Mae prosiect peilot newydd sy'n helpu paratoi pobl ifanc ar gyfer gyrfa a deall eu hawliau gwaith wedi dechrau fel rhan o’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 16 oed, bydd hyd at 35 o ysgolion o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan yn y rhaglen newydd Undebau a Byd Gwaith.
Mae’r cydweithredu rhwng ysgolion â busnesau eisoes yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu am waith a chyflogaeth, gan ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr a chodi dyheadau pob dysgwr wrth ystyried ystod lawn y cyfleoedd sydd ar gael iddynt.
Yn y rhaglen newydd hon, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Chyngres Undebau Llafur Cymru (TUC Cymru) i dynnu sylw at themâu gan gynnwys hawliau gweithwyr a chydraddoldeb, amgylcheddau gwaith iach a rôl undebau.
Ymwelodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg, Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, a Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, ag Ysgol Gyfun Caerllion i weld y prosiect newydd yn dechrau.
Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg:
Mae gwaith yn chwarae rôl enfawr yn ein bywyd fel oedolyn ac rydym am i bobl ifanc wybod nid yn unig yr hyn sy'n ddisgwyliedig ohonyn nhw ond hefyd yr hyn y dylen nhw ei ddisgwyl gan gyflogwyr.
Rydym am baratoi pobl ifanc am eu camau cyntaf i'r gweithle a sicrhau bod ganddynt wybodaeth dda am y gweithle hefyd ochr yn ochr â'r cymwysterau a'r sgiliau cywir.
Bydd y prosiect newydd hwn yn cefnogi'r gwaith o gyflawni llinyn gyrfaoedd a phrofiad cysylltiedig â gwaith y cwricwlwm newydd, sydd wedi ymrwymo i roi sylfaen gadarn i bobl ifanc fel y gallant dyfu i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus a mentrus.
Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol:
Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu datblygu'r prosiect hwn mewn partneriaeth gymdeithasol ag undebau llafur, athrawon ac ysgolion.
Mae dysgu am hawliau gweithwyr, cyfrifoldebau cyflogwyr a rôl undebau llafur yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc wedi paratoi'n dda ar gyfer byd gwaith.
Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio pob sbardun sydd gennym i hyrwyddo a galluogi gwaith teg. Mae sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o weithwyr, cyflogwyr ac entrepreneuriaid yn dysgu am faterion sy'n gwneud gwaith yn well i bawb yn cefnogi ein taith i fod yn genedl waith deg.
Yn dilyn y cynllun peilot mewn ysgolion uwchradd, y gobaith yw y bydd y rhaglen yn cael ei hymestyn i ysgolion cynradd, sefydliadau addysg bellach a lleoliadau ieuenctid cymunedol.
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
Os nad yw gweithwyr ifanc yn deall eu hawliau yn y gweithle, gall eu gwneud yn agored i arferion cyflogaeth gwael a damweiniau yn y gwaith. Rydym am i bobl ifanc gael gyrfaoedd boddhaus, gwerth chweil a diogel. A dyna pam roeddwn yn edrych ymlaen yn fawr at ymweld â sesiwn o'r peilot Undebau a'r Byd Gwaith yn Ysgol Gyfun Caerllion. Roedd creadigrwydd a brwdfrydedd y disgyblion wrth ddatrys problemau gyda’i gilydd yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae'n wych gweld Cymru'n arwain y ffordd wrth sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn barod i symud ymlaen i'r byd gwaith gyda gwell dealltwriaeth o sut i eirioli drostynt eu hunain a sefyll dros eraill.