Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd Deepak Nayar, un o gynhyrchwyr prysuraf Hollywood, sy'n fawr ei barch, brofiad cystal wrth ffilmio Show Dogs yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Riverstone Pictures, a sylfaenwyd gan Deepak Nayar a Nik Bower, wedi gorffen ffilmio yng Nghymru, ble y gwnaethpwyd rhan fwyaf  y ffilmio ar gyfer Show Dogs yn Stiwdio Pinewood Cymru, a lleoliadau yng Nghymru sy'n portreadu UDA yn y ffilm.
Meddai Deepak, fu'n cynhyrchu gyda Philip von Alvensleben: 

"Mae'r ffilmio bellach wedi'i gwblhau ac rydym yn hapus iawn gyda hyn ac yn disgwyl llawer o Show Dogs.
"Cawsom amser gwych yng Nghymru ac roeddwn wrth fy modd gyda'r criw o Gymru oedd yn gweithio gyda ni - roeddent yn broffesiynol iawn, yn llawer o help, yn groesawgar a chyfeillgar. Allent ddim fod wedi gwneud mwy 
"Bu'n brofiad gwych ac un yr hoffwn ei wneud eto gan fy mod yn awyddus iawn i wneud mwy o brosiectau yng Nghymru - felly fe fyddaf yn dychwelyd."
Cafodd y cynhyrchiad gymorth cyllid busnes gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â Chyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau, cafwyd cyngor gan Pinewood Pictures, a gwario dros £4.7m ar nwyddau a gwasanaethau yn y rhanbarth.Roedd hefyd yn cynnig gwaith a chyfleoedd i ddatblygu i griw o Gymru gyda rhan fwyaf y ffilmio mewn amrywiol rannau o Gymru.Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, Llywodraeth Cymru: 
"Rydym yn hyrwyddo Cymru fel lleoliad gwych ar gyfer ffilmiau nodwedd a chynyrchiadau teledu, felly mae'n arbennig o dda clywed bod cynhyrchydd mor adnabyddus a Deepak Nayar nid yn unig wedi cael profiad gwych yn ffilmio yng Nghymru ond yn awyddus i ddychwelyd gyda mwy o brosiectau. Mae hynny'n ganmoliaeth gwych, ni allem ddisgwyl dim gwell."
 Mae Show Dogs yn gomedi deuluol gyda Will Arnett a Natasha Lyonne ac mae'n cynnwys cast o gŵn sy'n siarad gan ddefnyddio effeithiau gweledol cyfrifiadurol i animeiddio a newid wynebau y cŵn yn y ffilm. Mae'r ffilm yn adrodd hanes Max, Rottweiler, ci heddlu yr NYPD sy'n bartner i Arnett. Mae'r ddau yn archwilio i achos o gipio panda bychan gan rwydwaith tanddaearol o fasnachwyr anifeiliaid anghyfreithlon a'r wybodaeth eu bod yn bwriadu gwerthu'r panda yn y Sioe Gŵn Canini Invitational. Mae'n rhaid i'r ci wneud ymdrech i edrych yn dda gyda chymorth hyfforddwr o'r enw Lyonne - baddon o fwd, gwersi ballet, wacs Brasilian - i fod yn gudd er mwyn difetha'r cynllun. Caiff Show Dogs ei gyfarwyddo gan Raja Gosnell, fu hefyd yn gyfrifol am Scooby-Doo, The Smurfs a Beverly Hills Chihuahua. Mae Open Road International yn gyfrifol am werthiant, ac maent wedi gwerthu ymlaen llaw i nifer o wledydd tramor, a'r ffilm i gael ei rhyddhau yn yr UDA ym mis Ionawr 2018.