Rhaglen Plant Iach Cymru: ar gyfer plant oedran ysgol - Rhan 2: adolygiad iechyd cychwyn yn yr ysgol
Sut mae gwasanaethau nyrsio ysgol yn darparu rhaglen iechyd cyffredinol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adolygiad iechyd cychwyn yn yr ysgol
Pwrpas ac amcanion
Diben yr adolygiad iechyd cychwyn yn yr ysgol yw:
- asesu anghenion iechyd y plentyn
- hyrwyddo iechyd a lles y cyhoedd
- cefnogi a galluogi plant i gyflawni eu potensial yn llawn
- y broses o drosglwyddo gofal o ymweliadau iechyd i wasanaethau nyrsio ysgolion
Bydd gan bob plentyn oed ysgol fynediad at nyrs iechyd y cyhoedd gymunedol arbenigol (nyrsio ysgol) y gellir cysylltu â hi am gyngor a chefnogaeth.
Bydd pob plentyn sy'n 5 mlwydd oed gydag angen iechyd heb ei ddiwallu a nodwyd, fel imiwneiddiadau heb eu gweinyddu, yn cael ei ofal wedi'i drosglwyddo'n ffurfiol i'r nyrs a enwir yn y gwasanaethau nyrsio ysgolion gan yr ymwelydd iechyd.
Pecyn croeso cychwyn yn yr ysgol
Bydd holl rieni/gofalwyr plant 5 oed yn derbyn pecyn croeso digidol o wybodaeth cychwyn yn yr ysgol yn ystod eu tymor cyntaf. Gofynnir i'r ysgol ddosbarthu'r pecynnau digidol i bob plentyn sy'n mynychu ysgolion.
Bydd unrhyw blentyn sy'n dewis derbyn addysg gartref yn derbyn y pecyn croeso gan y gwasanaeth nyrsio ysgolion, gan gyflwyno'r gwasanaeth a darparu'r pecyn croeso digidol drwy ddull priodol.
Bydd y pecyn digidol yn cynnwys:
- trosolwg o'r gwasanaethau nyrsio ysgolion
- llythyr croeso i rieni/gofalwyr gan gynnwys:
- taflen gwasanaethau nyrsio ysgolion gan gynnwys dolen i fideos croeso
- nodi'r nyrs iechyd y cyhoedd gymunedol arbenigol a enwir (SCPHN SN) a sut y gellir cysylltu â'r person hwn
- nodi'r nyrs mewn ysgolion arbennig a manylion cyswllt
- manylion am sut y gall teuluoedd gael mynediad i wefannau'r gwasanaethau nyrsio ysgolion
- dolenni defnyddiol a thaflenni digidol
- gwybodaeth am:
- 10 cam i bwysau iach
- sgrinio taldra, pwysau a golwg gan gynnwys sut y bydd canlyniadau'n cael eu rhannu a sut y gellir eu cyrchu
- blwch cinio iach, pwysigrwydd hydradu/maeth
- rhaglen imiwneiddio oed ysgol gan gynnwys proses gydsynio
- rhaglen mesur plant
- sut gall rhieni optio allan o raglen sgrinio taldra, pwysau a golwg a mesur plant
Oedran pontio i’r ysgol
Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng y gwasanaethau ymwelydd iechyd a'r gwasanaethau nyrsio ysgolion er mwyn sicrhau pontio'n rhwydd i addysg, waeth beth fo'u lleoliad.
Caiff pob plentyn ei asesu gan yr ymwelydd iechyd a chânt lefel o ofal wedi'i neilltuo iddynt. Bydd gofal unrhyw blant sydd â lefel uwch neu ddwys yn cael ei drosglwyddo'n ffurfiol i'r nyrs ysgol iechyd cyhoeddus gymunedol arbenigol a enwir yn 5 oed.
Ar gyfer plant mewn ysgolion arbennig, y nyrs mewn ysgolion arbennig fydd yn gyfrifol am gydlynu'r gofal. Lle nad oes nyrs wedi'i lleoli mewn ysgol arbennig, bydd y rôl cydlynu gofal yn cael ei throsglwyddo i'r tîm anabledd plant.
Bydd yr ymwelydd iechyd yn hysbysu'r teulu bod gofal yn cael ei drosglwyddo i'r gwasanaethau nyrsio ysgolion pan fydd eu plentyn yn 5 oed. Bydd yr ymwelydd iechyd yn rhoi manylion i rieni/gofalwyr hefyd am sut y gallant gysylltu â'r gwasanaethau nyrsio ysgolion.
Dylai plant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol neu sy'n cael eu haddysgu gartref yn ddewisol gael eu trosglwyddo i'r nyrs briodol a enwir yn y gwasanaethau nyrsio ysgolion.
Trosglwyddo gofal i ysgolion arbennig
Gall plant sy'n mynd i ysgolion arbennig ddechrau yn yr ysgol cyn 5 oed. Bydd y gwasanaethau ymwelwyr iechyd yn parhau i fod yn ddeiliad llwyth achosion ar gyfer y plant hyn nes iddynt gyrraedd 5 oed, pan fydd gofal yn cael ei drosglwyddo i'r gwasanaethau nyrsio ysgolion. Bydd y nyrs mewn ysgolion arbennig yn gweithio mewn partneriaeth â'r gwasanaethau ymwelwyr iechyd a nyrsio plant cymunedol er mwyn sicrhau bod eu gofal yn cael ei gydlynu.
Cydlynu gofal mewn ysgolion arbennig
Bydd plant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd cymhleth yn cael eu cefnogi gan gydlynydd gofal yn y gwasanaethau nyrsio ysgolion. Bydd gwasanaeth cydlynu gofal yn cael ei gynnig i bob plentyn a pherson ifanc oed ysgol sydd ag anghenion gofal iechyd cymhleth ac sydd â lefel o ofal uwch neu ddwys a nodwyd.
Nod cydlynu gofal yw nodi'n rhagweithiol a chydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill i wneud y cysylltiadau cywir gan arwain at ddarparu'r gofal mwyaf priodol ar yr adeg gywir. Mae hyn yn cynnwys cefnogi'r plentyn / person ifanc a rhieni/gofalwyr i lywio'r system iechyd a gofal, fel eu bod yn dod yn fwy actif wrth reoli eu hanghenion gofal iechyd eu hunain lle bo hynny'n bosibl. Mae'r cydlynydd gofal yn fedrus wrth asesu ac ymateb i anghenion gofal iechyd sy'n newid a chydlynu cymorth unwaith eto i reoli newidiadau.
Adolygiad imiwneiddio
Bydd statws imiwneiddio pob plentyn yn cael ei adolygu er mwyn sicrhau eu bod wedi cael mynediad i'r rhaglen imiwneiddio lawn cyn ysgol. Bydd y gwasanaethau nyrsio ysgolion yn sicrhau bod teuluoedd yn cael gwybod sut maen nhw'n cael mynediad i unrhyw imiwneiddiadau sydd heb eu gweinyddu.
Sgrinio taldra, pwysau a golwg
Bydd pob rhiant yn cael gwybodaeth am y rhaglen sgrinio twf a'r rhaglen golwg genedlaethol ar gyfer pob plentyn 4 i 5 mlwydd oed (blwyddyn derbyn) gan gynnwys eu taldra, eu pwysau a'u golwg.
Mae pob plentyn sy'n mynychu dosbarth derbyn mewn unrhyw ysgol yng Nghymru, gan gynnwys ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol, yn gymwys i gael eu sgrinio.
Bydd plant sy'n colli'r sgrinio yn y dosbarth derbyn, am unrhyw reswm, yn cael cynnig sesiynau "dal i fyny" ym mlwyddyn 1, gan y gwasanaethau nyrsio ysgolion.
Bydd plant sy'n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol neu sy'n cael eu haddysgu gartref yn ddewisol yn cael eu cyfeirio at wasanaethau meddygon teulu ac optegwyr gan wasanaethau nyrsio ysgolion drwy'r pecyn croeso.
Yn y rhan fwyaf o achosion yng Nghymru, nid yw sgrinio clyw (y cyfeirir ato hefyd fel awdioleg) yn cael ei reoli gan wasanaethau nyrsio ysgolion ac felly mae y tu allan i gwmpas y model gweithredu newydd.
Cyffredinol
Bydd gwasanaethau nyrsio ysgolion yn asesu risg, yn seiliedig ar y wybodaeth a gawsant o drosglwyddo gofal gan wasanaethau ymwelwyr iechyd.
Bydd gwasanaethau nyrsio ysgolion yn adolygu unrhyw ddogfennau a drosglwyddwyd gan yr ymwelydd iechyd sy'n ymwneud â'r plentyn ac yn gweithredu ar unrhyw anghenion iechyd cyhoeddus sydd heb eu diwallu (er enghraifft imiwneiddiadau plentyndod heb eu gweinyddu).
Bydd cyngor a chymorth yn cael eu cynnig os bydd pryderon yn cael eu hadrodd neu eu nodi.
Bydd gwybodaeth yn cael ei darparu i rieni ar y rhaglenni sgrinio twf a golwg gan gynnwys sut i gael mynediad at fesuriadau a wnaed neu optio allan.
Bydd cyngor a chymorth yn cael eu cynnig i bob teulu yn unol â llwybrau.
Bydd plant a phobl ifanc mewn ysgolion arbennig yr aseswyd eu bod angen lefel cymorth cyffredinol angen lefel dwysedd isel o gydlynu gofal. Bydd hyn yn canolbwyntio ar y nyrs mewn ysgolion arbennig yn gweithio mewn partneriaeth â'r nyrs iechyd y cyhoedd gymunedol arbenigol (nyrsio ysgol) er mwyn sicrhau bod y model gweithredu'n cael ei ddarparu.
Gwell
Bydd plant y nodwyd bod ganddynt fynegai màs y corff (BMI) sy'n hafal i neu'n uwch na'r 91ain canradd yn cael eu gweld wedyn gan wasanaethau nyrsio ysgolion yn unol â'r llwybr rheoli pwysau a byddant yn cael cynnig rhagor o gefnogaeth, cyfeirio ac atgyfeiriadau lle bo'n briodol.
Gellir cynnal asesiad iechyd os yw'n briodol gyda chaniatâd rhieni.
Gwahoddir rhieni i drafod anghenion iechyd a lles eu plentyn yn ystod y broses hon.
Os oes gan y bwrdd iechyd wasanaeth rheoli pwysau, bydd manylion am sut y gellir atgyfeirio atyn nhw’n cael eu rhannu â rhieni neu fel arall yn cael eu gwneud gan weithwyr proffesiynol.
Bydd sesiynau iechyd cyhoeddus wedi'u targedu i ysgolion/cymunedau yn cael eu cynnig lle nodir anghenion iechyd o ganlyniadau a thueddiadau.
Bydd plant a phobl ifanc sydd angen ymyrraeth ychwanegol yn derbyn cymorth ychwanegol unigol, ymyrraeth gynnar ar ôl nodi anghenion ychwanegol, a/neu reoli anghenion o dri i dro.
Dwys
Bydd gwasanaethau nyrsio ysgolion yn gweithio ochr yn ochr ag asiantaethau eraill yn unol â gweithdrefnau diogelu Cymru pan fydd anghenion iechyd heb eu diwallu’n cael eu trosglwyddo gan yr ymwelydd iechyd neu y nodir pryderon newydd.
Cynhelir asesiad iechyd os tynnir sylw at bryderon diogelu.
Bydd atgyfeiriadau at wasanaethau arbenigol priodol yn cael eu gwneud yn ôl yr angen, er enghraifft at ddietegydd.
Bydd gwasanaethau nyrsio ysgolion yn cefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd sydd ag anghenion iechyd mwy cymhleth a'r rhai ag anghenion iechyd ychwanegol a nodwyd wrth sgrinio. Bydd hyn yn cynnwys rôl cydlynu gofal iechyd er mwyn sicrhau bod yr anghenion iechyd yn cael eu diwallu yn unol â'r llwybr taldra, pwysau a golwg perthnasol.
Yn aml, bydd gan blant a phobl ifanc sydd angen lefel ddwys o gymorth anghenion iechyd cymhleth lluosog a ffactorau risg seicogymdeithasol, y mae angen cymorth arbenigol ar eu cyfer. Yn aml, bydd gwasanaethau lluosog yn ymwneud â'u gofal a bydd cydlyniad eu gofal yn fwy dwys.
Bydd y cydlynydd gofal yn hollbwysig wrth arwain ar gynllun gofal a rennir er mwyn diwallu anghenion hybu ac amddiffyn iechyd y plentyn yn ogystal â rheoli eu cyflwr cronig.
Rhaglen mesur plant
Yn ogystal â sgrinio ar gyfer taldra, pwysau a golwg ar oedran cychwyn yn yr ysgol, mae gwasanaethau nyrsio ysgolion yn cefnogi'r gwaith a arweinir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd i fonitro trywydd tymor hwy datblygiad twf plant (talda a phwysau).
Drwy'r rhaglen mesur plant, bydd pob plentyn sy'n mynychu dosbarth derbyn, gan gynnwys ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol, yn cael mesur eu taldra a'u pwysau yn unol â'r safonau cenedlaethol ar gyfer y rhaglen genedlaethol.