Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething a'r Aelod Dynodedig, Cefin Campbell wedi cyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £11m dros y tair blynedd nesaf yn Arfor 2.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Rhaglen newydd Arfor 2 wedi'i chynllunio i gryfhau gwydnwch economaidd cadarnleoedd y Gymraeg.
  • Bydd £11m ar gael ar gyfer cymunedau mewn pedair sir sydd â’r lefelau uchaf o siaradwyr Cymraeg.
  • Bydd y cyllid yn cefnogi nifer o ymyriadau strategol, gan gynnwys canolbwyntio ar gyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd, er mwyn eu galluogi i aros yn eu cymunedau lleol neu ddychwelyd iddynt.
  • Bydd y rhaglen yn chwarae rhan allweddol yn strategaeth Llywodraeth Cymru (Cymraeg 2050) sy'n anelu at sicrhau bod 1m o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae Arfor 2 yn rhaglen newydd a fydd yn cael ei darparu gan bartneriaid yn yr awdurdodau lleol a fydd yn helpu i gryfhau gwydnwch economaidd cadarnleoedd y Gymraeg.

Fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru a chan adeiladu ar brofiad a'r gwerthusiad o raglen gynharach Arfor a lansiwyd yn 2019, bydd cyllid Llywodraeth Cymru ar gael i bedwar Awdurdod Lleol, sef Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. 

Prif amcan Arfor 2 yw cefnogi'r cymunedau sy'n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyriadau economaidd a fydd hefyd yn cyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol.

Bydd hefyd yn helpu o ran y canlynol:

  • creu cyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd (o dan 35 oed) aros yn eu cymunedau cynhenid neu ddychwelyd iddynt – gan eu cefnogi i lwyddo'n lleol drwy gymryd rhan mewn menter neu ddatblygu gyrfa.
  • creu cymunedau mentrus mewn ardaloedd Cymraeg – drwy gefnogi mentrau masnachol a chymunedol sy'n ceisio cadw a chynyddu cyfoeth lleol drwy fanteisio ar hunaniaeth a rhinweddau unigryw eu hardaloedd.
  • manteisio i’r eithaf ar weithgarwch drwy gydweithio – er mwyn sicrhau bod arferion da a gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu a bod gwaith monitro yn mynd rhagddo i sicrhau gwelliant parhaus.
  • cryfhau hunaniaeth cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg – drwy gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg a’i hamlygrwydd, gan annog ymdeimlad o le a theyrngarwch lleol.

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn amlinellu bod cytundeb wedi’i wneud gyda phartneriaid yn yr awdurdodau lleol ar raglen o weithgarwch a fydd yn helpu i gefnogi ein cymunedau Cymraeg. Bydd gwaith nawr yn parhau ar fanylion yr ymyriadau arfaethedig.

Bydd rhaglen Arfor 2 hefyd yn ceisio hyrwyddo dysgu a rhannu arferion da ac ehangu ein dealltwriaeth o'r cysylltiadau rhwng yr economi a’r iaith a chanfod yr ymyriadau hynny a all wneud gwahaniaeth. 

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Rwy'n falch ein bod, drwy gydweithio gydag awdurdodau lleol a chyda Phlaid Cymru, wedi dod i gytundeb ar raglen strategol o ymyriadau ar gyfer Arfor 2 sydd â photensial i wneud gwahaniaeth sylweddol yn ein cadarnleoedd Cymraeg, gan ddatblygu ein huchelgeisiau o ledaenu ffyniant economaidd.  Drwy weithio gyda'n partneriaid yn yr Awdurdodau Lleol, rydym am gefnogi cymunedau sy'n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyriadau economaidd a chyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol.”

Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Cefin Campbell:

“Drwy gydweithio rydym yn adeiladu ar lwyddiannau cynllun peilot Arfor sy’n anelu at gefnogi a thyfu’r economi leol a’r Gymraeg gyda’i gilydd. Mae’r buddsoddiad gwerth £11m yn y cynllun hwn yn hwb uniongyrchol i economïau'r gorllewin, a fydd yn hybu entrepreneuriaeth a thwf busnes ymhellach ac yn helpu i warchod y Gymraeg. Rydym am sicrhau bod cymunedau yn yr ardaloedd hyn yn gallu ffynnu a bod pobl yn gallu aros yn eu cymunedau lleol i weithio neu i dyfu busnes.”

Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a’r Aelod Dynodedig y pecyn ariannu newydd ar gyfer Arfor 2 yn ystod ymweliad â Chanolfan S4C, Yr Egin yng Nghaerfyrddin, a gwnaethant gyfarfod ag entrepreneuriaid lleol.  

Un o amcanion sefydlu'r Egin oedd bod yn gatalydd ar gyfer hybu a chryfhau'r Gymraeg a’r economi yn Sir Gaerfyrddin.  Ers agor,  mae'r Egin wedi dod yn gymuned brysur o greadigrwydd lle mae ffocws ar rannu, cydweithio a datblygu busnes.

Cafodd y Gweinidog a'r Aelod Dynodedig flas ar fêl Sir Gaerfyrddin gan gwmni Mêl Gwenyn Gruffydd, busnes o Sir Gaerfyrddin a wnaeth elwa ar gam cyntaf Arfor.

Dywedodd Gruffydd, cyd-sylfaenydd Gwenyn Gruffydd Cyf:

“Mae cael cymorth drwy Gynllun Arfor wedi golygu bod busnes mêl bach fel ein un ni wedi cael cyfle i ffynnu mewn cymuned Gymraeg wledig. Mae wedi caniatáu i fi a fy ngwraig weithio’n llawn amser yn y busnes ac wedi ein galluogi i greu swydd Gymraeg arall o fewn y busnes hefyd. Mae wedi golygu ein bod wedi gallu aros yng nghefn gwlad y Gorllewin, adeiladu busnes, creu swyddi a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg drwy ein gwaith.  Mae bod yn rhan o Arfor wedi ein galluogi fel busnes i gyfrannu at y Gymraeg drwy roi sgyrsiau a chyflwyniadau i grwpiau lleol a'r gymuned hefyd.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Gâr, y Cynghorydd Darren Price:

“Rydym yn falch y bydd busnesau a chymunedau yn Sir Gaerfyrddin yn gallu manteisio ar gymorth o raglen Arfor a fydd yn darparu cyfleoedd economaidd ar draws y sir yn ogystal â chefnogi datblygiad a chynaliadwyedd y Gymraeg.

“Rydym yn edrych ymlaen at glywed gan sefydliadau a busnesau lleol am eu cysyniadau cyffrous i feithrin a chynnal ethos y rhaglen Arfor newydd.”

"Drwy gydweithio gyda phartneriaid Arfor ledled y Gorllewin, mae gennym gyfle i gyflwyno rhaglen o ymyriadau arloesol a fydd yn crisialu'r berthynas rhwng y Gymraeg a'r economi.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi:

“Mae ein busnesau a chymunedau yn wynebu llawer o anawsterau ar hyn o bryd ac mae’n dda gallu cyhoeddi cynllun a chyllid newydd sylweddol fel hyn.”

“Mae Arfor eisoes wedi dangos ei werth yn ystod cymal cyntaf y cynllun. Ar Ynys Môn llwyddwyd i gynorthwyo 55 o fusnesau lleol drwy fuddsoddi tua £400,000. Bu i’r arian yma ddiogelu neu greu 80 o swyddi, a hybu defnydd y Gymraeg ymysg 48 o fusnesau.”

“Rwyf yn croesawu’r cyhoeddiad yma ac yn edrych ymlaen at weld ein heconomi leol yn parhau i elwa o weithredu’r rhaglen bwysig yma.”

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

"Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw ac yn edrych ymlaen yn fawr at gryfhau'r cysylltiadau rydym wedi eu meithrin drwy brosiect ARFOR. Efallai bod ein cymunedau yn ymddangos yn fregus mewn rhai ffyrdd, ond ar yr un pryd maent yn lleoedd bywiog a chyffrous sydd â llawer i'w gynnig. Rwy’n hyderus y bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i gynyddu cyfleoedd ac felly annog ein pobl ifanc i aros ac adeiladu eu bywydau yma, gan ddiogelu ein hiaith, ein diwylliant a’n ffordd o fyw ymhellach.”

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion:

“Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi unwaith eto yng Nghynllun Arfor, er mwyn parhau â’r gwaith o gefnogi twf economaidd, a chefnogi’r Gymraeg yng nghadarnleoedd y Gymraeg yng Nghymru.
 
Mae pobl ifanc ac economi Ceredigion eisoes wedi elwa o gefnogaeth o dan gynllun gwreiddiol Arfor, a mi fydd y buddsoddiad pellach yma’n hwb i’n hymdrechion i wireddu twf economaidd a chyfleoedd i bobl ifanc fanteisio ar y cyfleoedd sy’n bodoli i feithrin gyrfaoedd llwyddiannus yma yng Ngheredigion.”