Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd ar gyfer Awst i Hydref 2019.

Data dros dro sydd ar gyfer Chwarter 1 2019/20 (Awst i Hydref 2019). Mae’r data ar gyfer y chwarteri cynharach yn derfynol.

Prif bwyntiau

Dechreuwyd 8,580 o raglenni prentisiaeth yn Ch1 2019/20 o gymharu â 9,015 yn Ch1 2018/19, sy’n ostyngiad o 5%. Mae nifer y prentisiaethau a ddechreuir yn amrywio’n rheolaidd rhwng un cyfnod a’r llall.

Yn Ch1 2019/20, Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd. 27% o’r prentisiaethau a ddechreuwyd, o gymharu â 28% yn Ch1 y flwyddyn flaenorol.

Yn Ch1 2019/20, merched a ddechreuodd 50% o’r prentisiaethau, Yr un peth â Ch1 y flwyddyn flaenorol.

Mae gan Lywodraeth Cymru darged o 100,000 o brentisiaethau dros gyfnod y Cynulliad hwn (2016 i 2021). Asesir hyn gan ddefnyddio mesur mwy trwyadl sy’n ystyried y nifer sy’n gadael prentisiaeth yn gynnar (o fewn yr 8 wythnos gyntaf) a’r rheini sy’n trosglwyddo o un brentisiaeth i un arall. O dan y mesur hwn, dechreuwyd 7,935 o brentisiaethau yn Ch1 2019/20  a 87,525 ers cyflwyno’r targed.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.