Rhaglen Gwella Niwrowahaniaeth: digwyddiadau ymgysylltu Tachwedd 2022
Adroddiad ar adborth rhanddeiliaid o ddigwyddiadau ymgysylltu ar niwrowahaniaeth ym mis Tachwedd 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Crynodeb
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o'r adborth a gafwyd gan randdeiliaid a fynychodd y digwyddiadau ymgysylltu polisi niwrowahaniaeth a gynhaliwyd ar hyd a lled Cymru ym mis Tachwedd 2022.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o adnabod anghenion pobl niwroamrywiol ac arwain arloesedd; mae hyn yn cynnwys ein strategaeth awtistiaeth a gyhoeddwyd gyntaf yn 2008; sefydlu'r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol (www.autismwales.org/cy/) sy'n darparu arweiniad a hyfforddiant arbenigol ac, yn 2016, cyflwyno'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ym mhob rhanbarth yng Nghymru. Yn 2021, cyhoeddwyd y Cod Ymarfer ar Gyflawni Gwasanaethau Awtistiaeth sy'n nodi rolau a chyfrifoldebau cyrff cyhoeddus i sicrhau bod anghenion pobl awtistig yn cael eu diwallu.
Gan fod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o niwrowahaniaeth yn cynyddu, rydym wedi dysgu nad oes gan wasanaethau'r capasiti i ateb y galw cynyddol, yn enwedig wrth gael mynediad at gymorth ac asesiad cynnar. Rydym yn cydnabod bod angen mynd i'r afael â bylchau mewn cymorth hefyd mewn perthynas â chyflyrau megis Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) a Syndrom Tic / Tourette. Rydym wedi adolygu'r ddarpariaeth bresennol ac, mewn ymateb, rydym wedi sefydlu Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth tair blynedd gwerth £12 miliwn i ddatblygu gwasanaethau a chymorth niwrowahaniaeth integredig cynaliadwy.
I sicrhau bod y rhaglen hon yn canolbwyntio ar flaenoriaethau sy'n bwysig i'r rhai sydd â phrofiad byw o niwrowahaniaeth, gan gynnwys rhieni a gofalwyr, rydym wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru, gan nodi'r blaenoriaethau a'r camau gweithredu a gofyn am adborth ar ein cynlluniau. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r meysydd lle nododd rhanddeiliaid fod angen y camau mwyaf brys, a'r canlyniadau yr oeddent am eu gweld.
Cefndir Polisi
Ar 6 Gorffennaf 2022, mewn Datganiad Ysgrifenedig ar Welliannau i Wasanaethau Cyflyrau Niwroddatblygiadol, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad canlyniadau cryno yr Adolygiad annibynnol o'r Galw, Capasiti a Chynllun Gwasanaethau Niwroddatblygiadol a chyhoeddodd raglen wella newydd gwerth £12 miliwn hyd at fis Mawrth 2025. Cafodd yr adroddiad llawn ei gyhoeddi ar 11 Hydref.
Hefyd, ar wahân cytunodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i ehangu datblygiad polisi ar gyflyrau niwroddatblygiadol, o ffocws ar awtistiaeth yn unig i gyflyrau niwrowahaniaeth eraill, yn enwedig ADHD ac Anhwylderau Tic. Mae'r Rhaglen Gwella Niwrowahaniaeth yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau Niwrowahaniaeth yng Nghymru.
Blaenoriaethau'r Rhaglen
Mae'r rhaglen yn mynd i'r afael â meysydd allweddol o bryder a nodwyd gan randdeiliaid a'r argymhellion a nodir yn yr adolygiad o'r Galw a Chapasiti. Rydym wedi sefydlu tair ffrwd waith i fwrw ymlaen â'r meysydd blaenoriaeth; mae'r rhain wedi'u crynhoi isod ac fe'u trafodwyd yn ystod y digwyddiadau ymgysylltu.
Blaenoriaethau'r Rhaglen
Ffrwd Waith 1 – Mynd i'r afael ag Angen Brys
Arweinydd - Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol
- Creu a chyfathrebu mandad ar gyfer newid. Model bio-seicogymdeithasol.
- Cymorth brys ar gyfer gwasanaethau niwrowahaniaeth presennol – plant ac oedolion.
- Datblygu a threialu gwasanaethau help a chymorth cynnar ar gyfer niwrowahaniaeth i blant a phobl ifanc.
- Cwmpasu ar gyfer gwasanaethau cymorth ADHD a Syndrom Tourette (pob oedran).
Ffrwd Waith 2 - Adeiladu Gwasanaethau Cynaliadwy
Arweinydd - Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol
- Pwysau ar amseroedd aros.
- Datblygu manylebau ar gyfer dull cenedlaethol o ddiwygio'r gwasanaeth niwrowahaniaeth ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion, gan gynnwys pontio.
- Profi a chyflwyno dulliau newydd ar draws rhanbarthau.
- Cymorth i'r rhai nad ydynt yn bodloni trothwyon asesu – canol coll.
- Gwell cymorth ar gyfer cyflyrau sy'n cyd-fodoli eisoes, gan gynnwys iechyd a lles meddyliol.
- Parhau i gefnogi teuluoedd a gofalwyr.
- Cymorth mewn addysg a chyflogaeth a chyfiawnder troseddol.
Ffrwd Waith 3 - Seilwaith a Gweithlu Niwrowahaniaeth
Arweinydd - Llywodraeth Cymru
- Datblygu’r Gweithlu.
- Gwella Data.
- Galluogwyr Digidol.
- Galluogi Ymarfer Arloesol.
Law yn llaw â'r ffrydiau gwaith hyn, rydym wedi sefydlu grŵp clinigol arbenigol a grŵp rhanddeiliaid ehangach hefyd. Mae sefydliadau aelodaeth y ffrydiau gwaith, y grŵp clinigol a'r grwpiau rhanddeiliaid yn atodiad 2.
Cyflwyniad
Ym mis Tachwedd 2022, cynhaliodd Llywodraeth Cymru bedwar digwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd wyneb yn wyneb yn Sir Gâr (27 yn bresennol), Caerdydd (60 yn bresennol), Llandrindod (34 yn bresennol) a Llandudno (38 yn bresennol), gyda dau ddigwyddiad ar-lein (172 wedi ymuno) ar y Rhaglen Gwella Niwrowahaniaeth newydd. Roedd y digwyddiadau'n boblogaidd, gyda chyfanswm o 331 o bobl yn bresennol.
Ar y cyfan, roedd yr ymatebion yn cefnogi nodau'r Rhaglen Niwrowahaniaeth, gyda sylwadau megis:
“Rwy'n falch ein bod ni'n canolbwyntio ar niwrowahaniaeth – mae'n daith hir”
“Mae'n dda gweld safbwyntiau realistig ynghylch datblygu'r gweithlu”
“Dwi'n hoffi'r syniad o newid diwylliannol a gweithio mewn partneriaeth”
“Mae'n dda gweld pwyslais y gwaith hwn yn cael ei ymestyn i bobl dan 18 oed”
“Aliniad cyffredinol o egwyddorion cryf yn dal pawb gyda'i gilydd”
Ond roedd rhai pryderon hefyd, megis:
“Mae angen monitro a chadw at amserlenni er mwyn eu gwneud nhw'n effeithiol, yn realistig ac yn gefnogol”
“Beth yw'r nod, y weledigaeth?”
“Sut allwn ni sicrhau cysondeb, cydraddoldeb?”
“Uchelgeisiol? - gormod o flaenoriaethau efallai, a ellid eu rhannu?”
“Gormod o bwyslais ar awtistiaeth"
Trosolwg o'r canfyddiadau
Gofynnodd y digwyddiadau ymgysylltu dri chwestiwn:
- Beth yw eich barn am y cynlluniau?
- A oes unrhyw fylchau yn ein cynigion?
- A oes unrhyw enghreifftiau o arfer da y gallwch chi eu rhannu?
Cawsom adborth drwy gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp, drwy nodiadau ysgrifenedig a thrwy wrando ar adborth geiriol arall yn ystod y digwyddiadau. Roedd yr ymatebion yn amrywiol iawn ac yn gymhleth, ac fe'u dadansoddwyd drwy nodi'r themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg, fel a ganlyn:
- addysg
- ADHD
- gofal cymdeithasol
- awdurdod lleol
- iechyd
- Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS)
- hyfforddiant
- cyflogaeth
- pontio
- gweithlu
- data/digidol
- eiriolaeth
- diagnosis preifat
- gwasanaethau sydd eu hangen
Addysg
Ar hyn o bryd, teimlwyd nad yw ysgolion yn diwallu anghenion y plentyn gydag awgrymiadau bod angen i addysg / ysgolion fod yn fwy cynhwysol, a bod angen gwrando a chydnabod pryderon rhieni ynghylch y plentyn.
Teimlwyd hefyd fod y cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) wedi dirywio ers gweithredu'r Ddeddf ADY newydd, gyda goblygiadau i deuluoedd a gofalwyr.
Nodwyd fod angen gwell mynediad i leoliadau addysgol arbennig, a mwy ohonynt ar gyfer plant niwroamrywiol heb anawsterau dysgu oherwydd nad ydynt yn gallu cael mynediad i ysgolion prif ffrwd gyda chymorth. Er bod hyn yn wahanol i'r angen i ysgolion fod yn fwy cynhwysol, mae'n cydnabod efallai na fydd rhai plant / pobl ifanc yn ffynnu mewn ysgol academaidd, ac y byddai cyfle i ddysgu sgiliau bywyd gyda phynciau cwricwlwm lle’n briodol yn fwy addas.
Nododd sylwadau y dylai staff ysgolion dderbyn hyfforddiant priodol mewn addasiadau rhesymol a chefnogi ymddygiad cadarnhaol ar gyfer plant niwroamrywiol mewn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCC) a hyfforddiant y Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR), gyda hyfforddiant gorfodol parhaus yn cael ei awgrymu'n gryf.
I ddysgwyr hŷn, awgrymwyd fod angen gwneud gwaith gydag Addysg Uwch / Prifysgolion i ddeall yr adnoddau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion dysgwyr niwroamrywiol. Yn ogystal, teimlwyd y byddai dysgwyr hŷn yn elwa ar gymorth wrth bontio o addysg i waith ac y byddai mwy o hyfforddiant ar gyfer gwasanaethau / cynghorwyr gyrfaoedd gydag asesiadau a chanllawiau yn cefnogi'r gwaith hwn.
Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)
Teimlwyd nad oedd y Rhaglen Niwrowahaniaeth yn adlewyrchu'n ddigonol yr argyfwng presennol yn narpariaeth gwasanaethau ADHD, sy'n cynnwys diffyg canllawiau asesu clir neu gymorth ôl-ddiagnostig. Yn yr un modd, roedd awgrym mai meddyginiaeth oedd yr ystyriaeth gyntaf bob amser, yn hytrach na defnyddio therapïau megis therapi seicogymdeithasol.
Roedd yna alwad glir i'r cytundeb meddygon teulu gael ei adolygu gyda'r bwriad o wella gofal a rennir.
Gofal Cymdeithasol
Y brif broblem oedd hyfforddiant gwell i staff gofal cymdeithasol, yn enwedig o ran lleihau'r risg o blant yn cael eu derbyn i ofal / dirwyon am ddiffyg presenoldeb yn yr ysgol.
Cafwyd sylwadau hefyd yn tynnu sylw at yr angen i awdurdodau lleol weithio'n well gyda gwasanaethau cymorth.
Awdurdod Lleol
Mae angen edrych ar strwythurau llywodraethu i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cadw at bolisïau a chanllawiau cenedlaethol ac yn diweddaru eu rhai nhw yn unol â hynny.
Iechyd
Teimlwyd fod angen i rai gweithwyr iechyd proffesiynol ddeall proffil 'cyfan' y person, yn hytrach nag edrych ar ddiagnosis unigol yn unig.
Amlygwyd fod angen sicrhau bod llwybrau atgyfeirio ac asesu cenedlaethol clir i oedolion a phlant yn cael eu datblygu a'u hymwreiddio ym mhob bwrdd iechyd hefyd. Yn ogystal, mae angen i'r llwybrau hyn gynnwys cyflyrau niwrowahaniaeth ehangach ac ystyried rhagfarn ar sail rhywedd ar gam atgyfeirio / asesu cynnar.
Wrth edrych ar ddatblygu gwasanaethau megis timau niwrowahaniaeth, mae angen bod yn glir nad oes gan rai timau Anabledd Dysgu ac Iechyd Meddwl yr arbenigedd i ddiagnosio cyflyrau niwrowahaniaeth.
Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS)
Mae angen edrych ar y prosesau atgyfeirio i IAS er mwyn cael cysondeb ar draws Cymru. Mae rhai ardaloedd yn derbyn hunan-atgyfeiriadau, tra bod eraill yn derbyn atgyfeiriadau gan feddygon ymgynghorol yn unig.
Yn ogystal, roedd diddordeb mewn sgrinio niwrowahaniaeth ar gyfer oedolion lle gellir adnabod cyflyrau niwrowahaniaeth eraill a pha ddarpariaeth gwasanaethau sy'n cael ei datblygu ar gyfer y grŵp hwn o bobl.
Hyfforddiant
Roedd pryderon penodol o fewn prif thema hyfforddiant. Er bod rhai sylwadau’n cyfeirio at yr angen am well hyfforddiant ar gyfer addysg a phob corff cyhoeddus, gan gynnwys y system farnwrol a staff canolfannau gwaith, awgrymodd sylwadau eraill yr angen am hyfforddiant a chymorth mwy ymarferol yn hytrach nag ar-lein / fideos a thaflenni ac y dylid targedu'r hyfforddiant at grwpiau gweithlu penodol megis plant neu oedolion.
Awgrymodd sylwadau eraill y dylid ailedrych ar hyfforddiant seicoleg addysgol i wella / datblygu'r rhaglen hyfforddi i alluogi gwell help i ysgolion ddiwallu angen niwrowahaniaeth tra bod dysgwyr yn disgwyl asesiad.
Cyflogaeth
Nododd sylwadau fod angen gwella cysylltiadau â chyflogaeth, gan awgrymu bod angen mwy o hyfforddiant ar staff rheng flaen mewn canolfannau cyflogaeth. Yn yr un modd, roedd sylwadau ynghylch yr angen am hyfforddiant pellach i gyflogwyr a staff yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), yn hytrach na staff y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn unig.
Amlygwyd hefyd y dylai hyfforddiant fod ar gael i gyflogwyr, gyda mwy o gynlluniau cymorth hanner ffordd i helpu gweithwyr niwroamrywiol i integreiddio i'r gweithle.
Pontio
Gwnaed sylwadau ynghylch y rhan fwyaf o feysydd yn ymwneud â phontio, a oedd yn cynnwys; gwell pontio rhwng gwasanaethau plant ac oedolion mewn awdurdodau lleol, rhwng Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) a gwasanaethau Oedolion ym maes iechyd a phob cam pontio yn y system addysg.
Awgrymwyd y dylai fod cymorth i bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc i leddfu pryderon ac i helpu teuluoedd i gefnogi unigolion drwy'r cyfnod pontio.
Gweithlu
Roedd sylwadau adeiladol ynglŷn â chydweithio a / neu gomisiynu sefydliadau'r trydydd sector, gan nodi bod ganddynt yr amser a'r arbenigedd i gynnig cymorth ymarferol i deuluoedd a/neu unigolion.
Roedd y sylwadau ynglŷn â therapyddion yn cynnwys yr angen am fwy o hyfforddiant ar gyfer Therapyddion Galwedigaethol mewn therapi synhwyraidd, gwelliant yn y parhad rhwng gwasanaethau Lleferydd ac Iaith (SALT) plant a phobl ifanc ac oedolion.
Yn ogystal, awgrymodd sylwadau nad oedd uwchsgilio staff na fyddent yn aros yn y swydd yn ddigon, gan nodi bod angen gwella recriwtio a chadw; roedd hyn yn cynnwys dyraniadau cyllid i ganiatáu i staff gael eu cyflogi'n ddigon hir i greu newid cynaliadwy. Fodd bynnag, dadleuwyd hefyd fod edrych ar faterion capasiti yn anodd heb dîm niwrowahaniaeth wedi’i ddiffinio’n genedlaethol. Roedd rhai sylwadau’n awgrymu'r angen am ddull / model integredig.
Wrth ddeall y bylchau mewn gwasanaethau arbenigol, gwnaed awgrymiadau i hyfforddi nyrsys ar gyfer clinigau ADHD a allai drafod gyda chleifion, gwneud diagnosis, adweithiau posibl i feddyginiaeth, hefyd chynyddu hyfforddiant ar gyfer Ymarferwyr Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) arbenigol i gynorthwyo yn y broses o ddiagnosio.
Data / Digidol
Roedd y sylwadau'n cynnwys manteision System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) er bod eraill yn teimlo bod angen ei datblygu ymhellach gan ei bod yn ychwanegu at y llwyth gwaith anghlinigol. Mae angen i fewnbwn gael ei symleiddio a bod yn fwy cryno ac mae'n amlwg bod mwy o waith i'w wneud.
Roedd cytundeb eang am yr angen i wella timau gweinyddu i gefnogi'r holl dimau iechyd a gofal cymdeithasol.
Cafwyd trafodaethau ynglŷn â pham mae dulliau casglu data mor amrywiol ar draws Cymru, yr angen i safoni a phwysigrwydd casglu data perthnasol.
Eiriolaeth
Nododd y rhai a oedd yn bresennol fod angen gwasanaethau eiriolaeth i rieni i'w helpu i gael mynediad at wasanaethau, a nodwyd manteision cynnig hyfforddiant eiriolaeth i rieni i alluogi hunan-eiriolaeth.
Diagnosis Preifat
Cafwyd ambell gwestiwn a sylw ynglŷn ag asesiadau preifat. Oherwydd y rhestrau aros hir, mae unigolion yn chwilio am asesiadau preifat. Rydym yn gwybod bod canllawiau ar dderbyn diagnosis preifat a'r safonau y mae'n rhaid i'r asesiadau hyn eu cyrraedd yn bodoli eisoes yng Nghymru. Datblygwyd y rhain yn 2017 a bu cynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau ar gyfer asesiad ers hynny. Bwriad Llywodraeth Cymru yw adolygu'r rhain a'u diweddaru lle bo angen. Bydd hyn yn cynnwys dull cenedlaethol o gontractio / derbyn / gweithredu ar asesiadau preifat.
Gwasanaethau sydd eu hangen
Dyma'r meysydd lle'r oedd angen datblygu gwasanaethau penodol:
- cymorth ar ôl diagnosis
- cymorth i rieni
- angen sgrinio gwell, dibynadwy a mwy ymroddedig
- darparu cwnsela a sgiliau gwella hyder ar gyfer pobl hŷn a oedd yn hwyr yn cael diagnosis
- cymorth perthynas amrywiol e.e. cyfoedion, rhieni, priod/partner
- cael mynediad at sgyrsiau gan bobl niwroamrywiol llwyddiannus i ddileu stigma
- hyrwyddo / datblygu system cyfeillio a system cymorth gan gyfoedion i unigolion a'u teuluoedd / gofalwyr / ffrindiau
- ffair swyddi i ddod â’r Adran Gwaith a Phensiynau a phobl niwroamrywiol ynghyd
Casgliad a Chamau Nesaf Llywodraeth Cymru
Roedd yn galonogol gweld cymaint o bobl yn bresennol yn y digwyddiadau a'r ymateb cadarnhaol i'r Rhaglen Gwella Niwrowahaniaeth. Gwnaethom groesawu'r awgrymiadau a'r adborth adeiladol ar gyfer datblygiad neu gynhwysiant pellach yn ein cynlluniau. Bydd yr adborth a gawsom yn cael ei ystyried gan Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Niwrowahaniaeth a bydd yn helpu i arwain datblygiad gwasanaethau drwy ffrydiau gwaith y rhaglen, y grŵp clinigol a'r grŵp cynghori.
Gwnaethom ddysgu bod consensws cyffredinol bod angen i'r holl sefydliadau partner, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, frwydro yn erbyn gweithio heb ymwneud ag eraill a gwneud cysylltiadau cryf i sicrhau tegwch yn y ddarpariaeth gwasanaethau ledled Cymru. Mae’n rhaid i sicrhau bod yr holl wasanaethau'n hygyrch ac yn diwallu anghenion cymunedau niwroamrywiol barhau i fod yn flaenoriaeth.
Wrth i Lywodraeth Cymru gyflawni'r rhaglen, byddwn yn sicrhau hefyd ein bod yn parhau i gydnabod a chydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau megis Hawliau Anabledd a'r Ddeddf Cydraddoldeb, a sicrhau bod gwasanaethau'n diwallu anghenion y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig, megis cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a'n cymunedau LGBTQIA. Byddwn yn blaenoriaethu cyd-gynhyrchu pob agwedd ar waith ac rydym wrthi'n edrych ar wella ffyrdd o weithio er mwyn sicrhau bod pobl ddieiriau’n cael mynediad cyfartal at gymryd rhan mewn cyd-gynhyrchu. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ehangu ein grwpiau ymgysylltu â rhieni ledled Cymru i sicrhau ein bod yn cipio cymaint o safbwyntiau â phosibl. Byddwn yn sicrhau hefyd ein bod yn ystyried sut mae gwasanaethau Cymraeg ar gael yn deg.
Diolchwn i'r holl gyfranogwyr am yr enghreifftiau o arferion da a gynigiwyd fel, ganolfannau teulu, gweithwyr anabledd, cymorth gan gyfoedion, mentora, therapyddion chwarae i enghreifftiau o wasanaethau ADHD Oedolion y GIG sy'n gweithio'n dda. Bydd y rhain i gyd yn seiliau i'r gwaith sy'n cael ei ddatblygu gan y ffrydiau gwaith a byddant yn rhoi cipolwg ar yr hyn mae pobl niwroamrywiol ei eisiau a'i angen gan wasanaethau da. Byddwn yn parhau i roi diweddariadau am y cynnydd rydym yn ei wneud ac yn sicrhau bod llawer o gyfleoedd ar gyfer cyd-gynhyrchu ac adborth parhaus.
Atodiad 1: Aelodaeth o Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Niwrowahaniaeth
Er mwyn darparu cyngor ac arweiniad ar ddarparu’r rhaglen, rydym wedi sefydlu Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Niwrowahaniaeth, sy'n cael ei gyd-gadeirio gan bobl sydd â phrofiad byw o niwrowahaniaeth.
- Unigolion sydd â phrofiad byw o niwrowahaniaeth, gan gynnwys Awtistiaeth, ADHD ac Anhwylderau Tic
- ADHD Foundation
- Autism Wellbeing CIC
- Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan
- Anabledd Dysgu Cymru
- Comisiynydd Plant Cymru
- Tourette’s Action
- Chinese Autism Support Group
- Rhwydwaith Niwrowahaniaeth Llywodraeth Cymru
- NAS Cymru
- Cynghorydd i'r Colegau Brenhinol (RCPsych)
- Gwelliant Cymru – Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Grŵp Iechyd Meddwl Pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - Clinigwr Niwrowahaniaeth
- Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Cymru Gyfan – AWASH
- GIG Cymru – Uned Gyflawni
- Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan - AWHOCS
- CLlLC, Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol
- Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol
- Cynrychiolydd Arweinwyr ASD
- Cynrychiolydd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig
- Cynrychiolydd LGBTQIA+
- Fforwm Cymru Gyfan
- Cynrychiolydd Cyfiawnder Troseddol
- Pennaeth yr Uned Cyflenwi Prawf
- Pennaeth Addysg CLlLC
- Therapyddion Galwedigaethol Arbenigol - Tourette's
- Autistic UK
Atodiad 2: Aelodaeth ffrydiau gwaith y rhaglen Niwrowahaniaeth, y grŵp clinigol a'r grŵp rhanddeiliaid
Rheoli Prosiect a Datblygu Polisi Llywodraeth Cymru - Aelodaeth
Ffrwd Waith 1 – Mynd i'r afael ag Angen Brys
Arweinydd - Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol
- Tîm Cadernid Cymunedol Awdurdodau Lleol
- Profiad Byw / Therapydd Cyflenwol
- Arweinwyr ASC
- Prifysgol Caerdydd
- SALT
- Prifysgol Abertawe
- Awdurdod Lleol
- Cynrychiolydd Profiad Byw
- Arweinydd Trawsnewid Rhanbarthol Plant a Theuluoedd ar gyfer Gwasanaeth Trawsnewid Gwent
- Gwasanaeth Plant y Trydydd Sector
Llif Gwaith 2 - Adeiladu Gwasanaethau Cynaliadwy
Arweinydd - Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol
- Cadernid Cymunedol Awdurdod Lleol
- Arweinydd ASC
- Prifysgol Caerdydd
- Addysg
- Gwaith Cymdeithasol Awdurdod Lleol
- SALT
- Addysg
- Cyfiawnder Troseddol
- SALT
- Seicoleg Addysgol
- Profiad Byw / Swyddfa Gartref
- Therapydd Galwedigaethol ASD
- IAS
- CAMHS
- Profiad Byw / Seicolegydd
- Therapydd Galwedigaethol LD/ MH
- Arweinydd Gweithredu Cenedlaethol ADY
- Y GIG
- Cynrychiolydd Profiad Byw
Llif gwaith 3 - Seilwaith a Gweithlu Niwrowahaniaeth
Arweinydd - Llywodraeth Cymru
- Arweinwyr ASC
- Darlithydd Prifysgol De Cymru
- Hyfforddiant y blynyddoedd cynnar – anghenion ychwanegol
- Cyflogaeth Anabledd
- Prifysgol Abertawe
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Data Cymru
- AaGIC (i'w gadarnhau)
- GCC (i'w gadarnhau)
- Gweithlu Llywodraeth Cymru
- Arweinwyr Gweithlu'r GIG
- Arweinwyr Gweithlu ALl
- Data Digidol Llywodraeth Cymru
- Colegau Brenhinol
- Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon Llywodraeth Cymru
Rheoli Prosiect a Datblygu Polisi Llywodraeth Cymru - Aelodaeth
Grŵp Clinigol
- Seicolegydd Clinigol BIPBC
- Seicolegydd Clinigol BIPHDd
- Seicolegydd Siartredig
- Seicolegydd Fforensig - System Cyfiawnder Troseddol
- Uwch Ymarferydd Arbenigol SALT BIPBA
- Therapydd Galwedigaethol ASD BIPAB
- Niwroseicolegydd Pediatrig
- Seicolegydd Clinigol / Arweinydd ASD / Darlithydd BIPBC
- Seicolegydd Ymgynghorol Pediatreg BIPHDd
- Therapydd Galwedigaethol CAMHS BIPAB
- Prif Seicolegydd Clinigol / Arweinydd Clinigol IAS
- Meddyg Arbenigol mewn Seiciatreg Oedolion BIPCF
- Ymgynghorydd pediatrydd BIPCTM
- CAMHS / Cyfarwyddwr Teulu a Therapïau /Arweinydd gwasanaethau niwrowahaniaeth dan 18 oed BIPAB
- Ymgynghorydd CAMHS a gwasanaethau niwrowahaniaeth BIPCF
- Pediatrydd Cymunedol BIPAB
- Seiciatrydd Ymgynghorol CAMHS / Arweinydd Clinigol
- Pediatreg Niwrowahaniaeth BIPCTM
- SALT BIPBA
- Pediatrydd Ymgynghorol BIPCF
- Seiciatrydd Ymgynghorol CAMHS / Arweinydd Clinigol Cenedlaethol BIPAB
Grŵp Rhanddeiliaid
- Cynorthwyydd Addysgu
- ymarferydd arbenigol ar gyfer plant ag angen cymhleth
- Ymddiriedolwr ar gyfer sefydliad trydydd sector
- Profiad Byw Cydweithrediad y GIG - Atal hunanladdiad
- Profiad Byw
- Athrawes arbenigol y blynyddoedd cynnar
- unigolyn niwroamrywiol, Therapydd Galwedigaethol, Seicolegydd a Seicotherapydd
- Profiad byw
- Aelod o'r BPS – Gradd Meistr mewn seicoleg, Prifysgol Caerdydd SW fel mentor arbenigol ar gyfer MH ac ASD
- Aelod o Grŵp Awtistiaeth Trawsbleidiol y Cynulliad
Profiad Byw (Tourette's ac ADHD) - Sefydliad trydydd Sector
- ImROC – Implementing Recovery through Organisational Change
Profiad Byw Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro, Nyrs Gofrestredig
Profiad Byw Prosesydd Grantiau i Lywodraeth Cymru - Meddyg ymgynghorol Pobl a Sefydliadau graddedig, y DU
Meddyg ymgynghorol graddedig mewn seicoleg sefydliadol - Ymgyrchydd rhyngwladol – Profiad Byw ADHD
- Prosiect ymchwil
- Profiad byw
- Aelod o'r Grŵp Cynghori Ieuenctid ar Awtistiaeth, Profiad Byw
Gwaith Traws-bolisi Llywodraeth Cymru
- Addysg
- Tai
- Iechyd Meddwl
- Cyflogaeth
- Anabledd
- Pobl agored i niwed
- System Cyfiawnder Troseddol
Atodiad 3: Geirfa
Telerau a diffiniadau
Y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol
Y system newydd ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc 0-25 oed ym maes addysg. Mae'n disodli'r System Anghenion Addysgol Arbennig (AAA).
Ymarferydd Iechyd Meddwl Cymeradwy
Mae ymarferwyr Iechyd Meddwl cymeradwy’n ymarferwyr sydd wedi'u cymeradwyo gan awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol lleol i gyflawni dyletswyddau penodol. Gallant fod yn weithwyr cymdeithasol, nyrsys, therapyddion galwedigaethol neu seicolegwyr.
Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd
Cyflwr niwroddatblygiadol.
Systemau cyfeillio
Annog dysgu anffurfiol, datblygu sgiliau, hyder a rhwydweithiau cymorth drwy ryngweithio cymdeithasol ac arsylwi.
Cyd-gynhyrchu
Ffordd o gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus mewn partneriaeth â'r cyhoedd, gan roi rheolaeth i'r cyhoedd dros benderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.
Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig
Cynrychioli partneriaeth rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Mae'r gwasanaeth yn darparu asesiadau, cymorth a chyngor i oedolion awtistig, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol
Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Niwrowahaniaeth
Gwasanaethau a pholisïau sy'n cael eu datblygu a'u darparu ar gyfer cymunedau niwroamrywiol.
Niwroamrywiol
Rhywun y mae ei niwroleg yn wahanol iawn i'r niwroteip mwyaf cyffredin.