Rhaglen Clwstwr Allforio: arolwg adborth cyfranogwr (crynodeb)
Prosiect ymchwil ar raddfa fach a gasglodd adborth gan fusnesau a gymerodd rhan yn y Rhaglen Clwstwr Allforio, sy’n rhan o Gynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Allforio.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yr arolwg
Yn 2024, fe wnaeth Tîm Allforio Llywodraeth Cymru roi’r dasg i gydweithwyr yn y Tîm Dadansoddi Masnach ymgymryd â phrosiect ymchwil ar raddfa fach i gasglu adborth gan fusnesau sydd wedi cymryd rhan yn y RhaglenClwstwr Allforio (2021 i 2024). Nod yr ymchwil oedd casglu tystiolaeth i asesu a deall yn well effeithiolrwydd ac effeithiau’r cymorth a roddwyd i fusnesau drwy’r Rhaglen.
Datblygwyd arolwg ar-lein i grisialu tystiolaeth feintiol ac ansoddol. Dosbarthwyd yr Arolwg trwy e-bost i 215 o fuddiolwyr busnes y Rhaglen ym mis Mai a mis Mehefin 2024. Cafwyd cyfradd ymateb o 36%. Roedd yr Arolwg a’r dadansoddiad yn canolbwyntio ar fusnesau a fu’n aelodau o’r Rhaglen am saith mis neu ragor (y cyfeirir atynt fel ‘aelodau sefydledig’) gan yr ystyriwyd bod angen yr amser hwn ar fusnesau i ymgysylltu’n ystyrlon (roedd yr ymatebion hyn yn 31% o gyfanswm yr aelodaeth).
Ymgysylltu a boddhad gyda’r rhaglen
Roedd y canlyniadau’n dangos boddhad eang â’r Rhaglen, gan gynnwys canfyddiadau cychwynnol cadarnhaol gan aelodau newydd (yn cymryd rhan am chwe mis neu lai). Dangosodd yr ymatebion foddhad eang â Rheolwyr Clwstwr a’r gwasanaeth a ddarparwyd ganddynt, yn ogystal â’r modd y darparwyd digwyddiadau a chyngor.
Ar draws holl gwestiynau’r arolwg, nododd llai na phum ymatebydd anfodlonrwydd neu faterion/anawsterau gyda’r Rhaglen ac roedd y rhain wedi’u dosbarthu ar draws clystyrau (yn hytrach na’u crynhoi mewn un). Fodd bynnag, rhoddwyd cyfran sylweddol o ymatebion difater i nifer o wahanol ddatganiadau ynghylch boddhad, effaith ac effeithiolrwydd. Mae sylwadau gan rai ymatebwyr yn awgrymu mai esboniadau posibl am hyn oedd: ymgysylltu prin â’r Rhaglen hyd yma ac oedi amser cyn gwireddu buddion wrth i aelodau ddechrau ar strategaethau datblygu allforio tymor hwy.
Unig rwystr llawer o ymatebwyr rhag cyfranogi oedd eu cyfyngiadau adnoddau eu hunain. Mae’n bwysig ystyried hyn wrth ragweld lefelau cyfranogi a chynllunio digwyddiadau yn y dyfodol, yn benodol eu fformat a’r rhybudd a roddir ymlaen llaw. Mae’r dull hybrid o drefnu digwyddiadau/gweithgareddau clwstwr a ddarperir ar hyn o bryd gan rai clystyrau yn fuddiol wrth geisio lleihau’r baich ar fusnesau tra hefyd yn caniatáu cyfleoedd i rwydweithio wyneb yn wyneb, a werthfawrogwyd gan rai aelodau.
Nid oedd pob aelod yn cytuno bod busnesau eraill yn eu clwstwr yn ddefnyddiol i ymgysylltu â nhw. Yn gysylltiedig â hyn, nodwyd ‘perthnasedd digwyddiadau a gweithgareddau’ fel rhwystr rhag ymgysylltu â’r Rhaglen gan ychydig dros ddwy ran o bump o fusnesau. Felly, mae cydbwyso’r penodoldeb a’r gwahaniaethau mewn marchnadoedd, cynhyrchion a statws/profiad allforio busnesau yn her allweddol ac yn her a oedd fel petai’n berthnasol i bob clwstwr.
Dangosodd y canlyniadau lefelau cymharol wahanol o ymgysylltu a boddhad â gwahanol weithgareddau gan aelodau ar draws y pum clwstwr unigol. Mae’r gwahanol ganfyddiadau a ddangoswyd gan ymatebwyr clystyrau gwahanol yn atgyfnerthu’r angen i’r Tîm Allforio ystyried y canlyniadau ar sail clwstwr a’u defnyddio i lywio anghenion a chyfeiriad pob clwstwr yn unigol. Roedd dadansoddiad ar wahân fesul clwstwr y tu hwnt i gwmpas dibenion yr adroddiad hwn. O’i dadansoddi fesul clwstwr, nid oedd y gyfradd ymateb ychwaith yn ddigonol ar gyfer dadansoddiad pellach a gallai fod wedi bod yn ddadlennol.
Canlyniadau'r rhaglen
Bu’r Rhaglen o’r budd mwyaf eang i fusnesau o ran hyder i allforio, gyda hanner yr ymatebwyr yn nodi cynnydd. Dywedodd bron i ddwy ran o bump o’r ymatebwyr fod y Rhaglen wedi eu cefnogi i nodi cyfleoedd newydd yn y farchnad ac i wella eu strategaethau allforio. Yn y cyfamser, soniodd tua un rhan o bump am sgiliau a gallu cynyddol i allforio, yn ogystal â datblygu partneriaethau masnachol newydd oherwydd y Rhaglen. Byddai ymchwil dilynol, ymhellach i’r dyfodol, mewn sefyllfa well i nodi canlyniadau ac effeithiau tymor hwy, pan fydd busnesau wedi cael mwy o amser i sylweddoli manteision y cymorth.
Monitro yn y dyfodol
Wrth symud ymlaen byddai fersiynau o’r Rhaglen yn y dyfodol yn elwa ar weithredu proses casglu tystiolaeth yn fwy systematig. Dylai hyn gyfuno arolygon a dadansoddiad o ddata monitro ag amserlen o gasglu data ansoddol (gan gynnwys ymgynghori â phartneriaid cyflenwi) wrth leihau’r baich ar fusnesau. Dylid gweithredu fframwaith monitro a gwerthuso a gynlluniwyd yn strategol ochr yn ochr ag unrhyw fersiynau o’r Rhaglen yn y dyfodol, a chydgysylltu hyn â rhaglenni Cymorth Allforio ategol.
Y Rhaglen Clwstwr Allforio
Mae’r Rhaglen Clwstwr Allforio (2021 i 2024) yn elfen allweddol o Gynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Allforio Llywodraeth Cymru. Mae’r Rhaglen Clwstwr Allforio (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel ‘y Rhaglen’) yn canolbwyntio ar gefnogi a datblygu cynnydd ym mherfformiad allforio cwmnïau sydd o fewn pum sector allforio blaenoriaeth i Gymru – Ynni Adnewyddadwy ac Ynni Glân, Cynhyrchion Defnyddwyr, Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel, Technoleg Feddygol a Thechnoleg. Mae’r Rhaglen yn darparu cyfuniad o gymorth un-i-lawer ac un-ac-un i aelodau’r clwstwr a ddyluniwyd yn benodol i wella eu galluoedd a’u capasiti allforio yn ogystal â’r cyfle i gydweithio ag aelodau eraill i greu rhwydweithiau, grwpiau arbenigol a chymorth mentora rhwng cymheiriaid.
Cafodd y Rhaglen ei chontractio i dri chyflenwr (partneriaid cyflenwi) o fis Hydref 2021 am dair blynedd gyda’r cynnig i ymestyn hynny am bedwaredd flwyddyn hyd at ddiwedd mis Hydref 2025. Chwaraeodd adborth yr Arolwg ran bwysig yn y penderfyniad cyffredinol i dderbyn yr estyniad i bedwaredd flwyddyn.
Manylion cyswllt
Ymchwilydd: Mair Smith
Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Mair Smith
Ebost: ystadegau.masnach@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 87/2024
ISBN digidol 978-1-83715-005-2