Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r ystadegau chwarterol, a gyhoeddir ar StatsCymru â dangosfyrddau ategol, yn cyflwyno gwybodaeth ar nifer y rhaglenni prentisiaeth a ddechreuwyd. Maent yn cynnwys data ynghylch lle mae’r dysgwr yn byw, math o raglen, grŵp oedran, sector, rhyw, ethnigrwydd, anabledd a blwyddyn academaidd.

Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys ffigurau newydd ar gyfer Tachwedd 2023 i Ionawr 2024 (Ch2 o flwyddyn academaidd 2023/24). Cynhyrchir ffigurau dros dro bob chwarter, a chânt eu rhoi ar ffurf derfynol pan gaiff data Ch4 eu cyhoeddi ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn. Fe’u cyfrifwyd gan ddefnyddio cyfnod rhewi Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru.

Prif bwyntiau

Dechreuodd 4,515 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch2 2023/24, o gymharu â 4,565 yn Ch2 2022/23.

Yn Ch2 2023/24, roedd lleihau yn y niferoedd a ddechreuodd Brentisiaeth Sylfaen (lefel 2) a Phrentisiaeth Uwch (lefel 4+), ond roedd cynnydd yn y niferoedd a ddechreuodd Prentisiaeth Lefel 3, o'u cymharu â Ch2 2022/23.

Gwelwyd lleihau o 2% mewn rhaglenni Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Dechreuwyd 1,665 o raglenni dysgu o gymharu â 1,690 yn Ch2 2022/23.

Gwelwyd cynnydd o 2% mewn prentisiaethau (Lefel 3) gyda 2,055 o raglenni yn cychwyn yn Ch2 2023/24 o gymharu â 2,010 yn Ch2 2022/23.

Gwelwyd lleihau o 7% mewn Prentisiaethau Uwch (Lefel 4+) o gymharu â Ch2 2022/23, gyda 810 o raglenni yn cychwyn o gymharu â 870 y flwyddyn flaenorol.

Yn Ch2 2023/24, Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd, gan ddangos lleihau o 13% o gymharu â Ch2 2022/23. Dechreuwyd 1,945 o raglenni yn Ch2 2023/24 o gymharu â 2,245 yn yr un chwarter y flwyddyn flaenorol. Roedd 43% o'r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus, o'i gymharu â 49% yn Ch2 2022/23.

Yn Ch2 2023/24, roedd tua 59% o'r holl unigolion a ddechreuodd raglenni prentisiaeth yn ddysgwyr benywaidd, o gymharu â 61% yn Ch2 y flwyddyn flaenorol.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi pennu targed newydd i greu 125,000 o brentisiaethau pob oedran dros gyfnod tymor Senedd 2021-2026. Asesir y targed hwn gan ddefnyddio mesur llymach sy'n ystyried pobl sy'n gadael cyrsiau'n gynnar (yn ystod yr 8 wythnos gyntaf) a phobl sy'n trosglwyddo rhwng cofnodion prentisiaeth. Dechreuodd 4,185 o bobl ar brentisiaethau o'r fath yn ystod Ch2 2023/24. Gwelwyd cyfanswm o 55,095 yn dechrau prentisiaethau o’r math hwn ers pennu’r targed ym Mai 2021. Mae'r mesur hwn bellach yn cynnwys gradd-brentisiaethau. Darperir rhagor o wybodaeth am hyn drwy’r tab ar gyfer y 'targed presennol' ar y dangosfwrdd.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Aaron Thomas
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099