Neidio i'r prif gynnwy

Aliniad Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf a rhaglenni gwyliau ysgol eraill a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r adroddiad yn archwilio sut mae Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf yn alinio â rhaglenni gwyliau’r haf a ariennir gan Lywodraeth Cymru perthnasol a pholisïau perthnasol Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd a sut gallai alinio yn y dyfodol. 

Amlinellir hanes Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf, ac archwilir effaith pwysau presennol costau byw ar lwgu yn ystod y gwyliau.

Mae’r adroddiad yn nodi’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf a rhaglenni eraill.

Mae’r rhaglenni hyn yn cael eu cymharu o safbwynt elfennau sy’n cynnwys cymhwystra, lefel y cynnwys rhagnodedig a chysondeb cenedlaethol.

Mae rhwystrau a materion sy’n wynebu’r rhaglenni hyn hefyd yn cael eu harchwilio, yn ogystal ag effeithiau posibl diwygiadau polisi arfaethedig eraill arnynt. 

Mae’r adroddiad yn cynnig argymhellion ar gyfer goresgyn rhwystrau, ar gyfer lleihau’r risg o ddyblygu darpariaeth ac ar gyfer archwilio modelau y tu allan i Gymru.

Adroddiadau

Rhaglen Gwella Gwyliau'r Haf: dadansoddiad o sut mae’r rhaglen yn alinio â pholisïau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Jody Mellor

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.