nodi'r rôl hanfodol y mae technoleg yn ei chwarae o ran cefnogi ansawdd bywyd. Hefyd, rhaid i ni sicrhau y caiff y rhai sydd â rôl gofalwr eu cefnogi i feithrin eu cymhwysedd digidol a'u dealltwriaeth o'r manteision y gall technoleg eu cynnig.

Byddwn yn cydweithio â'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a chydweithwyr ym maes iechyd i ystyried gwaith ymchwil presennol ac, os bydd angen, yn ystyried comisiynu rhagor o waith yn y maes hwn er mwyn helpu i feithrin dealltwriaeth well o'r ddarpariaeth a'r cymorth sydd ar gael ym maes iechyd a gofal i staff a phreswylwyr/cleifion. Rhaid i ni sicrhau y caiff cynhwysiant digidol a sgiliau digidol eu hymgorffori'n gyson gan fyrddau iechyd, gyda chefnogaeth ar lefel uwch ledled Cymru.

Ymchwil ac Ymyriadau i gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME)

Byddwn yn gwella ein dealltwriaeth o oblygiadau allgáu digidol i gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME. Mae'r pandemig wedi nodi cymunedau a grwpiau ledled Cymru nad oeddent wedi ystyried eu bod wedi'u hallgáu'n ddigidol cyn hyn o bosibl. Rydym yn cydnabod bod angen i ni ystyried data Arolwg Cenedlaethol Cymru, a data ehangach, er mwyn deall lefelau presennol allgáu digidol a materion sy'n ymwneud â sgiliau digidol sylfaenol mewn cymunedau BAME, Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, a theilwra ein hymyriadau lle y bo'n briodol er mwyn sicrhau bod pob dinesydd yn cael y cymorth sydd ei angen arno. Bydd hyn yn broses barhaus, a fydd yn golygu gweithio'n agos gyda swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ein rhaglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant.

Rhan allweddol o'n gwaith ymgysylltu â chyfathrebu fydd deall y rhwystrau yn y cymunedau hyn ar lefel leol a chenedlaethol.

Deall goblygiadau ehangach Tlodi Data

Mae'r termau "tlodi data" ac "amddifadedd digidol" wedi dod yn fwyfwy cyffredin yn ystod y pandemig.  Mae angen i ni wella ein dealltwriaeth o oblygiadau tlodi data o ran allgáu digidol - gan gydnabod bod y termau hyn i'w priodoli'n bennaf i gostau prynu technoleg a mynediad at y rhyngrwyd (e.e. data symudol a band eang) a'r angen i deuluoedd ddewis rhwng mynediad at y rhyngrwyd neu gostau byw hanfodol eraill (e.e. bwyd a gwres).

Drwy adroddiad Cyngor ar Bopeth (Medi 2020), "Excess debts - who has fallen behind on their household bills due to coronavirus?", gwyddom fod Cyngor ar Bopeth yn amcangyfrif bod 6 miliwn o oedolion yn y DU wedi methu â thalu ar amser un bil cartref o leiaf yn ystod y pandemig, a bod 3.4 miliwn o'r biliau hyn yn ymwneud â ffôn symudol neu fand eang.

Byddwn yn meithrin ein dealltwriaeth o'r rôl y mae cwmnïau telathrebu a seilwaith yn ei chwarae o ran yr agenda tlodi data ac yn ystyried yr angen i godi ymwybyddiaeth eangach o opsiynau fforddiadwy.

Strategaeth y Gwasanaeth Arian a Phensiynau: pa ran y mae cynhwysiant digidol yn ei chwarae yn hyn o beth?

Mae Strategaeth Llesiant Ariannol y DU, a gyhoeddwyd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn mwynhau dyfodol ariannol iach ac yn cael y cyfle i fanteisio i'r eithaf ar eu harian a'u pensiynau.

O ran pum agenda ar gyfer newid Strategaeth y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, mae angen i ni gydweithio â'r Gwasanaeth a phartneriaid eraill i nodi cyfleoedd i ddefnyddio technoleg ddigidol a meithrin dealltwriaeth well o sut a ble y gall technoleg ddigidol helpu i gyflawni canlyniadau'r strategaeth yng Nghymru. Caiff yr angen i gysoni'r gwaith a arweinir gan y Gwasanaeth ei atgyfnerthu ymhellach gan y cyswllt polisi a gydnabyddir rhwng allgáu digidol ac allgáu ariannol. Gwyddom y gall meddu ar sgiliau digidol sylfaenol a mynediad at dechnoleg ddigidol gynyddu cynhwysiant ariannol yn sylweddol, boed hynny drwy ddefnyddio'r rhyngrwyd i brynu nwyddau a gwasanaethau hanfodol gan sicrhau arbedion sylweddol o bosibl i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd, neu ddefnyddio cyfrifianellau cyllidebu ar-lein. Mae cysylltiad cryf rhwng materion sy'n ymwneud ag allgáu ariannol â'r rhwystr 'fforddiadwyedd'. Rydym yn cydnabod efallai na all pobl nad oes ganddynt gyfrifon banc gofrestru ar gyfer contractau band eang neu ffôn symudol, neu efallai na all pobl â statws credyd gwael gael benthyciad i brynu gliniadur neu lechen. Felly, mae'n hollbwysig mynd i'r afael ag allgáu digidol fel rhan o ymdrech ehangach a chydlynol mewn perthynas ag agweddau ar allgáu, megis allgáu cymdeithasol ac ariannol. 

Y Sector Tai Cymdeithasol

Erys her ddifrifol o hyd yn y sector tai cymdeithasol er mwyn cyrraedd preswylwyr a'u helpu i fagu hyder digidol. Dengys Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20 fod 17% o breswylwyr tai cymdeithasol wedi'u hallgáu'n ddigidol - tua 60,000 o breswylwyr. Caiff hyn ei waethygu gan y ffaith nad oes gan 37% o'r preswylwyr tai cymdeithasol hyn, sy'n defnyddio'r rhyngrwyd yn bersonol, bob un o'r pum sgil ddigidol sylfaenol - tua 105,000 o breswylwyr. Mae'r ffigurau hyn yn atgyfnerthu'r ffaith bod angen cymorth ar hyd yn oed y rhai hynny sy'n gallu defnyddio'r rhyngrwyd i fagu hyder digidol.

Mae angen i ni weithio gyda'r sector tai cymdeithasol er mwyn meithrin dealltwriaeth wirioneddol o'r rhwystrau i gymorth cynaliadwy i breswylwyr ar adeg pan fo mwy a mwy o wasanaethau tai digidol, e.e. rhoi gwybod am ddiffygion ac atgyweiriadau, yn cael eu cyflwyno. Fodd bynnag, mae angen i ni sicrhau mai manteision ehangach iechyd, llesiant, rheolaeth ariannol (cynhwysiant ariannol) a lleihau unigedd ac ynysu yw'r prif ffactorau sy'n ysgogi newid. Mae angen atgyfnerthu hyn drwy sicrhau y caiff staff gymorth i fagu hyder digidol a deall y manteision y gall technoleg ddigidol eu cynnig i breswylwyr.

Byddwn yn hwyluso'r broses o greu ffrwd waith benodol gyda sefydliadau allweddol sy'n arwain ar gymorth tai cymdeithasol er mwyn deall y rhwystrau a wynebir ganddynt fel sefydliad a sut y gallwn ni, drwy ein hymyriadau, eu cefnogi nhw, eu staff ac, yn y pendraw, eu preswylwyr i fagu hyder digidol.

Cymunedau digidol Cymru: hyder digidol, Iechyd a llesiant

Mae ein rhaglen gaffaeledig, ‘Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles' (CDC), sydd â chyllideb flynyddol o £2 filiwn (a gyllidir ar y cyd gan gynhwysiant digidol ac iechyd), yn gweithio gyda sefydliadau o bob sector a all helpu i gyrraedd pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Nod y rhaglen yw rhoi hyfforddiant a chymorth i staff rheng flaen, gwirfoddolwyr a sefydliadau (wyneb yn wyneb) i‘w galluogi i ymgysylltu â defnyddwyr (dinasyddion) a meithrin eu sgiliau digidol i fanteisio ar wasanaethau. Rhoddwyd y rhaglen ar waith ym mis Gorffennaf 2019, a disgwylir iddi bara tan 30 Mehefin 2022, gydag opsiwn i’w hymestyn am dair blynedd arall. Yn sgil y pandemig, newidiodd CDC o ddarparu’r cymorth wyneb yn wyneb traddodiadol i ddarparu cymorth dros y ffôn, cymorth drwy e-bost a, lle y bo’n briodol, cymorth rhithwir ar gyfer sefydliadau.

Er mwyn lliniaru rhywfaint ar effaith gychwynnol y pandemig, sicrhaodd y rhaglen gyllid ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i brynu dyfeisiau digidol (llechi) a'u dosbarthu i unigolion agored i niwed mewn cartrefi gofal ledled Cymru. Roedd hyn yn canolbwyntio ar gefnogi preswylwyr cartrefi gofal i ddefnyddio technoleg er mwyn gwella’r rhyngweithio rhyngddynt â’u teuluoedd a’u ffrindiau, yn ogystal â’r rhyngweithio rhyngddynt â gweithwyr meddygol proffesiynol, a magu eu hyder digidol fel blaenoriaeth. Fel rhan o ail gam y cyllid ychwanegol, gwelwyd y rhaglen yn rhoi cymorth i hosbisau, cynlluniau tai gwarchod a gofalwyr ifanc (rhwng 16 a 18 oed) drwy ddarparu cyfuniad o ddyfeisiau, cysylltedd (lle bo angen) a hyfforddiant.

Ers mis Gorffennaf 2019, mae CDC wedi cefnogi dros 27,140 o unigolion i ddefnyddio technoleg ddigidol ac wedi hyfforddi dros 1,120 o staff rheng flaen a gwirfoddolwyr.

Er mwyn mesur effaith y rhaglen o ran cefnogi pobl i fagu hyder digidol ac ymgorffori cynhwysiant digidol mewn sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector ledled Cymru, gwnaethom gomisiynu gwerthusiad annibynnol. Ym mis Mehefin 2020, penodwyd Oldbell3 i gynnal gwerthusiad hirdymor er mwyn canfod i ba raddau y mae’r rhaglen yn cyflawni ei hamcanion a ph’un a allai unrhyw newidiadau i’r strwythur a’r dulliau cyflawni atgyfnerthu’r rhaglen.

Fel rhan o gam cyntaf y broses werthuso, cwblhaodd Oldbell3 astudiaeth o Ddamcaniaeth Newid, a oedd yn cynnwys cyfweld â rhanddeilaid a sefydliadau a gefnogir gan CDC er mwyn deall y model presennol, yr ymyriadau a’r canlyniadau disgwyliedig - gan gynnwys priodoldeb dangosyddion perfformiad allweddol. Cwblhaodd Oldbell3 gam cyntaf y gwerthusiad ym mis Tachwedd, a disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2021. Byddwn yn ystyried y canfyddiadau a pha newidiadau, os o gwbl, y gall fod angen eu gwneud - gan gynnwys y ffordd rydym yn mesur llwyddiant.

Bydd Oldbell3 yn ymgymryd â dau gam arall fel rhan o’r broses werthuso gyffredinol. Bydd y camau hyn yn cynnwys ystyried yn ofalus yr effaith uniongyrchol y mae'r rhaglen yn ei chael ar lawr gwlad (cyrraedd dinasyddion) a chasglu astudiaethau achos a fydd yn olrhain taith sefydliadau, gwirfoddolwyr, staff rheng flaen a dinasyddion ers gweithgarwch ymgysylltu cychwynnol y rhaglen. Bydd y camau ychwanegol hyn yn helpu swyddogion wrth gynghori Gweinidogion ar yr opsiwn i ymestyn contract CDC am dair blynedd ychwanegol.

Newid y ffordd y caiff y rhaglen ei chyflawni

Ar adeg llunio’r Rhagolwg, ac wrth i’r gaeaf nesáu, mae cryn ansicrwydd o hyd ynghylch y cyfyngiadau y byddwn yn eu hwynebu o ganlyniad i’r pandemig. Fodd bynnag, rydym yn parhau i gefnogi rhaglen CDC wrth iddi ddatblygu cynlluniau a phrosesau priodol, er mwyn sicrhau y gallwn adfer hyfforddiant a chymorth wyneb yn wyneb yn ddiogel pan fydd modd i ni wneud wneud hynny’n raddol.  Bydd y cymorth hwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod staff rheng flaen, gwirfoddolwyr a sefydliadau yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau digidol sydd eu hangen i helpu dinasyddion Cymru i fagu hyder digidol.

Bydd cymorth ar gyfer gwasanaethau cymunedol megis llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol yn parhau i fod yn hollbwysig i’r agenda cynhwysiant digidol wrth i ni gynllunio ar gyfer y “normal newydd”. O ran y dinasyddion hynny sydd ond yn gallu defnyddio cyfrifiadur mewn llyfrgell, hyd nes y bydd llyfrgelloedd yn ailagor, gwyddom y bydd yn amhosibl iddynt gwblhau’r amrywiaeth lawn o weithgareddau digidol, cynnal cyswllt digidol â’r teulu, archebu bwyd, cael gafael ar wasanaethau iechyd hollbwysig a chael gwybodaeth ehangach ar-lein.

FutureDotNow (a DevicesDotNow)

Mae cynghrair FutureDotNow yn dod â sefydliadau ynghyd i gymell pobl a busnesau ledled y DU i hybu eu sgiliau digidol. Y weledigaeth yw grymuso pawb i ffynnu mewn DU ddigidol, drwy helpu pobl i ddeall y sgiliau digidol sydd eu hangen arnynt ar gyfer bywyd a gwaith, eu hysbrydoli i fuddsoddi amser yn y dechnoleg sydd ei hangen arnynt, ac yna gefnogi pobl drwy eu cyfeirio at yr hyfforddiant y bydd ei angen arnynt i gyflawni eu huchelgeisiau. Drwy CDC, sy’n un o bartneriaid cydnabyddedig y gynghrair, rydym yn sicrhau y caiff safbwynt Cymru ei gynrychioli.

Fel rhan o'i hymateb i'r pandemig, lansiodd FutureDotNow fenter DevicesDotNow, a oedd â'r nod o gefnogi'r rhai nad oes ganddynt ddyfais na chysylltiad â'r rhyngrwyd, ac sydd felly wedi'u hallgáu'n ddigidol, drwy ofyn i fusnesau roi dyfeisiau yn rhodd. Dosbarthwyd y dyfeisiau hyn i unigolion drwy 2,400 o Ganolfannau Ar-lein lleol ledled y DU, gyda mwy na 100 o ganolfannau yng Nghymru (llyfrgelloedd yw'r mwyafrif ohonynt yng Nghymru).  Roedd yn ofynnol i Ganolfannau Ar-lein gyflwyno cais ar-lein yn amlinellu faint o ddyfeisiau yr oedd eu hangen arnynt i gefnogi pobl agored i niwed yn eu cymunedau.

Bydd menter DeviceDotNow bellach yn cael ei harwain gan y Good Things Foundation o dan faner 'Everyone Connected'. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r Good Things Foundation wrth i hyn ddatblygu.

Good Things Foundation (Learn My Way)

Llwyfan sgiliau digidol sylfaenol ar-lein yw Learn My Way (LMW), sy'n cynnwys cyrsiau ar bynciau megis cadw trefn ar arian ar-lein, hanfodion ar-lein, fideoalwadau a chael gafael ar wybodaeth iechyd. Mae'r llwyfan yn galluogi unigolion i feithrin sgiliau digidol sylfaenol ar gyflymder ac mewn lleoliad sy'n gyfleus iddynt, a hynny am ddim. Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r Good Things Foundation er mwyn sicrhau y caiff unrhyw newidiadau a wneir i'w wefan neu unrhyw gynnwys newydd a gyflwynir eu cyfieithu i'r Gymraeg fel rhan o'r broses gynllunio. Gwelwyd yr enghraifft fwyaf diweddar yn ystod y cyfyngiadau symud, pan wnaethom sicrhau bod y cwrs Sgwrs Fideo yn cael ei gyfieithu a'i lansio'n ddwyieithog ym mis Mai, gan gydnabod yr angen am gymorth gyda ffurf hollbwysig ar gyswllt cymdeithasol yn ystod y cyfyngiadau symud.

Skills for Tomorrow BT

Ym mis Hydref 2019, cyhoeddodd BT raglen newydd sydd â'r nod o gefnogi sgiliau digidol, sef ‘Skills for Tomorrow’. Nod y rhaglen ar gyfer y DU gyfan yw uwchsgilio 10 miliwn o bobl erbyn 2025 drwy gydweithio ag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys Google a'r Good Things Foundation, i ddiwallu anghenion cynulleidfaoedd gwahanol a rhai sydd weithiau yn agored i niwed. Y nod cyffredinol yw helpu pobl o bob oed a chefndir i ffynnu mewn byd o gyfleoedd digidol. Rydym ni a CDC yn parhau i gydweithio'n agos â BT Cymru, a chyn y pandemig, buom yn gweithio i greu ffocws penodol i Gymru. Er bod yr elfen hon wedi'i hoedi o ganlyniad i'r pandemig, mae BT yn parhau i gydweithio â ni ar ymyriadau polisi a rhaglen.

Nominet Reboot

Llwyfan rhyngweithiol yw Reboot sy’n cynnwys canllaw cam wrth gam i helpu sefydliadau cymunedol ac ysgolion i sicrhau y gall grwpiau agored i niwed a myfyrwyr sydd wedi’u datgysylltu fanteisio ar dechnoleg ddigidol, drwy eu helpu i gael gafael ar ddyfeisiau segur a’u hailddefnyddio mewn ffordd effeithlon a chosteffeithlon. Mae angen i ni gydweithio â Reboot er mwyn helpu i sicrhau y caiff yr adnoddau eu rhannu â sefydliadau allweddol ledled Cymru, gan weithio gyda Nominet o bosibl er mwyn sicrhau y caiff yr adnoddau eu cynnig yn ddwyieithog.

Ein hymateb i’r pandemig

Ar ddechrau’r pandemig (mis Mawrth 2020), wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu cyflwyno, gwelwyd cynnydd cyflym yn y galw a wynebwyd mewn amrywiaeth eang o leoliadau, e.e. iechyd a gofal, y trydydd sector, ac ar gyfer unigolion, i gael gafael ar ddyfeisiau a chysylltedd o'u cartrefi eu hunain. 

Roedd hyn yn her arbennig i’r unigolion a’r sectorau hynny a oedd yn wynebu’r posibilrwydd o orfod hunanynysu am gyfnodau hir o amser. I lawer, mae technoleg ddigidol wedi eu galluogi i barhau i gymdeithasu, siopa am fwyd, dod o hyd i wybodaeth iechyd, a chael gafael ar adnoddau a gweithgareddau i’w diddanu - er bod hynny ar-lein. Fodd bynnag, nid felly y bu i tua un o bob 10 o oedolion yng Nghymru, yn enwedig yr henoed a’r rhai agored i niwed.

Darparodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol £803,080 o gyllid ychwanegol er mwyn galluogi rhaglen gaffaeledig Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant (CDC) i ganolbwyntio ar gaffael a darparu dyfeisiau i gartrefi gofal (preifat a chyhoeddus), gan gydnabod yr angen am gymorth fel blaenoriaeth.

Darparwyd y cymorth hwn ochr yn ochr â’r gwaith a arweiniwyd gan y sector iechyd i gyflwyno Attend Anywhere, sef gwasanaeth ymgynghori rhithwir gan feddyg teulu, er mwyn sicrhau bod y preswylwyr hynny mewn cartrefi gofal yn gallu cysylltu â meddyg teulu a bod meddygon teulu yn gallu parhau i gynnal ymweliadau rhithwir â chartrefi gofal yn ystod y pandemig.

Ar ôl mynd i’r afael â'r ffocws blaenoriaethol ar gartrefi gofal, defnyddiwyd y cyllid i gefnogi hosbisau, cynlluniau tai gwarchod a gofalwyr ifanc. Gan gydnabod anawsterau cynnal gwasanaethau wyneb yn wyneb, sicrhaodd CDC fod cymorth a hyfforddiant ar gael i staff rheng flaen a gwirfoddolwyr yn y lleoliadau hyn drwy wahanol sianeli megis y ffôn, e-bost a, lle y bo’n briodol, fideogynadledda.

Cam 1: Cartrefi Gofal Cyhoeddus a Phreifat

Cysylltodd CDC â 1,071 o gartrefi gofal cyhoeddus a phreifat ledled Cymru er mwyn pennu lefel y galw am ddyfeisiau, cysylltedd a chymorth/hyfforddiant. Gweithiodd CDC mewn partneriaeth â TEC Cymru er mwyn sicrhau bod gan gartrefi gofal bopeth yr oedd ei angen arnynt i fanteisio ar Attend Anywhere (gwasanaeth meddyg teulu rhithwir). Roedd hyn yn cynnwys darparu hyfforddiant ar sgiliau digidol i 206 o gartrefi gofal, gan arwain at gefnogi 381 o staff rheng flaen drwy'r rhaglen. At hynny, darparodd y rhaglen fwy na 1,050 o ddyfeisiau i 584 o gartrefi gofal ledled Cymru. Darparwyd y dyfeisiau gyda'r cymwysiadau priodol wedi'u rhagosod arnynt, ynghyd â weips meddygol a roddwyd gan Clinell er mwyn cadw'r dyfeisiau'n lân. Roedd y dyfeisiau'n galluogi preswylwyr i gadw mewn cysylltiad â'r teulu a chael gafael ar wasanaethau iechyd hanfodol, ac yn eu helpu i fagu hyder digidol.  Roedd y dyfeisiau'n galluogi preswylwyr i gadw mewn cysylltiad â'r teulu a chael gafael ar wasanaethau iechyd hanfodol, ac yn eu helpu i fagu hyder digidol. Gwyliwch y fideos ar YouTube am ein cynllun benthyg llechi mewn cartrefi gofal.

Cam 2: Hosbisau, Tai Gwarchod a Gofalwyr Ifanc

Cysylltodd CDC â 27 o hosbisau ledled Cymru er mwyn pennu lefel y galw am ddyfeisiau, cysylltedd a chymorth/hyfforddiant. Nodwyd bod angen 25 o lechi gyda chontractau data tri mis, yr oedd CDC yn bwriadu eu dosbarthu i hosbisau ym mis Rhagfyr 2020 er mwyn i breswylwyr fanteisio ar dechnoleg ddigidol.

O ran cynlluniau tai gwarchod, sy'n cynnwys cynlluniau byw â chymorth a gofal ychwanegol, cynhaliodd CDC broses ymgeisio gan mai dim ond 200 o ddyfeisiau (llechi) oedd ar gael i ateb y galw uchel a ragwelwyd.  Parhaodd y broses ymgeisio am chwe mis a chafwyd 23 o geisiadau llwyddiannus am gyfanswm o 206 o ddyfeisiau. Sicrhaodd CDC fod hyfforddiant i staff rheng flaen a gwirfoddolwr yn un o ofynion y cais, yn ogystal â'r angen i ymgorffori egwyddorion cynhwysiant digidol yn y sefydliad.

Yn ystod cyfnod cynnar y pandemig, nododd cydweithwyr a oedd yn arwain gwaith ar y polisi gofalwyr yn Llywodraeth Cymru fod y bwlch yn y cymorth ar gyfer gofalwyr ifanc (rhwng 16 a 18 oed) yn flaenoriaeth. Roeddem am sicrhau bod dyfeisiau'n cael eu paru ag angen er mwyn helpu gofalwyr i gyflawni eu rôl ofalu, a hynny er budd yr unigolyn roeddent yn gofalu amdano. Mae CDC wedi bod yn cydweithio'n agos ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ac arweinwyr y 22 o awdurdodau lleol er mwyn nodi a chyflwyno 440 o ddyfeisiau Chromebook gyda phecyn data diderfyn 12 mis.  Dyrannodd CDC 20 o ddyfeisiau i bob awdurdod lleol a sicrhaodd fod pob un ohonynt yn darparu hyfforddiant a chymorth i staff rheng flaen fel bod ganddynt yr hyder i helpu gofalwyr ifanc. Drwy CDC, dosbarthwyd 280 o ddyfeisiau ym mis Tachwedd, a disgwylir i'r gweddill ohonynt gael eu dosbarthu ym mis Rhagfyr 2020. Byddwn yn sicrhau ein bod yn nodi canlyniadau ehangach y cymorth hwn.

Cymorth cysylltedd i Geiswyr Lloches a Ffoaduriaid

Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda British Telecom (BT) a CDC i fanteisio ar gynnig o 500 o dalebau BT i Gymru. Talebau ar gyfer tymor chwe mis (data diderfyn) ydynt, a byddant yn galluogi'r rhai sy'n eu derbyn i fanteisio ar seilwaith Llecyn Wi-Fi BT ledled Cymru.

Drwy drafodaethau cadarnhaol â BT Cymru a chydweithwyr Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru, gwnaethom gytuno i ddarparu cymorth i geiswyr lloches a ffoaduriaid drwy ddarparu talebau i sefydliadau sydd wedi cysylltu â CDC am gymorth. Cymerodd CDC yr awenau o ran y cymorth hanfodol hwn, gan ffurfio gweithgor i ystyried y ffordd orau o ddefnyddio'r talebau hyn, gan gynnwys cynrychiolaeth o Gyngor Ffoaduriaid Cymru, Abertawe Dinas Noddfa, y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig , Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe a Clymu Gwasanaethau (Casnewydd).  Aeth y gweithgor hwn ati i fapio lleoliadau ceiswyr lloches a ffoaduriaid a bydd yn datblygu pecyn gwybodaeth i'r sefydliadau a'r unigolion a fydd yn derbyn y talebau er mwyn rhoi manylion am sut i'w defnyddio. Byddwn yn monitro nifer y sefydliadau ac unigolion sy'n manteisio ar y cymorth hwn drwy CDC ac yn ystyried sut i sicrhau ei fod yn parhau'n gynaliadwy. Ym mis Tachwedd, estynnwyd gwahoddiad i Teithio Ymlaen: Gwasanaeth Cyngor ac Eiriolaeth i Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ymuno â'r gweithgor er mwyn ehangu'r grŵp o bobl y gall CDC eu cefnogi drwy dalebau BT.

Cymorth Cyflogadwyedd

Darparwyd cyllid ychwanegol i CDC er mwyn cefnogi ein rhaglenni cyflogadwyedd, Cymunedau am Waith a Cymunedau am Waith a Mwy. Bydd hyn yn galluogi cyfranogwyr y mae angen dyfais a/neu gysylltedd arnynt i ymgymryd â gweithgarwch sy'n gysylltiedig â gwaith, e.e. llunio CV, chwilio am swyddi, cwblhau hyfforddiant a mynychu cyfweliadau rhithwir. Drwy gymorth Cymunedau am Waith a Cymunedau am Waith a Mwy, bydd cyrff arweiniol yn nodi Hyrwyddwyr Digidol a Dirprwyon i gael hyfforddiant drwy CDC. Pan fydd yr hyfforddiant wedi'i gwblhau, bydd CDC yn benthyg 550 o ddyfeisiau Chromebook ymhlith y 55 o dimau ardal lleol sy'n darparu cymorth Cymunedau am Waith a Cymunedau am Waith a Mwy ledled Cymru. Caiff dyfais Mi-Fi hefyd ei darparu, lle bo angen, er mwyn darparu cysylltiad â'r rhyngrwyd i gyfranogwyr. Bydd y dyfeisiau Mi-Fi wedi'u rhaglwytho â data, a byddant yn cael eu rheoli ar gontract chwe mis treigl gan Cymunedau am Waith a Cymunedau am Waith a Mwy.

Mae'r angen am ddyfeisiau/cysylltedd wedi dod yn fwy dybryd ac mae'n parhau i fod yn her yn ystod y pandemig. At hynny, rydym yn parhau i weld cynnydd mewn cyfraddau diweithdra ledled Cymru, sy'n debygol o arwain at gynnydd yn nifer y rhai y bydd angen cymorth arnynt (yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20, mae 7% o'r rhai sy'n ddi-waith wedi'u hallgáu'n ddigidol – o gymharu â 6% yn 2018-19). 

Rydym yn anelu at ddosbarthu'r dyfeisiau hyn ym mis Rhagfyr 2020, yn dibynnu ar faterion parhaus cyflenwyr TGCh byd-eang, a byddwn yn sicrhau y caiff canlyniadau'r cymorth hwn eu nodi.

Crynodeb

Erys yn gyfnod ansicr, gyda'r angen parhaus i newid rheoliadau mewn ymateb i'r pandemig, sy'n golygu ei bod yn aneglur o hyd sut beth fydd normal y tu hwnt i COVID-19. Fodd bynnag, ar sail yr wyth mis diwethaf, gallwn fod yn sicr y bydd gan dechnoleg ddigidol rôl allweddol i'w chwarae.

Bydd ein polisi ar gyfer y dyfodol yn parhau i adeiladu ar yr angen a gydnabyddir i gefnogi pawb i feithrin y cymhelliant, yr hyder a'r sgiliau i wneud penderfyniadau gwybodus a dewis sut maent yn cymryd rhan yn ein byd cynyddol ddigidol, ac yn manteisio arno. I'r rhai na allant gymryd rhan yn ddigidol, neu sy'n penderfynu peidio â gwneud hynny, rhaid i ni sicrhau bod ffyrdd amgen o gael gafael ar wasanaethau yn bodoli o hyd. Dylid ystyried technoleg ddigidol fel ffordd o ddatrys problemau yn seiliedig ar anghenion a dymuniadau defnyddwyr, yn hytrach na'i hystyried fel yr unig ateb. Byddwn ni, fel Llywodraeth Cymru, yn gweithio i sicrhau na chaiff yr un dinesydd ei adael ar ôl wrth i ni groesawu dull gweithredu digidol yn gyntaf ac y bydd cynhwysiant digidol wrth wraidd popeth a wnawn.

Rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau y caiff cynhwysiant digidol ei ystyried o safbwynt polisi a darparu gwasanaeth. Ym mis Mehefin 2020, o ganlyniad i'r ymwybyddiaeth gynyddol o allgáu digidol yn sgil y pandemig, gwnaethom gyhoeddi canllaw a rhestr wirio â ffocws mewnol (alffa) ar gynhwysiant digidol. Nod y dogfennau hyn yw helpu'r rhai sy'n datblygu polisi a gwasanaethau i ystyried y goblygiadau i'r rhai nad ydynt, neu na allant ddefnyddio technoleg ddigidol. Rydym yn bwriadu rhannu'r goblygiadau hyn ag Awdurdodau Lleol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson ledled Cymru.

Rydym yn parhau'n ymwybodol o'r angen a'r galw cynyddol am ddyfeisiau a chysylltedd a welwyd ar draws sectorau ac ymhlith sefydliadau, rhaglenni ac unigolion yn ystod y pandemig.  Byddwn yn ystyried ymyriadau priodol sy'n fodelau cynaliadwy ac yn dangos gwerth am arian, gan gydnabod nad dyfeisiau yn unig yw'r ateb, a chan sicrhau bod cymorth ar gael drwy Hyrwyddwyr Digidol. Bydd hyn yn cynnwys ystyried model Connecting Scotland fel esiampl ar gyfer cyfuno dyfeisiau, cysylltedd a chymorth ar gyfer pobl agored i niwed mewn ymateb i'r pandemig.

Mae'r pandemig wedi dangos gwerth sicrhau bod gan ddinasyddion hyder digidol o safbwynt iechyd.  Erys hyn yn flaenoriaeth mewn polisïau digidol ac iechyd ar gyfer y dyfodol, gan nodi'n glir fod angen buddsoddi mewn hyfforddiant staff yn y sector iechyd a gofal. Byddai hyn yn canolbwyntio ar helpu staff i ddeall sut y gallant, drwy feithrin eu hyder digidol, chwarae rôl allweddol i helpu cleifion i reoli eu hiechyd a'u llesiant yn annibynnol - gan ddefnyddio technoleg ddigidol os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Cyswllt

Os hoffech ymgysylltu â ni wrth i ni ddatblygu ein polisi ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys mynychu digwyddiadau i randdeiliaid pan fo hynny'n bosibl, rhowch wybod i ni drwy e-bostio digitalinclusionmailbox@llyw.cymru.

Erys yn gyfnod ansicr, ac rydym yn gwerthfawrogi y gall fod angen cynnal rhai o'n digwyddiadau ymgysylltu yn rhithwir. Byddwn yn ceisio gweithio'n agos gyda sefydliadau allweddol i'n helpu i gyrraedd y rhai hynny a fyddai fel arall wedi'u hallgau'n ddigidol heb gyfryngwr, a sicrhau ein bod yn casglu eu barn.