Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd ar gyfer Chwefror i Ebrill 2021.

Mae’r ystadegau chwarterol, a gyhoeddir ar StatsCymru â dangosfyrddau ategol, yn cyflwyno gwybodaeth ar nifer y rhaglenni prentisiaethau a ddechreuwyd. Maent yn cynnwys data ynghylch lle mae’r dysgwr yn byw, math o raglen, grŵp oedran, sector, ethnigrwydd, anabledd a blwyddyn academaidd.

Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys ffigurau dros dro newydd ar gyfer Chwefror i Ebrill 2021 (Ch3). Cynhyrchir ffigurau dros dro bob chwarter, a bydd y ffigurau terfynol gan gynnwys data ar gyfer Ch4 yn cael eu cyhoeddi ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn. Fe'u cyfrifir gan ddefnyddio data terfynol Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae'r data ar gyfer blynyddoedd cynharach hefyd yn derfynol.

O fis Mawrth 2020 ymlaen, amharwyd yn sylweddol ar y ddarpariaeth addysg gan bandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae'r ffigurau a gyflwynir yn y dangosfwrdd hwn yn debygol o fod wedi cael eu heffeithio. Dylid cadw hynny mewn cof, yn enwedig wrth eu cymharu â blynyddoedd blaenorol.

Pwyntiau allweddol o’r data diweddaraf

  • Dechreuwyd ar 5,175 o raglenni dysgu prentisiaethau yn Ch3 2020/21 fwy neu lai ar yr un peth â 5,180 yn Ch3 2019/20.
  • Yn Ch3 2020/21, Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd. 54% o’r prentisiaethau a ddechreuwyd, o gymharu â 56% yn Ch3 yn y flwyddyn flaenorol.
  • Yn Ch3 2020/21, dysgwyr benywaidd oedd i gyfrif am tua 66% o’r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd, o gymharu â 70% yn Ch3 yn y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd gan Lywodraeth Cymru darged o 100,000 o brentisiaethau dros gyfnod tymor 2016-2021 y Senedd. Asesir hyn gan ddefnyddio mesur mwy trwyadl sy’n ystyried y nifer sy’n gadael prentisiaeth yn gynnar (o fewn yr 8 wythnos gyntaf) a’r rheini sy’n trosglwyddo o un brentisiaeth i un arall. O dan y mesur hwn, dechreuwyd 4,615 o brentisiaethau yn Ch3 2020/21 a 112,600 ers cyflwyno’r targed, sy’n cadarnhau bod y targed wedi’i gyrraedd yn ystod y chwarter hwn. Cyrhaeddwyd y targed hon yn Ch1 2020/21 ac mae ffigyrau Ch3 yn nodi diwedd cyfnod y targed. Bydd ffigyrau dros dro ar gyfer y tair chwarter cyntaf 2020/21 yn cael eu hadolygu trwy gyhoeddiad data Ch4 yn mis Chwefror 2022.
  • Mae gan Lywodraeth Cymru darged i greu 125,000 o brentisiaethau pob-oed yn ystod tymor y Senedd 2021-2026. Bydd y datganiad hwn yn dechrau monitro cynnydd yn erbyn y targed hwn o 2020/21 Ch4, a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2022.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.