Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data yn ôl rhanbarth domisil, math o raglen dysgu drwy brentisiaeth, grŵp oedran, sector, a rhyw rhwng Tachwedd 2019 i Ionawr 2020.

Mae’r ystadegau chwarterol, a gyhoeddir ar StatsCymru â dangosfyrddau ategol, yn cyflwyno gwybodaeth ar nifer y rhaglenni prentisiaethau a ddechreuwyd. Maent yn cynnwys data ynghylch lle mae’r dysgwr yn byw, math o raglen, grŵp oedran, sector, ethnigrwydd, anabledd a blwyddyn academaidd.

Data dros dro sydd ar gyfer Ch2 2019/20 (Tachwedd 2019 i Ionawr 2020). Mae’r data ar gyfer y chwarteri cynharach yn derfynol. Bydd ffigurau dros dro yn cael eu cynhyrchu yn chwarterol a’r data terfynol yn cael eu cyhoeddi ym mis Chwefror.

Prif bwyntiau o'r data diweddaraf

  • Dechreuwyd 5,070 o raglenni prentisiaeth yn Ch2 2019/20 o gymharu â 5,455 yn Ch2 2018/19, sy’n ostyngiad o 7%. Mae nifer y prentisiaethau a ddechreuir yn amrywio’n rheolaidd rhwng un cyfnod a’r llall.
  • Yn Ch2 2019/20, Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd. 43% o’r prentisiaethau a ddechreuwyd, o gymharu â 39% yn Ch2 y flwyddyn flaenorol.
  • Yn Ch2 2019/20, merched a ddechreuodd 63% o’r prentisiaethau, yr un peth â Ch2 y flwyddyn flaenorol.
  • Mae gan Lywodraeth Cymru darged o 100,000 o brentisiaethau dros gyfnod y Cynulliad hwn (2016 i 2021). Asesir hyn gan ddefnyddio mesur mwy trwyadl sy’n ystyried y nifer sy’n gadael prentisiaeth yn gynnar (o fewn yr 8 wythnos gyntaf) a’r rheini sy’n trosglwyddo o un brentisiaeth i un arall. O dan y mesur hwn, dechreuwyd 4,640 o brentisiaethau yn Ch2 2019/20  a 92,170 ers cyflwyno’r targed.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.