Neidio i'r prif gynnwy

I’w weithredu gan

Ymarferwyr Cyffredinol
Fferyllwyr Cymunedol
Prif Weithredwyr, Byrddau Iechyd/Ymddiriedolaethau
Arweinwyr Imiwneiddio, Byrddau Iechyd
Cyfarwyddwyr Meddygol, Ymddiriedolaethau/Byrddau Iechyd
Cyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol, Byrddau Iechyd/Ymddiriedolaethau
Cyfarwyddwyr Gweithredol Nyrsio, Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd
Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd, Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd
Cydgysylltwyr Imiwneiddio, Byrddau Iechyd
Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Pennaeth y Rhaglen Brechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Fferylliaeth Gymunedol Cymru
Cyngor Ymarferwyr Cyffredinol, Cymru

Anfonwr: Prif Swyddog Meddygol Cymru

Enw(au) Cyswllt GIGC Llywodraeth Cymru

Y Gwasanaethau Diogelu Iechyd, yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Cyflwyniad

Annwyl Gydweithiwr Hoffwn ddiolch i bawb sy'n ymwneud â chyflawni’r ymgyrch brechu rhag y ffliw y gaeaf hwn am y gwaith ychwanegol a wnaed i gynyddu'r nifer sy'n manteisio i'r eithaf ar frechlynnau a chadw pobl Cymru'n ddiogel. Er gwaethaf yr heriau, rwy'n falch iawn bod y nifer sy'n manteisio ar bob grŵp risg â blaenoriaeth wedi cynyddu ac mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen yng Nghymru wedi cael brechiad rhag y ffliw. Am y tro cyntaf, mae dros filiwn o frechiadau rhag y ffliw wedi'u rhoi yn ystod y tymor.

Mae'r llythyr hwn yn rhoi arweiniad ar archebu cyflenwadau o frechlynnau ffliw ar gyfer tymor 2021-2022. Fe'i seilir ar gyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI). Mae datganiad JCVI ar frechlynnau ffliw ar gyfer y tymor 2021-2022 i'w weld yma: JCVI neu Intranet GIG Cymru (staff GIG yn unig).

Dylai practisau cyffredinol, fferyllfeydd cymunedol a byrddau / ymddiriedolaethau iechyd gynllunio eu harcheb ar gyfer y brechlyn ffliw fel ei fod o leiaf yn gyfartal â'r lefelau uchel o ddefnydd a gyflawnwyd yn 2020-21.

Grwpiau sy’n wynebu’r risg fwyaf oherwydd y ffliw ac o ddal y ffliw a heintio aelodau eraill o'r gymuned yw'r flaenoriaeth o hyd ar gyfer y tymor nesaf. Y rhain yw:

  • plant dwyflwydd a theirblwydd oed ar 31 Awst 2021
  • plant yn yr ysgol gynradd o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 6 (gan gynnwys y flwyddyn honno)
  • plant chwe mis oed i bobl iau na 65 oed mewn grwpiau risg clinigol
  • pobl 65 oed a hŷn (55 oed os yn y carchar)
  • menywod beichiog
  • gofalwyr
  • pobl ag anabledd dysgu
  • gweithwyr gofal iechyd (gan gynnwys myfyrwyr gofal iechyd) sydd â chyswllt uniongyrchol â chleifion
  • staff mewn cartrefi nyrsio a chartrefi gofal sydd â chyswllt uniongyrchol â chleientiaid
  • staff sy'n darparu gofal cartref

Fel a ddigwyddodd y gaeaf hwn, efallai y bydd datblygiadau polisi i ymestyn y grwpiau sy'n gymwys i gael brechiad rhag y ffliw yn y GIG yn ystod tymor 2021-22. Caiff y datblygiadau hyn eu llywio gan lefelau ac effaith haint COVID-19 yn y boblogaeth a’r broses barhaus o gyflwyno rhaglen frechu COVID-19. Pe bai grwpiau ychwanegol yn cael eu cyflwyno neu’r rhai presennol yn cael eu hehangu, bydd cyngor pellach yn cael ei gyfleu cyn gynted â phosibl.

Ad-dalu

Ar gyfer rhaglen frechu'r GIG, dim ond ar gyfer y brechlynnau a argymhellir yn y cylchlythyr hwn y bydd ad-daliad am frechlynnau'r ffliw yn cael ei wneud. Bydd y taliad ar gyfer practisau cyffredinol yn cael ei amlinellu mewn Cyfarwyddiadau maes o law.

Y brechlynnau a argymhellir ar gyfer 2021 i 2022 yw

Rhaglen oedolion

Y brechlynnau a argymhellir yw: Oedolion 65 oed a throsodd

  • brechlyn ffliw pedwarfalent sy’n cynnwys cyffur ategol (aQIV)
  • brechlyn meithriniad celloedd ffliw pedwarfalent (QIVc) os nad yw aQIV ar gael

Oedolion agored i niwed 18 i 64 oed (gan gynnwys menywod beichiog)

  • brechlyn meithriniad celloedd ffliw pedwarfalent (QIVc)
  • brechlyn ffliw pedwarfalent a seilir ar wyau (QIVe) os nad yw QIVc ar gael

Mae'r JCVI yn ystyried bod brechlyn ffliw pedwarfalent dos uchel (QIV-HD) hefyd yn effeithiol ymhlith y rhai 65 oed a throsodd. Fodd bynnag, oherwydd pris rhestr sylweddol uwch, nid yw QIV-HD yn gymwys ar gyfer ad-daliad yn rhaglen frechu'r GIG ar gyfer 2021-22.

Mae'r JCVI hefyd yn ystyried bod y brechlyn ffliw pedwarfalent ailgyfunol (QIVr) hefyd yn effeithiol ymhlith y rhai dros 65 oed a'r rhai rhwng 18 a 64 oed. Fodd bynnag, nid yw'n gymwys ar gyfer ad-daliad yn rhaglen frechu'r GIG ar hyn o bryd.

Rhaglen i blant

Y brechlynnau a argymhellir yw:

Plant rhwng 2 ac 17 oed mewn grŵp sy’n wynebu risg neu grŵp oedran cymwys

  • y brechlyn ffliw pedwarfalent byw wedi’i wanhau (LAIV) yw'r brechlyn sy'n cael ei argymell i'w ddefnyddio gyda phob plentyn cymwys 2-17 oed, oni bai eu bod wedi cael eu cynghori yn ei erbyn

Plant rhwng 2 ac 17 oed mewn grŵp sy’n wynebu risg neu grŵp oedran cymwys lle cynghorir yn erbyn LAIV neu ei wrthod oherwydd ei gynnwys gelatin*

  • brechlyn meithriniad celloedd ffliw pedwarfalent (QIVc)
  • brechlyn ffliw pedwarfalent a seilir ar wyau (QIVe)

* Gellir cynnig brechlyn chwistrellu i'r plant hynny y mae eu rhieni/gwarcheidwaid yn gwrthod y brechlyn ffliw pedwarfalent byw wedi’i wanhau oherwydd ei fod yn cynnwys gelatin moch.

Plant 6 mis oed i dan 2 oed mewn grŵp risg clinigol

  • brechlyn ffliw pedwarfalent a seilir ar wyau (QIVe) Caiff LAIV ei gyflenwi’n ganolog drwy ImmForm. Dylai practisau archebu symiau priodol o frechlynnau y gellir eu chwistrellu ar gyfer plant cymwys.

Staff Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd GIG Cymru

Dylai byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd archebu digon o frechlyn i'w chwistrellu ar gyfer staff sy'n dod i gysylltiad uniongyrchol â chleifion fel a ganlyn. Y brechlynnau a argymhellir yw:

  • brechlyn meithriniad celloedd ffliw pedwarfalent (QIVc)
  • brechlyn ffliw pedwarfalent a seilir ar wyau (QIVe) os nad yw QIVc ar gael
  • brechlyn ffliw pedwarfalent sy’n cynnwys cyffur ategol (aQIV) ar gyfer staff 65 oed a throsodd

Gweithwyr mewn cartrefi preswyl i oedolion a chartrefi nyrsio (gan gynnwys hosbisau) sydd â chyswllt uniongyrchol â chleientiaid, a staff gofal cartref

Fferyllfeydd cymunedol fydd prif ddarparwr brechiadau ffliw'r GIG o hyd i staff gofal cymdeithasol cymwys sydd â chyswllt uniongyrchol â chleientiaid mewn cartrefi gofal preswyl i oedolion, cartrefi nyrsio a hosbisau plant, neu’r rhai sy’n darparu gofal cartref. Mewn rhai ardaloedd, efallai y bydd angen dull mwy hyblyg drwy ddarparu’r brechlyn mewn meddygfeydd. Yn yr achosion hyn, dylai byrddau iechyd gytuno ar fodelau cyflenwi yn lleol gyda phartneriaid gofal sylfaenol i sicrhau bod cyflenwadau brechlynnau'n cael eu harchebu yn unol â hynny. Ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol y brechlynnau a argymhellir yw:

  • brechlyn meithriniad celloedd ffliw pedwarfalent (QIVc)
  • brechlyn ffliw pedwarfalent a seilir ar wyau (QIVe) os nad yw QIVc ar gael
  • brechlyn ffliw pedwarfalent sy’n cynnwys cyffur ategol (aQIV) ar gyfer staff 65 oed a throsodd

Diolch i chi am eich cymorth parhaus i gynyddu'r nifer sy'n cael y brechlyn ffliw ac i ddiogelu rhagor o bobl rhag y clefyd ataliadwy hwn a allai fod yn ddifrifol.

Dr Frank Atherton
Y Prif Swyddog Meddygol / Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru