Neidio i'r prif gynnwy

Mae lleoliadau gofal plant newydd yn mynd i gael eu datblygu ledled Cymru fel rhan o fuddsoddiad gwerth £60m gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i ddarparu ei chynnig gofal plant arloesol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ein Gweinidogion wedi ymrwymo i ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant i rieni plant 3 a 4 oed sy'n gweithio, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Bydd 10 awr o addysg y Cyfnod Sylfaen a hyd at 20 awr o ofal plant gyda darparwr cofrestredig.

Ar hyn o bryd, mae'r Cynnig Gofal Plant yn cael ei gyflwyno'n raddol ledled Cymru, a bydd ar gael ledled y wlad erbyn 2020.

Defnyddir y grant £60m, a gaiff ei ryddhau dros dair blynedd (2018-2021), i geisio sicrhau bod darpariaeth bresennol y Cyfnod Sylfaen a darpariaeth newydd y Cynnig Gofal Plant ar gael ar yr un safle, lle bynnag y bo'n bosibl. 

Bydd hyn yn golygu naill ai sefydlu lleoliadau gofal plant newydd neu ailwampio'r lleoliadau presennol i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig ar gyfer lleoliad sy'n darparu Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru.

Bydd y rhaglen yn sicrhau bod y cynnig gofal plant ar gael i rieni ledled Cymru. Bydd yn sicrhau bod digon o ddarpariaeth yn yr ardaloedd iawn, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddatblygu darpariaeth newydd mewn ardaloedd sydd heb ddigon o wasanaethau gofal plant ar hyn o bryd, yn enwedig ardaloedd gwledig a difreintiedig.

Bydd y cyllid hefyd yn cefnogi'r sector gofal plant mewn ffyrdd eraill, gan gynnwys:

  • Cefnogi twf a chynaliadwyedd y sector gofal plant ledled Cymru, gan helpu i greu swyddi o ansawdd da yn y sector;
  • Gwella cyflwr lleoliadau gofal plant;
  • Cefnogi'r gwaith o ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, yn unol â strategaeth 'Cymraeg 2050' Llywodraeth Cymru;
  • Cefnogi darpariaeth AAA ac ADY.
Gwahoddwyd awdurdodau lleol i wneud cais am y cyllid. 

Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant:

"Rwy'n wirioneddol falch o gael cyhoeddi buddsoddiad gwerth £60m Llywodraeth Cymru mewn lleoliadau gofal plant newydd ledled Cymru, a fydd yn sicrhau bod gofal o ansawdd ar gael i rieni ledled y wlad dan nawdd y Llywodraeth. Bydd hyn nid yn unig yn sicrhau bod eu plant yn cael y dechrau gorau un mewn bywyd, ond bydd yn mynd ffordd bell i helpu i leihau'r straen ar incwm y teulu ac i sicrhau nad yw gofal plant yn eu rhwystro rhag gweithio neu gynyddu eu horiau.

"Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i sicrhau bod y cynnig 30 awr mor glir a hawdd â phosibl i rieni sy'n gweithio ei ddeall ac i blant fanteisio arno. Fel rhan o hyn, mae angen inni ei gwneud yn bosibl i rieni, lle bynnag y bo modd, ollwng eu plant a'u casglu o'r un safle, gan gael y 30 awr o ofal, er y bydd darpariaeth y tu allan i oriau arferol yn parhau i fod yn rhan bwysig o'r ateb i rai plant a rhieni."

Bydd y buddsoddiad yn helpu i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno Canolfannau Dysgu Cymunedol sy'n darparu gwasanaethau estynedig â gofal plant, cymorth i rieni, sesiynau dysgu fel teulu a chyfleusterau cymunedol ar adegau sy'n gyfleus i blant ysgol.