Canllawiau yn esbonio’r cynllun grant i unrhyw un sydd am wneud cais am gyllid i ddatblygu cymorth i’r Cwricwlwm i Gymru.
Cynnwys
Cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a dysgwyr 3 i 16 oed
Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn:
- anelu at wneud y cyfraniad mwyaf posibl at ddyfodol Cymru a chreu Cymru sy’n gryfach, yn decach, yn wyrddach ac yn fwy tosturiol
- amlinellu ein hamcanion lles ac yn canolbwyntio ar ffyrdd o wella bywydau pobl yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol
- nodi ein hymrwymiad i gefnogi ysgolion a lleoliadau ledled Cymru i weithredu’r cwricwlwm trawsnewidiol, sef y Cwricwlwm i Gymru
Mae’r Fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn adlewyrchu Cymru, ein treftadaeth a’n hamrywiaeth ddiwylliannol, ein hieithoedd a gwerthoedd, hanesion a thraddodiadau ein cymunedau a’n pobl i gyd. Mae datblygu dysgwyr angerddol sy’n ymfalchïo ynddynt eu hunain, eu cymunedau a’u gwlad yn ganolog i bedwar diben y cwricwlwm.
Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn wahanol ac, o ganlyniad, mae angen i’r modd rydym yn cefnogi ysgolion a lleoliadau i fanteisio i’r eithaf ar eu trefniadau ar gyfer y cwricwlwm adlewyrchu’r newid hwn a’u hanghenion parhaus yn llawn. Amlinellwyd hyn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ei datganiad llafar yn y Senedd ar 2 Gorffennaf 2024.
Cwricwlwm ysgol yw popeth y mae dysgwyr yn ei brofi ar drywydd y pedwar diben. Nid dim ond yr hyn rydym yn ei addysgu sy’n bwysig, ond sut rydym yn ei addysgu ac, yn hollbwysig, pam ein bod yn ei addysgu. Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn disgwyl i gwricwlwm ysgol:
- cael ei lywio gan ddiben, gan ddeall pam mae dysgu yn bwysig yn hanfodol er mwyn datblygu cwricwla ystyrlon
- canolbwyntio ar gynnydd a gaiff ei ddiffinio gan ddatblygiad personol dysgwyr
- dewis cynnwys amrywiol a gaiff ei lywio gan ddiben er mwyn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd, o fewn fframwaith cenedlaethol o ddisgwyliadau
- defnyddio cynnwys penodol ar gyfer dysgu sy’n ddiddorol i ddysgwyr fel ffordd i gefnogi ymgysylltiad dysgwyr gyda’r diben o’u cefnogi i wneud gynnydd
- cynllunio ar gyfer ystod eang o ddulliau asesu sy’n dangos cynnydd yn hytrach na diffinio cynnydd mewn ffordd gul
Ynglŷn a’r grant
Mae’r rhaglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru:
- yn cynllun grant refeniw sydd ar gael i sefydliadau rhanddeiliaid addysg yng Nghymru
- yn helpu i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru i bob dysgwr 3 i 16 oed mewn ysgolion a gynhelir (gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion) a lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir (“lleoliadau”) ledled Cymru
- wedi’i gynllunio i gefnogi amrywiaeth o weithgareddau ac ymyriadau sy’n gwella gallu ysgolion a lleoliadau i helpu eu dysgwyr i wneud cynnydd
Nod y cyllid grant tymor hwy hwn ar gyfer y cwricwlwm yw:
- cael yr effaith fwyaf bosibl ledled Cymru ar gynnydd dysgwyr a chyflawni’r pedwar diben drwy gymorth ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru
- darparu dull gweithredu cyffredin a hyblyg mewn perthynas â grantiau cwricwlwm sy’n adlewyrchu’n well flaenoriaethau y cytunwyd arnynt, yn seiliedig ar dystiolaeth o’r hyn sydd ei angen
Mae’r canllawiau hyn yn egluro rhaglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru. Os byddwch o’r farn bod gennych gynnig a allai fod yn gymwys i gael cymorth a’ch bod yn awyddus i wneud cais, gwelwch yr adran ‘Y broses gwneud cais’. Mae’n rhaid i gynigion am gyllid grant roi sylw penodol i’r blaenoriaethau ar gyfer cymorth grant a nodir yn y canllawiau hyn.
Mae’r cyfnod ar gyfer cyflwyno cynigion yn dechrau ar 29 Tachwedd 2024 ac yn dod i ben ar 31 Ionawr 2025.
Cymhwysedd
Byddwch yn gymwys i wneud cais os:
- mae gan eich sefydliad hanes o gefnogi dysgu ac addysgu mewn ysgolion a lleoliadau ac yn gallu dangos dealltwriaeth gadarn o’r Cwricwlwm i Gymru
- gallwch ddarparu cymorth i ysgolion yn yr iaith sy’n ofynnol gan yr ysgol neu’r lleoliad (Cymraeg neu Saesneg) a chyflwyno’r holl ddeunyddiau cymorth yn ddwyieithog ar yr un pryd
- rydych yn rhan o grŵp o sefydliadau sy’n cyflwyno cynnig ar y cyd, gan nodi’n glir sefydliad arweiniol a chynnwys gwybodaeth am bob sefydliad dan sylw sydd i gyd yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd
Ni fyddwch yn gymwys os:
- nad oes gennych y capasiti i ddarparu cymorth addas i ysgolion a lleoliadau ledled Cymru
- yw eich sefydliad eisoes yn cael cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gweithgarwch cefnogi’r cwricwlwm a nodir yn eich cynnig (er enghraifft, drwy Grant Addysg i Awdurdod Lleol)
Dim ond cynigion sy’n cyd-fynd yn agos ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru, y blaenoriaethau penodol ar gyfer cymorth grant a nodir isod a’r meini prawf eraill a nodir yn y canllawiau hyn y byddwn yn eu hystyried.
Ni fyddai’r canlynol yn gymwys i gael cyllid grant ac ni fyddant yn cael eu hystyried:
- datblygu neu ddosbarthu gwerslyfrau, cwricwla ysgol manwl ‘oddi ar y silff’ neu gynlluniau gwaith
- datblygu neu ddosbarthu adnoddau a deunyddiau cymorth unigol sy’n ymwneud â’r cwricwlwm lle nad yw’r deunyddiau hynny yn rhan o gynnig cymorth ehangach ar gyfer ysgolion a lleoliadau. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i ddatblygu adnoddau a deunyddiau ategol ‘unigol’ ar gyfer y cwricwlwm i Adnodd, sef ein sefydliad ar gyfer adnoddau addysg a deunyddiau ategol yng Nghymru
- darparu cyngor neu gymorth gwella ysgolion (fel y cyngor neu’r cymorth a ddarperir gan ymgynghorwyr gwella ysgolion a ariennir drwy’r Grant Addysg i Awdurdod Lleol)
- costau sy’n gysylltiedig â gwerthuso effeithiau gweithgarwch a ariennir drwy’r grant. Mae gan raglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru drefniadau gwerthuso ar wahân na ddylid eu dyblygu mewn cynigion
Rydym am weithio gyda sefydliadau sy’n falch o’u henw da, yr hyn y maent yn ei gyflawni a’u hymddygiad. Mae’r canllawiau hyn wedi’u cynllunio i amlygu ac egluro’r mathau o ymddygiadau, diwylliannau a gwerthoedd y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl eu gweld yn cael eu ‘gwireddu’ gan y sawl sy’n cael grantiau ganddi.
Blaenoriaethau ar gyfer cymorth grant
Bydd angen i bob cais am grant ddangos sut mae’r cynnig yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn enwedig yr ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’ (5 ffordd o weithio). Rydym yn awyddus i weld ceisiadau sy’n dangos sut y bydd y cynigion yn helpu Cymru i symud yn agosach at 2 neu fwy o’n 7 nod llesiant.
Mae’r blaenoriaethau ar gyfer cymorth grant a’r blaenoriaethau trawsgwricwlaidd a nodir isod wedi cael eu datblygu ar sail:
- dadansoddiad o waith ymchwil ym maes gweithredu’r cwricwlwm
- adborth gan ymarferwyr
- gwerthusiadau o gyllid grant blaenorol ar gyfer y cwricwlwm
- adolygiad o gymorth i ysgolion a lleoliadau a ddarperir drwy ddulliau ariannu eraill
Caiff cynigion nad ydynt yn ymdrin â’r blaenoriaethau hyn ar gyfer cymorth grant yn uniongyrchol eu gwrthod.
Wrth ystyried datblygu cynnig, dylech nodi’r canlynol.
- Ni ddylai cynigion ddyblygu cymorth y mae awdurdodau lleol a’u partneriaethau eisoes yn ei roi i ysgolion a lleoliadau.
- Dylai cynigion gydnabod rôl gomisiynu Adnodd, sef ein sefydliad ar gyfer adnoddau a deunyddiau ategol yng Nghymru. Ni fydd cynigion grant sy’n ymwneud yn gyfan gwbl â datblygu, hyrwyddo a/neu ddosbarthu deunyddiau addysg yn gymwys. Dylai cynigion grant sy’n cynnwys elfen o waith datblygu adnoddau fel rhan o becyn ehangach o gymorth i ysgolion a lleoliadau ystyried y Canllaw ar adnoddau a deunyddiau ategol a rôl Adnodd. Yn unol â hyn, dylai adnoddau sy’n deillio o hyn fod ar gael yn ddwyieithog ar blatfform addysg Hwb.
- Dylai cynigion fynd i’r afael yn uniongyrchol ag anghenion cymorth mewn un neu fwy o feysydd blaenoriaeth ar gyfer cymorth grant fel y bo’n briodol i arbenigedd a chapasiti’r sefydliad(au). Nid ydym yn disgwyl i gynigion unigol fynd i’r afael â phob blaenoriaeth.
- Wrth fynd i’r afael ag un neu fwy o feysydd blaenoriaeth, dylai pob cynnig gynnwys cymorth ar gyfer blaenoriaethau trawsgwricwlaidd sy’n cefnogi’r maes blaenoriaeth dan sylw mewn ffordd ddilys. Mae’n debygol y gellid cynnwys cymorth pwrpasol ar gyfer sawl blaenoriaeth drawsgwricwlaidd mewn un cynnig ond nid oes angen cefnogi pob un ohonynt.
- Dylai cynigion am gymorth geisio mynd i’r afael ag anghenion mewn ffordd ystyrlon a dilys er mwyn cael yr effaith fwyaf bosibl ar ysgolion, lleoliadau a dysgwyr. Dylai fod modd trosglwyddo cynigion am gymorth i gyd-destunau gwahanol a dylai unrhyw gynnwys cwricwlwm dangosol fod yn ddilys ac yn berthnasol.
- Er y gall fod yn briodol cyflwyno cynnig am weithgarwch a gaiff ei gwblhau o fewn un flwyddyn ariannol. Fodd bynnag, rydym yn croesawu cynigion am gymorth dros gyfnod o 3 blynedd. Wrth gwblhau eich cais, dylech ystyried a oes modd cynyddu neu leihau’r cymorth arfaethedig (a darparu opsiynau wedi’u costio yn ôl yr angen), gan gynyddu capasiti’r system a chynyddu’r effeithiau ar ddysgwyr dros amser.
Meysydd â blaenoriaeth
Mae gan raglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru 6 blaenoriaeth gyffredinol:
- cynllunio’r cwricwlwm
- llythrennedd
- mathemateg a rhifedd
- gwyddoniaeth a thechnoleg
- cerddoriaeth
- dysgu sylfaen
Mae’r 6 blaenoriaeth wedi’u cynnwys yn y canllawiau hyn er cyflawnder. Fodd bynnag, dim ond cynigion ar gyfer y blaenoriaethau isod a wahoddir ar hyn o bryd:
- cynllunio’r cwricwlwm
- llythrennedd
- mathemateg a rhifedd
- gwyddoniaeth a thechnoleg
Caiff unrhyw gynigion a gyflwynir mewn perthynas â Cherddoriaeth neu Ddysgu sylfaen eu gwrthod. Mae trefniadau penodol ar waith i ddarparu cymorth ar gyfer y blaenoriaethau hyn.
Blaenoriaeth: cynllunio’r cwricwlwm
Rhannu gwybodaeth ar gynnydd
Mae angen hwyluso trefniadau rhwng ysgolion a lleoliadau i rannu gwybodaeth am gynnydd mewn perthynas â chynllunio’r cwricwlwm. Disgwylir i gynnwys gael ei gynllunio a fydd yn dangos y broses o gynllunio’r cwricwlwm ochr yn ochr â ffyrdd y mae hyn wedi cael ei wneud neu y gellir ei wneud â dysgwyr.
Mae gennym ddiddordeb mewn cynigion a all ymgysylltu (ac ariannu) ystod eang o ysgolion a lleoliadau a darparu enghreifftiau o’r canlynol:
- sut mae ysgolion yn deall eu cyd-destun ac anghenion eu dysgwyr er mwyn llywio penderfyniadau ynghylch cynllunio’r cwricwlwm
- ffyrdd o gynllunio’r cwricwlwm sy’n cyd-fynd ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru
- cyfleoedd dysgu proffesiynol i wneud defnydd da o ganllawiau Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru
- sut mae ysgolion a lleoliadau yn cynllunio profiadau dysgu sy’n helpu eu dysgwyr i wneud cynnydd
- allbynnau dysgu (o safbwynt dysgwyr) a chynllunio dulliau asesu i ddeall y dysgu hwn
- sut mae cynnydd yn cael ei ddeall a’i gyfleu a sut mae hyn yn dylanwadu ar waith cynllunio’r cwricwlwm yn y dyfodol ar lefel dysgwyr, ysgolion neu leoliadau, a chlystyrau (rhwydwaith)
Mae angen i’r gwaith ymgysylltu hwn gynnwys ystod o ysgolion a lleoliadau Cymraeg a Saesneg, dros 1 flwyddyn academaidd o leiaf. Dylai gynnwys astudiaethau achos o ddysgwyr sy’n dangos ystod amrywiol dysgwyr ledled Cymru yn effeithiol. Gall y rhain gynnwys, er enghraifft, blogiau, podlediadau, teithiau dysgwyr, byrddau darlunio’r cwricwlwm sy’n dangos pob cam o’r broses, ac ati.
Dylai cynigion gydnabod y cyfle i allbynnau helpu i feithrin dealltwriaeth ymhlith ystod eang o sefydliadau o flaenoriaethau ac egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru hefyd.
Coetsio’r cwricwlwm
Mae coetsio’r cwricwlwm yn fodel effeithiol o raglen o fewnbwn uniongyrchol gan arbenigwyr i ysgolion ar eu prosesau cynllunio’r cwricwlwm.
Byddai ymarferwyr addysgu sy’n llwyddo i gwblhau rhaglen gymorth Cynllunio’r Cwricwlwm ac yn ymgysylltu â Chamau i’r Dyfodol yn gweithio mewn ysgolion eraill o dan y dull coetsio’r cwricwlwm hwn dros gyfnodau estynedig (hyd at 3 thymor ar y tro) i wreiddio dysgu mewn ystafelloedd dosbarth. Byddai’r math hwn o gymorth hefyd yn sicrhau bod mwy o bobl sy’n wybodus am gynllunio’r cwricwlwm ar gael yn y system ysgolion er mwyn parhau â chymorth mewn ysgolion a’i wella.
Byddai angen i gynigion am gymorth yn y maes hwn fanteisio ar y ffaith bod Cam 3 Camau i’r Dyfodol yn dod i ben ym mis Mawrth 2025. Mae hyn yn golygu cadw ymarferwyr (ac eraill) yn y system sydd wedi profi’r cymorth hwnnw (a datblygu eraill) a all ddarparu cymorth i ysgolion. Byddai’n cynnwys dull seiliedig ar ymchwil o goetsio addysgol, gan sicrhau bod pobl wybodus eraill yn cynnal dealltwriaeth gydlynol o flaenoriaethau cenedlaethol ac yn datblygu’r sgiliau perthynol gofynnol i weithio’n agos gydag ymarferwyr.
Byddem yn disgwyl i gyfranogwyr ymgysylltu’n agos â staff gwella ysgolion awdurdodau lleol er mwyn ymateb i flaenoriaethau lleol a chenedlaethol ac ategu cymorth sydd ar gael yn barod yn lleol ac yn genedlaethol (a ariennir drwy’r Grant Addysg i Awdurdod Lleol).
Cymorth cynllunio asesiadau
Mae angen cymorth cynllunio asesiadau ar ymarferwyr er mwyn cynllunio a chynnal asesiadau mewn ysgolion a lleoliadau yn unol ag egwyddorion asesu Cwricwlwm i Gymru. Dylai hyn gynnwys sut mae gwerthuso dysgu. Bydd cymorth yn helpu ymarferwyr i werthuso dysgu dros amser er mwyn deall cynnydd dysgwr. Mae angen enghreifftiau yn y system er mwyn cefnogi dealltwriaeth gydlynol o ddisgwyliadau ar gyfer dysgu a nodir yng nghanllawiau Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.
Dylai cymorth sy’n cysylltu cynllunio asesiadau â chynllunio’r cwricwlwm gynnwys y canlynol:
- cymorth i ymarferwyr ddeall ffyrdd effeithiol o gynllunio asesiadau
- modelu ymarferol o’r broses asesu, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
- adnoddau ymarferol y gall ysgolion eu defnyddio i ddeall anghenion eu dysgwyr yn well
- nodi adnoddau asesu priodol er mwyn dangos cynnydd dysgwyr mewn perthynas â’r dysgu a gynlluniwyd
- deall y defnydd a wneir o ystod o ddulliau asesu a’r hyn a ddysgir oddi wrthynt
- cymorth i werthuso dysgu drwy lythrennedd data ansoddol a meintiol effeithiol. Mae angen i hyn liniaru’r risgiau y caiff mathau o asesiadau eu copïo heb ddeall y diben a’r opsiynau ar gyfer dulliau asesu sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru
- modelu sut mae defnyddio tystiolaeth sy’n deillio o asesiadau i werthuso dysgu mewn ffordd sy’n gyson ag egwyddorion dealltwriaeth gyffredin o gynnydd (er enghraifft, modelu cyfarfodydd cynnydd ar oedrannau a chamau datblygu gwahanol)
- gweithgareddau sy’n cefnogi dealltwriaeth o gyflwyno adborth gyda dysgwyr, rhieni a gofalwyr i ddatblygu dealltwriaeth o gryfderau dysgwyr a’r camau nesaf ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm (er enghraifft, drwy fodelu’r broses hon a darparu enghreifftiau o’r modd y mae ysgolion yn gwneud hyn)
Byddai angen i’r cymorth hwn gysylltu â’r cymorth cynllunio’r cwricwlwm sydd ar gael ac adeiladu arno, a sicrhau bod gwaith cynllunio asesiadau yn cyd-fynd ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru. Yn ddelfrydol, byddai dulliau arloesol byd-eang o gynllunio asesiadau yn cael eu defnyddio i gefnogi dealltwriaeth ar lefel system. Byddai’n cynnwys cefnogi asesiadau yn yr ystafell ddosbarth i asesiadau a gynllunnir gan ysgolion er mwyn llywio cynnydd.
Dylai’r cynnig gynnwys cymorth ynghylch sut i ddatblygu adroddiadau a phortffolios dysgwyr sy’n galluogi dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb cynyddol am y ffordd y maent yn mynegi eu cynnydd eu hunain a’r ffordd y caiff gwerthusiadau eu rhannu â rhieni a gofalwyr, er enghraifft ailfeddwl asesu (Saesneg yn unig).
Iechyd a lles
Mae’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles (Maes) yn galw am gymorth penodol ynghylch cynllunio’rcwricwlwm er mwyn helpu ysgolion i ddatblygu eu trefniadau ar gyfer iechyd a lles yn y cwricwlwm i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi i fod yn iach a’u bod wedyn yn barod i ddysgu.
Dylai cynigion ystyried yr elfennau canlynol:
- dulliau sy’n datblygu ac yn darparu cymorth i awdurdodau lleol neu ysgolion i’w helpu i ymchwilio, cynllunio a gwreiddio pob agwedd ar y Maes yn eu cwricwlwm. Gallai hyn gynnwys elfennau o’r cymorth a ddisgrifir uchod ar gymorth cyffredinol ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm, ond dylid canolbwyntio ar y Maes hwn
- darparu cymorth i nodi anghenion dysgwyr, ymchwilio i faterion a thestunau, a chael gafael ar wybodaeth ac adnoddau ffeithiol, cywir
- helpu ysgolion i ddewis cynnwys sy’n cefnogi’r ystod o agweddau ar iechyd a lles
- datblygu a darparu cymorth mewn perthynas â dull cynllunio’r cwricwlwm ar gyfer iechyd a lles sy’n defnyddio’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig mewn ffordd gyfannol. Dylai ystyried materion iechyd a lles a mynd i’r afael ag unrhyw faterion sylfaenol, yn ogystal ag unrhyw gynnwys amserol neu brofiadau sy’n cefnogi dysgu ar gyfer y rhain
- helpu ysgolion i ddeall cynnydd ac asesiadau yn y Maes. Byddai’n cynnwys defnyddio’r egwyddorion cynnydd, asesu dysgu o gymharu â gwerthuso cynnydd ehangach a beth allai gael ei ystyried yn gynnydd
Addysg cydberthynas a rhywioldeb
Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn chwarae rôl gadarnhaol ac ymrymusol yn addysg dysgwyr. Mae’n hanfodol o safbwynt eu helpu i gyflawni’r pedwar diben fel rhan o ddull gweithredu ysgol gyfan. Mae helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o gydberthnasau yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch yn greiddiol i addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae’r cydberthnasau hyn yn hollbwysig er mwyn datblygu lles emosiynol, gwydnwch ac empathi.
Mae angen cymorth ar ymarferwyr i gynllunio a chyflwyno addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y cwricwlwm fel thema trawsgwricwlaidd, gan gynnwys 3 llinyn y Cod addysg cydberthynas a rhywioldeb mandadol:
- cydberthnasau a hunaniaeth
- iechyd rhywiol a lles
- grymuso, diogelwch a pharch
Caiff cynigion sy’n ystyried trefniadau cymorth ar wahân ym mhob llinyn eu croesawu a byddent yn cynnwys darparu dealltwriaeth pwnc benodol er mwyn cefnogi dysgu y gellir ei wreiddio yng nghwricwla ysgolion.
Byddai’n cynnwys adolygu’r cymorth presennol a datblygu adnoddau cefnogi addysgu a dysgu newydd yn y meysydd lle nodir bylchau. Mae angen i ddeunyddiau dysgu fod yn ddilys a digon hyblyg i’w gwreiddio mewn ystod o gwricwla.
Mae angen i’r holl gymorth a ddatblygir:
- gyd-fynd â’r Cod addysg cydberthynas a rhywioldeb
- bod yn blwraliaethol
- bod yn briodol yn ddatblygiadol, sy’n golygu y gall fod gan ddysgwyr o oedran tebyg anghenion gwahanol
- ystyried ystod o ffactorau gan gynnwys:
- oedran y dysgwr
- ei wybodaeth ac aeddfedrwydd
- unrhyw anghenion dysgu ychwanegol (ADY) sydd ganddo
- rhagweld ei ddatblygiad ffisiolegol ac emosiynol
Wrth ddatblygu cynigion, dylech nodi bod yn rhaid i addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn briodol yn ddatblygiadol i bob dysgwr. Mae’r cyfnodau oedran ym mhob un o linynnau’r Cod addysg cydberthynas a rhywioldeb wedi’u cynllunio i roi dealltwriaeth i ymarferwyr o’r hyn sy’n debygol o fod yn briodol yn ddatblygiadol.
Blaenoriaeth: llythrennedd
Lleferydd, iaith a chyfathrebu
Mae angen cymorth o ran sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu ar draws y continwwm dysgu 3 i 16 oed. Mae’r sgiliau hyn yn hanfodol er mwyn galluogi dysgwyr i fanteisio ar y cwricwlwm cyfan ac mae cyfathrebu effeithiol yn hanfodol o safbwynt datblygiad. Mae dysgu cynnar yn fesur ataliol a gellir cynnig cymorth effeithiol i ddysgwyr, trwy nodi anghenion yn gynnar, er mwyn eu galluogi i wneud cynnydd parhaus.
Dylai gweithgareddau cymorth geisio gwneud y canlynol:
- sicrhau’r cynnydd mwyaf posibl ym maes llythrennedd, gan gynnwys llafaredd
- helpu ymarferwyr i feithrin eu dealltwriaeth a’u sgiliau, gan gynnwys ffyrdd o ymgysylltu â rhieni a gofalwyr a’u cefnogi i helpu eu plant i ddysgu a datblygu
- cefnogi ymgysylltiad rhieni i greu amgylcheddau dysgu cadarnhaol yn y cartref i ddysgwyr 3 i 16 oed er mwyn eu hannog i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu mewn sefyllfaoedd pob dydd
- dros amser, adeiladu capasiti’r system i gefnogi lleferydd, iaith a chyfathrebu er mwyn atal problemau rhag codi, meithrin sgiliau darllen a chyfathrebu dysgwyr, a chefnogi eu gwaith dysgu a’u cynnydd
Dylai cymorth alluogi ymarferwyr i nodi’r rhai y mae angen cymorth arnynt (ni waeth beth fo’u hoedran) a darparu dulliau penodol o ddiwallu’r anghenion a nodwyd. Dylai’r dull adeiladu ar ddulliau cyn ysgol a dulliau profedig eraill sydd eisoes ar gael i’r system.
Gwahoddir cynigion sy’n:
- helpu ysgolion i gefnogi teuluoedd deall pwysigrwydd datblygu sgiliau cyfathrebu ac iaith cynnar a sefydlu arferion sy’n parhau drwy gydol plentyndod
- cyd-fynd â rhaglenni ymgysylltu â theuluoedd ehangach ac yn adeiladu arnynt, a dylai gynnwys teuluoedd nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg gartref
- helpu teuluoedd i ddeall y gall gweithgareddau fel darllen ar y cyd ysgogi sgwrsio, chwarae a rhyngweithio, a gall rhannu rhigymau a storïau gefnogi datblygiad gwybyddol
- helpu teuluoedd i gydnabod nad yw sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu yn datblygu ar wahân a’u bod yn ategu ac yn gwella ei gilydd wrth i blant ddatblygu
Gwella deilliannau darllen
Gellir gwella deilliannau darllen drwy roi mwy o gymorth i ymarferwyr mewn ysgolion ddarparu cymorth llythrennedd, iaith a darllen penodol i ddysgwyr. Dylai cymorth helpu ymarferwyr i feithrin dealltwriaeth well o sylfeini llythrennedd a sut y gellir defnyddio dulliau addysgegol profedig ar gyfer dosbarthiadau cyfan, grwpiau llai a dysgwyr unigol.
Dylid sicrhau mynediad ar raddfa briodol ledled Cymru a dylid cynnwys cymorth i uwchsgilio ymarferwyr. Bydd hyn yn galluogi ysgolion i gynllunio’n rhagweithiol i gefnogi’r dysgwyr hynny sydd â’r sgiliau darllen a llythrennedd isaf.
Byddai gennym ddiddordeb mewn cynigion sy’n cynnwys cymorth ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio i helpu:
- dysgwyr â’r camau darllen cynnar
- dysgwyr â’u darllen wrth iddynt bontio o ysgol gynradd i ysgol uwchradd
- dysgwyr hŷn â’r camau darllen cynharaf
- dysgwyr i ddatblygu sgiliau darllen a llafaredd uwch
Cefnogi a hyrwyddo cariad at ddarllen
Mae cefnogi a hyrwyddo cariad at ddarllen yn helpu i ddatblygu sgiliau darllen, llythrennedd ac iaith da.
Byddem yn croesawu cynigion sy’n helpu ysgolion a lleoliadau i annog, cefnogi a galluogi rhieni a gofalwyr i chwarae rôl fwy gweithgar a phriodol o safbwynt datblygiadol yn nysgu eu plentyn a datblygu amgylchedd dysgu cadarnhaol yn y cartref.
Byddai gennym ddiddordeb hefyd mewn cynigion sy’n cefnogi gweithgarwch ehangach i hyrwyddo cariad at ddarllen a datblygu sgiliau llythrennedd plant a phobl ifanc yn yr ysgol neu’r tu allan i’r ysgol.
Gallai cynigion gynnwys:
- gweithio gyda llyfrgelloedd i hyrwyddo a chymell yr arfer o ddysgu er pleser
- creu cyfleoedd i awduron ymgysylltu ag ysgolion a/neu lyfrgelloedd a siarad â dysgwyr am ddarllen ac ysgrifennu
Ieithoedd rhyngwladol
Mae datblygu ieithoedd rhyngwladol yn cefnogi datblygiad llythrennedd yn ehangach wrth i ddysgwyr ddatblygu a chymhwyso eu sgiliau cyfathrebu drwy gyfrwng ieithoedd gwahanol.
Fel y nodir yn ein cynllun Dyfodol Byd-eang, mae angen cymorth parhaus ar gyfer y ddarpariaeth ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion. Mae hyn yn arbennig o wir mewn ysgolion cynradd lle mae hyder ymarferwyr a gwaith cynllunio cyfannol ar gyfer ieithoedd yn parhau i ddatblygu. Dylai’r cymorth hwn helpu athrawon cynradd i gael cymorth datblygu proffesiynol er mwyn dysgu sut i addysgu ieithoedd rhyngwladol, yn enwedig Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Mandarin.
Bydd angen i gynigion am gymorth hefyd gydnabod yr angen am ymyriadau ystyrlon mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, gan gynnwys sut y gellir helpu ymarferwyr i wella cynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr mewn ieithoedd rhyngwladol.
Blaenoriaeth: mathemateg a rhifedd
Dealltwriaeth gyffredin o gynnydd
Mae angen dealltwriaeth gyffredin o gynnydd mewn mathemateg ar ysgolion, gan ganolbwyntio ar gysyniadau a datblygu’r 5 hyfedredd mathemategol.
Mae angen cymorth i wella cynnydd dysgwyr wrth ddatblygu sgiliau mathemateg yn ystod y cyfnod pontio rhwng yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd. Mae angen cymorth o’r fath er mwyn sicrhau bod y dysgu yn:
- parhau i fod yn ddifyr
- parhau i herio
- datblygu dealltwriaeth dysgwyr yn briodol
- rhoi cyfle i ddysgwyr gymhwyso gwybodaeth a sgiliau mewn cyd-destunau newydd a chyfarwydd
Dylai cymorth alluogi ysgolion uwchradd a’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo (ysgolion clwstwr) i asesu cynnydd dysgwyr mewn mathemateg yn well ar ddiwedd ysgol gynradd a chefnogi dealltwriaeth well o sut i adeiladu ar y sylfaen hon yn yr ysgol uwchradd.
Gallai hyn gynnwys deunyddiau fel cyfres o adnoddau diagnostig i helpu ysgolion cynradd ac uwchradd i ddatblygu dealltwriaeth ac iaith gyffredin ar gyfer cynnydd mewn mathemateg. Gallai hefyd gynnwys cymorth i ysgolion uwchradd gynllunio gwaith dysgu sy’n osgoi ailadrodd cynnwys, yn diwallu anghenion dysgwyr ac yn defnyddio dulliau effeithiol a chyd-destunau difyr.
Cyfranogiad rhieni
Mae cyfranogiad rhienimewn mathemateg yn hanfodol. Mae ymchwil wedi dangos bod pryder dysgwyr ynghylch mathemateg yn aml yn deillio o ddylanwadau yn eu bywyd, fel oedolion pwysig. Os oes gan rieni neu ofalwyr eu pryderon eu hunain ynghylch mathemateg neu os ydynt yn ddihyder, gall hyn effeithio ar agwedd eu plentyn at y pwnc.
Yn ystod 2024 i 2025, mae Rhaglen Gymorth Mathemateg Cymru (RhGMC) yn gwneud gwaith treialu ar raddfa fach gydag ysgolion uwchradd penodol i gynnwys rhieni a gofalwyr yn addysg fathemateg eu plentyn. Dylai hyn helpu i nodi cyfleoedd a heriau er mwyn rhannu arferion effeithiol.
Byddem yn croesawu cynigion sy’n adeiladu ar y dull gweithredu hwn, neu brofion tebyg o ddulliau effeithiol, y gellid eu defnyddio i ddatblygu cymorth pellach. Gallai hyn, er enghraifft, arwain at allbynnau sy’n cynnwys pecyn cymorth i’w ddefnyddio ochr yn ochr â mentrau eraill mewn ysgolion (megis ysgolion bro) er mwyn datblygu ymgysylltiad â rhieni a chymunedau lleol ynghylch dysgu mathemateg a rhifedd.
Byddem hefyd yn croesawu cynigion a fyddai’n sefydlu, yn treialu ac yn gwerthuso dulliau gweithredu gydag ystod o ysgolion cynradd a lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir i ategu gwaith gydag ysgolion uwchradd yn 2024 i 2025. Gallai hyn gynnwys llunio pecyn cymorth ynghylch dulliau effeithiol sy’n ymgysylltu â rhifedd drwy dasgau beunyddiol, neu agweddau eraill ar ddysgu.
Mae angen i gynigion ddangos eu bod yn cyd-fynd â’r 5 hyfedredd mathemategol a chymorth presennol i ysgolion (fel y cymorth a ariennir drwy’r RhGMC neu’r Grant Addysg i Awdurdod Lleol).
Mathemateg lefel uwch
Mae angen cymorth ar gyfer mathemateg lefel uwch ar ymarferwyr a dysgwyr uwchradd yn benodol sy’n ymdrin â’r ddarpariaeth mewn ffordd gydweithredol er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru.
Dylai cynigion ar gyfer mathemateg bellach geisio adeiladu ar y ddarpariaeth a ddarperir drwy’r RhGMC a chryfhau’r ddarpariaeth drwy gynnig:
- dysgu proffesiynol i ymarferwyr
- cymorth ar-lein i ddysgwyr
- datblygu adnoddau addysgu a dysgu dwyieithog
Dylai cynigion nodi sut y bydd y dull yn ymgysylltu â’r cymorth a ddarperir drwy’r Grant Addysg i Awdurdod Lleol drwy drefniadau awdurdodau lleol mewn ardaloedd lleol.
Byddai gennym ddiddordeb hefyd mewn dysgu sut mae treialu dulliau ar raddfa fach i ymgysylltu rhieni a gofalwyr dysgwyr uwchradd yn addysg fathemateg eu plentyn yn ystyried ffyrdd amrywiol o nodi’r cyfleoedd a’r heriau yn y maes hwn.
Blaenoriaeth: gwyddoniaeth a thechnoleg
Gwyddoniaeth a pheirianneg
Mae gwella deilliannau gwyddoniaeth a pheirianneg dysgwyr 3 i 16 oed, ochr yn ochr â’u cynnydd ôl-16 mewn pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg), yn flaenoriaeth amlwg o safbwynt cymorth a ariennir gan grant drwy’r rhaglen hon.
Dylai cymorth geisio gwella capasiti dysgwyr i gymhwyso eu dealltwriaeth o gysyniadau gwyddoniaeth a pheirianneg mewn cyd-destunau gwahanol. Ffordd effeithiol a mwy cynaliadwy o wella’r profiad dysgu ac addysgu mewn gwyddoniaeth a thechnoleg yw mynd i’r afael yn fwy uniongyrchol ag anghenion cymorth ymarferwyr, yn enwedig y rhai nad ydynt yn arbenigwyr.
Dylai cynigion am gymorth sydd yn y pen draw yn ceisio gwella cynnydd dysgwyr ystyried sut i wneud y canlynol:
- mynd i’r afael ag anghenion amrywiol ymarferwyr, yn enwedig anghenion amrywiol y rheini sy’n addysgu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd
- hwyluso cymorth gan gyfoedion mewn ardaloedd lleol, gan gyrraedd cynifer o ymarferwyr â phosibl dros amser
- modelu gwersi a rhoi arweiniad ar addysgeg effeithiol mewn ffordd gynaliadwy a hyblyg o ran graddfa
- llenwi unrhyw fylchau o safbwynt yr adnoddau neu’r deunyddiau dwyieithog sydd ar gael sy’n helpu ymarferwyr i ddod â gwyddoniaeth a pheirianneg yn fyw i ddysgwyr
Dealltwriaeth o gyfrifiadura a sgiliau digidol
Mae angen cymorth i gynyddu hyder a dealltwriaeth ymarferwyr ym maes datblygu cyfrifiadura a sgiliau digidol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Bydd yn helpu i gynllunio a chyflawni dysgu yn well a llunio cysylltiadau dysgu digidol ar draws y cwricwlwm. Mae hyn yn cynnwys deallusrwydd artiffisial, codio a meddwl cyfrifiannol.
Dylai cymorth gydnabod rôl technoleg ym mywydau, dyfodol a darpar yrfaoedd dysgwyr. Dylai helpu i feithrin dealltwriaeth dysgwyr o bwysigrwydd a dylanwad technoleg. Mae angen cymorth ar ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau er mwyn cynyddu cyrhaeddiad a chynnydd mewn pynciau STEM drwy gyd-destunau difyr i gymhwyso dysgu.
Drwy gyflwyno corff cynyddol o ymarferwyr i’r pwnc, rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt a datblygu eu hyder a’u gwybodaeth, dylai cynigion am gymorth wneud y canlynol:
- darparu adnoddau a gweithdai datblygu ar gyfer ymarferwyr i’w helpu i ganolbwyntio ar flaenoriaethau technolegol sy’n dod i’r amlwg, fel deallusrwydd artiffisial a seiberddiogelwch, a datblygu dysgu pwrpasol yn yr ystafell ddosbarth
- hwyluso’r gwaith o ddatblygu a gwella cyfrifiadura a sgiliau digidol drwy feithrin hyder a chymhwysedd ymarferwyr drwy ddarparu cyfres o gyfleoedd dysgu proffesiynol penodol
- datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effaith deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol gan amlygu’r cyfleoedd a’r ystyriaethau o ran ei ddefnyddio ym maes addysg
- modelu gweithdai ymarferol gyda dysgwyr ar ddysgu peirianyddol a sut y gellir defnyddio data i hyfforddi cyfrifiaduron i gwblhau tasgau
- darparu dysgu proffesiynol ac arweiniad i ymarferwyr ar sut i addysgu’r agweddau hyn ar y cwricwlwm yn yr ystafell ddosbarth
- rhoi sylw i ddatblygiad rhaglenni CyberFirst yng Nghymru gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol
Blaenoriaeth: cerddoriaeth
Ni wahoddir cynigion o dan y flaenoriaeth hon ar hyn o bryd.
Mae materion fel mynediad at ddarpariaeth a chost tiwtora ymhlith y rhwystrau allweddol i ddysgwyr sy’n derbyn addysg cerddoriaeth ac yn gwneud cynnydd yn y maes hwnnw. Mae tegwch o ran cymorth cerddoriaeth yn dangos bod angen canolbwyntio ar ddysgwyr mwy difreintiedig ac mae hyn wrth wraidd y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol. Mae cymorth i ysgolion yn cynnwys cymorth penodol am ddim, yn ogystal â phrosiectau wedi’u teilwra, er enghraifft, ar gyfer dysgwyr sydd ag ADY. Mae’r dull yn cefnogi lles emosiynol a meddyliol dysgwyr, sy’n flaenoriaeth drawsgwricwlaidd i’r rhaglen cymorth grant.
Blaenoriaeth: dysgu sylfaen
Ni wahoddir cynigion o dan y flaenoriaeth hon ar hyn o bryd.
Dylai pob plentyn yng Nghymru gael mynediad at addysg feithrin gyfartal o safon uchel, p’un a yw’r addysg honno yn cael ei darparu mewn ysgol neu leoliad.
Mae gwybodaeth a sgiliau arbenigol parhaus yn darparu cymorth, arweiniad a chyngor proffesiynol i ymarferwyr ac arweinwyr mewn lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir. Mae hyn yn golygu y gellir darparu addysg feithrin o ansawdd uchel sy’n ystyried trefniadau perthnasol o ran y cwricwlwm ac asesu ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau mewn ffordd sy’n briodol o safbwynt datblygiadol.
Mae cymorth ac arweiniad parhaus o’r fath yn sicrhau bod gan bob ymarferydd ddealltwriaeth gadarn o addysgeg ac ymarfer sy’n briodol yn ddatblygiadol fel y gellir cyflwyno’r cwricwlwm yn llwyddiannus.
Blaenoriaethau trawsgwricwlaidd
Dylai cynigion ystyried sut y gellir cefnogi’r blaenoriaethau trawsgwricwlaidd isod mewn ffordd bwrpasol a dilys drwy gymorth sydd wedi’i anelu at 1 (neu fwy) o’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer grant uchod.
Dylai pob cynnig geisio mynd i’r afael â chymorth yn erbyn o leiaf 1 o’r blaenoriaethau trawsgwricwlaidd canlynol.
Blaenoriaeth drawsgwricwlaidd: sgiliau cyfannol
Gellir cynnwys cymorth i ymarferwyr mewn cynigion sy’n helpu ysgolion a lleoliadau i ddatblygu’r sgiliau hyn sy’n hanfodol i’r pedwar diben mewn ffordd gyfannol. Y sgiliau cyfannol yw:
- creadigrwydd ac arloesedd
- meddwl yn feirniadol a datrys problemau
- effeithiolrwydd personol
- cynllunio a threfnu
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cynigion sy’n helpu i ddatblygu creadigrwydd ac arloesedd yn y Cwricwlwm i Gymru mewn ffordd ddilys.
Os bydd eich cynnig yn ceisio mynd i’r afael â’r flaenoriaeth drawsgwricwlaidd hon, dylai’r cais nodi sut y bydd yn cyfrannu at y nod llesiant o greu ‘Cymru lewyrchus’.
Blaenoriaeth drawsgwricwlaidd: sgiliau trawsgwricwlaidd
Mae’r sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, yn hanfodol i ddysgwyr er mwyn iddynt ehangu eu gwybodaeth. Maent yn galluogi dysgwyr i fanteisio’n llawn ar gwricwlwm ysgol a’r llu o gyfleoedd a gynigir ganddo, gan sicrhau eu bod yn meithrin y sgiliau gydol oes sydd eu hangen arnynt i gyflawni’r pedwar diben. Gellir trosglwyddo’r sgiliau hyn i fyd gwaith, gan alluogi dysgwyr i addasu a ffynnu yn y byd modern.
Rhaid i ysgolion a lleoliadau ddatblygu eu cwricwlwm er mwyn galluogi dysgwyr i ddatblygu cymhwysedd a gallu yn y sgiliau hyn a, lle bo cyfle, eu hymestyn a’u cymhwyso i bob maes dysgu a phrofiad. Felly, mae datblygu’r sgiliau hyn yn ystyriaeth i bob ymarferydd. Rhaid rhoi cyfle i ddysgwyr wneud y canlynol ar draws y cwricwlwm:
- meithrin sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu
- gallu defnyddio rhifau a datrys problemau mewn sefyllfaoedd go iawn
- defnyddio ystod o dechnolegau’n hyderus er mwyn eu helpu i weithredu a chyfathrebu’n effeithiol a gwneud synnwyr o’r byd
Os bydd eich cynnig yn ceisio mynd i’r afael â’r flaenoriaeth drawsgwricwlaidd hon, dylai’r cais nodi sut y bydd yn cyfrannu at y nod llesiant o greu ‘Cymru lewyrchus’.
Blaenoriaeth drawsgwricwlaidd: iechyd a lles
Mae gwella cymorth i ysgolion a lleoliadau sy’n canolbwyntio ar y ffordd y maent yn ystyried iechyd meddwl a lles dysgwyr ar draws y cwricwlwm yn flaenoriaeth drawsgwricwlaidd i’r rhaglen grant hon.
Dylai trefniadau cymorth hyrwyddo ymwybyddiaeth ysgolion a lleoliadau o’r ddyletswydd o dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 i ystyried iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr wrth gynllunio’r cwricwlwm. Dylai hyn feithrin dealltwriaeth o’r ffaith na ellir disgwyl i ddysgwyr ddechrau dysgu na dysgu’n effeithiol heb wneud hyn.
Mae effaith cydberthnasau iach ar-lein ac all-lein ar ddysgwyr hefyd yn faes lle gall rhaglenni cymorth i ysgolion a lleoliadau geisio mynd i’r afael â materion fel gwrth-fwlio, diogelwch ar-lein, trais yn erbyn menywod, trais domestig a thrais rhywiol.
Os bydd eich cynnig yn ceisio mynd i’r afael â’r flaenoriaeth drawsgwricwlaidd hon, dylai’r cais nodi sut y bydd yn cyfrannu at y nod llesiant o greu ‘Cymru iachach’.
Blaenoriaeth drawsgwricwlaidd: amrywiaeth
Mae amrywiaeth yn golygu adnabod a dathlu natur amrywiol grwpiau cymdeithasol a chymunedau a darparu cwricwlwm mewn ysgolion a lleoliadau sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth honno ac yn ymateb i brofiadau’r grwpiau a’r cymunedau hynny.
Dylai cymorth i ddiwallu anghenion ein dysgwyr mwyaf difreintiedig fod yn ystyriaeth allweddol i bob cynnig o dan y rhaglen grant hon. Dylech hefyd ystyried cefnogi ymdrechion ysgolion a lleoliadau i sicrhau y gall pawb fanteisio ar brofiadau a chyfleoedd dysgu a allai wella cynnydd dysgwyr a’u mynediad at gyfleoedd neu ddewisiadau gyrfa (er enghraifft, merched mewn pynciau STEM). Efallai y bydd cynnal ymgysylltiad dysgwyr â’u haddysg o oedran cynnar drwy gydol y continwwm dysgu yn ffactor hefyd. Ynghyd â gwrthsefyll stereoteipio ar sail rhywedd a hyrwyddo dulliau sy’n helpu ysgolion, bydd hyn yn sicrhau tegwch cymdeithasol.
Os bydd eich cynnig yn ceisio mynd i’r afael â’r flaenoriaeth drawsgwricwlaidd hon, dylai’r cais nodi sut y bydd yn cyfrannu at y nod llesiant o greu ‘Cymru sy’n fwy cyfartal’.
Blaenoriaeth drawsgwricwlaidd: cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
Mae’r cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn rhoi persbectifau allweddol i ddysgwyr ac maent yn arbennig o bwysig o safbwynt eu helpu i gyflawni’r pedwar diben. Maent yn helpu dysgwyr i wneud synnwyr o’r sgiliau a’r wybodaeth y maent yn eu meithrin drwy lunio cysylltiadau â’r ardal o’u cwmpas, profiadau a digwyddiadau a allai fod yn fwy cyfarwydd iddynt. Maent hefyd yn cyflwyno dysgwyr i gyd-destunau llai cyfarwydd, gan ehangu eu gorwelion a’u hannog i ymgysylltu â phersbectifau gwahanol a gwerthfawrogi heriau a materion ehangach.
Os bydd eich cynnig yn ceisio mynd i’r afael â’r flaenoriaeth traswgwricwlaidd hon, dylai’r cais nodi sut y bydd yn cyfrannu at y nod llesiant o greu ‘Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang’.
Y Gymraeg
Yn ôl y gyfraith, mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Mae Safonau’r Gymraeg yn gosod dyletswydd statudol ar Lywodraeth Cymru i ystyried cyfleoedd i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg pan fyddwn yn rhoi cyllid grant. Mae’r Safonau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol inni ystyried yr effaith y byddai ein cyllid yn ei chael ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Nodir ein huchelgeisiau ar gyfer y Gymraeg yn Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr. Dylai cynigion gynnwys cymorth sydd:
- ar gael yn iaith ddewisol yr ysgol (Cymraeg neu Saesneg)
- yn cyflwyno’r holl ddeunyddiau cymorth yn Gymraeg ac yn Saesneg ar yr un pryd
Rydym yn gwahodd ceisiadau a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyfnod y cyllid grant
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer cynigion i ddechrau ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026.
Bydd yr union ddyddiad dechrau yn dibynnu ar ganlyniad y broses arfarnu ceisiadau ond gallai, er enghraifft, ddechrau ar 1 Ebrill 2025 neu 1 Medi 2025 yn dibynnu ar natur y gweithgarwch arfaethedig.
Mae gennym ddiddordeb mewn cynigion sy’n para i ddechrau rhwng 1 a 3 blwyddyn ariannol.
Meincnodi
Bydd rhaglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru yn defnyddio dull meincnodi i asesu yn erbyn amcanion polisi a pherfformiad wrth ystyried ymestyn grant y tu hwnt i’r cyfnod dyfarnu cychwynnol.
Bydd y broses feincnodi yn ystyried ystod eang o ffactorau a bydd y rhain yn gymesur â lefel y cyllid grant a ddyfernir. Gall y ffactorau hyn gynnwys y canlynol, er enghraifft:
- faint o gyllid sydd ar gael a blaenoriaethau’r Llywodraeth ar yr adeg honno
- perfformiad y grant yn erbyn targedau a chanlyniadau cytûn a nodir wrth ddyfarnu’r grant
- ansawdd ac effaith y ddarpariaeth
- i ba raddau y mae’r ddarpariaeth yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau ar gyfer cymorth a nodwyd ar gyfer y rhaglen
- canlyniad gwerthusiadau annibynnol o effaith rhaglenni
- adborth gan ysgolion, lleoliadau, dysgwyr, rhieni a gofalwyr fel y bo’n briodol
- i ba raddau y mae’r ddarpariaeth yn cyd-fynd ag ethos ac egwyddorion y cwricwlwm
Felly, i gefnogi dull meincnodi maes o law, fel rhan o’ch cais a’ch gwaith blaengynllunio, dylech wneud y canlynol:
- dangos ymrwymiad i feithrin capasiti a chydweithio
- dangos sut rydych yn ffurfio cysylltiadau o fewn ac ar draws y sector addysg er mwyn parhau i gynnig gwerth am arian a chael effaith
- dangos sut y gallai gweithgareddau a ariennir, gyda chymorth rheolwyr grant Llywodraeth Cymru, weithio i fod yn hunangynhaliol fel nad ydynt yn dibynnu gormod ar gyllid gan Lywodraeth Cymru
- darparu strategaethau ymadael ar gyfer y cyllid cychwynnol sy’n cael ei ystyried
Ni fydd grant pob sefydliad sy’n llwyddo i ennill grant o dan y rhaglen hon yn cael ei ymestyn drwy ddefnyddio dull meincnodi.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus ond na ddyfernir mwy o gyllid ichi ar ôl cyfnod cychwynnol y cynnig grant ar ôl cynnal ymarfer meincnodi, ni fydd hyn yn effeithio ar eich enw da nac yn eich atal rhag gwneud cais am arian arall gan Lywodraeth Cymru.
Y broses gwneud cais
Argymhellwn eich bod yn dilyn y canllawiau hyn yn ofalus er mwyn sicrhau eich bod yn darparu’r holl wybodaeth ofynnol yn y ffurflen gais.
Mae 3 cham i’r broses gwneud cais o dan raglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru.
- Dylai’r sawl sy’n gwneud cais am grant ddarllen meini prawf, blaenoriaethau a gofynion y rhaglen, fel y’u nodir yn y canllawiau hyn, yn ofalus.
- Dylid cyflwyno ceisiadau cyflawn i cwricwlwmigymru@llyw.cymru erbyn 31 Ionawr 2025 fan hwyraf. Rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno gan ddefnyddio’r ffurflen gais. Anfonir negeseuon e-bost i gadarnhau bod ceisiadau a gyflwynwyd yn gywir wedi dod i law.
- Ar ôl i gyfnod gwneud cais dod i ben, bydd arfarniad eich cais llawn yn dechrau. Caiff pob ymgeisydd ei hysbysu am ganlyniad yr arfarniad.
Arfarnu cais
Caiff y cais llawn ei arfarnu yn unol â chanllawiau’r rhaglen a rheolau cymhwysedd. Caiff yr arfarniadau eu cynnal gan swyddogion polisi cwricwlwm Llywodraeth Cymru, gyda chyngor gan banel o gydweithwyr llywodraethu corfforaethol ac ymarferwyr addysgu.
Caiff yr wybodaeth a ddarperir yn y cais ei hasesu ac yn derbyn gradd yn erbyn y meini prawf canlynol.
- Uchel: mae’r ymgeisydd wedi darparu ymatebion cadarn a manwl mewn perthynas â’r holl ofynion tystiolaeth, gyda chynigion sy’n canolbwyntio’n gryf ar gyflawni blaenoriaethau cymorth.
- Canolig: mae’r ymgeisydd wedi darparu ymatebion boddhaol a manwl mewn perthynas â’r rhan fwyaf o’r gofynion tystiolaeth, gyda chynigion sy’n canolbwyntio’n ddigonol ar flaenoriaethau cymorth.
- Isel: mae’r ymgeisydd wedi darparu ymatebion anghyflawn neu annigonol o bosibl mewn perthynas ag 1 neu fwy o’r gofynion tystiolaeth, gyda chynigion nad ydynt yn canolbwyntio digon ar flaenoriaethau cymorth.
Y trothwy ansawdd i ddyfarnu grant yw gradd ‘Ganolig’ ym mhob categori.
Mae penderfyniadau i ddyfarnu grant hefyd yn dibynnu ar y gyllideb, felly mae’n bosibl y bydd angen graddio cynigion sydd o fewn yr un meini prawf graddio.
Er mwyn gwneud argymhelliad gwybodus ynghylch a ddylid dyfarnu grant i bob cynnig, ac ar ba lefel, bydd y meini prawf arfarnu yn cynnwys:
- cymhwysedd a chydymffurfiaeth â meini prawf y rhaglen a nodir yn y canllawiau hyn
- nodau ac amcanion y cynnig, ac i ba raddau y maent yn cyd-fynd ag ethos ac egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru
- tystiolaeth o’r angen am y gweithgareddau a nodir yn y cynnig a’r effaith y mae’n bwriadu ei chael o safbwynt amcanion a blaenoriaethau’r rhaglen, gan gynnwys mesurau perfformiad, targedau a chanlyniadau clir a realistig
- gweithredu’r cynnig, gan gynnwys trefniadau rheoli a sut rydych yn bwriadu gweithio gydag ysgolion, lleoliadau a/neu randdeiliaid cyflwyno allweddol eraill
- yr agweddau technegol ar y cynnig, gan gynnwys tystiolaeth o’r arbenigedd a’r capasiti sydd eu hangen i ddarparu’r cynnig
- tystiolaeth o werth ychwanegol y cynnig, y tu hwnt i’r cymorth a gaiff ei ddarparu drwy gyllid arall gan y Llywodraeth ar gyfer addysg yng Nghymru
- asesiad o’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r cynnig o safbwynt hyfywedd ariannol, diogelu a stiwardiaeth arian cyhoeddus
- asesiadau o werth am arian ac ansawdd
- cyfraniad at ein nodau o safbwynt datblygu cynaliadwy, y Gymraeg a llesiant cenedlaethau’r dyfodol
Cynhelir gwiriadau diwydrwydd dyladwy (lle bo angen) a gwiriadau cymhwysedd llawn mewn perthynas â’r cais cyn y gwneir unrhyw benderfyniadau terfynol i gynnig grant neu wrthod cais.
Rydym yn annog ac yn croesawu cynigion a all sicrhau arian cyfatebol gan ffynonellau y tu allan i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, ni chaiff hynny ei ystyried wrth arfarnu cymhwysedd cais o dan y rhaglen hon. Lle bo cynnig yn cynnwys arian cyfatebol (naill ai arian parod neu nwyddau), disgwylir i’r cais am grant gynnwys gwybodaeth am yr arian cyfatebol hwnnw. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am natur, swm a ffynhonnell yr arian cyfatebol.
Canlyniad yr arfarniad a chynnig grant
Ni ellir gwarantu y caiff cynnig ei gymeradwyo i gael grant. Ein nod yw arfarnu’r cais o fewn 90 diwrnod i’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
Mae 3 chanlyniad posibl i’r broses arfarnu ceisiadau.
- Ni chaiff eich cynnig ei gymeradwyo. Byddwch yn derbyn e-bost yn nodi’r rhesymau dros hyn. Gallwch wneud cais eto os bydd cyfnod gwneud cais arall yn agor yn y dyfodol.
- Ni chaiff eich cynnig ei gymeradwyo am fod yn rhaid blaenoriaethu’r cyllid sydd ar gael ond caiff ei gadw ar restr aros rhag ofn y bydd adnoddau ychwanegol ar gael dros y flwyddyn nesaf. Byddwch yn derbyn e-bost yn eich hysbysu am hyn ac mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi eto i brofi hyfywedd eich darpariaeth os bydd adnoddau ychwanegol ar gael.
- Mae eich cynnig yn gymwys a chaiff ei gymeradwyo. Caiff cynnig grant ei anfon atoch drwy e-bost yn amlinellu telerau ac amodau’r grant. Bydd angen ichi dderbyn neu wrthod y cynnig grant o fewn 30 diwrnod. Os na fyddwch yn gwneud hynny, caiff y cynnig ei dynnu’n ôl. Dim ond cynnig grant y cytunwyd arno sy’n rhoi awdurdod ichi ddechrau gweithio.
Caiff manylion llawn am dderbyn cynnig grant, pryd y gellir dechrau gweithgarwch a hawlio arian amdano eu nodi yn y cynnig grant.
Bydd swyddogion cwricwlwm Llywodraeth Cymru hefyd yn ceisio trefnu cyfarfod â chi i ddechrau trefniadau rheoli grant parhaus.
Amodau’r grant
Caiff y grant ei ddyfarnu ar sail datganiadau a wnaed gennych chi neu’ch cynrychiolwyr ar y ffurflen gais ac, yn dilyn hynny, y ffurflen hawlio ac unrhyw ohebiaeth gysylltiedig. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.
Rhaid ichi ddarllen a deall rheolau perthnasol y rhaglen a’r canllawiau.
Ni ddylech ddechrau unrhyw waith ar y prosiect heb gael awdurdod ysgrifenedig i wneud hynny yn gyntaf gan Lywodraeth Cymru drwy gynnig grant sydd wedi cael ei dderbyn yn ffurfiol gennych.
Ni ellir gwneud unrhyw newidiadau i’r prosiect heb gymeradwyaeth ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru.
Efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddiweddaru rheolau ac amodau i gyd-fynd â newidiadau i ofynion deddfwriaethol y DU.
Rhaid ichi fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a gyflwynir a chyfraith y DU.
Rydych yn cytuno i gadw at unrhyw newidiadau a wneir yn dilyn hysbysiad gan Weinidogion Cymru.
Rydych wedi cynnwys manylion sy’n wir, yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf eich gwybodaeth a’ch cred yn y ceisiadau ac unrhyw ddogfennau ategol.
Rydych yn cydnabod na fydd Llywodraeth Cymru nac unrhyw gynghorydd a benodir gan Lywodraeth Cymru yn gyfrifol am unrhyw gyngor a roddir, gan gynnwys yn ddigyfyngiad unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â’r ceisiadau, ac mai chi sy’n llwyr gyfrifol am yr holl benderfyniadau busnes a wneir.
Mae’n ofynnol ichi gydymffurfio â’r rheolau ynghylch costau cymwys a nodir yng nghanllawiau’r rhaglen.
Dylid cwblhau prosiectau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni â Llywodraeth Cymru. Ni ddylech wyro oddi wrth yr amserlen hon heb gael cytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.
Ni ellir gwaredu, trosglwyddo na gwerthu unrhyw gyfarpar a brynir gan ddefnyddio’r cymorth grant yn ystod y prosiect nac am 5 mlynedd o ddyddiad gorffen y dyfarniad heb gael cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru. Rhaid ad-dalu’r grant a ddyfarnwyd yn llawn.
Dim ond am daliadau sydd wedi clirio o gyfrif banc y gellir talu grant. Ni fyddwn yn cymeradwyo hawliadau am weithgarwch cyn gwariant.
Rhaid ichi gadarnhau nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw arian cyhoeddus arall. Os canfyddir eich bod wedi cael arian cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall eich hawliad gael ei wrthod, gall taliadau gael eu hadennill, a gall cosbau gael eu rhoi.
Rhaid ichi ymrwymo i fodloni unrhyw rwymedigaethau statudol fel iechyd a diogelwch, cyflogaeth, hylendid, rheolaeth amgylcheddol a diogelu’r amgylchedd, iechyd a lles anifeiliaid neu gnydau sy’n gymwys yn ystod cyfnod y prosiect hwn.
Rhaid ichi sicrhau bod unrhyw staff sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â dysgwyr yn cael unrhyw wiriadau gofynnol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a bod pob ysgol a lleoliad cysylltiedig yn cael eu hysbysu ymlaen llaw am statws eich staff yn hyn o beth.
Rhaid ichi roi hawl mynediad ac arolygu i gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru neu’u cynrychiolwyr. Ar gais, rhaid ichi roi gwybodaeth iddynt a/neu fynediad at ddogfennau gwreiddiol sy’n ymwneud â’r prosiect.
Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac unrhyw ddogfennau ategol yn ddarostyngedig i ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
Dylech wybod, os byddwch yn llwyddiannus, y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich busnes, cwmni neu sefydliad, swm y grant a ddyfarnwyd ichi a chrynodeb o’ch prosiect. Rydym hefyd yn cadw’r hawl i gyhoeddi adroddiadau gwerthuso ar effeithiolrwydd y gweithgarwch a ariennir drwy’r grant.
Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais yn ddarostyngedig i’r Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru. Mae’r hysbysiad preifatrwydd yn egluro sut y bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu ac yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Taliadau
Rhaid cyflwyno pob hawliad am daliad gan ddefnyddio ffurflen hawlio’r rhaglen a’i hanfon i flwch post cwricwlwmigymru@llyw.cymru.
Caiff templed o’r ffurflen hawlio ei anfon atoch os byddwch yn cael cynnig grant ac yn ei dderbyn. Bydd angen i ffurflen hawlio gynnwys gwybodaeth fonitro am weithgarwch yn ystod y cyfnod hwnnw, fel y cytunwyd â rheolwr grant Llywodraeth Cymru.
Rhaid cyflwyno hawliadau bob chwarter a bydd yn rhaid iddynt gael eu dilysu. Ni chaiff hawliadau eu talu oni bai bod Llywodraeth Cymru yn fodlon bod yr arian perthnasol wedi cael ei wario a bod y gwaith wedi cael ei gwblhau yn unol â’r cynnig grant. Caiff taliadau eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.
Nid ystyrir bod hawliad yn ddilys oni bai ei fod wedi cael ei gyflwyno drwy flwch post cwricwlwmigymru@llyw.cymru gyda’r holl ddogfennau ategol.
Trefniadau rheoli grant
Mae’n ofynnol bod pob grant a ddyfernir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei fonitro a bod effaith y grant yn cael ei gwerthuso.
Monitro
Dylai eich cais nodi sut y caiff gweithgarwch a ariennir gan y grant ei fonitro.
Bydd angen sefydlu mesurau perfformiad clir yn ystod camau cynllunio eich cais er mwyn sicrhau y gellir mesur effaith y cyllid.
Drwy nodi canlyniadau disgwyliedig, allbynnau a dangosyddion perfformiad yn eich cais, gallwch sicrhau bod nodau ac amcanion y cynllun yn gyraeddadwy a’u bod yn canolbwyntio ar gael effaith wirioneddol.
Os dyfernir grant ichi, bydd yn ofynnol ichi gwblhau adroddiadau monitro fel rhan o’ch proses hawlio chwarterol. Dylid gwneud hyn gan ddefnyddio’r ffurflen a ddarperir a bydd yn cysylltu â’r targedau a nodir yn y cynnig grant.
Rhaid ichi roi mynediad i swyddogion o Lywodraeth Cymru, neu’u cynrychiolwyr, at wybodaeth am ddarparu gweithgarwch a ariennir gan y grant.
Gwerthuso
Mae gan raglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru contractwr o Lywodraeth Cymru sy’n cynnal gwerthusiad annibynnol, systemig a hydredol o effaith pob grant a ddyfernir drwy’r rhaglen. Bob blwyddyn, bydd y contractwr yn canolbwyntio ar grantiau penodol i’w dadansoddi a llunio adroddiadau cyhoeddus arnynt. Bydd angen i’r contractwr gwerthuso gael data monitro a gwybodaeth arall am weithgarwch a ariennir gan y grant er mwyn dadansoddi effaith.
Caiff amserlen y rhaglen werthuso ei thrafod ag ymgeiswyr llwyddiannus fel rhan o drefniadau rheoli grant.
Cadw cofnodion
Rhaid ichi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth am y cais a hawliadau mewn perthynas â’r grant hwn, gan gynnwys pob anfoneb wreiddiol ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig eraill, am o leiaf 5 mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau’r prosiect.
Y weithdrefn apelio a chwyno
Ni ellir gwneud apêl mewn perthynas â cheisiadau aflwyddiannus o dan raglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru. Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru yn derfynol.
Caiff cwynion eu trin o dan weithdrefn gwyno Llywodraeth Cymru.
Gellir cael rhagor o gyngor ar sut i wneud cais gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:
Llywodraeth Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn: 03000 251378
e-bost: cwynion@llyw.cymru
Gwefan: llyw.cymru/cwyn-am-lywodraeth-cymru
Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
Ffôn: 0300 790 0203
Gwefan: www.ombwdsmon.cymru
Hysbysiad preifatrwydd
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth eang o gynlluniau grant i helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach a mwy llewyrchus.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd ar gyfer grantiau Llywodraeth Cymru yn nodi sut y byddwn yn trin unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant neu gais am arian grant.
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant neu gyllid. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o’n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) a bydd yn ein helpu i asesu eich cymwysedd i gael cyllid.
Cyn i ni ddarparu cyllid grant i chi, rydym yn cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych chi. Mae’r gwiriadau hyn yn gofyn inni brosesu data personol amdanoch chi i asiantaethau atal twyll trydydd parti.
Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o dwyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod darparu’r cyllid grant yr ydych wedi gwneud cais amdano, neu gallwn roi’r gorau i ddarparu cyllid grant presennol i chi.
Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu wyngalchu arian ac, yn sgil hyn, gall eraill wrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi.
Er mwyn asesu cymhwysedd, mae’n bosibl hefyd y bydd angen inni rannu gwybodaeth bersonol mewn perthynas â’ch cais ag awdurdodau rheoleiddio, fel Cyllid a Thollau EF, awdurdodau lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a’r heddlu.
Gallwn rannu eich gwybodaeth â sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, gwasanaethau trosglwyddo gwybodaeth a chyngor a chymorth ar arloesi ar ran Llywodraeth Cymru er mwyn targedu cymorth yn gywir.
Gallwn rannu eich gwybodaeth hefyd â sefydliadau sydd wedi cael eu contractio gan Lywodraeth Cymru i werthuso gweithgarwch a ariennir drwy unrhyw grantiau a ddyfernir o dan y rhaglen hon.
Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o’r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o’r fath, gall fod yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, er mwyn cyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y symiau a ddyfernir o dan y rhaglen grant hon ar ei gwefan. Caiff y data eu diweddaru bob blwyddyn.
Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol sydd wedi’i chynnwys mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, caiff eich data personol eu cadw am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag pob amod sy’n ymwneud â’r grant a ddyfarnwyd a phan fydd pob taliad wedi cael ei wneud. Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, caiff eich manylion eu cadw am 1 flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gael mynediad at y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu dal amdanoch
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- i wrthwynebu prosesu data neu gyfyngu ar brosesu data (o dan amgylchiadau penodol)
- i ofyn i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac at ba ddiben, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Mae manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:
2il Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Ffôn: 0330 414 6421
Gwefan: ico.org.uk (Saesneg yn unig)
Cysylltiadau
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch rhaglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru, anfonwch nhw drwy e-bost i flwch post cwricwlwmigymru@llyw.cymru neu drwy’r post at:
Cangen Cyflawni Polisi
Is-adran Cwricwlwm ac Asesu
Y Gyfarwyddiaeth Addysg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ