Cyhoeddodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, fod mwy na 2,000 o swyddi ledled Cymru eisoes wedi’u creu diolch i Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru dan nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r UE, ei lansio yn 2015 i roi cymorth i fusnesau sydd am dyfu ac ehangu.
Mae’n cynnig pecyn cymorth pwrpasol i helpu busnesau i dyfu yn gyflymach ac i ddod yn gryfach a mwy cydnerth
Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu i greu 2,308 o swyddi. Mae hefyd wedi helpu i ddenu buddsoddiad o £70.1 miliwn gan y sector, a chreu allforion gwerth £33.1 miliwn.
Ar hyn o bryd, mae’r Rhaglen yn rhoi cymorth i dros 400 o gwmnïau ledled Cymru mewn amrywiaeth o sectorau.
Dyweodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
“Mae’n Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’n heconomi a dw i wrth fy modd ei bod wedi llwyddo i greu dros 2,000 o swyddi newydd mewn busnesau bach a chanolig ac mewn busnesau newydd ar draws Cymru.
“Y cwmnïau hyn yw asgwrn cefn economi Cymru a dw i’n falch iawn bod ein Rhaglen Cyflymu Twf unigryw yn rhoi’r cymorth angenrheidiol i fusnesau yng Nghymru i’w helpu i oresgyn y problemau a’r cyfyngiadau strategol a allai fod wedi eu hatal rhag tyfu.
“Mae 455 o fusnesau eisoes wedi elwa ar y Rhaglen gan greu swyddi, cynyddu trosiant ac allforion, ac effeithio’n gadarnhaol ar gymunedau ledled Cymru. Dw i’n edrych ymlaen at weld y rhaglen yn parhau i lwyddo wrth iddi symud i’w thrydedd flwyddyn a thu hwnt.”