Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd ar gyfer Mai i Orffennaf 2020.

Mae’r ystadegau chwarterol, a gyhoeddir ar StatsCymru â dangosfyrddau ategol, yn cyflwyno gwybodaeth ar nifer y rhaglenni prentisiaethau a ddechreuwyd. Maent yn cynnwys data ynghylch lle mae’r dysgwr yn byw, math o raglen, grŵp oedran, sector, ethnigrwydd, anabledd a blwyddyn academaidd.

Cynhyrchir ffigurau dros dro bob chwarter, a bydd y ffigurau terfynol gan gynnwys data ar gyfer chwarter (Ch) 4 yn cael eu cyhoeddi ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn. Mae data 2019/20 (blwyddyn academaidd) Ch1, Ch2, Ch3 a Ch4 bellach yn derfynol. Fe'u cyfrifir gan ddefnyddio data terfynol Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae'r data ar gyfer blynyddoedd cynharach hefyd yn derfynol.

O fis Mawrth 2020 ymlaen, amharwyd yn sylweddol ar y ddarpariaeth addysg gan bandemig y Coronafeirws (COVID-19). Mae'r ffigurau a gyflwynir yn y dangosfwrdd hwn yn debygol o fod wedi cael eu heffeithio. Dylid cadw hynny mewn cof, yn enwedig wrth eu cymharu â blynyddoedd blaenorol.

Yn ychwanegol, mae nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd yn chwarter 4 2019/20 wedi'i chwyddo gan ddysgwyr yn trosglwyddo o aelodau'r consortiwm a oedd yn arfer bod yn rhan o'r Bartneriaeth Sgiliau Galwedigaethol i ddarparwyr newydd. Dylid bod yn ofalus wrth ystyried ffigurau chwarteri 3 a 4 2019/20 ochr yn ochr â’r ffigurau ar gyfer chwarteri blaenorol. Roedd tua 795 o'r prentisiaethau newydd a ddechreuwyd yn chwarter 4 2019/20 o ganlyniad i'r trosglwyddiadau hyn, gan gynnwys 865 o brentisiaethau newydd a ddechreuwyd yn chwarter 3 2019/20.

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys cyfran uwch o brentisiaethau a ddechreuwyd yn y categorïau canlynol:

  • prentisiaethau Uwch
  • menywod
  • y sectorau 'gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus'
  • dysgwyr 25 oed a hŷn
  • dysgwyr nad ydynt yn anabl

Nid yw’r ffigurau dechrau hyn wedi’u cynnwys yn y mesur targed prentisiaethau gan ei fod yn ystyried trosglwyddiadau a gadael yn gynnar (o fewn yr 8 wythnos gyntaf).

Prif bwyntiau o'r data diweddaraf

  • Dechreuwyd ar 3,465 o raglenni dysgu prentisiaethau yn Ch4 2019/20 o gymharu â 6,360 yn Ch4 2018/19, gostyngiad o 46%. Mae'r gostyngiad hwn yn debygol o gael ei lywio’n rhannol o leiaf oherwydd y tarfu ar ddysgu a achoswyd gan bandemig y Coronafeirws, fel inni sôn uchod. Bydd y datganiad hwn yn parhau i gael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r cynnydd tuag at y targed yn unol â'r amserlen a gyhoeddir ymlaen llaw. Disgwylir i ddatganiad chwarter 1 2020/21 ddangos bod y targed wedi’i gyrraedd. Disgwylir iddo gael ei gyhoeddi fis Mai 2021.
  • Yn Ch4 2019/20, Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd. 58% o’r prentisiaethau a ddechreuwyd, o gymharu â 47% yn Ch4 y flwyddyn flaenorol.
  • Yn Ch4 2019/20, dysgwyr benywaidd oedd i gyfrif am tua 73% o’r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd, o gymharu â 68% yn Ch4 yn y flwyddyn flaenorol.
  • Mae gan Lywodraeth Cymru darged o 100,000 o brentisiaethau dros gyfnod tymor y Senedd hon (2016-2021). Asesir hyn gan ddefnyddio mesur mwy trwyadl sy’n ystyried y nifer sy’n gadael prentisiaeth yn gynnar (o fewn yr 8 wythnos gyntaf) a’r rheini sy’n trosglwyddo o un brentisiaeth i un arall. O dan y mesur hwn, dechreuwyd 2,405 o brentisiaethau yn Ch4 2019/20  a 98,275 ers cyflwyno’r targed.
  • Fodd bynnag, mae gwybodaeth reoli o'r LLWR ar 22 Hydref 2020 yn dangos bod dros 100,000 o raglenni dysgu prentisiaeth wedi'u dechrau yn ôl y mesur targed. Dylid nodi nad yw'r wybodaeth reoli hon wedi'i dilysu ac ni chynhaliwyd gwiriadau ansawdd data pellach fel sy'n cael eu cynnal ar gyfer ystadegau swyddogol.

Bydd y datganiad hwn yn parhau i gael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r cynnydd tuag at y targed yn unol â'r amserlen a gyhoeddir ymlaen llaw. Disgwylir i ddatganiad chwarter 1 2020/21 ddangos bod y targed wedi’i gyrraedd. Disgwylir iddo gael ei gyhoeddi fis Mai 2021.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.