Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd ar gyfer Tachwedd 2020 i Ionawr 2021.

Mae’r ystadegau chwarterol, a gyhoeddir ar StatsCymru â dangosfyrddau ategol, yn cyflwyno gwybodaeth ar nifer y rhaglenni prentisiaethau a ddechreuwyd. Maent yn cynnwys data ynghylch lle mae’r dysgwr yn byw, math o raglen, grŵp oedran, sector, ethnigrwydd, anabledd a blwyddyn academaidd.

Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys ffigurau dros dro newydd ar gyfer Tachwedd 2020 i Ionawr 2021 (Ch2). Cynhyrchir ffigurau dros dro bob chwarter, a bydd y ffigurau terfynol gan gynnwys data ar gyfer Ch4 yn cael eu cyhoeddi ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn. Fe'u cyfrifir gan ddefnyddio data terfynol Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae'r data ar gyfer blynyddoedd cynharach hefyd yn derfynol.

O fis Mawrth 2020 ymlaen, amharwyd yn sylweddol ar y ddarpariaeth addysg gan bandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae'r ffigurau a gyflwynir yn y dangosfwrdd hwn yn debygol o fod wedi cael eu heffeithio. Dylid cadw hynny mewn cof, yn enwedig wrth eu cymharu â blynyddoedd blaenorol.

Prif bwyntiau o'r data diweddaraf

  • Dechreuwyd ar 4,580 o raglenni dysgu prentisiaethau yn Ch2 2020/21 o gymharu â 5,075 yn Ch2 2019/20, gostyngiad o 10%. Mae'r gostyngiad hwn yn debygol o gael ei lywio’n rhannol o leiaf oherwydd y tarfu ar ddysgu a achoswyd gan bandemig y coronafeirws, fel inni sôn uchod.
  • Yn Ch2 2020/21, Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd. 45% o’r prentisiaethau a ddechreuwyd, o gymharu â 43% yn Ch2 y flwyddyn flaenorol.
  • Yn Ch2 2020/21, dysgwyr benywaidd oedd i gyfrif am tua 61% o’r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd, o gymharu â 63% yn Ch2 yn y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd gan Lywodraeth Cymru darged o 100,000 o brentisiaethau dros gyfnod tymor 2016-2021 y Senedd. Asesir hyn gan ddefnyddio mesur mwy trwyadl sy’n ystyried y nifer sy’n gadael prentisiaeth yn gynnar (o fewn yr 8 wythnos gyntaf) a’r rheini sy’n trosglwyddo o un brentisiaeth i un arall. O dan y mesur hwn, dechreuwyd 4,230 o brentisiaethau yn Ch2 2020/21 a 107,970 ers cyflwyno’r targed, sy’n cadarnhau bod y targed wedi’i gyrraedd yn ystod y chwarter hwn.
  • Mae gan Lywodraeth Cymru darged i greu 125,000 o brentisiaethau pob-oed yn ystod tymor y Senedd 2021-2026. Bydd y datganiad hwn yn dechrau monitro cynnydd yn erbyn y targed hwn o 2020/21 Ch4, a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2022.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.