Neidio i'r prif gynnwy

Ym mis Awst, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n ariannu nifer penodol o leoedd i unigolion o'r sector cyhoeddus yng Nghymru ymgymryd â chymhwyster Uwch Ymarferydd MCIPS.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Awst, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n ariannu nifer penodol o leoedd i unigolion o'r sector cyhoeddus yng Nghymru ymgymryd â chymhwyster Uwch Ymarferydd MCIPS o fis Ionawr 2021. Rydym wedi ymestyn y dyddiad cau i wneud cais am le tan 13 Tachwedd.

Mae'r cwrs, a fydd yn cael ei ddarparu gan y Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS), ar gyfer gweithwyr caffael proffesiynol sydd eisoes wedi cwblhau L4/Diploma y CIPS.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o raglen newydd gyda chynnwys wedi'i deilwra yn adlewyrchu polisi caffael Llywodraeth Cymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am le, cyflwynwch eich mynegiant o ddiddordeb i vwpolicy@gov.wales erbyn 13 Tachwedd 2020.

Darllenwch cwestiynau cyffredin. E-bostiwch vwpolicy@gov.wales os oes gennych ragor o gwestiynau.