Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir a chyd-destun

Lansiwyd Rhaglen Plant Iach Cymru ar gyfer plant 0 i 7 oed yn 2016.

Mae rhan 2 Plant Iach Cymru, y model gweithredu, yn nodi'r cysylltiadau arfaethedig y gall plant, pobl ifanc a'u teuluoedd eu disgwyl gan eu byrddau iechyd, gan ddechrau wrth gychwyn yn yr ysgol (5 oed) hyd at flwyddyn olaf addysg orfodol yng Nghymru (16 oed). 

Mae'r cysylltiadau cyffredinol hyn yn cwmpasu 3 maes ymyrraeth:

  • sgrinio
  • imiwneiddio
  • monitro a chefnogi iechyd a datblygiad plant.

Mae angen y model gweithredu cenedlaethol newydd i ategu'r fframweithiau presennol ar gyfer nyrsio mewn ysgolion (rhan 1 2017 a rhan 2 2018) i ddiffinio'n glir y gwasanaethau nyrsio ysgolion a ddarperir gan GIG Cymru.

Trefn y canllawiau hyn

Nodau model gweithredu

Mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl y bydd pob plentyn a pherson ifanc o oedran ysgol gorfodol yn cael cynnig Rhaglen Plant Iach Cymru. 

Bydd y gwasanaethau nyrsio ysgolion yn cynnig darpariaeth iechyd deg i blant oedran ysgol ledled Cymru drwy wneud y canlynol:

  • cyflwyno model gweithredu safonol ar gyfer gwasanaethau nyrsio ysgolion i bob plentyn oedran ysgol gorfodol ledled Cymru, waeth beth fo'u lleoliad
  • cynhyrchu cyfres glir o lwybrau i blant a phobl ifanc gael mynediad at gymorth wedi'i deilwra yn ôl lefel eu hangen
  • gwella iechyd a lles plant oed ysgol a'u cefnogi i wneud dewisiadau gwybodus wrth iddynt ddatblygu trwy blentyndod a glasoed trwy ddarparu rhaglenni iechyd cyhoeddus sy'n seiliedig ar dystiolaeth a blaenoriaethu meysydd angen effaith uchel, gan gynnwys:
    • iechyd a thwf
    • cefnogi atal clefydau heintus trosglwyddadwy 
    • dull ysgol gyfan, gan gynnwys iechyd a lles emosiynol 
    • cydberthynas a rhywioldeb 
    • pontio 
    • maeth, hydradu a rheoli pwysau
    • rhoi'r gorau i ysmygu
    • ffordd o fyw a dewisiadau iach
    • camddefnyddio alcohol a sylweddau
  • cefnogi plant a phobl ifanc i wneud dewisiadau gwybodus drwy gydol bywyd yn yr ysgol i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella canlyniadau iechyd cyhoeddus
  • codi ymwybyddiaeth o rôl y gwasanaethau nyrsio ysgolion, gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â chyflawni Rhaglen Plant Iach Cymru, gyda phlant a phobl ifanc, rhieni/gofalwyr, teuluoedd a sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus eraill
  • sicrhau bod diogelu wedi'i wreiddio yn y model gweithredu unedig newydd drwyddo draw

Mae ysgolion cyhoeddus ac annibynnol y tu allan i gwmpas y model gweithredu unedig newydd, fel y mae colegau chweched dosbarth.

Rolau gwasanaethau nyrsio ysgolion

Bydd y model gweithredu ar gyfer plant oed ysgol yng Nghymru, sy'n rhan o raglen Plant Iach Cymru, yn cael ei ddarparu gan wasanaethau nyrsio ysgolion yn GIG Cymru. Mae gwasanaethau nyrsio ysgolion yng Nghymru yn cael eu harwain yn broffesiynol gan uwch nyrsys gyda chymhwyster nyrs iechyd y cyhoedd gymunedol arbenigol ôl-raddedig mewn nyrsio ysgolion.

Mae amrywiaeth o rolau nyrsio sy'n darparu gwasanaethau nyrsio ysgolion yng Nghymru, waeth beth fo'u lleoliad. Mae cymwysterau, set sgiliau ac arbenigedd y nyrsys yn diffinio pa blant a phobl ifanc maen nhw'n gweithio gyda nhw. Er enghraifft, mae nyrsys sydd â chymhwyster ôl-raddedig arbenigol mewn iechyd cyhoeddus cymunedol (nyrsio ysgolion) yn darparu gwasanaethau ar gyfer ysgolion prif ffrwd a phlant a phobl ifanc a addysgir mewn mannau heblaw mewn ysgol.

Mewn cyferbyniad, mae amrywiaeth o nyrsys plant yn gweithio mewn ysgolion arbennig ac nid oes un rôl nyrs ysgol arbennig wedi'i diffinio yng Nghymru. Oherwydd maint a graddfa'r gwaith sydd ei angen, mae'r gweithlu wedi cael ei nodi fel llif gwaith gweithredu allweddol o'r model gweithredu, gyda'r nod clir o weithio tuag at fwy o gysondeb ledled Cymru dros gyfnod y cyfnod gweithredu.

Yn y model gweithredu newydd, disgrifir rolau nyrsio sy’n rhan o wasanaethau nyrsio ysgolion yng Nghymru fel arfer fel a ganlyn.

Nyrs iechyd y cyhoedd gymunedol arbenigol (nyrsio ysgolion)

Mae nyrsys iechyd y cyhoedd gymunedol arbenigol (nyrsio ysgol) yn weithwyr proffesiynol ar reng flaen iechyd y cyhoedd. Maen nhw'n ymarferwyr annibynnol sy’n ymroi i wella iechyd a lles plant a phobl ifanc. Oherwydd eu dysgu ôl-raddedig a’u profiad, mae ganddynt arbenigedd o ran deall penderfynyddion ehangach iechyd a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar draws y cymunedau amrywiol y maent yn eu cynorthwyo. Mae ganddynt gysylltiad unigryw ag ysgol uwchradd benodol a'r ysgolion cynradd clwstwr. Maen nhw'n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, cymunedau a theuluoedd ar draws tair lefel o gymorth, yn ôl:

  • yr angen i atal afiechyd
  • amddiffyn iechyd
  • hyrwyddo llesiant

Nyrs gofrestredig (nyrsio ysgolion)

Mae gan y nyrs gofrestredig (nyrsio ysgolion) gyfrifoldeb dirprwyedig i gefnogi'r cynnig cyffredinol a gwell i atal afiechyd, diogelu iechyd a hyrwyddo llesiant. Mae'r nyrs yn gweithio ar ei phen ei hun ac fel rhan o dîm gyda’r hyder i wneud penderfyniadau heb oruchwyliaeth. Mae'r rôl yn cynnwys nodi anghenion iechyd plant oed ysgol, drwy raglen barhaus o:

  • wyliadwriaeth iechyd
  • asesu
  • monitro
  • atgyfeirio
  • ymyriadau
  • gweithio'n effeithiol gyda phlant, eu teuluoedd a'u rhieni/gofalwyr

Gweithlu anghofrestredig (nyrsio ysgolion)

Mae'r gweithlu anghofrestredig (nyrsio ysgolion), yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol i ddarparu cymorth clerigol a chlinigol er mwyn darparu gwasanaethau, gan gynnwys cyswllt uniongyrchol â phlant oed ysgol o dan gyfarwyddyd y nyrs iechyd y cyhoedd gymunedol arbenigol (nyrsio ysgol) ac aelodau eraill o'r gwasanaeth.

Nyrsys plant cymunedol a nyrsys mewn ysgolion arbennig

Yn ogystal â'r rolau nyrsio a ddisgrifir uchod, sy'n ymdrin yn bennaf ag elfennau cyffredinol y model gweithredu, mae yna amrywiaeth o rolau nyrsio allweddol hefyd sy'n cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd cymhleth. Mae'r rolau'n unigryw o ran lefel y cydgysylltu a'r cysylltedd a ddarperir rhwng y tîm o amgylch y plentyn a gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau ehangach. Mae'r nyrsys hyn yn cefnogi'r ysgol i reoli anghenion iechyd a lles y plentyn yn ddiogel, fel bod cyfleoedd dysgu'n cael eu hoptimeiddio, a bod y plentyn neu'r person ifanc yn cael ei gynnwys yng ngweithgareddau'r ysgol.

Fframwaith deddfwriaethol strategol

Trwy gyflwyno'r model gweithredu newydd, mae'r gwasanaethau nyrsio ysgolion yn ymroi i gyflawni eu dyletswyddau fel rhan o rwymedigaeth ehangach GIG Cymru i ddilyn deddfwriaeth ac ysgogwyr allweddol yng Nghymru.

Mae Cymru iachach yn gynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Daeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015) i rym ym mis Ebrill 2016, a'i nod yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'n ofynnol i GIG Cymru ynghyd â chyrff cyhoeddus eraill:

  • feddwl mwy am y tymor hir
  • gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a gyda'i gilydd
  • ceisio atal problemau
  • defnyddio dull mwy cydgysylltiedig

Mae plant a phobl ifanc yn ganolog i'r ddeddfwriaeth a bydd gwasanaethau nyrsio ysgolion yn sicrhau bod y ffyrdd o weithio wedi'u hymgorffori yn y gwaith o gyflawni'r model gweithredu newydd.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014) yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Integreiddio sydd wrth wraidd y Ddeddf, ac mae iddi oblygiadau i GIG Cymru a'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu gan wasanaethau nyrsio ysgolion.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yw'r sail ar gyfer holl waith Llywodraeth Cymru gyda phlant a phobl ifanc, gyda'r 7 nod craidd ar gyfer datblygu polisi ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw i hawliau plant a nodir yn CCUHP. Mae Cynllun Hawliau Plant 2014 yn nodi'r trefniadau i Weinidogion Cymru gydymffurfio â'r ddyletswydd i roi sylw priodol i hawliau plant wrth arfer unrhyw swyddogaethau.

Mae’r safonau wedi'u cadarnhau gan Lywodraeth Cymru ac yn seiliedig ar CCUHP a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015), sy’n rhoi cyfranogiad plant wrth wraidd gwella eu llesiant. Mae'r safonau wedi'u haddasu i'w gwneud yn fwy hygyrch i blant a phobl ifanc anabl o dan yr enw "bod â llais, bod â dewis".

Mae'r Ddyletswydd Ansawdd yn gyfrifoldeb cyfreithiol sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a'r GIG feddwl am sut y bydd eu penderfyniadau’n gwella gofal iechyd yn y dyfodol. Mae'n ei gwneud yn ofynnol hefyd iddynt siarad â'r cyhoedd yn agored a gyda thryloywder ynghylch ansawdd gofal iechyd. Mae gwasanaethau nyrsio ysgolion wedi ymrwymo i ddilyn y Ddyletswydd Ansawdd a byddant yn sicrhau ei bod yn cael ei hystyried yn eu holl brosesau a systemau, ac wrth wneud penderfyniadau ynghylch gwasanaethau i blant a phobl ifanc.

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (2018) yn darparu ar gyfer fframwaith statudol newydd i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, fframwaith deddfwriaethol unedig i gefnogi pob plentyn o oedran ysgol gorfodol neu is sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Yn unol â Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) (2016), mae gan fyrddau iechyd ddyletswydd gyfreithiol i ystyried pwysigrwydd sicrhau lefelau priodol o staff nyrsio ym mhob lleoliad.

Yn ogystal, bydd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024, Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, Mwy na geiriau 2022 i 2027 a'r Cynllun Gweithredu LHDTC+ yn cael eu defnyddio gan y gwasanaethau nyrsio ysgolion wrth gyflwyno'r model gweithredu i wreiddio newidiadau a gwerthoedd ystyrlon fel rhan o fywyd Cymru. Rhaid defnyddio Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i ddarparu arweinyddiaeth nyrsio ysgol amlwg ar bob lefel, i gwrdd ag ymrwymiadau presennol i herio hiliaeth systemig a sefydliadol ac wrth ddarparu gwasanaethau teg sy'n briodol yn ddiwylliannol, gan gydnabod croestoriadedd a gwahaniaethau ymhlith grwpiau.

Bydd Mwy na Geiriau 2022 i 2027 yn cryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a bydd gwasanaethau nyrsio ysgolion yn cefnogi siaradwyr Cymraeg i dderbyn gofal yn eu hiaith gyntaf.

Mae'r Cynllun Gweithredu LHDTC+, a ddatblygwyd gyda'r nod o wneud Cymru'r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop, yn nodi camau gofal iechyd, gofal cymdeithasol a lles y mae'n rhaid i GIG Cymru eu cyflawni, a bydd gwasanaethau nyrsio ysgolion yn cyflawni eu rhan yn unol â hynny.

Lefelau cefnogaeth haenog

Mae ffocws Plant Iach Cymru ar y cysylltiadau cyffredinol sy'n cael eu darparu gan y gwasanaethau nyrsio ysgol. Yn unol â'r dull cymesuredd cyffredinol, sy'n ddull sy'n sicrhau bod dwysedd gofal iechyd yn cynyddu wrth i lefelau anghenion gofal iechyd gynyddu, mae darparu gwasanaethau nyrsio ysgolion yn dwysáu ar draws 3 lefel o angen.

I grynhoi, y tair lefel a gyflwynwyd yn wreiddiol yn Rhaglen Plant Iach Cymru oedd:

  • cyffredinol: yr ymyrraeth sylfaenol graidd a gynigir i bob plentyn a pherson ifanc, waeth beth fo'r angen
  • uwch: ymyriadau ychwanegol yn seiliedig ar asesu a dadansoddi gwytnwch a nodi angen ychwanegol
  • dwys: ymyriadau pellach yn seiliedig ar asesiad parhaus a dadansoddiad o fwy o angen

Bydd y gwasanaethau nyrsio ysgolion yn cynllunio'r gwaith o ddarparu cymorth a gynigir i blant, pobl ifanc a theuluoedd gan ddefnyddio dull strwythuredig cyffredinol, estynedig a dwys. Mae'r dull hwn yn helpu gwasanaethau i deilwra'r cymorth i wahanol anghenion yn y boblogaeth, gan sicrhau bod y plant, y bobl ifanc a'r teuluoedd yn derbyn y lefel fwyaf priodol o ofal yn seiliedig ar anghenion gofal iechyd. Manylir ymhellach ar y lefelau cymorth i blant a phobl ifanc oed ysgol o dan bob un o adrannau perthnasol y model gweithredu.

Yn y tymor hwy a thrwy gam gweithredu'r model gweithredu newydd, bydd GIG Cymru, dan arweiniad Fforwm Cynghori Penaethiaid Ysgolion Nyrsio Cymru Gyfan, yn adolygu goblygiadau'r pum lefel gofal ar gyfer gwasanaethau nyrsio ysgolion yng Nghymru.

Waeth beth fo'r lleoliad

Bydd y model gweithredu unedig newydd yn cael ei gynnig i bob plentyn oed ysgol beth bynnag fo'i leoliad. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd y cynnig iechyd a datblygu mewn ysgolion arbennig a phrif ffrwd yn cael ei gynnig hefyd i blant a theuluoedd sy'n dewis addysgu gartref, neu sy'n cael eu haddysgu mewn lleoliad heblaw yn yr ysgol. Bydd yn cael ei gyflwyno trwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys sianeli digidol a chyfeirio plant a phobl ifanc i'r gwasanaeth cywir i ddiwallu eu hanghenion a'u hamgylchiadau. Bydd hyn yn gofyn am weithio mewn partneriaeth â rhannau eraill o GIG Cymru a phartneriaid awdurdodau lleol, gan danlinellu pwysigrwydd dull tîm o amgylch y teulu o ymdrin â datblygiad ac iechyd y cyhoedd.

Fel rhan o'r ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau i gefnogi plant a phobl ifanc drwy gydol oedran ysgol, agwedd bwysig ar rôl gwasanaethau nyrsio ysgolion yw darpariaeth yn y gymuned a gweithio amlasiantaethol gydag awdurdodau lleol a phartneriaid gwasanaethau cyhoeddus eraill a'r trydydd sector. Nod yr allgymorth cymunedol hwn yw cyfarfod â phlant a phobl ifanc yn y cymunedau y maent yn byw ynddynt a chodi proffil gwasanaethau nyrsio ysgolion. Mae enghreifftiau'n cynnwys digwyddiadau ymgysylltu cymunedol amlasiantaethol a sesiynau galw heibio cymunedol.

Gweithredu a monitro

Er mwyn cefnogi rhoi'r model gweithredu newydd ar waith, mae GIG Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar gyfnod gweithredu o 2 flynedd gan ddechrau ym mis Ebrill 2024. Bydd hyn yn rhoi amser i bob bwrdd iechyd ystyried y gofynion a'r gwahanol ddulliau sy'n bodoli ar hyn o bryd ledled Cymru ac yna eu gweithredu'n llawn. Ar ddiwedd y cyfnod o 2 flynedd ym mis Ebrill 2026, bydd Llywodraeth Cymru a GIG Cymru’n cynnal adolygiad gweithredu.

Bydd gwasanaethau nyrsio ysgolion yn blaenoriaethu'r ffrydiau gwaith canlynol.

Gweithlu a hyfforddiant

Mae hyn yn cynnwys edrych ar oblygiadau lefel staff nyrsio yn y tymor hwy a'r dull 5 lefel gofal, yn ogystal ag archwilio cyfleoedd ar gyfer:

  • swydd-ddisgrifiadau cyson
  • ailgynllunio'r gweithlu i ddiwallu anghenion cymysgedd o achosion sy'n newid
  • cymysgedd sgiliau mewn timau
  • anghenion dysgu a datblygu

Fframwaith monitro

Datblygu fframwaith monitro cymesur i fesur effaith ac ansawdd y model gweithredu newydd. Bydd hyn yn cynnwys cefnogaeth gan arbenigwyr mewn gwybodaeth a dadansoddi i ddiffinio allbynnau a chanlyniadau clir ar gyfer gwasanaethau nyrsio ysgolion yng Nghymru.

Digidol a data

Mae yna orddibyniaeth ledled Cymru ar gofnodion papur o hyd. O ganlyniad, mae yna angen brys i sefydlu ffrwd waith ddigidol a data dan arweiniad penaethiaid gwasanaethau nyrsio ysgolion. Bydd hyn yn sbarduno trawsnewid a bydd yn dylanwadu ar yr agenda ddigidol a data ehangach yn GIG Cymru er mwyn sicrhau bod gwasanaethau digidol i blant a phobl ifanc, gan gynnwys nyrsio ysgolion, yn cael blaenoriaeth. Mae diogelwch cleifion a gwella ansawdd yn ganolog i'r ffrwd waith hon er mwyn sicrhau bod gwasanaethau nyrsio ysgolion yn gallu monitro a mesur effaith eu gwasanaethau a'r canlyniadau i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Cyfathrebu ac ymgysylltu

Bydd y ffrwd waith hon yn canolbwyntio ar wneud y mwyaf o gyfleoedd i hyrwyddo gwasanaeth nyrsio ysgolion bywiog a modern i Gymru. Y dasg gyntaf ar gyfer y ffrwd waith hon fydd llunio cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu arloesol, gyda'r nod o ddefnyddio sianeli digidol i godi proffil gwasanaethau nyrsio ysgolion.

Y model gweithredu

Wrth wraidd y model gweithredu mae cyfres o gysylltiadau craidd y bydd y gwasanaethau nyrsio ysgolion yn eu cynnig i blant oed ysgol yng Nghymru, rhwng 5 ac 16 oed. Yn draddodiadol, dyma'r dechrau a diwedd addysg orfodol i'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc.

  • Adolygiad iechyd cychwyn yn yr ysgol: 5 oed (cam derbyn).
  • Asesiadau o anghenion iechyd y boblogaeth: erbyn diwedd y tymor academaidd cyntaf a’u hadolygu'n flynyddol wedi hynny.
  • Ymyrraeth iechyd y cyhoedd: bydd pob clwstwr nyrsio ysgolion yn dewis hyd at 3 maes effaith uchel sy'n cwmpasu oedran ysgol gynradd (5 i 11 mlwydd oed), gan adlewyrchu anghenion iechyd lleol y boblogaeth.
  • Addysg cydberthynas a rhywioldeb: 10 i 11 mlwydd oed (blynyddoedd 5 a 6).
  • Pontio i'r ysgol uwchradd: 10 i 11 mlwydd oed (blwyddyn 6).
  • Addysg ffliw a chynnig brechiad: yn yr ysgol yn flynyddol o'r dosbarth derbyn (blwyddyn 6).
  • Un pwynt mynediad i rieni/gofalwyr a theuluoedd: 5 i 11 mlwydd oed (blwyddyn derbyn i flwyddyn 6).
  • Diogelu: 4 i 11 mlwydd oed (blwyddyn derbyn i flwyddyn 6). Mae'n cynrychioli lefel ddwys o gefnogaeth lle nodir hynny gan y gwasanaethau nyrsio ysgolion.
  • Asesiadau o anghenion iechyd y boblogaeth: 12 i 16 mlwydd oed (blynyddoedd 7 i 11).
  • Cydberthnasoedd iach: 11 i 12 mlwydd oed (blwyddyn 7).
  • Ymyrraeth iechyd y cyhoedd: 2 faes effaith uchel a'r sesiwn cydberthnasoedd iach, 12 i 15 mlwydd oed (blynyddoedd 8 a 10).
  • Addysg cydberthynas a rhywioldeb: 13 i 14 mlwydd oed (blwyddyn 9).
  • Addysg Papillomavirus dynol (HPV) a chynnig brechlyn dos sengl: 12 i 13 mlwydd oed (blwyddyn 8).
  • Pigiad atgyfnerthu yn eu harddegau (brechlyn TD/IPV-MEN-ACWY) addysg a chynnig brechiad: 13 i 14 mlwydd oed (disgyblion blwyddyn 9 yn yr ysgol).
  • Pontio i addysg bellach, cyflogaeth: cynnig cyffredinol i bobl ifanc 15 i 16 mlwydd oed (blwyddyn 11).
  • Addysg ffliw a chynnig brechiad: yn cael ei gynnig yn flynyddol ar gyfer 11 i 16 mlwydd oed (blynyddoedd 7 i 11).
  • Cyfraddau dal MMR: targedu plant / pobl ifanc 11 i 16 mlwydd oed (blynyddoedd 7 i 11). Mae'r dull yn amrywio ar draws byrddau iechyd ar hyn o bryd. Cyflwynir ar y cyd â Gweithrediaeth GIG Cymru.
  • Un pwynt cyswllt: galwch heibio ar gyfer plant / pobl ifanc 11 i 16 mlwydd oed (blwyddyn 7 i 11).
  • Un pwynt mynediad i rieni/gofalwyr a theuluoedd: ar gael i blant / pobl ifanc 11 i 16 mlwydd oed (blwyddyn 7 i 11).
  • Diogelu: ar gyfer plant / pobl ifanc 11 i 16 mlwydd oed (blwyddyn 7 i 11). Mae'n cynrychioli lefel ddwys o gefnogaeth lle nodir hynny gan y gwasanaethau nyrsio ysgolion.

Mesur effaith

Bydd y model gweithredu newydd yn cael ei fonitro ar gyfer effaith, heb greu baich sylweddol ar wasanaethau presennol. Yn y tymor byr, diffiniwyd cyfres o allbynnau lefel uchel gan y prosiect i helpu i weithredu a monitro'n llwyddiannus. Yn y tymor canolig, bydd ffrwd waith dan arweiniad arweinwyr nyrsio ysgolion uwch yng Nghymru yn datblygu fframwaith canlyniadau cadarn, gyda chymorth arbenigedd mewn mesur canlyniadau iechyd plant.

Bydd y mesurau allbwn yn cynnwys:

  • canran cyfradd cwblhau Adolygiadau Iechyd Cychwyn yn yr Ysgol ar gyfer plant sydd â lefelau uwch neu ddwys o angen gofal (nifer yr Adolygiadau a gwblhawyd fel canran o gyfanswm lefel uwch a dwys gofal y boblogaeth oedran derbyn)
  • canran yr asesiadau cyntaf o anghenion iechyd y boblogaeth a gwblhawyd erbyn diwedd y flwyddyn academaidd gyntaf (diwedd mis Rhagfyr)
  • canran cwblhau adolygiadau blynyddol asesiadau o anghenion iechyd y boblogaeth
  • 100% o blant / pobl ifanc sydd â lefel uwch neu ddwys o ofal gyda chydlynydd gofal penodedig
  • nifer y sesiynau cydberthnasoedd iach sy'n cael eu cynnal bob blwyddyn
  • lefelau a adroddwyd o gydymffurfio â phob safon genedlaethol ar gyfer imiwneiddio
  • allbynnau brechiad ac imiwneiddio a adroddwyd gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • canran yr asesiadau o anghenion iechyd cychwynnol a gwblhawyd cyn y gynhadledd achos gychwynnol ar gyfer diogelu (targed 100%)
  • nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (gan gynnwys addysg ddewisol yn y cartref) a gyrhaeddwyd gan y gwasanaethau nyrsio ysgolion
  • nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn sesiynau galw heibio
  • canran cwblhau gweithgaredd rhaglen mesur plant yn erbyn poblogaeth oedran derbyn
  • nifer y plant sy'n cael eu cefnogi a'u dilyn gan y gwasanaethau nyrsio ysgolion oherwydd meini prawf pwysau ac uchder
  • cynnydd canran mewn ymwybyddiaeth o wasanaethau nyrsio ysgolion (arolygon rhieni gan wasanaethau nyrsio ysgolion)

Tîm o amgylch y plentyn

Mae tîm o amgylch y plentyn yn ymadrodd a ddefnyddir i ddisgrifio dull ataliol a ddefnyddir gan weithwyr proffesiynol gwasanaethau cyhoeddus, yn aml mewn cyd-destun amlasiantaethol, i gefnogi plentyn neu berson ifanc gyda'i anghenion.

Yng nghyd-destun y model gweithredu, mae hyn yn cyfeirio at eu hanghenion iechyd a lles. Mae tîm o amgylch y plentyn yn dîm amlasiantaethol rhithwir sy'n cynnwys y plentyn / person ifanc, y teulu a'r gweithwyr proffesiynol sy'n adnabod y plentyn orau. Ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion iechyd cymhleth sydd angen haen well neu ddwys o gefnogaeth, byddant yn ffurfio tîm craidd, gan weithio gyda'i gilydd, i ddiwallu anghenion unigol y plentyn. Mae tystiolaeth hirsefydlog sy'n cefnogi effeithiolrwydd y dull hwn ar gyfer plant a phobl ifanc, yn enwedig i'r rhai ag anghenion iechyd cymhleth.

O fewn y model gweithredu hwn, rydym yn canolbwyntio'n benodol ar ddull tîm ysgol o amgylch y plentyn. Pan fydd cynrychiolydd gwasanaethau nyrsio ysgolion yn ymgymryd â rôl cydlynu gofal (sydd eisoes wedi'i nodi yn rhan 2 y fframwaith ar gyfer nyrsio mewn ysgolion: nyrsio mewn ysgolion arbennig), byddant yn ymgysylltu â chymysgedd o weithwyr proffesiynol o'r meysydd canlynol, yn ôl yr angen:

  • gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a therapyddion, fel ffisiotherapyddion neu therapyddion galwedigaethol
  • pediatregwyr
  • ymarferwyr cyffredinol ac ymarferwyr gofal sylfaenol, fel nyrsys practis
  • tîm a/neu nyrsys anabledd dysgu neu iechyd meddwl emosiynol
  • athrawon / cynrychiolwyr ysgol
  • ymarferwyr cymorth cynnar
  • ymarferwyr gofal eilaidd a gofal trydyddol, fel meddygon ysbyty neu nyrsys arbenigol
  • cynrychiolwyr amlasiantaethol eraill fel y bo'n briodol

Gwybodaeth i rieni

Yn 2017, lansiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru Pob Plentyn Cymru, gyda gweledigaeth o greu’r brand i'w ddefnyddio ar gyfer gwybodaeth iechyd yn y blynyddoedd cynnar (0 i 7 oed fel arfer) ar gyfer teuluoedd yng Nghymru. Mae cynnig gwybodaeth rhieni newydd Pob Plentyn Cymru wedi cael ei rannu’n 4 adnodd annibynnol sy'n cwmpasu:

  • eich beichiogrwydd a genedigaeth (cyhoeddwyd gwanwyn 2023)
  • newydd-anedig i 2 oed (bydd ar gael Ionawr 2024)
  • 2 oed i gychwyn yn yr ysgol
  • 4 i 7 oed

Yn ogystal, mae'r gwasanaethau nyrsio ysgolion yn darparu amrywiaeth o wybodaeth drwy sianeli digidol i blant, pobl ifanc a'u rhieni/gofalwyr ar gamau allweddol eu taith drwy oedran ysgol. Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys:

  • pecyn croeso yn 4 i 5 mlwydd oed
  • gwybodaeth am dyfu i fyny a glasoed
  • gwybodaeth i bobl ifanc sy'n paratoi i adael addysg orfodol ar gyfer gwaith, hyfforddiant neu addysg bellach
  • gwybodaeth iechyd y cyhoedd allweddol drwy gydol yr oedran ysgol mewn perthynas â'r materion iechyd y cyhoedd effaith uchel perthnasol i'r ysgol neu'r ardal ehangach neu mewn ymateb i angen iechyd cyhoeddus

Mae'r gwasanaethau nyrsio ysgolion yn cyfeirio plant a phobl ifanc at wybodaeth sy'n briodol i'w hoedran hefyd i'w cefnogi i wneud dewisiadau ffordd o fyw iachach a mwy diogel wrth iddynt dyfu i fyny a gadael addysg orfodol.