Daeth yr ymgynghoriad i ben 6 Mai 2015.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 438 KB
Ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn ymgynghori ar Reoliadau Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Gwybodaeth, Cyfnodau a Ffïïoedd ar gyfer Cofrestru a Thrwyddedu) (Cymru) 2015. Mae angen y rheoliadau hyn er mwyn medru rhoi'r darpariaethau yn Rhan 1 Deddf Dai (Cymru) 2014 ar waith.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Derbyniodd Deddf Dai (Cymru) y Cydsyniad Brenhinol ar 17 Medi 2014. Mae Rhan 1 y Ddeddf yn cynnwys darpariaethau sy’n cyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer pobl sy’n gosod ac yn rheoli eiddo preswyl yng Nghymru.
Diben yr ymgynghoriad hwn yw casglu barn am yr wybodaeth y cyfnod a’r ffioedd sy’n gysylltiedig â gwneud cais cofrestru a chais am drwydded o dan Ran 1 Deddf Dai (Cymru) 2014 – Rheoleiddio Tai Rhent Preifat.