Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn bwriadu dyfarnu hyd at £2 filiwn posibl drwy WSRID ar draws dau gam yn ystod 2024-2026.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gan adeiladu ar lwyddiannau a’r hyn a ddysgwyd o raglenni SBRI a Chontractau Arloesi Byw’n Glyfar yn y gorffennol, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio ceisiadau gan sefydliadau’r sector cyhoeddus cyn bo hir i gynnig heriau datgarboneiddio yn seiliedig ar le a fydd yn ffocws ar gyfer rhaglen ariannu newydd sef Ymchwil ac Arloesi Systemau Cyfan ar gyfer Datgarboneiddio  1.0 (WSRID 1.0). Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyfarnu hyd at £2 filiwn posibl drwy WSRID ar draws dau gam yn ystod 2024-2026.

Bydd WSRID yn canolbwyntio ar ddatblygu cyfres o brosiectau arloesi datgarboneiddio (Heriau) sy’n adeiladu ar y dystiolaeth yn y 22 Cynllun Ynni Ardal Leol (LAEPs) ac sydd hefyd yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau rhanbarthol strategol a amlinellir yn y pedwar Cynllun Ynni Rhanbarthol (REPs) sy’n cwmpasu Cymru gyfan.

Ym Mlwyddyn 1 (Cam 1 - Dichonoldeb), bydd cyllid o hyd at £500,000 yn cael ei ddyfarnu i hyd at 5 Perchennog Her (hyd at £100,000 yr un). Y sefydliadau sy’n gymwys i fod yn Berchnogion Her WSRID yw Awdurdodau Lleol Cymru, Bargeinion Dinesig a Chyrff Twf Rhanbarthol yng Nghymru a Byrddau ac Ymddiriedolaethau Rhaglen Iechyd GIG Cymru. Bydd Perchenog Her llwyddiannus wedyn yn gyfrifol am gynnal rhagor o gystadlaethau dilynol i ddod o hyd i gyflenwyr i gyflawni prosiectau dichonoldeb arloesol gan ddefnyddio mecanwaith ariannu Contractau Arloesi. Mae cyllid pellach o tua £1.5 – 2 filiwn yn debygol o fod ar gael ym Mlwyddyn 2 ar gyfer ail gam Arddangos WSRID.

Bydd ffenestr cystadleuaeth Her Cam 1 WSRID yn agor ar gyfer ceisiadau gan gyrff sector cyhoeddus am fis, ac yn agor ar 2 Medi 2024. Cynhelir Digwyddiadau Briffio yn ystod yr wythnos yn dechrau 16 Medi ar gyfer cyrff cyhoeddus cymwys a darpar gyflenwyr cyflawni prosiectau i ddysgu rhagor am y rhaglen. Cynhelir y sesiynau hyn yng Ngogledd a De Cymru, gan roi cyfle i ofyn cwestiynau ac i rwydweithio.

Mae gan WSRID Byw’n Glyfar ffocws yn seiliedig ar le, ac mae’n cynnig cyfle i gryfhau a chefnogi rôl arloesi mewn LAEPs. Mae’n cydweddu ag amcanion Ynni Cymru i ehangu ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i bobl leol ac sy’n cael ei gynhyrchu a’i ddefnyddio yng Nghymru, a hefyd cyflymu’r broses o drosglwyddo i Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES) a’u rhoi ar waith.

Dysgwch mwy am Byw’n Glyfar a rhaglenni SBRI/Contractau Arloesi eraill mae wedi’u cynnal

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn gweinyddu gweithgareddau ymgysylltu rhaglen WSRID gyda rhanddeiliaid ar ran Byw’n Glyfar Llywodraeth Cymru.

I ddysgu rhagor am WSRID a chofrestru ar gyfer y Digwyddiadau Briffio ym mis Medi cysylltwch â WSRID@gwasanaethynni.cymru