Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd ar gyfer Tachwedd 2018 i Ionawr 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd
Gwybodaeth am y gyfres:
Data dros dro sydd ar gyfer Ch2 2018/19. Mae’r data ar gyfer y chwarteri cynharach yn derfynol. Bydd ffigurau dros dro yn cael eu cynhyrchu yn chwarterol a’r data terfynol yn cael eu cyhoeddi ym mis Chwefror.
Prif bwyntiau
- Dechreuwyd 5,450 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch2 2018/19 (p) o’i gymharu â 6,715 yn Ch2 2017/18, gostyngiad o 19%. Mae nifer y prentisiaethau sy’n dechrau yn amrywio’n rheolaidd o un cyfnod i’r llall.
- Yn Ch2 2018/19 (p), Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector bras mwyaf poblogaidd. Yn y sector hwn roedd 39% o'r holl raglenni dysgu prentisiaeth a gychwynnwyd, o'i gymharu â 41% yn Ch2 y flwyddyn flaenorol.
- Yn Ch2 2018/19 (p), merched oedd wedi cychwyn tua 62% o'r holl raglenni dysgu prentisiaeth. Gwelwyd cyfran debyg yn Ch2 y flwyddyn flaenorol.
- Mae gan Lywodraeth Cymru nod o 100,000 o brentisiaethau dros dymor y Cynulliad hwn (2016-2021). Mae hyn yn cael ei asesu drwy ddefnyddio mesur llymach sy'n ystyried pobl sy'n gadael cyrsiau'n gynnar (o fewn yr 8 wythnos cyntaf) ac sy’n trosglwydd o un brentisiaeth i un arall. O dan y mesur hwn, cafodd 4,895 o raglenni dysgu prentisiaeth eu cychwyn yn Ch2 2018/19 (p) a 69,645 ers cyflwyno'r nod.
(p) Dros dro
Adroddiadau
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.