Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd ar gyfer Awst i Hydref 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd
Mae’r ystadegau chwarterol, a gyhoeddir ar StatsCymru â dangosfyrddau ategol, yn cyflwyno gwybodaeth ar nifer y rhaglenni prentisiaeth a ddechreuwyd. Maent yn cynnwys data ynghylch lle mae’r dysgwr yn byw, math o raglen, grŵp oedran, sector, rhyw, ethnigrwydd, anabledd a blwyddyn academaidd.
Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys ffigyrau newydd ar gyfer Awst 2022-Hydref 2022 (Ch1 o flwyddyn academaidd 2022/23). Fe’u cyfrifwyd gan ddefnyddio cyfnod rhewi Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Wrth gymharu â’r un cyfnod yn 2021/22, rhaid bod yn ofalus oherwydd yn ystod y cyfnod hwnnw, trosglwyddwyd tua 4,800 o brentisiaid presennol i ddarparwyr newydd o ganlyniad i drefniadau contract newydd ar 1 Awst 2021. Fodd bynnag, ar gyfer Ch1 2021/22 nid ydym wedi cynnwys y cofnodion hyn gan fod cymaint o ddysgwyr wedi trosglwyddo, ac y byddai’r ystadegau wedi creu darlun camarweiniol o’r niferoedd a ddechreuodd brentisiaethau yn y chwarter hwnnw pe baem wedi’u cynnwys.
Ar ben hynny, yn dilyn adolygiad o’r sector adeiladu (CITB), o fis Medi 2022, mae pob prentisiaeth adeiladu yn dechrau ar lefel 3 yn hytrach na lefel 2. Mae hyn wedi achosi gostyngiad mawr yn nifer yr unigolion sydd wedi dechrau prentisiaeth lefel 2 a chynnydd ym mhrentisiaethau lefel 3 yn y sector hwn o gymharu â chwarter cyntaf 2021/22.
O fis Mawrth 2020 ymlaen, amharwyd yn sylweddol ar y ddarpariaeth addysg gan bandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae'n debygol yr effeithiwyd ar y ffigurau a gyflwynir yn y dangosfwrdd hwn, yn enwedig y rheini sy’n ymwneud â blynyddoedd blaenorol.
Pwyntiau allweddol o’r data diweddaraf
Dechreuodd 7,170 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch1 2022/23, o gymharu â 7,560 yn Ch1 2021/22.
Yn Ch1 2022/23, bu gostyngiadau yn nifer yr unigolion a ddechreuodd brentisiaethau Lefel 2, a bu cynnydd yn nifer yr unigolion a ddechreuodd Lefel 3 a Lefel 4+, o gymharu â Ch1 2021/22. Gwelwyd gostyngiad o 36% yn nifer yr unigolion a ddechreuodd ar raglenni Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Dechreuodd 2,390 o unigolion ar raglenni dysgu o gymharu â 3,735 yn Ch1 2021/22. Gwelwyd y gostyngiad hwn yn bennaf oherwydd llai o gyrsiau Lefel 2 yn y maes Adeiladu, fel y soniwyd yn flaenorol.
Gwelwyd cynnydd o 30% mewn prentisiaethau (Lefel 3) gyda 3,675 o raglenni yn cychwyn yn Ch1 2022/23 o gymharu â 2,820 yn Ch1 2021/22. Achoswyd y cynnydd hwn yn rhannol gan yr adolygiad o gyrsiau adeiladu.
Gwelwyd cynnydd o 11% mewn Prentisiaethau Uwch (Lefel 4+) o gymharu â Ch1 2021/22, gyda 1,105 o raglenni yn cychwyn o gymharu â 1,000 y flwyddyn flaenorol.
Yn Ch1 2022/23, Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd, gan ddangos cynnydd o 21% o gymharu â Ch1 2021/22. Dechreuwyd 2,240 o raglenni yn Ch1 2022/23 o gymharu â 1,845 yn yr un chwarter y flwyddyn flaenorol. Roedd 31% o'r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus, o'i gymharu â 24% yn Ch1 2021/22.
Yn Ch1 2022/23, roedd tua 48% o'r holl unigolion a ddechreuodd raglenni prentisiaeth yn ddysgwyr benywaidd, o gymharu â 42% yn Ch1 y flwyddyn flaenorol. Mae hyn i’r gwrthwyneb i’r patrwm a welir yn nodweddiadol drwy gydol gweddill y flwyddyn oherwydd y cyfran gymharol uchel o unigolion gwrywaidd a ddechreuodd raglenni prentisiaeth mewn adeiladu a pheirianneg yn ystod Ch1. Mae unigolion a ddechreuodd rhaglenni prentisiaeth yn y sector gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus a ddominyddir gan fenywod yn fwy gwasgaredig ar draws y flwyddyn.
Ar ôl cyrraedd y targed ar gyfer tymor y Senedd flaenorol, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi pennu targed newydd i greu 125,000 o brentisiaethau pob oedran dros gyfnod tymor Senedd 2021-2026. Asesir y targed hwn gan ddefnyddio mesur llymach sy'n ystyried pobl sy'n gadael cyrsiau'n gynnar (yn ystod yr 8 wythnos gyntaf) a phobl sy'n trosglwyddo rhwng cofnodion prentisiaeth. Dechreuodd 6,730 o bobl ar brentisiaethau o'r fath yn ystod Ch1 2022/23. Gwelwyd cyfanswm o 28,815 yn dechrau prentisiaethau o’r math hwn ers pennu’r targed ym Mai 2021.
Adroddiadau
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.