Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data yn ôl rhanbarth domisil, math o raglen dysgu drwy brentisiaeth, grŵp oedran, sector, a rhyw rhwng Chwefror i Ebrill 2019.

Data dros dro sydd ar gyfer Ch3 2018/19. Mae’r data ar gyfer y chwarteri cynharach yn derfynol.

Prif bwyntiau

Dechreuwyd 5,105 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch3 2018/19 o’i gymharu â 6,890 yn Ch3 2017/18, gostyngiad o 19%. Mae nifer y prentisiaethau sy’n dechrau yn amrywio’n rheolaidd o un cyfnod i’r llall.

Yn Ch3 2018/19, Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector bras mwyaf poblogaidd. Yn y sector hwn roedd 43% o'r holl raglenni dysgu prentisiaeth a gychwynnwyd, o'i gymharu â 44% yn Ch3 y flwyddyn flaenorol.

Yn Ch3 2018/19, merched oedd wedi cychwyn tua 67% o'r holl raglenni dysgu prentisiaeth. Gwelwyd cyfran debyg yn Ch3 y flwyddyn flaenorol.

Mae gan Lywodraeth Cymru nod o 100,000 o brentisiaethau dros dymor y Cynulliad hwn (2016-2021). Mae hyn yn cael ei asesu drwy ddefnyddio mesur llymach sy'n ystyried pobl sy'n gadael cyrsiau'n gynnar (o fewn yr 8 wythnos cyntaf) ac sy’n trosglwydd o un brentisiaeth i un arall. O dan y mesur hwn, cafodd 4,545 o raglenni dysgu prentisiaeth eu cychwyn yn Ch3 2018/19 a 74,110 ers cyflwyno'r nod.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.