Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhaglen Plant Iach Cymru Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod plant hyd at 7 oed yn cael cyswllt rheolaidd gyda gweithwyr iechyd proffesiynol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r ystadegau swyddogol cyntaf a gyhoeddwyd mewn perthynas â Rhaglen Plant Iach Cymru, yn dangos cynnydd cyson yng nghanran y plant sy'n cael cyswllt, o ddechrau'r rhaglen ym mis Hydref 2016 hyd at fis Mehefin eleni.

Dywedodd Vaughan Gething: 

“Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn nodi'r cysylltiad y gall plant a'u teuluoedd ddisgwyl ei gael gyda'u byrddau iechyd, rhwng cael eu trosglwyddo o'r gwasanaeth mamolaeth a'u blynyddoedd cyntaf yn yr ysgol. Mae'r cysylltiadau cyffredinol hyn yn canolbwyntio ar dair prif thema: sgrinio; imiwneiddio; a monitro a chefnogi datblygiad plentyn. 

"Mae'r cynnydd cyson yng nghanran y plant sy'n cael cyswllt gyda gweithwyr iechyd proffesiynol yn dangos y cynnydd da sy'n cael ei wneud gan Raglen Plentyn Iach Cymru i sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd."


Dywedodd Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Cymru:

"Mae ystadegau a gyhoeddwyd ar gyfer Rhaglen Plant Iach Cymru yn dangos pa mor werthfawr yw cael cyfres gyffredinol o gysylltiadau ar gyfer plant ar draws Cymru. Mae'r cyswllt rheolaidd gydag Ymwelwyr Iechyd yn golygu bod negeseuon cyson gael eu rhoi i deuluoedd i'w helpu i wneud y dewisiadau a fydd yn gwella canlyniadau iechyd ar gyfer eu plant."

Gellir gweld yr ystadegau'n llawn ar dudalen Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru.