Bydd y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu i bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru yn cael ei thrawsnewid er mwyn sicrhau bod ganddynt yr hyn sydd ei angen i fyw bywydau llwyddiannus.
Mae gan tua 1.5 miliwn o bobl y DU anabledd dysgu; rhai ohonynt yn anableddau dysgu ysgafn, cymedrol neu ddifrifol sy'n parhau drwy gydol eu bywydau. Mae'r gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn gwybod am oddeutu 15,000 o oedolion ag anabledd dysgu, ac mae’n bosibl bod o leiaf 60,000 arall nad yw’r gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod amdanynt.
Yn 2017, sefydlodd Llywodraeth Cymru Anabledd Dysgu - Rhaglen Gwella Bywydau er mwyn deall yn well a yw pobl ag anabledd dysgu yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt i fyw eu bywydau'n llwyddiannus. Roedd yn ystyried pa anghenion fyddai gan bobl, eu teuluoedd a'u gofalwyr, ar hyd eu hoes, a sut y mae'r anghenion hynny'n cael eu diwallu ar hyn o bryd.
Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddwyd Cymru Iachach, cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n cynnig sail ar gyfer datblygu a chryfhau gwasanaethau i bobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu mewn modd di-dor sy'n canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn, gan hyrwyddo arferion da ledled Cymru.
Bydd y Rhaglen Gwella Bywydau yn canolbwyntio ar wella gwasanaethau mewn pum maes allweddol:
- y blynyddoedd cynnar - lleihau profiadau niweidiol plentyndod a gwella gallu rhieni ag anabledd dysgu i fagu eu plant
- tai - datblygu modelau newydd o dai â chymorth, gan helpu pobl i fyw yn agosach at eu ffrindiau a'u teuluoedd
- gofal cymdeithasol - sicrhau bod pawb sydd ei angen â mynediad at ofal a chymorth o ansawdd da sy'n canolbwyntio ar eu hanghenion
- iechyd - addasiadau rhesymol i wasanaethau prif ffrwd a mynediad at wasanaethau arbenigol pan fo angen. Er mwyn rhoi sylw i anghydraddoldebau iechyd, sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn derbyn yr archwiliadau iechyd blynyddol y mae ganddynt hawl i'w cael a byrddau iechyd i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion pobl ag anableddau dysgu yn yr ysbyty
- addysg, sgiliau a Chyflogaeth - helpu pobl ifanc i wneud y mwyaf o’u potensial, a phan fyddant yn oedolion, sicrhau eu bod yn cael y cymorth cywir er mwyn caniatáu iddynt fyw bywydau llwyddiannus, drwy ddarparu cyngor ar yrfaoedd wedi ei dargedu a sicrhau bod mwy o bobl ag anableddau dysgu yn cael swyddi cyflogedig.
“Yn Strategaeth Llywodraeth Cymru - Ffyniant i Bawb, rydyn ni wedi herio'n hunain i edrych ar y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu er mwyn sicrhau eu bod yn helpu pawb i fyw bywyd iach a ffyniannus sy'n dod â boddhad.
"Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi cyfarfod dros 2,000 o bobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr er mwyn dod i ddeall yn well a oes ganddynt yr hyn sydd ei angen i fyw bywydau llwyddiannus. Mae ymateb rhieni a gofalwyr yn dangos bod rhywfaint o waith gennym i'w wneud cyn i ni fedru bod yn siŵr bod yr holl wasanaethau yn canolbwyntio ar y person ac yn ddigon hyblyg i ddiwallu anghenion pobl.
"Mae'r Rhaglen Gwella Bywydau yr wyf yn ei chyhoeddi heddiw yn mynd i osod pobl a'u teuluoedd wrth galon ein gwasanaethau, a rhoi llais iddyn nhw yn y gwasanaethau maen nhw'n eu derbyn. Byddwn yn sicrhau bod gwasanaethau yn ddi-dor ac yn gweithio gyda'i gilydd er lles pawb, gan sicrhau bod y rhai sydd angen cymorth ychwanegol yn cael eu trin yn gyfartal wrth ddefnyddio gwasanaethau.”
Er mwyn helpu i roi'r rhaglen ar waith, mae'r Gweinidog wedi sefydlu Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anableddau Dysgu. Ymysg yr aelodau mae pobl ag anableddau dysgu, teuluoedd a gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol o awdurdodau lleol, y sector iechyd ac elusennau.
Cadeirydd y grŵp fydd Mrs Gwenda Thomas, cyn Aelod Cynulliad Castell-nedd a Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru rhwng 2007 a 2014. Bydd Ms Sophie Hinksman, cynrychiolydd Pobl yn Gyntaf Cymru yn parhau yn ei rôl fel Cyd-gadeirydd.