Rhaglen Twf Swyddi Cymru+: hysbysiad preifatrwydd ar gyfer cyflogwyr
Yr hyn a wnawn gyda'r wybodaeth gysylltiedig a gawn.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'n orfodol bod 'hysbysiad preifatrwydd ar gyfer cyflogwyr y Rhaglen Twf Swyddi Cymru+' yn cael ei weld gan bob cyflogwr sy'n ymwneud â'r rhaglen, p'un a yw'n cynnig profiad gwaith neu gyfleoedd gwaith.
Ariennir Twf Swyddi Cymru+ yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ac fe'i hariennir yn rhannol drwy weithrediadau a gymeradwywyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (drwy Lywodraeth Cymru). Mae eich lle yn y rhaglen yn dibynnu arnoch yn darparu data personol. Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer y data hyn a byddwn yn eu prosesu yn unol â'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd i ni. Y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw erthygl 6(1)(e) o'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol. Mae hyn yn ein galluogi i gyflawni ein dyletswyddau cyfreithiol a gweinyddu a monitro'r cyllid a ddarparwn.
Pa wybodaeth bersonol amdanoch chi sy'n cael ei chasglu a'i defnyddio gan Lywodraeth Cymru?
Caiff eich data personol eu casglu oddi wrthych gan gontractwyr a'u hanfon i Lywodraeth Cymru.
Fel y'i diffinnir yn y Rheoliad Cyffredinol ar gyfer Diogelu Data, eich data personol yw:
- enw'r cyflogwr
- maint y cyflogwr
- cyfeiriad y cyflogwr
- enw cyntaf y cyswllt ar gyfer y cyflogwr
- cyfenw y cyswllt ar gyfer y cyflogwr
- rôl y cyswllt ar gyfer y cyflogwr
- gwybodaeth adnabod y cyswllt ar gyfer y cyflogwr
- e-bost y cyswllt ar gyfer y cyflogwr
- rhif ffôn y cyswllt ar gyfer y cyflogwr
At ba ddiben bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich gwybodaeth?
Mae ymgysylltu â'r rhaglen yn wirfoddol.
Fodd bynnag, os ydych yn ymgysylltu â'r rhaglen, rhaid i chi ddarparu'r data priodol.
Byddwn yn defnyddio eich data personol am y rhesymau canlynol:
- I gysylltu â chi ynglŷn â'ch profiad o raglen Twf Swyddi Cymru+ Llywodraeth Cymru. Er mwyn gwneud hyn, bydd eich data personol yn cael eu rhannu ag ymchwilwyr trydydd parti a benodir gan Lywodraeth Cymru ac sy'n gweithredu ar ei rhan. Bydd asiantaethau ymchwil a sefydliadau academaidd yn gwneud gwaith ymchwil at ddibenion gwerthuso ac ystadegol yn unig a byddant yn cysylltu â chi'n uniongyrchol. Bydd yr adborth hwn yn ein galluogi i ddeall yn well sut mae'r rhaglen yn gweithredu ac a ellir ei gwella.
- Ar gyfer ariannu, cynllunio a datblygu polisi yn ogystal â monitro canlyniadau.
- Yn ogystal, bydd eich data'n cael eu defnyddio mewn ystadegau ac ymchwil swyddogol. Mae hyn yn cynnwys data personol a data nad yw'n bersonol. Mae unrhyw ddata personol a ddefnyddir yn ddienw ac ni ellir adnabod unigolion yn y cyhoeddiadau hyn. Fel rhan o'r gwerthusiadau hyn, gallant hefyd asesu effaith rhaglen ar y dysgwr unigol yn ogystal â chyfrannu at ddatblygu polisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn defnyddio'r wybodaeth hon i roi gwybodaeth a diweddariadau i chi sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'ch cyfranogiad yn rhaglen Twf Swyddi Cymru.
Am ba hyd fydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich gwybodaeth bersonol?
Bydd angen i Lywodraeth Cymru gadw eich gwybodaeth bersonol am gyfnod o ddeng mlynedd yn unol â Pholisi Cadw Gwybodaeth Llywodraeth Cymru ac i fodloni'r gofynion ar gyfer cyllid yr Undeb Ewropeaidd. Ar ôl yr amser hwn bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei dileu.
Gyda phwy y bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu eich gwybodaeth bersonol?
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu eich data gyda’r canlynol:
- Cyrff llywodraethu mewnol ac allanol fel yr Adran Gwaith a Phensiynau a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i werthuso effaith rhaglenni dysgu.
- Cwmnïau ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiadau o raglenni, bydd gennych bob amser yr opsiwn i ddewis cymryd rhan yn yr arolwg neu beidio os cysylltir â chi.
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), i gyhoeddi ystadegau cyfanredol sy'n ymwneud â'r economi, y boblogaeth a chymdeithas ar lefel y DU, Cymru ac yn lleol. Bydd yr holl waith ystadegol ac ymchwil yn cynnwys gwiriadau i sicrhau nad yw canlyniadau'r dadansoddiad yn datgelu hunaniaethau.
- Adran Addysg Llywodraeth y DU, i nodi a dadansoddi cyrchfannau dysgwyr o ran dysgu pellach a/neu gyflogaeth ar ôl iddynt adael y byd addysg. Bydd Llywodraeth Cymru yn dadansoddi'r data cysylltiedig hwn yn fewnol a bydd hefyd yn ei rannu â chyrff cyhoeddus fel Estyn, Cymwysterau Cymru a CCAUC neu sefydliadau ymchwil trydydd parti megis prifysgolion neu gwmnïau ymchwil cymdeithasol ac economaidd annibynnol.
- Gyrfa Cymru i gyflawni ei amcan o ddarparu cymorth i grwpiau penodol o unigolion sydd mewn perygl mawr o ymddieithrio oddi wrth addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.
Mae rhannu data gyda chontractwyr trydydd parti bob amser yn cael ei reoli gan ofynion caeth cyfrinachedd a diogelwch, ac mae gan Lywodraeth Cymru gytundeb rhannu data ffurfiol ar waith pan fyddwn yn rhannu data eich gyda thrydydd parti. Rhaid i gontractwyr sy’n cyflawni ymchwil a gwerthusiadau ar ein rhan gydymffurfio â Chod Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth a rhaid i'r trydydd partïon lofnodi cytundeb cyfrinachedd mewn perthynas â'ch data i ddangos eu bod yn gweithredu gweithdrefnau diogelwch gwybodaeth boddhaol, mai dim ond mewn ffyrdd rhagnodedig y byddant yn defnyddio'ch gwybodaeth ac y byddant yn dinistrio eu copïau o'ch data pan nad oes eu hangen mwyach.
Eich hawliau a dewisiadau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau isod:
- cael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch gan Lywodraeth Cymru ac i’w gweld
- gofyn inni gywiro gwallau yn y data hwnnw
- gwrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu (o dan amgylchiadau penodol)
- gofyn i'ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
- (o dan rai amgylchiadau) gofyn inni drosglwyddo eich data i gorff arall
- cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth a gedwir gan Lywodraeth Cymru ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru drwy'r manylion isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
Ebost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer/Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 0165 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk (Saesneg yn unig)