Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r datganiad ystadegol wythnosol hwn yn cynnwys gwybodaeth reoli am nifer y dosau o frechlyn COVID-19 nad oeddent yn addas i'w defnyddio yng Nghymru ac ar gyfer byrddau iechyd. Rydym yn cyhoeddi hyn i gefnogi'r ymrwymiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am y broses o gyflwyno'r frechlyn fel y'i nodir yn y Strategaeth Frechu i Gymru.

Nid yw'r datganiad hwn yn cynnwys ystadegau am y bobl sydd wedi cael eu brechu. Caiff data ar y brechiadau a roddir eu cyhoeddi bob dydd a phob wythnos, a hynny ar Ddangosfwrdd Gwyliadwriaeth COVID-19 Cyflym Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda'r data wythnosol yn rhoi dadansoddiadau manylach.

Ar hyn o bryd cyflenwir a gweinyddir dau fath o frechlyn ar gyfer y coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru, sef brechlyn Pfizer BioNTech a brechlyn Prifysgol Rhydychen-AstraZeneca. Cafodd y frechlyn gyntaf o Pfizer BioNTech ei roi ar 8 Rhagfyr 2020, a’r dos cyntaf o’r frechlyn Prifysgol Rhydychen-AstraZeneca ar 4 Ionawr 2021.

Mae tabl cysylltiedig sy'n cynnwys y ddata a geir yn y datganiad hwn ar gael ar wahân.

Rydym wedi newid y dull o gyfrifo canran y dosau nad ydynt yn addas i'w defnyddio. Yn flaenorol, cyflwynwyd nifer y dosau sy'n anaddas i'w defnyddio fel canran y dosau a gyflenwir i fyrddau iechyd. Mae'r datganiad hwn bellach yn cyflwyno nifer y dosau sy'n anaddas i'w defnyddio fel canran o nifer y dosau a weinyddir ynghyd â nifer y dosau anaddas.

Mae'r dull newydd hwn yn adlewyrchu yn well cyfran y dosau anaddas a oedd yn mynd i gael eu gweinyddu, yn hytrach na chynnwys dosau a gedwir mewn stoc, oherwydd efallai ni phenderfynwyd eto a yw'r rhain yn addas neu'n anaddas.

Bydd y dull newydd hwn yn cynyddu’r ffigur a adroddwyd yn flaenorol ychydig o’i gymharu â rhyddhau’r wythnos diwethaf.

Mewn datganiadau yn y dyfodol, rydym yn bwriadu cynnwys data ar ddosau sydd wedi’u dyrannu i Gymru yn ogystal â gwastraff. Mae Llywodraeth y DU wedi gofyn i ni beidio cyhoeddi data stoc brechlyn oherwydd sensitifrwydd masnachol cyfredol. Rydym yn gweithio ar draws y 4 gwlad i gytuno dull ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth stoc a byddwn yn diweddaru pan fyddwn mewn sefyllfa i wneud hynny.

1. Prif ganlyniadau

Ar 4 Chwefror am 5yp

Adroddwyd nad oedd 0.4% o'r dosau brechlyn addas i'w defnyddio. Roedd 0.6% o frechlyn Pfizer BioNTech a 0.1% o frechlyn Prifysgol Rhydychen-AstraZeneca ddim yn addas i'w defnyddio.  Mae hyn yn seiliedig ar wybodaeth a nodwyd yn System Imiwneiddio Cymru. Gall fod mwy o ddosau nad oedd modd eu defnyddio na chawsant eu cofnodi.

2. Cefndir

Yn y datganiad hwn mae un dos yn cyfeirio at un dos o frechlyn, ond mae cwrs o frechlyn yn cynnwys dau ddos. Mae hyn yr un peth ar gyfer y ddau frechlyn.

Defnyddir data Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru o System Imiwneiddio Cymru ar gyfer unrhyw ddosau o frechlyn nad ydynt yn addas i'w defnyddio.

Rydym yn cyhoeddi'r data hyn er mwyn darparu crynodeb wythnosol o raglen frechu Cymru, gan gynnwys gwybodaeth am dosau nad oeddent yn addas i'w defnyddio, wedi'u dadansoddi yn ôl y math o frechlyn a'r bwrdd iechyd lleol. Mewn datganiadau yn y dyfodol, rydym yn gobeithio cynnwys data ar stociau a dosbarthiadau sydd wedi’u dyrannu i Gymru yn ogystal â dosau nad oeddent yn addas i'w defnyddio.

Cafodd rhaglen brechlyn Pfizer BioNTech ei lansio ar 8 Rhagfyr 2020. Ar 4 Ionawr 2021, cyflwynwyd brechlyn Prifysgol Rhydychen-AstraZeneca yng Nghymru.

Ymhlith y brechlynnau nad oes modd eu defnyddio mae dosau sy'n methu cyrraedd safonau sicrhau ansawdd pan gânt eu harchwilio gyntaf, dosau sy'n methu cyrraedd safonau sicrhau ansawdd ar ôl eu paratoi, a ffiolau/dosau sy'n mynd heibio'r cyfnod defnyddio yn ystod y sesiwn frechu.

Daw’r data o wybodaeth reoli a gallant newid. Nid ydynt wedi cael eu dilysu yr un modd â datganiadau ystadegol swyddogol. Rydym yn cyhoeddi’r data hyn er mwyn darparu crynodeb wythnosol o’r rhaglen frechu yng Nghymru.

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn datblygu a byddem yn croesawu adborth er mwyn gwella’r hyn dydd ynddo.

3. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Cyd-destun

Gwybodaeth reoli yw'r data a ddefnyddir yn y datganiad hwn, a ddefnyddir i gefnogi rhaglen frechu COVID-19. Rydym yn cyhoeddi'r data hyn er mwyn darparu crynodeb amserol o'r rhaglen frechu. Nid yw'r data yn cyrraedd yr un safonau sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gallent gael eu diwygio yn y dyfodol.

Defnyddir data Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru o System Imiwneiddio Cymru ar gyfer unrhyw ddosau o frechlyn nad ydynt yn addas i'w defnyddio.

Mae'r wybodaeth hon yn helpu i fonitro Rhaglen Frechu COVID-19.

Perthnasedd

Caiff data dyddiol ar nifer y bobl sydd wedi cael brechiadau eu cyhoeddi ar ddangosfwrdd Gwyliadwriaeth COVID-19 Cyflym Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC). Mae'r data a gaiff eu rhyddhau bob dydd yn dangos nifer cronnol y brechiadau a roddwyd – ar gyfer y dos cyntaf a'r ail ddos. Mae'r ffigurau dyddiol yn rhoi diweddariad amserol ar gyflwyno'r rhaglen frechu, er y bydd y nifer gwirioneddol o bobl a gaiff eu brechu yn uwch oherwydd y broses barhaus o gofnodi data. Bydd ICC hefyd yn cyhoeddi data wythnosol, manylach ar frechiadau drwy'r dangosfwrdd. Mae hyn yn cynnwys data ar lefel byrddau iechyd lleol, a bydd yn ehangu er mwyn cwmpasu mwy o bynciau dros amser.

Mae gwybodaeth i’r cyhoedd am y brechlyn ar gael ar y gwefan ICC.

Cywirdeb

Datblygwyd seilwaith digidol i drefnu apwyntiadau, cofnodi ac adrodd ar raglen frechu gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru er mwyn diwallu anghenion y rhaglen frechu, sef System Imiwneiddio Cymru. Daw data ar unrhyw ddosau o frechlyn nad oeddent yn addas i'w defnyddio o System Imiwneiddio Cymru ac mae'n adlewyrchu'r sefyllfa am 5yp ar ddydd Iau bob wythnos.

Efallai y bydd peth data ar frechu wedi'u cofnodi ar ffurf cofnodion papur y gallai fod angen iddynt gael eu cofnodi o hyd ar yr adeg pan gaiff y data eu cymryd o'r system a'u rhannu. Gall y niferoedd gwirioneddol amrywio a chânt eu diwygio mewn datganiadau yn y dyfodol wrth i fwy o wybodaeth gael ei chofnodi.

Mae gwaith sicrhau ansawdd yn dal i fynd rhagddo ar ddata ar y frechlynnau sydd wedi'u darparu gan y dosbarthwr, ac felly gellid eu diwygio yn y dyfodol.

Yn y datganiad hwn, adroddir ar ffigurau'r brechlyn o ran dosau. Ar gyfer y ddau frechlyn mae pob ffiol yn cynnwys nifer o ddosau.

Cyn 26 Ionawr 2021, roedd y wybodaeth cynnyrch ar gyfer y brechlyn Pfizer yn nodi bod pob ffiol yn cynnwys 5 dos, ond mewn rhai achosion efallai y bydd yn bosibl tynnu chweched dos o rai ffiolau. Cefnogir y defnydd o'r dos ychwanegol hwn gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). O 26 Ionawr 2021, diweddarodd yr MHRA eu rheoliadau i nodi bod ffiol Pfizer yn cynnwys 6 dos yn swyddogol. Mae nifer y dosau o frechlyn Pfizer wedi’i gyfrifo ar sail y dyddiad y derbyniwyd y brechlyn yng Nghymru.

Mae'r wybodaeth cynnyrch ar gyfer y brechlyn Pfizer yn nodi bod pob ffiol yn cynnwys 5 dos, ond mewn rhai achosion efallai y bydd yn bosibl tynnu chweched dos o rai ffiolau.  Cefnogir y defnydd o'r dos ychwanegol hwn gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).

Mae'r wybodaeth cynnyrch ar gyfer brechlyn AstraZeneca yn nodi bod ffiolau yn cynnwys 8 neu 10 dos (yn dibynnu ar y cyflwyniad), ond mewn rhai achosion efallai y bydd yn bosibl tynnu dos pellach (9fed neu 11eg) o rai ffiolau.  Cefnogir y defnydd o'r dos ychwanegol hwn gan yr MHRA.

Mae dau gyflwyniad gwahanol o frechlyn AstraZeneca yn cael eu cyflenwi:

  • 80 pecynnau dos (Deg ffiolau 4 ml gydag o leiaf 8 dos y ffiol)
  • 100 pecynnau dos (Deg ffiolau 5 ml gydag o leiaf 10 dos y ffiol)

Cyfrifir canran y dosau sy'n anaddas i'w defnyddio drwy ddefnyddio , fel canran o'r dosau a weinyddir ynghyd â dosau sy'n anaddas i'w defnyddio.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae'r data yn y datganiad hwn o 8 Rhagfyr 2020 ymlaen.

Hygyrchedd ac eglurder

Rhoddwyd gwybod am y datganiad ystadegol hwn ymlaen llaw ac yna fe'i cyhoeddwyd yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar ein gwefan. Mae Taenlen Open Document yn cyd-fynd ag ef fel y gall defnyddwyr weld y data.

Cymaroldeb

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn llunio dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol lle y gall defnyddwyr weld y wybodaeth ddiweddaraf am nifer y dosau o frechlyn COVID-19 a roddwyd.

Ar hyn o bryd nid yw wledydd eraill y DU yn cyhoeddi data ar stoc a chyflenwad o frechlynnau.

Caiff data ar y dosau o frechlyn COVID-19 a roddir yn Lloegr eu cyhoeddi ar  dudalennau Brechiadau COVID-19 gwefan NHS England, adroddiadau monitro brechlyn COVID-19 Public Health England ac fel data dyddiol o fewn dangosfwrdd GOV.UK Coronafeirws (COVID-19).

Caiff data ar y dosau o frechlyn COVID-19 a roddir yn yr Alban eu cyhoeddi fel data dyddiol o fewn y datganiad Coronafeirws (COVID-19): data dyddiol ar gyfer yr Alban gan Lywodraeth yr Alban ac yn wythnosol o fewn adroddiad ystadegol COVID-19 Public Health Scotland.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Ar hyn o bryd, datganiad ystadegol wythnosol yw hwn. Caiff ei gyhoeddi am 9.30am bob dydd Mawrth. Byddwn yn adolygu hyn ar sail anghenion newidiol defnyddwyr.

Cyhoeddir y datganiad nesaf ddydd Mawrth 16 Chwefror 2021.

Hoffem gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn a gellir ei ddarparu drwy anfon neges e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.

4. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Rachel Dolman
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 39/2021