Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham?

Mae'r Asesiad Effaith Integredig hwn yn rhoi syniad o effaith pum menter polisi ôl-16 sydd ar gamau amrywiol i gefnogi dysgwyr mewn carfanau penodol mewn ffordd gydgysylltiedig ar draws Llywodraeth Cymru. Byddant yn cael eu hariannu gan ail gyfran y Rhaglen Adnewyddu a Diwygio fel ymateb i’r aflonyddwch a achoswyd gan bandemig COVID-19 ar ddysgwyr. Yn ogystal â bod yn bolisïau pontio i gefnogi adferiad o’r pandemig, mae’n rhaid deall y rhain yng nghyd-destun y Warant i Bobl Ifanc a’r potensial iddynt gael eu gwneud yn fwy parhaol y tu hwnt i’r adferiad pandemig uniongyrchol. Mae’r Warant i Bobl Ifanc yn ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi cymorth i bawb dan 25 oed i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, a chymorth i fynd i mewn i waith neu hunangyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau newydd hawdd eu defnyddio i helpu pobl ifanc i ddod o hyd i gyfleoedd yn haws. Bydd y rhaglen yn helpu i sicrhau nad oes ‘cenhedlaeth goll’ yng Nghymru yn dilyn pandemig COVID-19. Mae'n destun Asesiad Effaith Integredig ar wahân.

Bydd yr Asesiad Effaith Integredig hwn yn archwilio’r pum ymyriad canlynol:

  • Barod ar gyfer Prifysgol
  • Cymru Sero Net 
  • Rhwydweithiau cyn-fyfyrwyr
  • Profiad gwaith wedi'i deilwra
  • Seminarau galwedigaethol cyfrwng Cymraeg

Mae pob dysgwr ôl-16 (mewn addysg bellach a chweched dosbarth ysgolion, addysg uwch, a dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion) o fewn y cwmpas, ond mae mentrau unigol fel arfer yn canolbwyntio ar is-garfan benodol o ddysgwyr ôl-16.

Barod ar gyfer Prifysgol

Mae Hwb Barod ar gyfer Prifysgol yn blatfform dwyieithog sy’n darparu cyfres o adnoddau rhad ac am ddim i fyfyrwyr yng Nghymru sy’n chwilfrydig am fynd i’r brifysgol neu’n dechrau ynddi. Mae'r hwb yn cael ei gynnal ar blatfform OpenLearn y Brifysgol Agored ac mae'n cynnwys cannoedd o adnoddau unigryw sydd wedi'u creu a'u casglu gan brifysgolion Cymru. Mae adnoddau'n cynnwys fideos, podlediadau, erthyglau, rhaglenni rhyngweithiol byr a chyrsiau ar-lein a fydd yn rhoi arweiniad i ddysgwyr ôl-16 sy'n ystyried addysg uwch, neu’n symud iddi. Bwriad yr adnoddau yw helpu myfyrwyr y mae’r pandemig wedi amharu ar eu dysgu i baratoi ar gyfer y cyfnod pontio i fywyd prifysgol. Mae'r pynciau'n cynnwys sgiliau astudio, cymorth iechyd a llesiant, a chyflwyniadau i bynciau penodol a meysydd astudio academaidd. Caiff y prosiect ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gydlynu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru ar ran pob un o'r naw prifysgol yng Nghymru.

Modiwl dysgu ar-lein Cymru Sero Net

Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a chynllun lleihau allyriadau Cymru Sero Net, mae rhwymedigaeth i sicrhau bod yr ymateb i’r argyfwng hinsawdd yn treiddio i bopeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Mae modiwl dysgu ar-lein Cymru Sero Net yn fenter i godi ymwybyddiaeth o oblygiadau newid hinsawdd a sut i gyflawni Cymru Sero Net.

Cafodd rywfaint o barhad dysgu yn sgil symud i ddysgu ar-lein yn ystod y pandemig, ond roedd hyn yn amrywiol a bydd mynediad at ddeunydd dysgu digidol o ansawdd uchel sydd wedi’i gynllunio’n dda yn hanfodol i sicrhau parhad dysgu yn y dyfodol. Mae’r gwaith hwn wedi’i dreialu ac wedi’i nodi fel maes gwaith a all ddarparu glasbrint ar gyfer modiwlau sgiliau digidol yn y dyfodol. Mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd yn gryf â thîm adolygu digidol yr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau ac mae'r dysgu a'r profiad o'r cynllun peilot hwn wedi'u rhannu â’r isadran hon a chydweithwyr mewn ysgolion.

Rhwydweithiau cyn-fyfyrwyr

Gan adeiladu ar ymchwil sy’n amlygu manteision ymgysylltu â chyflogwyr mewn ysgolion i fyfyrwyr, sefydlodd Gyrfa Cymru gynllun peilot i brofi dichonoldeb ac effeithiolrwydd ysgolion uwchradd yn sefydlu a chynnal eu cymuned eu hunain o gynfyfyrwyr gyda’r nod o gymell ac ysbrydoli disgyblion, herio stereoteipiau sy’n ymwneud â chefndir, a chodi dyheadau trwy ddefnyddio modelau rôl a fynychodd yr un ysgol. Mae hyn yn rhagdybio y bydd cynfyfyrwyr sydd wedi wynebu rhwystrau tebyg i fyfyrwyr presennol yn fodelau rôl hyd yn oed yn fwy gwerthfawr gan y byddant wedi ymrwymo i gefnogi’r ysgol a bydd eu mewnbwn yn gynaliadwy ac yn rhywbeth y gellir ymdeimlo ag ef.

Mae pecyn cymorth wedi’i ddatblygu i gefnogi ysgolion i sefydlu a chynnal cymuned cynfyfyrwyr. Bydd Gyrfa Cymru yn cefnogi ysgolion i recriwtio cynfyfyrwyr gan ddefnyddio ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol ac i gofnodi myfyrwyr sydd â diddordeb ar gronfa ddata’r Gyfnewidfa Addysg Busnes. Pan fydd cynfyfyrwyr yn ymateb i'r ymgyrchoedd, cânt eu hysbysu mai mynegiant o ddiddordeb yn unig ydyw a bod cyfranogiad yn y cynllun yn ôl disgresiwn pob ysgol unigol (Mae gan lawer o ysgolion rwydweithiau cynfyfyrwyr sydd wedi’u datblygu’n dda eisoes, a bydd y prosiect hwn yn anelu at wella’r gwaith hwnnw, ond cydnabyddir hefyd efallai na fydd rhai ysgolion yn dymuno datblygu cymuned o gynfyfyrwyr). Bydd Gyrfa Cymru hefyd yn gweithio’n ddwysach gyda nifer fach o ysgolion (25 - gan gynnwys o leiaf un ysgol cyfrwng Cymraeg ac un neu ddwy ysgol arbennig) ledled Cymru, gan roi cymorth pwrpasol iddynt sefydlu cymuned cynfyfyrwyr, trefnu digwyddiadau a gweithgareddau, a datblygu adnoddau a fydd yn helpu i hybu perthnasoedd cryf rhwng dysgwyr a chyn-fyfyrwyr.

Profiad gwaith wedi'i deilwra

Un o ddatblygiadau polisi mwyaf arwyddocaol tymor diwethaf y Senedd fu deddfwriaeth a gwaith datblygu i ddiwygio’r cwricwlwm ysgol. Yn y tymor hir, mae cyswllt clir rhwng y cwricwlwm a mynd i'r afael â phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Bydd pedwar diben y cwricwlwm i gyd yn cael effaith hirdymor ar allu pobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant, addysg a gwaith o ansawdd da. Dibenion y cwricwlwm newydd yw fel a ganlyn:

  • a) dysgwyr uchelgeisiol a galluog sydd yn barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  • b) cyfranwyr mentrus a chreadigol sydd yn barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
  • c) dinasyddion egwyddorol a gwybodus sydd yn barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd
  • ch) unigolion iach a hyderus sydd yn barod i fyw bywydau buddiol fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Yn ogystal â’r effaith gadarnhaol hirdymor hon ar ddysgwyr, mae potensial hefyd am fudd penodol o gyflwyno Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith. Bydd yr elfen hon o’r cynnig cwricwlwm newydd, a’r dysgu proffesiynol cysylltiedig ar gyfer staff addysgu, yn rhannau pwysig o sicrhau bod pobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET yn cael profiad gwaith priodol a chyngor ac arweiniad gyrfa cadarn a diduedd yn yr ysgol a thrwy’r cyfnod pontio yn 16 oed i leoliadau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Mae’n bosibl y bydd angen cymorth mwy dwys ar gyfer pobl ifanc sy’n wynebu risg.

Bydd y peilot profiad gwaith wedi’i deilwra, a ddarperir gan Gyrfa Cymru, yn cefnogi dysgwyr sydd wedi cael trafferth wrth ailgysylltu â’u haddysg yn dilyn yr aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig. Ar gyfer 2022 i 2023, bydd y gwasanaeth ar gael i 500 o ddisgyblion ledled Cymru. Cânt eu cefnogi i gymryd rhan mewn rhaglen o waith rheolaidd (tua dau ddiwrnod yr wythnos neu gyfwerth) mewn sector sy'n cyd-fynd â'u diddordebau, eu dyheadau a'u priodoleddau personol wrth ymgymryd â phecyn o astudiaethau TGAU craidd yn yr ysgol.

Seminarau galwedigaethol cyfrwng Cymraeg

Mewn sawl rhan o Gymru, mae’r cyfleoedd i ddysgwyr ddilyn astudiaethau galwedigaethol ôl-16 yn y Gymraeg yn gyfyngedig iawn. Mae hyn oherwydd bod ystod y pynciau galwedigaethol y gall chweched dosbarth ysgolion cyfrwng Cymraeg eu cynnig yn gyfyngedig iawn, ac yn aml, nid oes gan golegau addysg bellach yr arbenigwyr pwnc sy’n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu ystod eang o ddarpariaeth yn ddwyieithog. Nod y fenter seminarau galwedigaethol cyfrwng Cymraeg, a ddarperir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yw darparu ar gyfer dysgwyr Cymraeg eu hiaith sydd, er mwyn dilyn y llwybrau galwedigaethol o’u dewis, wedi symud ymlaen i golegau addysg bellach lle maent yn aml yn rhan o leiafrif bach iawn o siaradwyr iaith gyntaf. Y nod yw gwella eu gallu a’u hyder i weithio yn y Gymraeg wrth ddatblygu eu gwybodaeth bynciol. Dylai hyn wella eu rhagolygon cyflogaeth yn ogystal â’u helpu i deimlo’n gysylltiedig â siaradwyr Cymraeg eraill sy’n astudio’r un cyrsiau ledled Cymru. 

Mae’r fenter yn treialu cyfres o seminarau pwnc sy’n dod â dysgwyr galwedigaethol Cymraeg eu hiaith o bob rhan o Gymru ynghyd, dan arweiniad tiwtoriaid pwnc arbenigol sy’n siarad Cymraeg ar draws dau faes galwedigaethol gwahanol. Mae’n cynnig y cyfle i ddysgu am eu pynciau galwedigaethol yn y Gymraeg a'u trafod. Mae'r sesiynau ar ffurf seminarau rheolaidd ar-lein a gallent gynnwys trafodaethau grŵp pwnc-benodol, ystyried astudiaethau achos diddorol, a/neu ddysgwyr yn cyflwyno a thrafod eu syniadau prosiect gyda'i gilydd, yn ogystal â gweithgareddau ar ffurf ‘gwers’. Bydd siaradwyr gwadd o ddiwydiant yn cael eu gwahodd i siarad am yrfaoedd neu arferion blaengar yn y maes. Byddai'r sesiynau'n hyblyg o dan arweiniad athro/darlithydd/tiwtor arbenigol galwedigaethol sy'n gallu cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r fenter hon yn cael ei chyflwyno ar draws Llywodraeth Cymru gyda thîm y Gymraeg yn arwain wrth gyflwyno a monitro’r cynllun peilot. Os bydd y gwerthusiad yn dangos bod y peilot wedi bod yn llwyddiannus o ran sicrhau canlyniadau gwell i ddysgwyr ifanc sy’n siarad Cymraeg, y bwriad yw ehangu’r ddarpariaeth i feysydd pwnc eraill.

Cydweithredu

Mae'r mentrau wedi'u datblygu mewn cydweithrediad agos â sefydliadau darparu ôl-16 a Gyrfa Cymru, a fydd yn eu cyflwyno.

Integreiddio

Mae’r cynigion yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gyflawni gweledigaeth o Gymru lewyrchus drwy ddatblygu economi gynhwysol a theg sy'n lledaenu cyfleoedd ac yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Mae'r tarfu ar gymwysterau yn y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf yn golygu y gallai fod angen cymorth ar ddysgwyr sy'n paratoi ar gyfer cymwysterau yn y flwyddyn academaidd hon i'w helpu i fagu hyder a pharatoi. Blaenoriaeth bwysig dros y flwyddyn academaidd nesaf fydd gweithio ar draws y sector addysg i gefnogi dysgwyr sy'n paratoi ar gyfer y cymwysterau hyn ac i'w galluogi i drosglwyddo i'w camau nesaf.

Nod y cynnig iaith alwedigaethol cyfrwng Cymraeg yw cyrraedd y nod llesiant o Gymraeg sy'n ffynnu. Byddai cymorth wedi'i dargedu drwy'r profiad gwaith wedi'i deilwra yn cyfrannu at Gymru fwy cyfartal, tra bo gan fodiwlau ar-lein Cymru Sero Net yn arbennig y potensial i feithrin Cymru gydnerth.

Cynnwys

Roedd y Rhaglen Adnewyddu a Diwygio yn nodi ffocws clir ar fesurau i gefnogi dysgu a llesiant dysgwyr a staff gyda bwriad ystyriol o esblygu’n ailadroddol gydag effeithiau parhaus wedi’u nodi gan ymchwil barhaus. Gan ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, y proffesiwn a phartneriaid, byddwn yn parhau i gyd-ddatblygu pecyn integredig o fentrau a ariennir i gefnogi llesiant a chynnydd mewn dysgu pob dysgwr, yn ogystal â llesiant y gweithlu. Byddwn yn parhau â’r daith diwygio addysg yng Nghymru, gan ddefnyddio dysgu COVID-19 fel cyfle i wella a datblygu ymhellach wydnwch, parodrwydd a hyblygrwydd systemau addysg ôl-16 ar gyfer heriau hirdymor yn y dyfodol.

Tymor hir ac atal

Er gwaethaf cynnydd o ran lleihau nifer y bobl ifanc yng Nghymru sy’n NEET cyn y pandemig, y rhai yn y grŵp oedran 16-24 sydd â’r cyfraddau cyflogaeth cysylltiedig ag oedran isaf o hyd ac mae’r rhain wedi gostwng ers dechrau pandemig COVID-19. Rydym yn cydnabod bod pobl ifanc yn aml yn cael anhawster ymgysylltu’n gynaliadwy ag addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant a bod angen amrywiaeth o gymorth (Working Futures 2014-2024, Evidence Report 100, Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau (2016) (ar gael ar-lein)).

Mae sgiliau a chymwysterau ymhlith y ffactorau pwysicaf sy'n effeithio ar siawns pobl o fod mewn cyflogaeth ac ar eu hincwm (Paull, G. a Patel, T. (2012), An international review of skills, jobs and poverty. York: JRF; Taylor, M., Haux, T. a Pudney, S. (2012), Can improving UK skills levels reduce UK poverty and income inequality by 2020?, York: JRF.). Yn seiliedig ar brofiad o ddirwasgiadau blaenorol, mae pryderon wedi’u codi ynghylch effaith greithio dirwasgiadau ar bobl ifanc, yn enwedig y rheini sy’n graddio / mynd i mewn i’r farchnad lafur am y tro cyntaf. Mae tarfu ar bontio rhwng ysgolion a’r farchnad lafur yn tueddu i waethygu anghydraddoldebau presennol a niweidio rhagolygon hirdymor y farchnad lafur. Felly, mae gan hwyluso pontio a lleihau'r risg o ddod yn NEET swyddogaeth ataliol a'r potensial i arbed costau yn y tymor hir.

Bydd dysgwyr ôl-16 a’r rhai sy’n pontio, y mae dilyniant i’w cam nesaf yn bryder allweddol iddynt ynghyd â’u cyflogadwyedd a sgiliau tymor hwy, wedi profi pwysau ac ansicrwydd penodol a sylweddol. Felly, mae lliniaru effeithiau COVID-19 ar ddysgwyr ar adegau pontio allweddol, yn enwedig astudiaethau TGAU a Lefel 3, yn bwysig i sicrhau nad yw'r effeithiau hyn yn cyfyngu ar ddyfodol a rhagolygon dysgwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo bod y bobl ifanc sydd fwyaf mewn angen yn cael cymorth personol pwrpasol i'w galluogi i bontio.

Cysoni â'r Rhaglen Lywodraethu a chymhwyso'r pum ffordd o weithio

Bydd y mentrau uchod yn parhau â'n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, ac yn sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn culhau a bod safonau'n codi. Mae’r Rhaglen Adnewyddu a Diwygio wedi’i phwysoli tuag at ysgolion sydd â niferoedd uwch o ddysgwyr difreintiedig a dysgwyr sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau bod cymorth llesiant a dysgu ar gael (Mae dysgwyr addysg bellach yn tueddu i fod yn fwy tebygol o fod yn byw mewn ardaloedd difreintiedig. Po fwyaf difreintiedig yw’r ardaloedd, yr uchaf yw canran y dysgwyr addysg bellach sy’n byw yno. Data o geisiadau ystadegol ad-hoc ar 19 Tachwedd 2021 Dysgwyr unigryw mewn darpariaeth dysgu ôl-16 yn ôl degradd amddifadedd, blynyddoedd academaidd 2018/19 a 2019/20). Bydd ystod o fesurau cymorth pwrpasol - er enghraifft, cymorth ychwanegol ar gyfer dysgwyr cyfrwng Cymraeg mewn cymunedau Saesneg eu hiaith - ar waith. Rydym yn parhau i fonitro effaith COVID-19 ar addysg cyfrwng Cymraeg ac yn anelu at gefnogi gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddatblygu mwy o gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr.

Byddwn yn nodi’r dysgwyr sydd â’r angen mwyaf ac yn datblygu cymorth ar eu cyfer yn unol â’r pum egwyddor gweithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r pum ffordd o weithio wedi bod yn rhan annatod o ddatblygiad cychwynnol y rhaglen. Byddwn yn parhau i gymhwyso gwersi cadarnhaol cyd-gynhyrchu wedi'u datblygu drwy’r cwricwlwm newydd drwy gydol cyfnod cyflwyno'r rhaglen hon. Byddwn yn gwneud hyn mewn cydweithrediad agos â’n partneriaid, y proffesiwn a’r sector addysg ehangach wrth inni adeiladu ar y sylfeini hyn. Mae'r prosiect wedi nodi ei randdeiliaid allweddol ac mae gwaith cydweithredol cychwynnol ar y gweill i lunio a gweithredu'r mentrau cymorth. Bydd gweithgarwch rhanddeiliaid pellach yn sicrhau ymgysylltu â chynrychiolwyr ar draws yr ystod lawn o bobl y mae gwaith y prosiect yn effeithio arnynt, gyda'r dysgwyr eu hunain yn allweddol i'r strategaeth ymgysylltu. Sefydlwyd y prosiect Adnewyddu a Diwygio Ôl-16 a Phontio i sicrhau gwaith trawsadrannol, traws-sector a thraws-lywodraethol. Mae hyn yn cynnwys perthynas waith agos gyda’r Gyfarwyddiaeth Addysg i sicrhau ymagwedd gydgysylltiedig tuag at gynnydd, canlyniadau a llesiant dysgwyr sy’n cyd-fynd â’r Cynllun Pobl Ifanc a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod effeithiau’r pandemig yn wahanol ar gyfer gwahanol grwpiau o ddysgwyr. O’r herwydd, un flaenoriaeth oedd gwrando ar bobl ifanc i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r materion presennol a’r materion sy’n dod i’r amlwg y maent yn eu hwynebu. Mae’n elfen annatod o Gynllun Pobl Ifanc Llywodraeth Cymru ar gyfer pob datblygiad polisi ar fywydau plant a phobl ifanc i wrando ar blant a phobl ifanc, siarad â nhw ac ymateb iddynt pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Mae tîm y prosiect yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar niwed, gan ddefnyddio Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant yn erbyn pob ffrwd waith i sicrhau bod gwaith yn cyd-fynd â'r dystiolaeth ac y gall gael effaith uniongyrchol ar gefnogi pobl ifanc wrth iddynt wella o effeithiau'r ymyriadau anfferyllol a osodwyd ar eu bywydau yn ystod anterth y pandemig.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae gwaith craffu Llywodraeth Cymru ar effaith addysgol pandemig COVID-19 ar blant a phobl ifanc wedi canolbwyntio ar yr ymdrech uniongyrchol i dymor byr i ailagor ysgolion. Bydd ffocws gwaith yn y dyfodol ar effeithiau tymor canolig i hirdymor y pandemig ac ar fesurau adfer a gwydnwch yn y dyfodol.

Mae tîm y prosiect wedi cynnal cyfres o sesiynau ymgysylltu gyda dysgwyr, ond mae gwersi wedi’u dysgu sy’n dangos bod angen dulliau trawslywodraethol ehangach o wneud y mwyaf o effaith ein sgyrsiau â phobl ifanc er mwyn sicrhau ein bod yn gallu ymgysylltu’n briodol ag ystod amrywiol o bobl ifanc i drafod y pynciau sy’n bwysig iddynt ac a fydd yn galluogi trafodaeth ystyrlon. Mae'r tîm yn ymgysylltu â'r Is-adran Plant a Theuluoedd i sefydlu dull mwy hirdymor o gofnodi llais pobl ifanc.

Wrth symud i ‘fusnes fel arfer’, mae risg nad oes capasiti sylweddol yn y timau presennol. Mae'r ffocws ac adnoddau ychwanegol mewn tîm prosiect penodol wedi galluogi datblygu mentrau mewn cyfnod byr o amser ac, oherwydd newidiadau mewn adnoddau, mae llwyth gwaith gweddill aelodau'r tîm wedi cynyddu, gan adael ychydig o gapasiti i gymryd cyfrifoldebau ychwanegol yn strwythurau’r Tîm Busnes fel Arfer. Ar yr ochr gadarnhaol, mae symud i fusnes fel arfer yn sicrhau bod y dull gweithredu yn cael ei ymgorffori ym mhob darpariaeth yn y dyfodol ac yn ei wneud yn annibynnol ar ffrydiau ariannu penodedig ar wahân.

Effaith

Mae llawer iawn o dystiolaeth yn awgrymu bod effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc wedi bod yn niweidiol ac ni fydd yr effaith lawn yn hysbys am genedlaethau. Canfu arolwg o fis Medi/Hydref 2020 fod y rhai 16-25 oed wedi profi canlyniadau marchnad lafur gwaeth yn ystod, ac ar ôl, y cyfyngiadau symud. Mae'r un arolwg yn adrodd bod myfyrwyr prifysgol o'r cefndiroedd incwm isaf wedi colli mwy o oriau addysgu o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud na'r rhai o grwpiau incwm uwch. Adroddodd myfyrwyr benywaidd fod y pandemig wedi cael effaith waeth ar eu llesiant na’r rhai gwrywaidd. O’u cymharu â disgyblion ysgolion gwladol, roedd bron i ddwbl y gyfran o ddisgyblion ysgol breifat yn elwa ar ddiwrnodau ysgol llawn (Major, L.E., Eyles, A. a Machin, S. (2020), Generation COVID: Emerging work and education inequalities. Papur briffio Ysgol Economeg Llundain/y Ganolfan ar gyfer Perfformiad Economaidd). Er nad yw effeithiau llawn COVID-19 ar ddysgwyr ac athrawon yn glir eto, mae’n debygol y byddant yn cynyddu anghydraddoldebau sy’n bodoli eisoes ar draws addysg yng Nghymru, yn creu rhai newydd, ac o bosibl yn effeithio ar ragolygon hirdymor dysgwyr (Sefydliad Gwaddol Addysgol (2022), The Impact of COVID-19 on Learning: A review of the evidence). Mae datblygiad y rhaglen wedi adlewyrchu'r effeithiau y mae tystiolaeth gyfredol wedi'u hamlinellu, gan gydnabod yr angen i gefnogi gwahanol grwpiau o ddysgwyr yn y ffordd briodol. Wrth i'r mentrau cymorth gael eu datblygu, bydd yr effeithiau'n cael eu hasesu'n drylwyr drwy gydol y broses a bydd ymgysylltu’n rheolaidd â rhanddeiliaid allweddol yn flaenoriaeth i'n helpu i sicrhau bod ehangder a dyfnder yr effeithiau ar gyfer prosiectau unigol yn cael eu hystyried yn ofalus.

Byddwn yn parhau i asesu effaith cyfres gyfredol o raglenni Llywodraeth Cymru a’u haliniad â blaenoriaethau’r Rhaglen Lywodraethu. Bydd ffocws penodol ar sicrhau bod anghenion y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig a nodweddion gwarchodedig a rennir yn cael eu diwallu a bod unrhyw rwystrau i gael mynediad at hyfforddiant neu gymorth yn cael eu nodi a’u lliniaru, gan sicrhau bod y dysgwyr hyn yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer cymorth. Byddwn yn datblygu camau gweithredu pellach i liniaru unrhyw fylchau, gan gynnwys adolygu cymhellion a chyfraddau ymyrryd i helpu i recriwtio pobl ddifreintiedig i'r farchnad lafur.

Costau ac arbedion

Tabl 1: Costau mentrau ail gyfran y Rhaglen Adnewyddu a Diwygio
  Cyllideb a ddyrannwyd (£)
Cymru Sero Net 2,000,000
Barod ar gyfer Prifysgol 210,500
Profiad gwaith wedi'i deilwra 518,000
Rhwydweithiau cynfyfyrwyr 50,600
Seminarau galwedigaethol Cymraeg 25,000
Cyfanswm 2,804,100

Ychydig iawn o adnoddau pwrpasol sydd ar gael i gyflawni’r prosiect ac mae adolygiad o lwythi gwaith wedi nodi’r ffrydiau gwaith â blaenoriaeth a’r meysydd gwaith sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth i bobl ifanc y mae’r pandemig wedi effeithio arnynt, fel y nodir yn y dystiolaeth a’r ymchwil.

Wrth i adnoddau a llwythi gwaith bontio i 'fusnes fel arfer' neu i'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, efallai y bydd cyfleoedd i'r adnoddau ddarparu lefel o wytnwch mewn timau eraill a galluogi integreiddio'r prosiectau adfer o fewn polisi tymor hwy yn y dyfodol; byddai’r llwyth gwaith sy’n gysylltiedig â’r prosiect yn parhau, yn enwedig mewn perthynas â’r angen i werthuso ac archwilio effeithiau’r pandemig ar blant a phobl ifanc. Mae angen i ni felly fod yn casglu data ar yr effeithiau ac yn gwerthuso ein polisïau i benderfynu beth sydd angen i ni ei wneud fel llunwyr polisi yn y dyfodol. Bydd tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn llywio arferion yn y dyfodol a bydd y Tîm Busnes fel Arfer a'r comisiwn yn ystyried y canlyniadau gwerthuso i'w cyflawni ar gyfer dysgwyr a phobl ifanc yn y dyfodol.

Mecanwaith

Mae gan Lywodraeth Cymru eisoes y pwerau sydd eu hangen i wneud y gwaith hwn. Ni chynigir unrhyw ddeddfwriaeth ychwanegol. Mae’r rhain yn fentrau peilot i liniaru rhai o effeithiau’r pandemig ar ddysgwyr gyda’r potensial iddynt gael eu sefydlu’n fwy parhaol yn y dyfodol.

Casgliad

Mae'r mentrau'n parhau â'r rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, ac yn sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn culhau a bod safonau'n codi.

Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i’r canlynol:

  • sicrhau ‘nad oes neb yng Nghymru yn cael ei adael ar ôl ar ôl pandemig y coronafeirws, ac atgyweirio’r difrod a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf’
  • ‘gweithio gyda phlant a phobl ifanc, eu teuluoedd a'r gweithlu addysg i sicrhau'r canlyniadau gorau i ddysgwyr, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed’

Mae COVID-19 wedi cael effaith ddofn ar brofiadau dysgu a chyfleoedd i bob dysgwr ledled Cymru. Gyda tharfu eang ar addysgu personol ac amrywioldeb o ran mynediad ac ansawdd y ddarpariaeth ar-lein a ddarperir ar draws ysgolion, mae ymchwil yn dangos bod dysgu a gollwyd yn ystod y cyfnod hwn nid yn unig yn arwyddocaol ond y bydd yn effeithio fwyaf ar y rhai o gymunedau a ymyleiddiwyd (Nodyn Briffio BN288 y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (2020). Learning during the lockdown: real-time data on children’s experiences during home learning; Ystadegau Llywodraeth Cymru (2022). Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19): Awst 2020 i Orffennaf 2021).

Fel yr amlinellwyd uchod, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod y pandemig wedi effeithio’n fwy ar rai grwpiau o ddysgwyr nag eraill. Mae’r pandemig hefyd wedi tynnu sylw at anfanteision i rai grwpiau o ddysgwyr ar adegau pontio ôl-16 allweddol. 

Byddwn yn gweithio i ddefnyddio ein dysgu ar y cyd dros gyfnod y pandemig i adeiladu system addysgol sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac yn gallu gwrthsefyll heriau yfory. Ein nod yw sicrhau cydlyniad a pharhad rhwng polisi presennol a mentrau newydd i ddarparu dull clir o roi cymorth sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, ar draws carfanau gwahanol, ar hyd taith addysgol y dysgwyr.

  • Gwell llesiant i ddysgwyr a staff
  • Gwell cynnydd dysgu a datblygiad personol
  • Mwy o degwch rhwng dysgwyr o deuluoedd sydd dan anfantais economaidd neu anfantais arall a’u cyfoedion
  • Hyder rhanddeiliaid.

Trwy gyd-adeiladu, nod y prosiectau yw sicrhau nad yw anghydraddoldebau’n ehangu ymhellach a bod effeithiau andwyol y pandemig ar y garfan o ddysgwyr yn cael sylw. Byddwn yn parhau i weithredu a gwerthuso’r mesurau hyn, yn ogystal â datblygu mesurau cymorth pellach ar y cyd â rhanddeiliaid - yn fewnol ac yn allanol.

Byddwn yn cynllunio, treialu, adolygu a mireinio, a phrif ffrydio polisi sy'n gweithio.

I gloi, mae ystod y dystiolaeth a ystyriwyd yn datgelu ei bod yn debygol y bydd angen cymorth sylweddol ar ddysgwyr yn eu cyfnod pontio ôl-16. Mae’r Rhaglen Adnewyddu a Diwygio wedi’i rhoi ar waith i fynd i’r afael â’r pryderon hyn, a bydd gwaith pellach ar effeithiau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys plant a phobl ifanc, yn rhan annatod o’r gwaith wrth symud ymlaen.

Prif nod y prosiect ôl-16 a phontio yw sicrhau nad yw pobl ifanc dan anfantais o ganlyniad i'r pandemig. Mae gwella ymgysylltiad â dysgwyr a’u canlyniadau wrth wraidd popeth y mae’r tîm SHELL yn ei wneud. Bydd y prosiect yn helpu i arwain y gwaith o gydgysylltu gweithgarwch ymhlith darparwyr i wneud y gorau o'r gwaith sy'n digwydd. Yn ogystal, bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’r sectorau i sicrhau gwelliannau ar lefel genedlaethol; bydd y rhain yn hwyluso gwaith darparwyr ac yn sicrhau gwerth am arian trwy arbedion maint.

Asesiad o’r effaith ar hawliau plant

Amcanion polisi

Ar ôl adolygu pwysau’r effeithiau ar blant a phobl ifanc o ymyriadau, cyfyngiadau ac effeithiau COVID-19, rhoddwyd y Rhaglen Adnewyddu a Diwygio ar waith i fynd i’r afael â’r effeithiau tymor byr, canolig a hir ar ddysgwyr o ganlyniad i aflonyddwch a achoswyd gan bandemig COVID-19. Gwella cymorth ar gyfer dysgu fu ffocws craidd y rhaglen, gan sicrhau bod gan bob plentyn ac unigolyn ifanc seiliau cadarn i ddysgu a gwneud cynnydd yn eu haddysg. Neilltuodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol i ddarparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16 ledled Cymru, er mwyn hwyluso eu gwaith i ymateb i bandemig parhaus COVID-19 ac adfer ar ôl hynny. Nod trosfwaol y cyllid fu darparu cymorth ychwanegol i ddysgwyr y mae’r pandemig wedi amharu ar eu haddysg a’u datblygiad, a chefnogi’r gweithlu addysg, sydd wedi wynebu pwysau sylweddol yn ystod y cyfnod hwn.

Bwriad mentrau ail gyfran y Rhaglen Adnewyddu a Diwygio sydd o fewn cwmpas yma yw cael effaith gadarnhaol ar bobl ifanc yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig ac amhariadau i ddysgu wyneb yn wyneb, drwy gymorth wedi’i deilwra ar gyfer carfanau gwahanol o ddysgwyr. Mae'r rhain yn cynnwys pob cam o addysg ôl-16, h.y. dysgwyr o addysg uwch, addysg bellach, chweched dosbarth, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned, ac unigolion ar raglen Twf Swyddi Cymru+. Mae rhaglenni unigol wedi’u teilwra’n benodol ar gyfer carfan benodol o ddysgwyr, er enghraifft, siaradwyr Cymraeg neu brentisiaid, ond yn eu cyfanrwydd mae'r mentrau'n darparu ar gyfer yr ystod lawn o ddysgwyr ôl-16. Mae ffocws penodol rhai mentrau hefyd ar y bobl ifanc hynny sydd mewn perygl o ddod yn NEET ac i gefnogi pob dysgwr er mwyn cyflawni ei lawn botensial. Y nod yn y pen draw yw gwneud y cyfnod pontio o’r ysgol i waith a rhwng gwahanol fathau o addysg ôl-16 mor llyfn â phosibl a galluogi pobl ifanc i wneud penderfyniadau mewn modd gwybodus.

Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Mae’r prosiect Adnewyddu a Diwygio Ôl-16 a Phontio wedi’i ategu gan y gydnabyddiaeth bod tystiolaeth o ansawdd da yn hanfodol i lywio’r amgylchiadau unigryw a gyflwynwyd gan y pandemig, ei effeithiau, a’r heriau polisi y mae’n eu cynrychioli.

Mae'r pandemig wedi effeithio ar blant a phobl ifanc mewn modd anghymesur. Mae’r cyfyngiadau symud wedi effeithio ar eu datblygiad a'r sioc economaidd ar eu rhagolygon cyflogaeth (Mynegai Ieuenctid Tesco Ymddiriedolaeth y Tywysog 2021). Cyn y pandemig, roedd cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur wedi tyfu ers dirwasgiad 2008. Mae'n rhy fuan i asesu effaith y pandemig ar y duedd hon. Gan ddefnyddio’r prif fesur o bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, bu cynnydd ymhlith pobl ifanc 19 i 24 oed cyn y pandemig. Ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed, cynyddodd y gyfran ychydig rhwng 2008 a 2012, ac mae wedi amrywio ar tua 89-90% yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Teimlwyd effaith dirwasgiad 2008 yn fwy amlwg gan y grŵp oedran 19 i 24. Ers hynny, mae'r gyfran mewn addysg neu'r farchnad lafur wedi bod yn cynyddu'n gyffredinol, er ei bod wedi lefelu yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaraf. Ar ddiwedd 2019, roedd y gyfradd yn 84.3%, tua saith pwynt canran yn uwch nag yn 2012. Yn 16 i 18 oed, mae merched yn fwy tebygol na dynion o fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Yn y grŵp oedran 19 i 24, mae gan ddynion fel arfer gyfraddau cyfranogiad uwch na merched, er bod y bwlch wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf.

Bydd effeithiau cau ysgolion ar addysg plant ac effeithiau’r dirwasgiad dyfnaf erioed ar ragolygon swyddi ac enillion y bobl ifanc hynny sy’n dod i mewn i’r farchnad lafur ar ôl y pandemig yn niweidiol ac yn barhaol a byddant yn cael eu teimlo’n llawer mwy difrifol gan y rhai sydd dan anfantais yn barod. Mae Ymddiriedolaeth Sutton yn adrodd bod disgyblion mewn ysgolion annibynnol ddwywaith yn fwy tebygol o fynychu gwersi ar-lein yn ddyddiol na disgyblion mewn ysgolion gwladol, ac mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi dangos nad rhaniad gwladwriaeth/preifat yn unig yw hwn. Mae ysgolion gwladol sy’n gwasanaethu disgyblion mwy cefnog yn llawer mwy tebygol o fod yn cynnig cymorth gweithredol gyda dysgu na’r rhai sy’n gwasanaethu disgyblion mwy difreintiedig. Ers i ysgolion gau, mae plant o deuluoedd mwy cefnog wedi bod yn treulio 30 y cant yn fwy o amser ar ddysgu gartref na phlant tlotach. Mae hyn oherwydd amrywiol resymau megis cael mynediad at fwy o adnoddau (er enghraifft, tiwtora preifat neu sgyrsiau gydag athrawon), cynllun cartref gwell ar gyfer dysgu o bell (er enghraifft, mynediad i liniadur/llechen/y rhyngrwyd), a’u rhieni’n dweud eu bod yn teimlo’n fwy abl i’w cefnogi. Mae’r bwlch mewn amser dysgu rhwng plant mwy cefnog a thlotach yn cael effeithiau mesuradwy ar ddeilliannau a gall effaith bandemig anghysondebau yn y cymorth sydd ar gael ddadwneud blynyddoedd lawer o gynnydd tuag at well cyrhaeddiad addysgol gan y rhai mwyaf difreintiedig (Johnson, P. (2020), School closures have put an entire generation at a huge disadvantage).

Rhagwelir y bydd y rhaglenni'n cael effaith gadarnhaol ar bobl ifanc gan eu bod yn cynnig cymorth wedi'i dargedu i hwyluso pontio ôl-16 ar gyfer amrywiaeth o grwpiau dysgwyr. Ni ragwelir unrhyw effaith negyddol ar blant iau sydd ar hyn o bryd y tu allan i gwmpas y mentrau hyn. Fodd bynnag, os bydd y rhaglenni peilot hyn yn llwyddiannus ac yn dod yn barhaol, gellir rhagweld y bydd effeithiau cadarnhaol ar genedlaethau'r dyfodol hefyd. 

Nid yw'r rhaglenni'n gwahaniaethu yn erbyn unrhyw grwpiau o bobl ifanc â nodweddion gwarchodedig. Dylai cymeriad ar-lein y rhan fwyaf o fentrau wneud cyfranogiad yn haws i bobl ifanc o ardaloedd anghysbell neu ag anableddau wrth i'r angen i deithio ddiflannu.

Canfu Arolwg COVID-19 (Cam 1) Understanding Society mai dim ond 9% o fyfyrwyr yng Nghymru oedd heb fynediad at gyfrifiadur. Fodd bynnag, roedd angen i 48% o fyfyrwyr rannu eu dyfeisiau ag eraill (Benzeval, M. ac eraill (2020), Nodyn Briffio Ebrill 2022 Understanding Society – COVID-19 Survey: Home Schooling, Papur Gwaith Rhif 12/2020 Understanding Society). Mae rhai dysgwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn debygol o fod yn ddibynnol ar yr offer a ddarperir gan eu darparwr dysgu, gan gynnwys deunyddiau ysgrifennu a gliniaduron. Mae sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad at dechnoleg ddigidol a lled band dibynadwy yn bwysig oherwydd bod y mentrau’n cael eu cyflwyno ar-lein yn bennaf.

Gallai peilot seminarau galwedigaethol Cymraeg gael ei ystyried ar gam yn ‘gyfyngedig’ oherwydd ei fod wedi’i anelu at ddarparu gwersi pwnc (tuag awr yr wythnos am ddeg wythnos) yn Gymraeg, ac felly dim ond at ddysgwyr sy’n gallu siarad Cymraeg y bydd yn apelio. Fodd bynnag, ei nod yw mynd i’r afael ag anghydbwysedd sylweddol, sef y diffyg addysgu galwedigaethol ôl-16 sydd ar gael yn y Gymraeg mewn sawl ardal o’r wlad.

Mae’n elfen annatod o Gynllun Pobl Ifanc Llywodraeth Cymru ar gyfer pob datblygiad polisi ynghylch bywydau plant a phobl ifanc i wrando ar bobl ifanc i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r materion presennol a’r materion sy’n dod i’r amlwg y maent yn eu hwynebu pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Mae’r tîm SHELL o fewn Llywodraeth Cymru wedi datblygu model ymgysylltu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cyfleoedd ystyrlon i fynegi eu barn ac i’w barn gael ei hystyried. Mae pobl ifanc - gan gynnwys y rheini yn y chweched dosbarth, addysg bellach, addysg uwch, prentisiaid a hyfforddeion (ar raglen Twf Swyddi Cymru +) - wedi cael cyfle i leisio’u barn fel rhan o’r broses llunio polisi a gwneud penderfyniadau drwy gyfres o ‘baneli ymgysylltu â dysgwyr' (grwpiau ffocws ar-lein), yn dechrau ym mis Chwefror 2022. Roedd cyfranogwyr o bob rhan o Gymru wedi cymryd rhan, gan gynnwys De, Gorllewin, Gogledd a Chanolbarth Cymru. Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys pobl ag anableddau, rhai o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, a chymysgedd o siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg.

Rhoddodd y grwpiau ffocws hyn fewnwelediad i’w profiadau o agweddau lluosog ar addysg a hyfforddiant, gan gynnwys llesiant a chymorth bugeiliol ehangach, yn ogystal ag addysgu, dysgu ac asesu. Gofynnwyd i ddysgwyr hefyd ystyried nifer o fesurau cymorth arfaethedig ac adrodd yn ôl ar eu cryfderau, gwendidau a risgiau canfyddedig.

Y themâu allweddol o ddiddordeb oedd fel a ganlyn:

  • Astudio (sut y cefnogwyd dysgwyr gyda'u dysgu)
  • Llesiant (sut y cefnogwyd dysgwyr ag iechyd corfforol a meddyliol)
  • Pontio (sut y cefnogwyd dysgwyr wrth bontio i'r cam nesaf o addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth)

Dadansoddi'r dystiolaeth ac asesu'r effaith

Derbyniodd yr holl syniadau a gyflwynwyd i gyfranogwyr adborth cadarnhaol, gyda rhai ymatebion brwdfrydig iawn i’r syniad o rwydweithiau cynfyfyrwyr yn arbennig. Dangosodd y cyfranogwyr hefyd ddiddordeb gwirioneddol mewn bod eisiau datblygu'r awgrymiadau eraill, gan ddangos potensial ar gyfer pob syniad.

Ar y cyfan, roedd cyfranogwyr yn chwilio am ffyrdd wedi’u teilwra a phwrpasol i gefnogi eu pontio yn ogystal â sgyrsiau personol gyda chyfoedion. Mae llawer yn troi at eu cyfoedion i gael cyngor ac arweiniad am y dyfodol ac yn credu y gall cyd-fyfyrwyr a chynfyfyrwyr gynnig persbectif unigryw a buddiol iddynt.

Mae rhai cyfranogwyr, yn enwedig oedolion sy'n dysgu, yn mwynhau dysgu gartref gan eu bod yn gwerthfawrogi'r hyblygrwydd y mae hyn yn ei roi iddynt er mwyn trefnu'r dysgu o amgylch eu bywydau personol, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu. Roedd y dysgwyr hynny sy'n teimlo'n bryderus mewn lleoliadau mawr yn croesawu’n arbennig y gallu i ddysgu gartref. Yn enwedig o ran pontio, mae rhai yn brin o hyder i wneud pethau'n bersonol ac yn gyffredinol yn hoffi cael cymorth pontio ar-lein yn hytrach nag wyneb yn wyneb.

Er y rhagwelir y bydd cyflwyno’r mentrau ar-lein yn hwyluso mynediad ac yn cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y cynigion hyn, mae’n rhaid cofio bod rhai dysgwyr a gymerodd ran yn ein paneli ymgysylltu â dysgwyr wedi mynegi pryderon ynghylch eu profiad dysgu ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud. Soniwyd am anawsterau wrth ganolbwyntio, treulio gwybodaeth a gofyn am help. Roedd rhai athrawon yn llai abl i ennyn diddordeb myfyrwyr, yn llai abl i ddarllen awyrgylch yr ystafell, ac yn llai deinamig yn eu cyflwyniad o gymharu ag addysgu personol. Fodd bynnag, gwnaeth y profiad personol a gawsant gan athrawon unigol argraff ar eraill, a chanfuwyd bod rhai staff wedi llwyddo i addasu fformat y dysgu i weddu i anghenion. Bydd angen i'r mentrau ddysgu o arferion gorau er mwyn ymgysylltu â gwahanol fathau o ddysgwyr yn llwyddiannus. Mae gweithgareddau cymdeithasol i gyd-fynd â darpariaeth o bell neu elfennau personol, hyd yn oed ar gyfer y rhaglenni hynny sydd wedi'u cynllunio ar hyn o bryd ar gyfer darpariaeth ar-lein yn unig, yn strategaeth liniaru bosibl.

Yn gyffredinol, roedd y cyfranogwyr yn awyddus i gael cyfuniad o ddysgu yn y cartref a dysgu wyneb yn wyneb. Maent yn hoffi'r syniad o gael hyblygrwydd a mwy o ddewis yn y ffordd y maent yn dysgu. Dywedasant hefyd y gall trefn a fformat y dysgu wneud gwahaniaeth mawr i lesiant unigolion ac felly ni ddylid diystyru'r profiad ‘personol’.

Pwysleisiodd mwyafrif llethol y dysgwyr bwysigrwydd llesiant dysgwyr, gan y gallai lywio profiadau dysgwyr, dylanwadu ar ganlyniadau ac effeithio ar ddeilliannau unigol.

Soniodd y cyfranogwyr am bwysigrwydd peidio ag anghofio cynnwys rhieni. Roeddent yn credu bod rhieni yn ddylanwadau allweddol ar bobl ifanc (yn enwedig y rhai sy'n byw gartref) ac felly byddai targedu rhieni gyda chefnogaeth a gwybodaeth hefyd yn ddefnyddiol.

Crynodeb o’r adborth ar y mentrau penodol

Profiad gwaith wedi'i deilwra

Roedd prentisiaid, yn arbennig, yn hoffi'r syniad hwn. Roeddent yn teimlo y byddai cael y cyfle i brofi gweithle cyn penderfynu ar gwrs yn fuddiol. I'r rhai a oedd wedi ymddieithrio o'r ysgol, roeddent yn teimlo bod hwn yn ddefnydd mwy perthnasol ac ystyrlon o’u hamser na bod mewn ystafell ddosbarth. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cymhellion ariannol i osgoi canfyddiad bod hwn yn ‘llafur rhad’. Dylai costau teithio gael eu talu fel isafswm, yn ogystal â thâl ar ôl i gyfnod prawf fynd heibio. Byddai ennill cymhwyster o hyn nid yn unig yn denu diddordeb pobl ifanc yn y fenter hon, ond hefyd yn argyhoeddi rhieni o ddilysrwydd y cynllun.

Barod ar gyfer Prifysgol

Ceisiwyd adborth gan fyfyrwyr y chweched dosbarth a myfyrwyr addysg uwch. Roedd y cyfranogwyr yn teimlo bod cyngor ac arweiniad, yn enwedig ynghylch ysgrifennu datganiadau personol, ceisiadau, gwneud penderfyniadau a gwneud ceisiadau am gyllid, bob amser yn ddefnyddiol. Roeddent am gael cymorth gan rywun oedd yn gallu dadansoddi'r wybodaeth ar gyfer y rhai sy'n gadael yr ysgol, gan eu cyfeirio at y cyfeiriad cywir. Dywedasant y byddai cael rhywun i fynd ato am gyngor yn lleddfu llawer o straen. Dylid cynnwys cymorth i ddysgwyr hefyd ynghylch rheoli llesiant yn y brifysgol, gan gynnwys sut i ymgartrefu, sut i wneud ffrindiau, a sut i reoli straen. Roeddent hefyd yn teimlo y byddai'r syniad hwn yn elwa ar gael elfen cyngor gyrfaoedd ynghlwm wrtho, gan bwysleisio'r cysylltiad rhwng rhai cyrsiau a gyrfaoedd. Teimlai dysgwyr, os oeddent am fynd i ddyled myfyrwyr, fod angen sicrwydd arnynt y byddai rhagolygon cyflogaeth da ar y diwedd.

Ystyriwyd bod un platfform yn fwy defnyddiol na llwybrau lluosog. Dylid hysbysu ysgolion ac athrawon am y fenter, a rhybuddiwyd am ddarpariaethau is-safonol a thocenistaidd na fyddai dysgwyr yn eu defnyddio. Roedd rhaglenni wedi’u teilwra fel Rhwydwaith Seren, sy’n ddefnyddiol i’r rhai sydd â diddordeb yn bennaf yn Rhydychen neu Gaergrawnt, yn cael eu hystyried yn enghreifftiau da sy’n bodoli eisoes, ond dylid datblygu rhywbeth tebyg i’w gynnwys dyheadau ehangach ac sy’n ddefnyddiol i’r rhai nad oes ganddynt ddiddordeb mewn prifysgolion elitaidd.

Teimlai llawer hefyd y dylai fod darpariaethau i rieni ar yr hwb, i ehangu eu dealltwriaeth a hefyd i roi gwybod iddynt pan nad prifysgol oedd yr opsiwn gorau. Soniodd rhai am bwysau rhieni, oherwydd syniadau hen ffasiwn am fanteision addysg uwch; roeddent yn teimlo bod angen addysgu rhieni cymaint â dysgwyr.

Rhwydweithiau cynfyfyrwyr

Ceisiwyd adborth gan ddysgwyr addysg bellach ac oedolion. Roedd y cyfranogwyr yn ystyried hwn yn syniad gwych. Roeddent yn hoffi'r ffaith bod y cymorth dan arweiniad cymheiriaid gan eu bod yn credu ei fod yn helpu i wybod am daith addysgol pobl debyg iddynt nhw eu hunain a sut y gwnaeth eu dysgu arwain at ddeilliannau gwahanol. Roeddent yn hoffi'r syniad na fyddai hyn yn cael ei gyflwyno fel sgwrs yn unig ond yn hytrach yn rhoi cyfle iddynt siarad yn uniongyrchol â chynfyfyrwyr. Roedd sesiynau grŵp bach yn well na sesiynau mawr, a oedd yn cael eu hystyried yn rhy amhersonol ac yn ei gwneud yn anoddach gofyn cwestiynau. Roeddent yn teimlo mai gorau po fwyaf personol yw'r profiad; yn hytrach na rhwydweithiau sy'n siarad yn gyffredinol am 'fywyd prifysgol' neu 'fynd i mewn i'r gweithle', byddai'n fwy defnyddiol cael cipolwg ar brifysgolion penodol neu lwybrau gyrfa penodol.

Rhwydweithiau galwedigaethol Cymraeg

Gofynnwyd am adborth gan brentisiaid, hyfforddeion sy'n oedolion sy'n dysgu a myfyrwyr addysg bellach. Roedd llawer o siaradwyr Cymraeg yn gefnogol i’r syniad hwn ac yn teimlo y byddai arweiniad arbenigol ar derminoleg dechnegol yn ddefnyddiol. Byddai’r fenter yn helpu i adnewyddu eu cof o’r iaith (pe na baent wedi ei defnyddio ers tro) a hefyd yn cefnogi myfyrwyr a allai fod wedi gorfod newid i gwrs Saesneg. Teimlai rhai siaradwyr Cymraeg y gellid ehangu hyn y tu hwnt i gyrsiau galwedigaethol gan y byddent hefyd yn gwerthfawrogi cyfleoedd i fireinio eu terminoleg pwnc-benodol.

Roedd y di-Gymraeg hefyd yn gefnogol i'r fenter ac yn teimlo y dylid hyrwyddo sefydlu rhwydweithiau i siaradwyr Cymraeg er mwyn i'r iaith barhau i ffynnu. Byddai ganddynt ddiddordeb hefyd mewn rhwydwaith i ddysgwyr Cymraeg a oedd yn eu helpu gydag iaith y gweithle.

Erthyglau CCUHP neu brotocol dewisol
Erthyglau CCUHP neu brotocol dewisol Yn gwella (X) Yn herio (X) Esboniad

Erthygl 23 (plant ag anabledd) 

X  

Darperir y rhan fwyaf o'r mentrau ar-lein, gan wneud mynediad i bobl ifanc â phroblemau symudedd yn haws.

Erthygl 28 (hawl i addysg) 

X  

Mae'r mentrau'n llywio ac yn cefnogi mynediad i wahanol fathau o addysg uwchradd a thrydyddol ac felly'n sicrhau bod amrywiaeth o opsiynau ar gael i bobl ifanc.

Erthygl 29 (nodau addysg)

X  

Mae'r mentrau'n cefnogi gwahanol fathau o addysg sy'n helpu i ddatblygu doniau a galluoedd pobl ifanc i'r eithaf. Mae menter Cymru Sero Net yn arbennig yn annog parch yr unigolyn ifanc at yr amgylchedd. 

Erthygl 30 (dysgu a defnyddio iaith y teulu) X   Mae cyfranogwyr yn gallu cael mynediad i'r mentrau trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Ar gyfer y rhai nad Cymraeg neu Saesneg yw eu hiaith gyntaf, bydd cymorth yn cael ei ddarparu trwy ddarparu Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL).

Gall pawb sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyso ar gyfer cymryd rhan yn y mentrau priodol gymryd rhan, waeth beth fo'u statws dinasyddiaeth.

Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc

Rydym wrthi’n datblygu cynlluniau ar gyfer y sgwrs genedlaethol gyda rhanddeiliaid a phartneriaid allanol (gan gynnwys Plant yng Nghymru) sy’n gweithio’n agos gyda phlant a phobl ifanc 16-24 oed ar draws yr ystod eang o gefndiroedd a restrir uchod, a hefyd fesul rhanbarth ledled Cymru. 

Rydym hefyd am sefydlu Fforwm Pobl Ifanc fel modd o gynnal perthynas barhaus gyda grŵp cynrychioliadol, sef fforwm a fydd yn gallu helpu i gynllunio ac arwain y sgyrsiau cenedlaethol wrth iddynt ddatblygu dros y tair blynedd nesaf. Bydd y Fforwm Pobl Ifanc hefyd yn galluogi trafodaeth ynghylch cynigion ac argymhellion a fydd wedyn yn ffurfio cyngor i’r Gweinidog ac yn sail i benderfyniadau ganddo.

Yn y cyfamser, mae rhan o’r sgwrs genedlaethol yn cynnwys Grŵp Cynghori Pobl Ifanc a fydd yn cael ei ddefnyddio i gasglu rhywfaint o ddata cychwynnol, ond hefyd fel bwrdd i drafod canfyddiadau ac adborth wrth i’r sgwrs fynd rhagddi drwy 2022 i 2023.

Gan weithio gyda rhanddeiliaid, rydym wedi cytuno ar egwyddorion ar gyfer ein hymgysylltiad â phobl ifanc, a’r diben yw sicrhau, yn ystod y sgyrsiau cenedlaethol, bod yr holl randdeiliaid sy’n cymryd rhan yn gweithio’n gyson i helpu i rymuso pobl ifanc a galluogi eu cyfranogiad a’u bod mor gynhwysol â phosibl. Mae’r egwyddorion, a fydd yn cael eu cynnwys fel rhan o ddogfen ganllaw i grŵp ffocws, fel a ganlyn:

  • Gwneud gwahaniaeth - byddwn yn gwrando, yn deall ac yn ymateb
  • Cyrraedd pob cymuned ledled Cymru, gan ganiatáu ar gyfer anghenion gwahanol gymunedau
  • Cynnwys pobl ifanc â nodweddion gwarchodedig a grwpiau eraill mwy ar y cyrion na chlywir yn aml
  • Rhoi cyfle i'r holl bobl ifanc gymryd rhan, gan gymryd gofal yn yr iaith a'r dulliau a ddefnyddiwn, i'w helpu i gyfrannu
  • Defnyddio ein partneriaid, rhanddeiliaid a chymheiriaid dibynadwy i helpu i hwyluso cyfranogiad pobl ifanc
  • Cefnogi pobl ifanc i oresgyn y rhwystrau y maent yn eu hwynebu i'w galluogi i gyfrannu
  • Parhau i sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan mewn argymhellion, newidiadau a phenderfyniadau, yn seiliedig ar yr hyn y mae pobl ifanc wedi’i ddweud wrthym

Monitro ac adolygu

Mae gan y prosiect Adnewyddu a Diwygio, fel rhan o’i egwyddorion arweiniol, y nod y bydd mesurau’n seiliedig ar dystiolaeth ac y bydd yr holl raglenni cymorth yn cael eu monitro a’u gwerthuso. Mae tîm y prosiect felly wedi comisiynu Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru yn haf 2021 i gynnal adolygiad cyflym o’r dystiolaeth ymchwil ar strategaethau i gefnogi dysgu a lles ymhlith dysgwyr 16-19 oed. Comisiynwyd diweddariad ar yr adroddiad cyntaf yn 2022 (Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, Adolygiad cyflym o strategaethau i gefnogi dysgu a llesiant ymhlith dysgwyr 16-19 oed sydd wedi cael amhariad sylweddol ar eu haddysg o ganlyniad i’r pandemig COVID-19. Rhif yr adroddiad – RR00044 (Gorffennaf 2022)). Gan weithio'n agos gyda’r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi a rhanddeiliaid allanol, mae fframwaith gwerthuso a monitro wedi'i ddatblygu, a gynlluniwyd i asesu effeithiolrwydd dulliau cyflenwi, y canlyniadau sydd wedi’u cyflawni, ac effaith tymor hwy prosiectau. Rhagwelir y bydd data monitro a gwerthuso yn galluogi Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd i benderfynu pa effaith y mae’r ymyriadau ychwanegol yn ei chael ar anghenion dysgwyr i’w cefnogi i adfer ar ôl y pandemig. Mae angen monitro a rheoli hyn mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi.

Mae'r ymyriadau polisi a ddarperir gan y prosiect hwn wedi'u hanelu at liniaru a lleihau effaith y niwed sy'n deillio o'r pandemig. Mae’n rhaid nodi bod tystiolaeth ar gyfer strategaethau i gefnogi dysgu a llesiant dysgwyr 16-19 oed sydd wedi cael amhariad sylweddol ar eu haddysg yn deillio o astudiaethau a gynhaliwyd cyn pandemig COVID-19. Mae angen ymchwil felly i werthuso a fydd ymyriadau a oedd yn llwyddiannus mewn amgylchiadau cymharol 'arferol' yn berthnasol yng nghyd-destun y pandemig. Rydym felly yn casglu data ar yr effeithiau ac yn gwerthuso ein polisïau i benderfynu beth sydd angen i ni ei wneud fel llunwyr polisi yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu ein bod eisoes wedi ymrwymo SHELL a chomisiwn y dyfodol i ystyried y dystiolaeth honno a’r gwerthusiad hwnnw wrth wneud penderfyniadau polisi yn y dyfodol sydd â’r nod o gefnogi plant a phobl ifanc mewn addysg a hyfforddiant ôl-16, gan gynnwys y bobl ifanc hynny sy’n pontio i addysg ôl-16, rhwng addysg ôl-16, ac allan ohoni.

Byddwn yn defnyddio'r ymchwil a'r dystiolaeth a gasglwyd gan ein partneriaid yng Nghymru, yn enwedig gwaith Estyn a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd, i gyfrannu at ein tystiolaeth ar gynnydd ac i helpu i feithrin gallu ar gyfer gwelliant parhaus. Byddwn yn cadw i fyny â’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru, ledled y DU ac yn rhyngwladol am effeithiau’r pandemig ar ddysgu a ffyrdd o fynd i’r afael â’r effeithiau hyn. Byddwn hefyd yn sicrhau bod tystiolaeth o arferion gorau, arloesiadau neu faterion a oresgynnwyd yn cael ei rhannu, er mwyn helpu'r system i wella ymhellach.