Neidio i'r prif gynnwy

Amcanion polisi

Bydd y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd yn cymryd lle Nyth fel prif ddull Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Bydd yn defnyddio dull a gaiff ei arwain gan alw i gefnogi pob aelwyd ledled Cymru gyda chyngor i helpu i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau biliau tanwydd ac allyriadau carbon. Bydd hefyd yn cynnig mesurau ôl-osod ynni i aelwydydd cymwys er mwyn lleihau costau rhedeg a thrwy hynny leihau eu risg o dlodi tanwydd, gan gyflawni'r arbedion carbon cysylltiedig. 

Mae'r rhaglen newydd yn debyg i raglen gyfredol Nyth, ond mae'n ystyried yr argyfwng hinsawdd yn fwy ac mae wedi'i addasu i ddysgu gwersi a nodwyd gan Bwyllgorau'r Senedd, Swyddfa Archwilio Cymru a grŵp amrywiol o randdeiliaid. Er enghraifft, mae'r meini prawf cymhwysedd yn cael eu hymestyn i gynnwys y rhai sydd ar incymau isel, yn ogystal â buddiannau. Un newid sylweddol arall yw y bydd newid boeleri nwy yn dod yn eithriad yn hytrach na'r dewis diofyn, gyda'r rhaglen yn ffafrio trwsio asedau tanwydd ffosil ac yn symud tuag at wres carbon isel yn lle hynny. Bydd y ffocws ar y gwaethaf yn gyntaf a ffabrig yn gyntaf yn parhau heb ei newid, er mwyn sicrhau bod y rhai sydd dlotaf ac yn y cartrefi o'r ansawdd salaf (yn y sectorau tai rhent preifat a pherchennog preswyl) yn cael cymorth, gan mai nhw yw'r rhai mwyaf tebygol o fod mewn tlodi tanwydd.

Nod y cynllun fydd gwella cartrefi o un band EPC neu i Fand E, p'un bynnag yw'r uchaf (bydd hyn yn galluogi ar gyfer codi cartrefi EPC band G ddau fand yn uwch). O safbwynt polisi, mae hyn yn gyson â dull ‘gwaethaf yn gyntaf’, ac er ei fod yn galluogi gwelliannau dyfnach ar yr eiddo gwaethaf, mae'n golygu bod modd cefnogi mwy o gartrefi band G nad ydynt yn rhai EPC hefyd. 

Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Gwyddom o'r ymchwil sy'n bodoli fod plant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na'r boblogaeth yn gyffredinol. Mae adolygiad o ddeunydd darllen y Ganolfan Ymchwil mewn Plentyndod Cynnar (CREC) yn nodi mai  statws cymdeithasol-economaidd rhieni, yn enwedig yn y DU, yw'r prif ddangosydd o hyd i nodi pa blant fydd yn llewyrchu yn eu bywydau fel oedolion. Maent yn adrodd bod maint anghydraddoldeb mewn plentyndod cynnar yn y DU wedi'i ddogfennu'n dda; mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu bod hanner y bylchau cyrhaeddiad i ddisgyblion eisoes yn bresennol ar ddechrau ei haddysg yn yr ysgol gynradd. Gan ddefnyddio data astudiaeth Carfan y Mileniwm, mae'r ymchwil hon yn dangos bod bylchau mawr yn bodoli yn y DU mewn perthynas â phrofion geirfa rhwng plant 4 a 5 oed o deuluoedd ar incymau canolig a'r rhai o deuluoedd ar yr incymau pumed isaf.

Roedd y data diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar nifer yr aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru yn 2021:

  • Roedd 14% o’r holl aelwydydd (196,000 o aelwydydd) ac aelwydydd sy’n agored i niwed (169,000 o aelwydydd) yn byw mewn tlodi tanwydd.
  • Roedd 3% o’r holl aelwydydd (38,000) yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol ac roedd 11% (153,000) mewn perygl o dlodi tanwydd.
  • Roedd 4% o aelwydydd gyda dau oedolyn a phlant mewn tlodi tanwydd.
  • Roedd aelwydydd dau oedolyn gyda phlant mewn tlodi tanwydd yn cyfrif am 5% ac roedd aelwydydd un rhiant mewn tlodi tanwydd yn 6%

Diffinnir aelwydydd agored i niwed fel rhai gydag unigolyn 60 oed neu'n hŷn, plentyn dibynnol neu blant o dan 16 oed, aelwyd un unigolyn o dan 25 oed a/neu unigolyn sy'n byw gydag afiechyd hirdymor neu sy'n anabl. 

Ers 2021, ac yng ngoleuni'r argyfwng ynni, mae'r amcangyfrifon. yn awgrymu y gallai cyfraddau tlodi tanwydd fod wedi codi mor uchel â 45% (Ebrill 2022).

Ceir cyswllt gyda thystiolaeth gymharol dda rhwng tlodi tanwydd ac iechyd gwael, ac mae'r ymchwil wedi awgrymu (GOV.UK) y gallai canlyniadau iechyd gwael mewn plant, fel asthma neu iselder, arwain at berfformiad gwaeth yn yr ysgol, gan achosi effeithiau dilynol i'w hincwm yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae effeithiau negyddol sylweddol tai oer yn amlwg ar bwysau babanod, cyfraddau derbyn i'r ysbyty, statws datblygiadol, a difrifoldeb ac amlder symptomau asthmatig. Mae tlodi tanwydd a thai oer yn cael effaith negyddol ar iechyd meddwl (Institute of Health Equality) mewn unrhyw grŵp oedran, gellir monitro hyn drwy edrych ar bresenoldeb plant yn yr ysgol.   

Mae cost tai gwael i gyrhaeddiad addysgol pobl ifanc yn eu harddegau yn arwyddocaol iawn gan fod hwn yn gyfnod hollbwysig yn addysg a datblygiad cymdeithasol pobl ifanc yn eu harddegau. Bydd yr effaith yn sylweddol os byddant yn methu â chyflawni eu nodau fel prifysgol neu fasnach. Gall y stigma cymdeithasol yn ymwneud â thai gwael hefyd effeithio ar hyder pobl yn eu harddegau a'u hymdeimlad o lesiant cymdeithasol, a all effeithio arnynt yn nes ymlaen mewn bywyd. Nid dim ond ar yr unigolyn y mae'r materion hyn yn effeithio, ond hefyd ar aelodau'r teulu a'r gymuned sydd yn aml yn cael eu gadael yn gyfrifol am gefnogi iechyd meddwl yr unigolyn yn ei arddegau.

Nod y polisi hwn fydd lleihau tlodi tanwydd ledled Cymru drwy ddarparu cyngor ar effeithlonrwydd ynni i bawb, a chyfeirio cymorth at gartrefi cymwys mewn perthynas â gosod mesurau priodol. O gofio bod aelwydydd â phlant yng Nghymru yn cyfrif am 26.5% o'r holl aelwydydd a bod tai gyda phlant mewn tlodi tanwydd yn cyfrif am lawd 11% o'r boblogaeth dlawd o ran tanwydd, mae'n debygol y bydd y polisi'n esgor ar effaith gadarnhaol i blant a phobl ifanc, yn enwedig plant sy'n profi anghydraddoldeb oherwydd eu statws cymdeithasol ac economaidd. 

O 2009 i 2021, aeth canran yr aelwydydd o leiafrifoedd ethnig mewn tlodi tanwydd i lawr o 39.4% i 19.1%, ac yn yr un cyfnod aeth canran yr aelwydydd gwyn mewn tlodi tanwydd i lawr o 20.3% i 12.6% (Gov.uk) . Mae hyn yn golygu bod plant mewn aelwydydd ethnig leiafrifol yn fwy tebygol o fod mewn aelwydydd mewn tlodi tanwydd ac felly'n debygol o elwa ar y Rhaglen Cartrefi Clyd. 

Fel arall, bydd plant o bob oedran yn debygol o elwa'n gyfartal, fel y bydd y sawl sy'n anabl neu'r sawl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Gall plant Sipsiwn Prydeinig, Sipsiwn Roma a Theithwyr, yn ogystal â phlant sy'n byw, er enghraifft, mewn cartrefi mewn parciau ac mewn llety ansafonol arall fod yn llai tebygol o elwa gan mai i anheddau safonol  y mae'r mesurau sydd ar gael yn gweddu orau (er enghraifft inswleiddio llofftydd a phympiau gwres).  Fodd bynnag, mae pob teulu yn gymwys i gael cyngor. 

Mae Erthygl 12 o CCUHP yn nodi bod gan blant hawl i fynegi eu barn, yn enwedig pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, ac i’w barn gael ei hystyried.

Oherwydd cwmpas y gwaith yn ymwneud ag ôl-osod a thlodi tanwydd, credwn y byddai'n amhriodol ymgysylltu'n uniongyrchol â phlant (16 oed neu'n iau). Darparodd y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant sylwadau drwy ei ymateb i'r ymgynghoriad a dylai plant a phobl ifanc barhau i fanteisio ar y dull gweithredu.

Dadansoddi'r dystiolaeth ac asesu'r effaith

Nod y polisi hwn fydd lleihau tlodi tanwydd ledled Cymru drwy ddarparu cyngor ar effeithlonrwydd ynni i bawb, a chyfeirio cymorth at gartrefi cymwys mewn perthynas â gosod mesurau priodol. 

Mae'r dull yn debygol o gyflawni cysur thermol gwell i blant ledled Cymru, gan arwain at ganlyniadau iechyd ac addysgol gwell. Dylai hefyd arwain at filiau ynni rhatach, gan ryddhau arian yr aelwyd ar gyfer nwyddau a gwasanaethau eraill. Yn olaf, dylai leihau allyriadau carbon a gwella ansawdd aer, gan ddarparu amgylchedd gwell i blant a phobl ifanc dyfu i fyny ynddo. Er na fydd pob plentyn yn gymwys i gael y cynnig cymorth yn llawn, ni chaiff unrhyw effeithiau negyddol o'r rhaglen eu rhagweld. 

Sut y bydd eich cynnig yn gwella neu'n herio hawliau plant, fel y'u nodir gan erthyglau CCUHP a'i Brotocolau Dewisol? 

Erthygl 6 – Mae gan bob plentyn yr hawl i fywyd. Dylai llywodraethau sicrhau bod plant yn goroesi ac yn datblygu mewn ffordd iach.

Yn gwella hawliau plant. Dylai'r llywodraeth sicrhau bod plant yn goroesi ac yn datblygu mewn ffordd iach. Bydd y rhaglen hon yn darparu gwelliannau effeithlonrwydd ynni i deuluoedd ar incwm isel. Bydd y newidiadau hyn yn arwain at amodau byw gwell yn y cartrefi gyda'r nod o ddod â theuluoedd allan o dlodi tanwydd. Bydd hyn yn gwella ansawdd bywyd ar gyfer y plant yn y cartref. 

Erthygl 27 – Mae gan blant hawl i safon byw sy'n ddigon da i ddiwallu eu hanghenion corfforol a meddyliol. Dylai'r Llywodraeth helpu rhieni na allant fforddio darparu hyn

Herio hawliau plant. Bydd y rhaglen hon yn helpu teuluoedd ledled Cymru gyda chyngor a bydd yn darparu gwelliannau effeithlonrwydd ynni i deuluoedd ar incwm isel mewn tai band G, F, E a D EPC. Bydd y newidiadau hyn yn arwain at amodau byw gwell yn y cartrefi, biliau ynni rhatach a llai o allyriadau, y bydd pob un o'r rhain yn gwella ansawdd bywyd i blant yn y cartref. 

Erthygl 34   Dylai’r Llywodraeth gadw plant rhag camdriniaeth rywiol.     

Os oes angen cyflawni'r gwaith ar aelwyd gyda phlant, bydd yn rhaid i'r contractwyr sy'n gwneud y gwaith fynd trwy wiriadau digonol er mwyn diogelu plant. Mae hyn yn annhebygol o gynnwys gwiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan na fydd disgwyl i'r contractwyr fod yn gymwys gan na fyddant yn cyflawni gweithgareddau rheoleiddiedig nac yn gweithredu mewn safle rheoleiddiedig.  

Ystyriwch a oes unrhyw hawliau sydd gan Ddinasyddion yr UE (fel y cyfeirir atynt yn yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb) yn ymwneud â phobl ifanc hyd at 18 oed.

Mae Erthygl 27, sy'n cydnabod “bod gan blant yr hawl i safon bywyd sy’n ddigon da i ddiwallu eu hanghenion datblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol a chymdeithasol” yn berthnasol yma gan y dylai'r rhaglen helpu i sicrhau bod y plant sy'n byw yn y cartrefi o'r ansawdd gwaethaf yn y teuluoedd lleiaf cefnog yn cael cymorth uniongyrchol i wella safon eu bywyd.