Neidio i'r prif gynnwy

Mae amser cyhoeddi’r datganiad hwn wedi'i symud o 9:30 i 3pm oherwydd gŵyl y banc ac i osgoi ei gyhoeddi ar y diwrnod pleidleisio.

Oherwydd gŵyl y banc, nid oedd llywodraeth y DU yn gallu darparu data am stoc brechlynnau fel ag yr oedd hi am 5pm ddydd Sul, felly yr wythnos hon mae'r cyhoeddiad yn adlewyrchu’r sefyllfa am 5pm ddydd Llun. I gyd-fynd â hyn, data dydd Llun hefyd yw’r rhai ar gyfer y dosau nad oeddent yn addas i’w defnyddio.

Mae'r datganiad ystadegol wythnosol hwn yn cynnwys gwybodaeth reoli am nifer y dosau o frechlynnau COVID-19 a roddwyd i Gymru a’r byrddau iechyd lleol.

Rydym yn cyhoeddi hwn i gefnogi'r ymrwymiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am y broses o gyflwyno'r brechlyn fel y'i nodir yn y Strategaeth Frechu i Gymru.

Nid yw'r datganiad hwn yn cynnwys ystadegau am y bobl sydd wedi cael eu brechu. Caiff data ar y brechiadau a roddir eu cyhoeddi bob dydd a phob wythnos, a hynny ar dangosfwrdd Gwyliadwriaeth COVID-19 Cyflym Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda'r data wythnosol yn rhoi dadansoddiadau manylach.

Ar hyn o bryd cyflenwir a gweinyddir tri math o frechlyn rhag y coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru (Pfizer BioNTech, Prifysgol Rhydychen/AstraZeneca a Moderna). Cafodd y dos cyntaf o’r brechlyn Pfizer BioNTech ei roi ar 8 Rhagfyr 2020, dos cyntaf o frechlyn Prifysgol Rhydychen/AstraZeneca ar 4 Ionawr 2021a dos cyntaf o frechlyn Moderna ar 7 Ebrill 2021.

Mae’r holl ddata ar frechlynnau a ddyrannwyd ac a gyflenwyd i Gymru wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth y DU.

Mae tabl cysylltiedig sy'n cynnwys y ddata a geir yn y datganiad hwn ar gael ar wahân.

Prif ganlyniadau

  • Mae 2,900,390 o ddosau o frechlyn COVID-19 wedi'u dyrannu i Gymru.
  • Mae 2,667,620 o ddosau o frechlyn COVID-19 wedi'u cyflenwi i Gymru.
  • Adroddwyd bod 0.4% o'r dosau o frechlynnau yn anaddas i'w defnyddio. O’u rhannu yn ôl y math o frechlyn, roedd 0.9% o frechlyn Pfizer BioNTech, 0.2% o frechlyn Prifysgol Rhydychen / AstraZeneca a 0.0% o frechlyn Moderna yn anaddas i'w defnyddio.

Cefndir

Mae cyfanswm nifer y dosau a ddyrannwyd yn cyfeirio at nifer y dosau sydd, yn achos brechlynnau Prifysgol Rhydychen / AstraZeneca a Moderna wedi bod ar gael gan Public Health England i Lywodraeth Cymru eu harchebu (hyd at 11:55 4 Mai 2021) neu, yn achos brechlyn Pfizer/BioNtech, sydd wedi'u cyflenwi'n uniongyrchol i Gymru gan y gwneuthurwr (hyd at ddiwedd 4 Mai 2021).                           

Mae cyfanswm nifer y dosau a gyflenwyd yn cyfeirio at nifer y dosau sydd naill ai wedi'u darparu gan ddosbarthwr Public Health England i’r GIG yng Nghymru neu, yn achos brechlyn Pfizer/BioNtech, sydd wedi'u cyflenwi gan ddosbarthwr Llywodraeth Cymru i'r GIG yng Nghymru, a dyma'r swm cronnol a gyflenwyd erbyn 23:59 ar 3 Mai 2021.

Mae'r gwahaniaeth rhwng y brechlyn a ddyrannwyd i Gymru a'r brechlyn a gyflenwyd i Gymru yn cynnwys brechlynnau a ddyrannwyd ond nad ydynt wedi'u cyflenwi eto.

Mae nifer y dosau yn cynnwys dosau Pfizer/BioNTech ac Prifysgol Rhydychen/AstraZeneca.

Mae'r ffigurau ar gyfer dosau a ddyrannwyd ac a gyflenwyd yn cyfeirio at un dos o frechlyn, ond mae cwrs o frechlyn yn cynnwys dau ddos. Mae hyn yr un fath ar gyfer y tri fath o frechlyn.

Daw'r data ar ddyrannu a cyflenwi brechlynnau o wybodaeth a ddarparwyd gan Public Health England (PHE) a Llywodraeth Cymru. Cesglir y data o wybodaeth reoli a gynhyrchir wrth weithredu'r Rhaglen Frechu ac a gaiff ei choladu'n anolog gan PHE ac, ar gyfer brechlyn Pfizer/BioNTech, gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r data yn wybodaeth reoli a ddefnyddir i gefnogi gweithgarwch brechu COVID-19. Nid yw'r data wedi bod yn destun yr un faint o waith sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gallent gael eu diwygio yn y dyfodol. Rydym yn cyhoeddi'r data hyn i ddarparu crynodeb wythnosol o’r gweithgarwch brechu yng Nghymru.

Mae’r brechlynnau sy'n anaddas i'w defnyddio yn cynnwys dosau sy'n methu’r broses sicrwydd yr yr archwiliad cychwynnol, dosau sy'n methu’r broses sicrwydd ansawdd ar ôl eu paratoi, a ffiolau/dosau sy'n dod i ben eu hoes yn ystod y sesiwn frechu.

Defnyddir data Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) o System Imiwneiddio Cymru (WIS) ar gyfer dosau o frechlynnau nad ydynt yn addas i'w defnyddio. Efallai y bydd dosau ychwanegol na ellir eu defnyddio ond nad ydynt wedi'u cofnodi.

Llywodraeth y DU sydd â'r contractau ar gyfer nifer y brechlynnau a'r ffordd y'u dosberthir ledled y DU. Caiff Cymru gyfran ar sail poblogaeth o'r holl frechlynnau a gaffaelir gan Lywodraeth y DU. Dyrennir brechlynnau i fyrddau iechyd ar sail meintiau o'r boblogaeth yng ngrwpiau blaenoriaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn dilyn dyraniadau i Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Mae ICC a Felindre yn derbyn dyraniad yn gymharol â nifer y cyflogeion a ddosberthir fel gweithwyr gofal iechyd rheng flaen yn unol â meini prawf y JCVI. Mae Felindre yn derbyn dyraniad ar gyfer brechu gweithwyr Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac unigolion sydd o dan ofal Canolfan Ganser Felindre sydd hefyd yng ngrwpiau blaenoriaeth JCVI.

Mae brechlynnau Pfizer BioNTech yn cael eu hanfon yn uniongyrchol i Gymru gan y gwneuthurwr. Mae dosbarthwr Llywodraeth Cymru yn dosbarthu brechlyn Pfizer BioNTech i ganolfannau brechu torfol, ysbytai a meddygfeydd. Caiff brechlyn Prifysgol Rhydychen/AstraZeneca ei ddosbarthu gan ddosbarthwr Public Health England yn uniongyrchol i ysbytai a meddygfeydd a lleoliadau gofal iechyd sylfaenol eraill. Mae brechlyn Moderna yn cael ei gyflenwi gan ddosbarthwr Public Health England i ddosbarthwr Llywodraeth Cymru sydd wedyn yn darparu’r brechlyn Moderna i ganolfannau brechu torfol, ysbytai, meddygfeydd a lleoliadau gofal iechyd sylfaenol eraill.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Cyd-destun

Gwybodaeth reoli yw'r data a ddefnyddir yn y datganiad hwn, a ddefnyddir i gefnogi gweithgarwch brechu COVID-19. Rydym yn cyhoeddi'r data hyn er mwyn darparu crynodeb amserol o'r rhaglen frechu. Nid yw'r data yn cyrraedd yr un safonau sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gallent gael eu diwygio yn y dyfodol.

Mae'r wybodaeth hon yn helpu i fonitro Rhaglen Frechu COVID-19.

Perthnasedd

Caiff data dyddiol ar nifer y bobl sydd wedi cael brechiadau eu cyhoeddi ar ddangosfwrdd Gwyliadwriaeth COVID-19 Cyflym Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC). Mae'r data a gaiff eu rhyddhau bob dydd yn dangos nifer cronnol y brechiadau a roddwyd – ar gyfer y dos cyntaf a'r ail ddos. Mae'r ffigurau dyddiol yn rhoi diweddariad amserol ar gyflwyno'r rhaglen frechu, er y bydd nifer gwirioneddol y bobl a gaiff eu brechu yn uwch oherwydd y broses barhaus o gofnodi data. Bydd ICC hefyd yn cyhoeddi data wythnosol, manylach ar frechiadau drwy'r dangosfwrdd. Mae hyn yn cynnwys data ar lefel byrddau iechyd lleol, a bydd yn cael ei ehangu er mwyn cwmpasu mwy o bynciau dros amser.

Mae gwybodaeth i’r cyhoedd am y brechlyn ar gael ar y gwefan ICC.

Cywirdeb

Datblygwyd seilwaith digidol ar gyfer trefnu apwyntiadau, cofnodi ac adrodd ar y gweithgarwch brechu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) er mwyn diwallu anghenion y rhaglen frechu. Gelwir hwn yn System Imiwneiddio Cymru. Daw’r data ar unrhyw ddosau o frechlyn nad oeddent yn addas i'w defnyddio o System Imiwneiddio Cymru ac mae'n adlewyrchu'r sefyllfa am 5pm ar ddydd Sul bob wythnos.

Efallai y bydd rhywfaint o’r data ar frechu wedi'u cofnodi ar ffurf cofnodion papur y gallai fod angen iddynt gael eu mewnbynnu o hyd ar yr adeg pan gaiff y data eu cymryd o'r system a'u rhannu. Gall y niferoedd gwirioneddol amrywio a chânt eu diwygio mewn datganiadau yn y dyfodol wrth i fwy o wybodaeth gael ei chofnodi.

Mae gwaith sicrhau ansawdd yn dal i fynd rhagddo ar ddata ar y brechlynnau sydd wedi'u darparu gan y dosbarthwr, ac felly gellid eu diwygio yn y dyfodol.

Yn y datganiad hwn, adroddir ar ffigurau'r brechlyn o ran dosau.

Cyn 26 Ionawr 2021, roedd y wybodaeth cynnyrch ar gyfer y brechlyn Pfizer yn nodi bod pob ffiol yn cynnwys 5 dos; ond mewn rhai achosion efallai y bydd yn bosibl tynnu chweched dos o rai ffiolau. Cefnogir y defnydd o'r dos ychwanegol hwn gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). O 26 Ionawr 2021, diweddarodd yr MHRA eu rheoliadau i nodi bod ffiol Pfizer yn cynnwys 6 dos yn swyddogol. Mae nifer y dosau o frechlyn Pfizer wedi’i gyfrifo ar sail y dyddiad y derbyniwyd y brechlyn yng Nghymru.

Mae'r wybodaeth cynnyrch ar gyfer brechlyn Prifysgol Rhydychen/AstraZeneca yn nodi bod ffiolau yn cynnwys 8 neu 10 dos (yn dibynnu ar y cyflwyniad), ond mewn rhai achosion efallai y bydd yn bosibl tynnu dos pellach (9fed neu 11eg) o rai ffiolau.  Cefnogir y defnydd o'r dos ychwanegol hwn gan yr MHRA.

Mae dau gyflwyniad gwahanol o frechlyn Prifysgol Rhydychen/AstraZeneca yn cael eu cyflenwi:

  • Pecynnau 80 dos (Deg o ffiolau 4 ml gydag o leiaf 8 dos ym mhob ffiol)
  • Pecynnau 100 dos (Deg o ffiolau 5 ml gydag o leiaf 10 dos ym mhob ffiol)

Mae’r wybodaeth cynnyrch ar gyfer brechlyn Moderna yn nodi y gellir tynnu 10 dos o bob ffiol; fodd bynnag mae angen gorlenwi pob ffiol i sicrhau y gellir darparu 10 dos o 0.5mL. Mewn rhai achosion efallai y bydd yn bosibl tynnu dos pellach o rai ffiolau. Cefnogir y defnydd o'r dos ychwanegol hwn gan yr MHRA.

Caiff canran y dosau sy'n anaddas i'w defnyddio ei chyfrifo fel hyn: cyfanswm y dosau anaddas / (dosau a weinyddwyd + dosau anaddas).

Amseroldeb a phrydlondeb

Data ar gyfer 8 Rhagfyr 2020 ymlaen sydd yn y datganiad hwn.

Hygyrchedd ac eglurder

Rhoddwyd gwybod am y datganiad ystadegol hwn ymlaen llaw ac yna fe'i cyhoeddwyd yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar ein gwefan. Mae Taenlen Open Document yn cyd-fynd ag ef fel y gall defnyddwyr weld y data.

Cymaroldeb

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn llunio dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol lle y gall defnyddwyr weld y wybodaeth ddiweddaraf am nifer y dosau o frechlyn COVID-19 a roddwyd.

Ar hyn o bryd nid yw Lloegr na Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi data ar stoc a chyflenwadau brechlynnau.

Caiff data ar y dosau o frechlynnau COVID-19 a roddir yn Lloegr eu cyhoeddi ar dudalennau Brechiadau COVID-19 gwefan NHS England, ac fel data dyddiol o fewn dangosfwrdd GOV.UK Coronafeirws (COVID-19).

Caiff data ar y dosau o frechlynnau COVID-19 a roddir yn yr Alban eu cyhoeddi fel data dyddiol yn y datganiad Coronafeirws (COVID-19): data dyddiol ar gyfer yr Alban gan Lywodraeth yr Alban ac ar y dangosfwrdd brechiadau COVID-19 a gyhoeddir gan Public Health Scotland ac fel data dyddiol o fewn dangosfwrdd GOV.UK Coronafeirws (COVID-19).

Cyhoeddir data ar gyfer y dosau o frechlynnau COVID-19 a roddir yng Ngogledd Iwerddon ar fel data dyddiol o fewn dangosfwrdd GOV.UK Coronafeirws (COVID-19).

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, am Gymru fwy cyfartal, lewyrchus, gydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, a Chymru o gymunedau cydlynus â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Ar hyn o bryd, datganiad ystadegol wythnosol yw hwn. Caiff ei gyhoeddi am 9.30am bob dydd Mercher. Byddwn yn adolygu hyn ar sail anghenion newidiol defnyddwyr.

Cyhoeddir y datganiad nesaf ar dydd Mercher 12 Mai 2021.

Hoffem gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn a gellir ei ddarparu drwy anfon neges e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Rachel Dolman
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 133/2021