Cymhwystra ar gyfer y rhaglen frechu'r frech M.
Brech M yw’r enw newydd a roddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer yr hyn a oeddem yn ei adnabod yn flaenorol fel Brech y Mwncïod. Mae’r term newydd yn ceisio symud oddi wrth yr hiliaeth, y cysylltiadau negyddol a’r stigma a welwyd yn ystod y brigiad o achosion.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu strategaeth newydd ar gyfer cyflwyno’r brechiad rhag brech M er mwyn sicrhau y bydd pawb sy’n gymwys yn cael cynnig cwrs o’r brechlyn.
Nid yw’r meini prawf cymhwysedd wedi newid, ond o dan y strategaeth newydd bydd angen i fyrddau iechyd ddiweddaru eu rhestrau yn rheolaidd i adnabod pobl sydd wedi dod yn gymwys yn ddiweddar, a chynnig brechlyn iddynt.
Os nad ydych wedi cael eich brechu eto, a’ch bod yn y grwpiau cymwys, gallech fod mewn mwy o berygl o gael brech M.
Os ydych chi wedi cael cysylltiad â’r gwasanaethau iechyd rhywiol ac yn gymwys, cewch wahoddiad gan y byrddau iechyd. Anogir pobl sy’n ansicr a ydynt yn gymwys, neu’n credu eu bod yn gymwys, i ddod ymlaen drwy gysylltu â’u bwrdd iechyd lleol.
Bydd byrddau iechyd hefyd yn anfon gwahoddiadau ar gyfer ail ddos at y bobl sydd eisoes wedi cal y dos cyntaf o’r brechlyn.
Mae’n bwysig bod cymaint o bobl â phosibl yn cael eu brechu. Bydd y rhai sy’n gymwys yn gallu cael y brechlyn yn syth. Os ydych yn gymwys, ewch i gael eich brechu fel y gallwch fwynhau tymor y gwyliau a diogelu eich hun, eich ffrindiau a’ch anwyliaid.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: Brech M, Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru).