Mae’r Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru'n cyflwyno rhaglen sylweddol i symleiddio’r llyfr statud.
Fel rhan o ddull gweithredu newydd, blaengar, bydd y cyfreithiau presennol mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru, gan gynnwys rhai sy’n ddegawdau oed, yn cael eu casglu ynghyd a'u cyflwyno fel corff neilltuol o “gyfreithiau Cymreig” yn hytrach nag aros mewn Deddfau a wnaed yn wreiddiol gan Senedd San Steffan ac sydd hefyd yn berthnasol i Loegr neu weddill y DU.
Bydd hyn yn golygu bod cyfreithiau mewn meysydd fel addysg, trethi, llywodraeth leol, cynllunio a thai yn cael eu cydgrynhoi yn godau cyfreithiol. Bydd, felly, yn haws dod o hyd iddynt a'u deall. Bydd Deddfau y mae’r Cynulliad Cenedlaethol eisoes wedi’u pasio i ddiwygio’r gyfraith hefyd yn cael eu cynnwys a bydd y drefn hon yn parhau wrth i ragor gael eu llunio yn y dyfodol.
Ar ôl eu codeiddio bydd yr holl gyfreithiau, o Ddeddfau'r Cynulliad i ganllawiau, yn cael eu cyhoeddi gyda'i gilydd am y tro cyntaf. Byddant ar gael mewn un lle - ar wefan Cyfraith Cymru - yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol y bydd y diwygiadau yn helpu i wella mynediad at gyfiawnder, yn cynyddu effeithlonrwydd ac yn helpu i osod sylfaen ar gyfer awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig.
Bydd y broses hir a chymhleth o gydgrynhoi a chodeiddio cyfreithiau Cymreig yn cychwyn fel proses beilot yn ystod tymor y Cynulliad hwn, a chaiff y broses ei hadolygu ddiwedd 2017.
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw:
"Fel deddfwrfa ifanc, â phwerau cymharol newydd i ddeddfu, mae cyfle unigryw gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i roi trefn ar y cyfreithiau rydyn ni wedi'u hetifeddu a gweithredu'n wahanol wrth wneud cyfreithiau newydd yn y dyfodol.
Gallwn arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig drwy ddechrau cydgrynhoi a chodeiddio ein cyfreithiau.
"Fy mwriad yw moderneiddio a chasglu ynghyd y rhan fwyaf o gyfreithiau ar bynciau sydd wedi'u datganoli mewn un lle - rhywbeth nad yw wedi'i wneud o'r blaen yn y Deyrnas Unedig.
"Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod ein cyfreithiau'n hygyrch - fel ein bod yn gwybod beth yw'r gyfraith, a ble mae'r gyfraith honno. Bydd hefyd yn sicrhau bod cyfreithiau Cymru'n gwbl ddwyieithog - gan helpu i ddatblygu'r Gymraeg fel iaith y gyfraith. Gallai hyn olygu bod y gwaith o ddatblygu cyfreithiau newydd sy’n diwygio a newid polisi, a chraffu arnynt, dipyn yn fwy syml ac effeithlon yn y dyfodol.
“Bydd hwn, fodd bynnag yn brosiect na all Llywodraeth Cymru ei gynnal ar ei phen ei hun. Mae’n hanfodol cydweithio a chydweithredu â’r Cynulliad Cenedlaethol a grwpiau gwleidyddol eraill. Nid tasg fechan yw hon ac rwy’n pwysleisio ei fod yn brosiect a fydd yn cymryd blynyddoedd. A ninnau mewn cyfnod o ansicrwydd cyfansoddiadol, yn enwedig wrth i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, rwy’n ymwybodol efallai na fyddwn bob amser yn gallu neilltuo adnoddau ar gyfer menter mor hirhoedlog.
"Ond byddai casglu’r cyfreithiau ynghyd yn arwain at fanteision cymdeithasol, manteision effeithlonrwydd i'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector, a manteision ariannol posib i'n heconomi yn fwy cyffredinol. Yn ei hanfod, byddai’n helpu i sicrhau bod ein cyfansoddiad a’n system gyfreithiol hynod gymhleth yn fwy eglur."