Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn falch iawn o'r ymateb i raglen Dyfarniad Corfforaethol CIPS eleni ar gyfer sector cyhoeddus Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym bellach wedi dyfarnu lleoedd i 36 o ymgeiswyr ar lefel Ymarferydd, a 29 ar lefel Uwch Ymarferydd; cwblhaodd 18 ohonynt ein rhaglen lefel Ymarferydd 2020 yn ddiweddar. Cawsom ymgeiswyr o 28 o sefydliadau ledled Cymru gan gynnwys Llywodraeth Leol, yr Heddlu a’r Gwasanaethau Tân, Addysg Uwch, y GIG, Cymdeithasau Tai, a nifer o Gyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n wych gweld cefnogaeth cynifer o sefydliadau i ddatblygu gweithwyr caffael proffesiynol Cymru’r dyfodol.

Dechreuodd ein rhaglen Uwch Ymarferydd mwyaf newydd ym mis Tachwedd, a bydd ein myfyrwyr rhaglen Ymarferydd yn derbyn eu hyfforddiant cynefino ym mis Rhagfyr. Llongyfarchiadau i'r rhai sydd wedi sicrhau lle ar y rhaglen eleni, a phob lwc ar eich taith i MCIPS.

Mae myfyrwyr presennol ein rhaglen Uwch Ymarferydd bellach wedi cwblhau'r modiwlau a arweinir gan diwtoriaid, ac mae'r gwaith prosiect unigol wedi dechrau.

I gael rhagor o fanylion am raglen Dyfarniad Corfforaethol CIPS, anfonwch e-bost at GalluMasnachol@llyw.cymru