Grantiau a ddyfarnwyd o dan raglen Ynni Cymru.
Cynnwys
Blwyddyn ariannol: 2024 i 2025
Mae prosiectau System Ynni Lleol Clyfar y rhoddwyd cyllid Ynni Cymru iddynt yn cynnwys:
- Neuadd Bentref Aber-porth (canolbarth Cymru): paneli solar ffotofoltäig, batris storio ynni a seilwaith gwefru cerbydau trydan yn neuadd y pentref.
- Clwb Rygbi Nant Conwy (gogledd Cymru): paneli solar ffotofoltäig, batris storio ynni a seilwaith gwefru cerbydau trydan yn y clwb rygbi lleol.
- Mosg Abertawe a Chanolfan Gymunedol Islamaidd (de Cymru): paneli solar ffotofoltäig, batris storio ynni a phympiau gwres.
- Gwersyll yr Urdd, Llangrannog: paneli solar ffotofoltäig a batris storio ynni.
- Parc Gwyddoniaeth Menai (MSParc): paneli solar ffotofoltäig a phympiau gwres.
- Cyngor Sir Ddinbych: paneli solar ffotofoltäig, batris storio ynni, seilwaith gwefru cerbydau trydan a phwmp gwres mewn depo trafnidiaeth allweddol.
- Cyngor Gwynedd : paneli solar ffotofoltäig a batris storio ynni ar draws safleoedd ysgolion.
- Challoch Energy Ltd: paneli solar ffotofoltäig, batris storio ynni ar draws 45 o gartrefi, gan gynnwys sefydlu Marchnad Ynni Lleol.
- Cyngor Caerdydd: paneli solar ffotofoltäig a batris storio ynni ar draws safleoedd hamdden.
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd: paneli solar ffotofoltäig, batris storio ynni a phympiau gwres.
- Ynni Teg: paneli solar ffotofoltäig a batris storio ynni ar draws adeiladau cymunedol.
- Egni Co-op: paneli solar ffotofoltäig, seilwaith gwefru cerbydau trydan a batris storio ynni ar draws safleoedd ysgolion.
- Ynni Lleu: paneli solar ffotofoltäig a batris storio ynni.
- Newport Playgoers: paneli solar ffotofoltäig, batris storio ynni a goleuadau clyfar yn y theatr.
- Y Felin Ddŵr: paneli solar ffotofoltäig, grid clyfar, seilwaith gwefru cerbydau trydan a phwmp gwres.
- Cyngor Sir Powys: paneli solar ffotofoltäig a batris storio ynni.
- Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: paneli solar a batris storio ynni.
- Caban CIC: paneli solar ffotofoltäig, batris storio ynni a phympiau gwres.
- Made in Tredegar Ltd: paneli solar a batris storio ynni yn y theatr.
- Canolfan Gymunedol a Chlwb Bechgyn a Merched Nant-y-moel: paneli solar ffotofoltäig a phwmp gwres.
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: paneli solar ffotofoltäig, batris storio ynni a seilwaith gwefru cerbydau trydan.
- Cymdeithas Bysgota Prysor: paneli solar ffotofoltäig, batris storio ynni a seilwaith gwefru cerbydau trydan.
- Podiau Blaenplwyf Pods: paneli solar ffotofoltäig, batris storio ynni a seilwaith gwefru cerbydau trydan.
- Little Pencoed Farm: paneli solar ffotofoltäig a batris storio ynni ar gyfer parc busnes.
- Neuadd Gymunedol Tref Cydweli: paneli solar a batris storio ynni.
- Cyngor Sir Ynys Môn: paneli solar ffotofoltäig a batris storio ynni i ategu pwmp gwres presennol.
- Canolfan y Dechnoleg Amgen: paneli solar ffotofoltäig, batris storio ynni a seilwaith gwefru cerbydau trydan.
- Clwb Pêl-droed Treffynnon: paneli solar ffotofoltäig, batris storio ynni, goleuadau clyfar a phwmp gwres.
- Eglwys Gadeiriol Llanelwy: paneli solar a batris storio ynni.
- Winds Wind Development Ltd: paneli solar ffotofoltäig, batris storio ynni a rheolaethau clyfar.
- Haush Pembroke Ltd: paneli solar ffotofoltäig a thechnolegau hydrogen.
- Prifysgol Aberystwyth: paneli solar ffotofoltäig a phwmp gwres.