Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd ar gyfer Awst i Hydref 2018 (dros dro).

Data dros dro sydd ar gyfer Ch1 2018/19. Mae’r data ar gyfer y chwarteri cynharach yn derfynol.

Prif bwyntiau

  • Dechreuwyd 8,960 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch1 2018/19 (p) o’i gymharu â 9,485 yn Ch1 2017/18, gostyngiad o 6%.
  • Yn Ch1 2018/19 (p), Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector bras mwyaf poblogaidd. Yn y sector hwn roedd 27% o'r holl raglenni dysgu prentisiaeth a gychwynnwyd, o'i gymharu â 28% yn Ch1 y flwyddyn flaenorol.
  • Yn Ch1 2018/19 (p), merched oedd wedi cychwyn tua 50% o'r holl raglenni dysgu prentisiaeth. Gwelwyd cyfran debyg yn Ch1 y flwyddyn flaenorol.
  • Mae gan Lywodraeth Cymru nod o 100,000 o brentisiaethau dros dymor y Cynulliad hwn (2016-2021). Mae hyn yn cael ei asesu drwy ddefnyddio mesur llymach sy'n ystyried pobl sy'n gadael cyrsiau'n gynnar (o fewn yr 8 wythnos cyntaf) ac sy’n trosglwydd o un brentisiaeth i un arall. O dan y mesur hwn, cafodd 8,170 o raglenni dysgu prentisiaeth eu cychwyn yn Ch1 2018/19 (p) a 64,805 ers cyflwyno'r nod.

(p) Dros dro

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.