Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r datganiad ystadegol wythnosol hwn yn cynnwys gwybodaeth reoli am nifer y dosau o frechlyn COVID-19 nad oeddent yn addas i'w defnyddio yng Nghymru ac ar gyfer byrddau iechyd. Rydym yn cyhoeddi hyn i gefnogi'r ymrwymiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am y broses o gyflwyno'r frechlyn fel y'i nodir yn y Strategaeth Frechu i Gymru.

Nid yw'r datganiad hwn yn cynnwys ystadegau am y bobl sydd wedi cael eu brechu. Caiff data ar y brechiadau a roddir eu cyhoeddi bob dydd a phob wythnos, a hynny ar Ddangosfwrdd Gwyliadwriaeth COVID-19 Cyflym Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda'r data wythnosol yn rhoi dadansoddiadau manylach.

Ar hyn o bryd cyflenwir a gweinyddir dau fath o frechlyn ar gyfer y coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru, sef brechlyn Pfizer BioNTech a brechlyn Prifysgol Rhydychen-AstraZeneca. Cafodd y frechlyn gyntaf o Pfizer BioNTech ei roi ar 8 Rhagfyr 2020, a’r dos cyntaf o’r frechlyn Prifysgol Rhydychen-AstraZeneca ar 4 Ionawr 2021.

Mae tabl cysylltiedig sy'n cynnwys y ddata a geir yn y datganiad hwn ar gael ar wahân.

Mewn datganiadau yn y dyfodol, rydym yn bwriadu cynnwys data ar ddosau sydd wedi’u dyrannu i Gymru yn ogystal â gwastraff. Mae Llywodraeth y DU wedi gofyn i ni beidio cyhoeddi data stoc brechlyn oherwydd sensitifrwydd masnachol cyfredol. Rydym yn gweithio ar draws y 4 gwlad i gytuno dull ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth stoc a byddwn yn diweddaru pan fyddwn mewn sefyllfa i wneud hynny.

1. Prif ganlyniadau

Ar 11 Chwefror am 5yp

Adroddwyd nad oedd 0.5% o'r dosau brechlyn addas i'w defnyddio. Roedd 0.8% o frechlyn Pfizer BioNTech a 0.1% o frechlyn Prifysgol Rhydychen-AstraZeneca ddim yn addas i'w defnyddio. Mae hyn yn seiliedig ar wybodaeth a nodwyd yn System Imiwneiddio Cymru. Gall fod mwy o ddosau nad oedd modd eu defnyddio na chawsant eu cofnodi.

2. Cefndir

Yn y datganiad hwn mae un dos yn cyfeirio at un dos o frechlyn, ond mae cwrs o frechlyn yn cynnwys dau ddos. Mae hyn yr un peth ar gyfer y ddau frechlyn.

Defnyddir data Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru o System Imiwneiddio Cymru ar gyfer unrhyw ddosau o frechlyn nad ydynt yn addas i'w defnyddio.

Rydym yn cyhoeddi'r data hyn er mwyn darparu crynodeb wythnosol o raglen frechu Cymru, gan gynnwys gwybodaeth am dosau nad oeddent yn addas i'w defnyddio, wedi'u dadansoddi yn ôl y math o frechlyn a'r bwrdd iechyd lleol. Mewn datganiadau yn y dyfodol, rydym yn gobeithio cynnwys data ar stociau a dosbarthiadau sydd wedi’u dyrannu i Gymru yn ogystal â dosau nad oeddent yn addas i'w defnyddio.

Cafodd rhaglen brechlyn Pfizer BioNTech ei lansio ar 8 Rhagfyr 2020. Ar 4 Ionawr 2021, cyflwynwyd brechlyn Prifysgol Rhydychen-AstraZeneca yng Nghymru.

Ymhlith y brechlynnau nad oes modd eu defnyddio mae dosau sy'n methu cyrraedd safonau sicrhau ansawdd pan gânt eu harchwilio gyntaf, dosau sy'n methu cyrraedd safonau sicrhau ansawdd ar ôl eu paratoi, a ffiolau/dosau sy'n mynd heibio'r cyfnod defnyddio yn ystod y sesiwn frechu.

Daw’r data o wybodaeth reoli a gallant newid. Nid ydynt wedi cael eu dilysu yr un modd â datganiadau ystadegol swyddogol. Rydym yn cyhoeddi’r data hyn er mwyn darparu crynodeb wythnosol o’r rhaglen frechu yng Nghymru.

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn datblygu a byddem yn croesawu adborth er mwyn gwella’r hyn dydd ynddo.

3. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Cyd-destun

Gwybodaeth reoli yw'r data a ddefnyddir yn y datganiad hwn, a ddefnyddir i gefnogi rhaglen frechu COVID-19. Rydym yn cyhoeddi'r data hyn er mwyn darparu crynodeb amserol o'r rhaglen frechu. Nid yw'r data yn cyrraedd yr un safonau sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gallent gael eu diwygio yn y dyfodol.

Defnyddir data Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru o System Imiwneiddio Cymru ar gyfer unrhyw ddosau o frechlyn nad ydynt yn addas i'w defnyddio.

Mae'r wybodaeth hon yn helpu i fonitro Rhaglen Frechu COVID-19.

Perthnasedd

Caiff data dyddiol ar nifer y bobl sydd wedi cael brechiadau eu cyhoeddi ar ddangosfwrdd Gwyliadwriaeth COVID-19 Cyflym Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC). Mae'r data a gaiff eu rhyddhau bob dydd yn dangos nifer cronnol y brechiadau a roddwyd – ar gyfer y dos cyntaf a'r ail ddos. Mae'r ffigurau dyddiol yn rhoi diweddariad amserol ar gyflwyno'r rhaglen frechu, er y bydd y nifer gwirioneddol o bobl a gaiff eu brechu yn uwch oherwydd y broses barhaus o gofnodi data. Bydd ICC hefyd yn cyhoeddi data wythnosol, manylach ar frechiadau drwy'r dangosfwrdd. Mae hyn yn cynnwys data ar lefel byrddau iechyd lleol, a bydd yn ehangu er mwyn cwmpasu mwy o bynciau dros amser.

Mae gwybodaeth i’r cyhoedd am y brechlyn ar gael ar y gwefan ICC.

Cywirdeb

Datblygwyd seilwaith digidol i drefnu apwyntiadau, cofnodi ac adrodd ar raglen frechu gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru er mwyn diwallu anghenion y rhaglen frechu, sef System Imiwneiddio Cymru. Daw data ar unrhyw ddosau o frechlyn nad oeddent yn addas i'w defnyddio o System Imiwneiddio Cymru ac mae'n adlewyrchu'r sefyllfa am 5yp ar ddydd Iau bob wythnos.

Efallai y bydd peth data ar frechu wedi'u cofnodi ar ffurf cofnodion papur y gallai fod angen iddynt gael eu cofnodi o hyd ar yr adeg pan gaiff y data eu cymryd o'r system a'u rhannu. Gall y niferoedd gwirioneddol amrywio a chânt eu diwygio mewn datganiadau yn y dyfodol wrth i fwy o wybodaeth gael ei chofnodi.

Mae gwaith sicrhau ansawdd yn dal i fynd rhagddo ar ddata ar y frechlynnau sydd wedi'u darparu gan y dosbarthwr, ac felly gellid eu diwygio yn y dyfodol.

Yn y datganiad hwn, adroddir ar ffigurau'r brechlyn o ran dosau. Ar gyfer y ddau frechlyn mae pob ffiol yn cynnwys nifer o ddosau.

Cyn 26 Ionawr 2021, roedd y wybodaeth cynnyrch ar gyfer y brechlyn Pfizer yn nodi bod pob ffiol yn cynnwys 5 dos, ond mewn rhai achosion efallai y bydd yn bosibl tynnu chweched dos o rai ffiolau. Cefnogir y defnydd o'r dos ychwanegol hwn gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). O 26 Ionawr 2021, diweddarodd yr MHRA eu rheoliadau i nodi bod ffiol Pfizer yn cynnwys 6 dos yn swyddogol. Mae nifer y dosau o frechlyn Pfizer wedi’i gyfrifo ar sail y dyddiad y derbyniwyd y brechlyn yng Nghymru.

Mae'r wybodaeth cynnyrch ar gyfer y brechlyn Pfizer yn nodi bod pob ffiol yn cynnwys 5 dos, ond mewn rhai achosion efallai y bydd yn bosibl tynnu chweched dos o rai ffiolau.  Cefnogir y defnydd o'r dos ychwanegol hwn gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).

Mae'r wybodaeth cynnyrch ar gyfer brechlyn AstraZeneca yn nodi bod ffiolau yn cynnwys 8 neu 10 dos (yn dibynnu ar y cyflwyniad), ond mewn rhai achosion efallai y bydd yn bosibl tynnu dos pellach (9fed neu 11eg) o rai ffiolau.  Cefnogir y defnydd o'r dos ychwanegol hwn gan yr MHRA.

Mae dau gyflwyniad gwahanol o frechlyn AstraZeneca yn cael eu cyflenwi:

  • 80 pecynnau dos (Deg ffiolau 4 ml gydag o leiaf 8 dos y ffiol)
  • 100 pecynnau dos (Deg ffiolau 5 ml gydag o leiaf 10 dos y ffiol)

Cyfrifir canran y dosau sy'n anaddas i'w defnyddio drwy ddefnyddio , fel canran o'r dosau a weinyddir ynghyd â dosau sy'n anaddas i'w defnyddio.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae'r data yn y datganiad hwn o 8 Rhagfyr 2020 ymlaen.

Hygyrchedd ac eglurder

Rhoddwyd gwybod am y datganiad ystadegol hwn ymlaen llaw ac yna fe'i cyhoeddwyd yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar ein gwefan. Mae Taenlen Open Document yn cyd-fynd ag ef fel y gall defnyddwyr weld y data.

Cymaroldeb

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn llunio dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol lle y gall defnyddwyr weld y wybodaeth ddiweddaraf am nifer y dosau o frechlyn COVID-19 a roddwyd.

Ar hyn o bryd nid yw wledydd eraill y DU yn cyhoeddi data ar stoc a chyflenwad o frechlynnau.

Caiff data ar y dosau o frechlyn COVID-19 a roddir yn Lloegr eu cyhoeddi ar  dudalennau Brechiadau COVID-19 gwefan NHS England, adroddiadau monitro brechlyn COVID-19 Public Health England ac fel data dyddiol o fewn dangosfwrdd GOV.UK Coronafeirws (COVID-19).

Caiff data ar y dosau o frechlyn COVID-19 a roddir yn yr Alban eu cyhoeddi fel data dyddiol o fewn y datganiad Coronafeirws (COVID-19): data dyddiol ar gyfer yr Alban gan Lywodraeth yr Alban ac yn wythnosol o fewn adroddiad ystadegol COVID-19 Public Health Scotland.

Caiff data ar y dosau o frechlyn COVID-19 a roddir yn Gogledd Iwerddon eu cyhoeddi ar  dangosfwrdd GOV.UK Coronafeirws (COVID-19).

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Ar hyn o bryd, datganiad ystadegol wythnosol yw hwn. Caiff ei gyhoeddi am 9.30am bob dydd Mawrth. Byddwn yn adolygu hyn ar sail anghenion newidiol defnyddwyr.

Cyhoeddir y datganiad nesaf ddydd Mawrth 23 Chwefror 2021.

Hoffem gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn a gellir ei ddarparu drwy anfon neges e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.

4. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Rachel Dolman
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 46/2021